Sgyrsiau a Darlithoedd
Mae gennym ddewis eang o sgyrsiau a darlithoedd gellir eu darparu i ysgolion a cholegau fel blas o fywyd Prifysgol - gwelwch y rhestr isod am ddetholiad o beth sydd ar gael.
Content Accordions
- Busnes
Cyfrifeg a Chyllid
Mae Rheolaeth Ariannol yn hanfodol ar gyfer pob math o fudiadau. Bydd y sesiwn rhyngweithiol
Cyfraith Busnes
Cyflwyniad i'r prif feysydd rhai i fusnes ystyried i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Gyda chynnydd yn y diwylliant iawndal a chod mewn cyfathrebu drwy sianeli megis cyfryngau cymdeithasol, gall camgymeriad cyfreithiol bach achosi dirwyon a thaliadau drud i gwmnïau. Oes angen dweud mwy na PPI?!
Technoleg Ariannol (FinTech)
Mae FinTech yn bwnc traws-ddisgybliaeth sy'n cyfuno Cyllid, Rheolaeth Technoleg a Rheolaeth Arloesedd. Amcangyfrifir buasai cynyddu buddsoddiad yn sector FinTech y DU yn creu 100,000 swydd ychwanegol yn y DU erbyn 2020. Bydd y sesiwn yma'n cyflwyno tueddiadau diweddaraf FinTech a sut mae FinTech yn gallu helpu busnesau aros yn gystadleuol. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys gwaith grŵp a chyflwyniad lifft.
Marchnata
Sesiwn sy'n cwmpasu ymchwil marchnata, dadansoddiad SWOT a 5P marchnata. Byddwn yn edrych ar sut mae'r cwsmer yn meddwl a defnyddio'r wybodaeth honno i gyfarwyddo penderfyniadau marchnata.
Rheolaeth Adnoddau Dynol
Pobl yw adnodd mwyaf drud cwmni ond sut mae sicrhau bod yr adnodd hwn yn effeithlon? Rydym i gyd yn ddynol wedi'r cwbl! Gall reoli gweithlu’n effeithiol gael buddion enfawr ar gyfer cynhyrchiant ac elw ond rhaid i gwmni wneud mwy na dim ond talu'r cyflogau. Gall y sesiwn yma gefnogi meysydd pwnc cwricwlwm penodol neu edrych ar dueddiadau newydd mewn cwmnïau sy'n defnyddio technegau fwyfwy soffistigedig i wella cymhelliad, ymgysylltiad a dargadwad.
Rheolaeth Twristiaeth a Digwyddiadau
Cynllunio a Datblygu Chynaliadwy
'Gellir dadlau bod polisi a chynllunio twristiaeth yn un o'r dylanwadau mwyaf arwyddocaol ar sut mae twristiaeth yn datblygu' (Dredge and Jamal, 2015: p.2015).
Mae datblygu twristiaeth angen cryn gynllunio er mwyn fod yn llwyddiannus a chynaliadwy. Mae cynllunio a datblygu cynaliadwy'n her academaidd ac yn gymhleth i'w gweithredu, ac yn fwyfwy perthnasol i'r diwydiant twristiaeth. Am nifer o flynyddoedd, mae datblygu twristiaeth wedi derbyn beirniadaeth am ei dyfiant anghynaladwy, sydd wedi arwain i lygredd amgylcheddol, diystyru'r diwylliant lleol a dadleoliad pobl leol a brodorol. Mae twristiaeth yn allweddol i ddatblygu economïau, yn cynnwys Cymru, sydd yn dibynnu ar dwristiaeth i fagu tyfiant pellach ac felly dymuniad yn y diwydiant am ddatblygiad cyson. Ond er y cydnabyddir pwysigrwydd twristiaeth, mae pryder ymysg rhanddeiliaid o ran gwarchod ein treftadaeth naturiol. Felly, mae dymuniad i ddatblygu twristiaeth, ond mewn ffordd gynaliadwy. Yn wir, mae cynllunio a datblygiad cynaliadwy more pwysig i dwristiaeth, mae un o brif siwrnalau twristiaeth yn canolbwyntio'n llwyr ar y pwnc hwn, Cynllunio a Datblygu Twristiaeth.
Gogledd Cymru: Prif Ardal Twristiaeth Antur Ewrop
Mae poblogrwydd twristiaeth antur fel is-sector yn y maes yn tyfu'n gyflym, gyda ffigurau tyfiant o 65% a gwerth byd-eang o $683 biliwn. Mae cwmnïau teithio'n ychwanegu gweithgareddau twristiaeth antur i'w portffolios. Mae'r diwydiant wedi newid yn sylweddol, yn bennaf o ran masnacheiddio a hygyrchedd torfol ei gweithgareddau. Gwelwyd twf anferthol yn nifer weithgareddau twristiaeth antur dros y ddegawd ddiwethaf yng Ngogledd Cymry, sydd wedi helpu sefydlu'r rhanbarth yn brif ardal twristiaeth antur Ewrop, gydag enwau mawr fel Zip World ac Antur Parc Eryri'n dod i'r amlwg.
