Using a microscope in a lab

Mae nifer o opsiynau ar gael o ran astudio gradd ymchwil ôl-raddedig yma ym Mhrifysgol Wrecsam.

  • Meistr Athroniaeth (MPhil)*
  • Doethur Athroniaeth (PhD)*

*Noder mai Prifysgol Caer yw ein corff dyfarnu ar gyfer graddau MPhil/PhD

•    Meistr Ymchwil (MRes)*

*Noder mai Prifysgol Wrecsam yw ein corff dyfarnu MRes

Mae testunau ymchwil yn amrywiol, ac yn aml wedi eu dylanwadu gan ffactorau megis cryfderau academaidd y myfyriwr, diddordebau personol, ac arbenigedd ymchwil y brifysgol.

Dysgwch fwy am Lwybrau at Ymchwil a Sut i Wneud Cais.

Mae gennym nifer o Ganolfannau Ymchwil ar draws ein dwy gyfadran: Y Gyfadran Gwyddorau Cymdeithasol a Bywyd (FSLS) a Chyfadran y Celfyddydau, Cyfrifiadura a Pheirianneg (FACE). Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag arbenigeddau ymchwil y cyfadrannau, prosiectau ymchwil presennol, neu ddigwyddiadau sydd ar y gweill, gweler Ein Hymchwil.

Pan fyddwch yn ymuno â Phrifysgol Wrecsam fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig (PGR), fe ddewch yn rhan o gymuned ymchwil fywiog a chefnogol ble byddwn yn helpu i feithrin eich diddordebau a datblygu sgiliau a mewnwelediadau sy’n hanfodol i’ch cynnydd i’r dyfodol.  

Mae’r Swyddfa Ymchwil yn cydlynu gweithgaredd y gymuned ymchwil sy’n gynhwysol o’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ganolog. Mae esiamplau yn cynnwys:

Mae’r Rhaglen Datblygu Ymchwilydd yn creu amgylchedd dysgu sydd yn caniatâu i ymchwilwyr o bob disgyblaeth ar draws y Brifysgol wella eu sgiliau ar gyfer profiad ymchwil a gyrfa lwyddiannus.

Yn seiliedig ar Fframwaith Datblygu Ymchwil Vitae, rydym yn cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu cynhwysfawr drwy gydol y flwyddyn academaidd, gan gynnwys Ymchwiliwr Hyderus.

Cysylltiadau Allweddol

Ardal Cysylltwch
Ymholiadau ynglŷn â gwneud cais  mphil-phdadmissions@wrexham.ac.uk  
Ymholiadau Cyllid funding@wrexham.ac.uk  
Swyddfa Ymchwil researchoffice@wrexham.ac.uk  
Uniondeb Ymchwil Athro Richard Day Richard.Day@wrexham.ac.uk  
Uniondeb Ymchwil Pennaeth Gwasanaethau Ymchwil - Frances Thomason
Frances.thomason@wrexham.ac.uk 
Gwasanaeth Cynhwysiant inclusion@wrexham.ac.uk