Meistr Athroniaeth (MPhil): Mae’r MPhil yn radd ymchwil dan oruchwyliaeth sydd yn cymryd blwyddyn i’w chwblhau. Mae modd astudio’n rhan amser ac mae’n galw am astudiaeth fanwl mewn maes penodol. 

Noder mai Prifysgol Caer yw ein corff dyfarnu ar gyfer graddau ymchwil.

Doethur Athroniaeth (PhD): Mae PhD yn radd ymchwil ôl-raddedig dan oruchwyliaeth sydd fel rheol yn cymryd tair blynedd, amser llawn, i’w chwblhau (ond mae modd astudio’n rhan amser hefyd). Mae eich ymchwil yn cael ei gofnodi ar ffurf traethawd ymchwil sylweddol, ac mae’n rhaid ichi ddangos tystiolaeth o wreiddioldeb, barn feirniadol a bod ar flaen y gad yn y pwnc a ddewiswyd gennych. 

Noder mai Prifysgol Caer yw ein corff dyfarnu ar gyfer graddau ymchwil.

Mae modd dilyn graddau ymchwil ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn ystod eang o bynciau, nid yn unig y rhai ar ein rhaglenni ôl-raddedig a addysgir. Am ragor o wybodaeth, porwch drwy ein hymchwil gyfredol neu e-bostiwch mphil-phdadmissions@glyndwr.ac.uk.

Meistr Ymchwil (MRes): Gradd ôl-raddedig a addysgir sy'n cynnig y cyfle i astudio maes pwnc penodol yn fanylach, wrth ddatblygu eich dealltwriaeth o egwyddorion craidd ymchwil a sgiliau ymchwil. Mae yna elfennau strwythuredig, wedi’u haddysgu i’r rhaglen - sy’n ymdrin â’ch dewis bwnc - a hyfforddiant mewn methodoleg ymchwil yn arwain at draethawd ymchwil personol. Mae MRes yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n dymuno symud ymlaen i ymchwil academaidd neu broffesiynol pellach, fel PhD, neu ddefnyddio'ch cymhwyster ôl-raddedig newydd i symud ymlaen â'ch gyrfa. 

Noder mai Prifysgol Wrecsam yw ein corff dyfarnu ar gyfer graddau ymchwil.

Ar hyn o bryd rydym yn cynnig graddau MRes mewn ystod o ddisgyblaethau, gan gynnwys:

  • Cemeg Ddadansoddol a Fforensig
  • Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg
  • Ymchwil Clinigol Cymhwysol
  • Ymchwil Gwyddorau Biofeddygol Cymhwysol

Dulliau Astudio

Rhaglen

Dull Astudio

Cyfnod cofrestru lleiaf*

Cyfnod Cyflwyno hwyaf

Cyfnod Cofrestru hwyaf

PhD

Amser llawn

2 flynedd

4 blynedd

10 mlynedd

Rhan amser

4 blynedd

7 blynedd

10 mlynedd

MPhil

Amser llawn

1 flwyddyn

4 blynedd

8 mlynedd

Rhan amser

2 flynedd

6 mlynedd

8 mlynedd

*Noder y cyfnod cofrestru lleiaf cyn cyflwyno traethawd – ni chaniateir cyflwyno’n gynnar cyn yr amser yma. Noder mai Prifysgol Caer yw ein corff dyfarnu ar gyfer graddau ymchwil.

 

Rhaglen

Dull Astudio

Cyfnod cofrestru lleiaf*

Cyfnod Cofrestru hwyaf

MRes

Amser llawn

12 mis

24 mis

Rhan amser

36 mis

60 mis

*Noder mai Prifysgol Wrecsam yw ein corff dyfarnu.