Mae tyfiant twristiaeth antur yn oherwydd hygyrchedd ehangach o weithgareddau twristiaeth antur. Mae gweithgareddau a wneir cynt gan bobl broffesiynol gyda llawer o brofiad bellach ar gael i gynulleidfa ehangach, yn denu teuluoedd a phobl ifanc yn gyffredinol. Mae tyfiant twristiaeth antur yng Ngogledd Cymru yn helpu datblygiad economaidd lleol, gyda 500 o swyddi a gefnogir gan Zip World, a'r diwyndiant yn cefnogi mwy na 8,000 o swyddi.
Er hynny, mae cymorth llywodraethol yn dirywio, mae datblygiad yn gyfyngedig oherwydd mesuriadau amgylcheddol a chystadleuaeth gan gyrchfannau eraill yng Ngogledd Cymru. Gan fod yr economi lleol yn dibynnu ar y sector, beth yw dyfodol Gogledd Cymru fel cyrchfan twristiaeth antur a thwristiaeth yn gyffredinol?
Datblygu Cyrchfannau Twristiaeth Hygyrch
Mae twristiaeth hygyrch yn 'ffurf twristiaeth [...] sydd yn galluogi pobl gydag anghenion cyrchiad [...] i weithredu'n annibynnol a gydag ecwiti ac urddas trwy ddarparu cynnyrch, gwasanaethau ac amgylcheddau twristiaeth wedi'i chynllunio'n gyffredinol.' (Buhalis a Darcy, 2011: p.10)
Mae Sefydliad lechyd y Byd yn amcangyfrif bod gan 15% o boblogaeth y blaned anabledd a bydd y nifer hwn yn cyrraedd 1.2miliwn erbyn 2050. Mae ymchwil yn dangos y gall gwyliau gwella ansawdd bywyd, yn cynnwys buddiannau i les corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac ysbrydol. Er mwyn cyflawni hyn, bydd cyrchfannau'n chwarae rôl hanfodol. Yn ddibynnol ar ei hygyrchedd, mae cyrchfannau'n cyfrannu i'r math o brofiad a darparir, gyda gwyliau sydd yn cynnwys lefel sylweddol o waith, pryder a llafur emosiynol i ofalwyr. Mae twristiaeth hygyrch yn ceisio cynnwys pawb mewn gweithgareddau twristiaeth ac, yn y byd gorllewinol, yn gysylltiedig i ddeddfwriaeth anabledd, fel Deddf Cydraddoldeb 2010 yn y DU. Er ei bod yn cynnig fframwaith i'r diwydiant, nid yw deddfwriaeth anabledd yn ystyried anghenion yr amgylchedd ehangach sydd yn cynnwys anabledd, efallai oherwydd diffyg dealltwriaeth.
Mae ymchwil diweddar wedi canford fod rhanddeiliaid o fewn cyrchfannau yn tybio nad oes diddordeb gan PwD mewn teithio neu'n eu 'stereoteipio' fel pobl sydd yn defnyddio cadeiriau olwyn. Felly, y rhagdybiaeth yw bod atyniadau'n hygyrch i bob lefel anabledd. Felly sut rydym yn datblygu atyniadau sydd yn hygyrch i bawb?
- Addysg
Gweithio yn addysg (addas ar gyfer 16+)
Gyda llawer o unigolion yn cael eu hunain fel addysgwyr mae'r cyflwyniad hwn yn archwilio nifer o lwybrau a chyfleoedd gyrfa o fewn addysg.
Erioed wedi meddwl am addysgu? (addas ar gyfer 16+)
Efallai fod digwyddiadau diweddar wedi ysgogi diddordeb yn yr hyn ydyw i fod yn athro. Mae'r cyflwyniad hwn i addysgu yn archwilio rôl sydd newydd ei pharchu ac yn cynnwys sesiwn Holi ac Ateb.
Cwricwlwm Creadigol (addas ar gyfer 16+)
Darlith ragarweiniol am gynllunio a dysgu trawsgwricwlaidd.
Dydw i ddim yn gwneud mathemateg (addas ar gyfer 16+)
Yn trafod pryderon am fathemateg a sut i ddod yn fwy hyderus yn y pwnc.
Dysgu tu hwnt i’r dosbarth (addas ar gyfer 16+)
Yn archwilio dysgu y tu allan i'r dosbarth a buddion defnyddio lleoliadau amgen.
