
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
Cefndir Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF)
Mae'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) yn asesu ansawdd ymchwil mewn prifysgolion yn y DU. Mae Research England, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), Cyngor Cyllido yr Alban (SFC) a'r Adran dros yr Economi yng ngogledd Iwerddon yn cydredeg y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
Mae'r pedwar corff ariannu yn defnyddio'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil i bennu sut y dyrannir oddeutu £2 biliwn o gyllid ymchwil bob blwyddyn. Mae'r fframwaith yn canolbwyntio ar bennu atebolrwydd ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus mewn ymchwil, asesu ansawdd ymchwil, dangos allbynnau, a buddion ac effaith y fframwaith ar ein cymdeithas.
Cais Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) Glyndŵr
Roedd Glyndŵr ymhlith y 157 o brifysgolion yn y DU a gymerodd ran yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021. Mae ein canlyniadau'n dangos cynnydd gwych a brwdfrydedd uchelgeisiol ymchwil Glyndŵr ers canlyniadau'r REF blaenorol a dderbyniwyd yn 2014.

Yr Athro Richard Day
Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil“Mae'n braf gweld rhan o'n ceisiadau'n cael eu graddio fel gwaith blaenllaw yn fyd-eang ac o safon ryngwladol. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl staff sydd wedi fy helpu gyda'r ceisiadau, ond rwy'n eithriadol o falch o'r rheiny yn y maes Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol, oherwydd mae'r graddau hynny'n rhagorol o ystyried na chawsom wneud ymchwil yn y maes hwn y tro diwethaf.”