Caru llenyddiaeth (addas ar gyfer 16+)
Pam dechrau gyda llyfrau? Ble arall fyddem ni'n dechrau? Archwilio testunau plant fel ysgogiad ar gyfer dysgu.
Darganfod Gwyddoniaeth (addas ar gyfer 16+)
Cyflwyniad i ddysgu gwyddoniaeth ymarferol ar lefel addysg gynradd.
Llythrennedd Corfforol (addas ar gyfer 16+)
Beth yw llythrennedd corfforol? Mae Prifysgol Wrecsam yn cyflwyno gweithdy rhyngweithiol sydd yn trafod pwysigrwydd dull cyfannol i weithgaredd am ymgysylltiad corfforol.
- Iechyd a Lles
Gyrfaoedd ym maes iechyd y cyhoedd, iechyd meddwl a lles (addas ar gyfer 14+)
A oes angerdd gennych i helpu eraill? A oes diddordeb gennych mewn helpu pobl i fyw bywydau hapusach a mwy iach? Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyniad i faes iechyd cyhoeddus, iechyd meddwl a lles, ac yn dangos ystod eang o yrfaoedd perthnasol sydd yn gyffrous a gwerth chweil.
Iechyd Meddwl Da a sut i’w Chael (addas ar gyfer 15+)
Bob dydd mae rhywbeth newydd yn y cyfryngau am y cynnydd mewn problemau iechyd meddwl ledled y byd. Ond beth yw iechyd meddwl? A allwn atal problemau iechyd meddwl? Sut y gallwn ofalu amdanom ein hunain a'n ffrindiau a'n teulu i gadw ein hunain yn iach yn feddyliol? Byddwn yn ymdrin â hyn i gyd a mwy yn y gweithdy goleuedig, ysbrydoledig a bywiogi hwn.
Iechyd y cyhoedd: beth ydyw, pam mae ei angen arnom, a beth yw ei dyfodol (addas ar gyfer 14+)
Mae pandemig y Coronafeirws wedi troi'r sylw at faes iechyd cyhoeddus. Ond beth yn union ydy iechyd cyhoeddus, a beth y mae arbenigwyr ac ymarferwyr iechyd cyhoeddus yn eu gwneud? Wrth galon iechyd cyhoeddus yw atal afiechyd a hyrwyddo iechyd a lles, a bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno at y maes cyffrous, hanfodol a newidiol hwn.
Deall eich 'Tsimp Mewnol' a sur mae'n dylanwadu ar eich iechyd a lles! (addas ar gyfer 11+)
A ydych chi erioed wedi meddwl pa rydych yn bwyta'r darn ychwanegol o siocled neu fag arall o greision, hyd yn oed pan nad ydych wir eisiau gwneud? A ydych chi erioed wedi siarad â chi eich hun neu frwydo i dawelu'r meddwl? Dyna'ch Tsimp fewnol! Bydd y gweithdy hwn yn eich cyflwyno i waith gwyddonol, ond hwyl gan Yr Athro Steve Peters ar fodel rheoli'r meddwl fel ffordd o ddeall ymddygiadau iechyd.
Cyflwyniad i iechyd meddwl plant a'r glasoed (Ar gyfer staff ysgol yn unig)
Bydd y gweithdy’n rhoi cipolwg ar rhai o gysyniadau allweddol maes iechyd meddwl plant a’r glasoed. Gan edrych ar sylfaeni’r maes, bydd sawl cyfle i ofyn cwestiynau, myfyrio ar eich ymarfer, a meddwl am y pethau bach y gallwch eu gwneud er mwyn gwneud gwahaniaeth.
Beth yw dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles? (Ar gyfer staff ysgol yn unig)
Mae 'Iechyd a Lles' yn un o'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yng Nghwricwlwm Cymru 2022, ac mae gwerth dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles wedi'i gydnabod ers tro byd. Bydd y gweithdy hwn yn archwilio pynciau iechyd, iechyd meddwl a lles a sut y gallant fod yn cael eu hyrwyddo mewn ysgol, gyda'r bwriad o fod o fudd i ddisgyblion, athrawon a chymuned yr ysgol gyfan.
Hunanofal a gwydnwch i ymarferwyr (Ar gyfer staff ysgol yn unig)
Mae staff ysgolion yn gonglfaen i gymorth lles i blant a phobl ifanc, gan ddarparu cyfoeth o gyngor, arweiniad a gofal bugeiliol. Ond pa mor aml ydyn ni'n rhoi'r gorau i ystyried ein hanghenion lles ein hunain? Bydd y gweithdy hwn yn ystyried ffyrdd o feithrin cydnerthedd fel unigolion ac fel cymuned o gydweithwyr.
- Nyrsio a Iechyd Cynghreiriol
Beth yw Therapi Galwedigaethol? (addas ar gyfer 16+)
Cyfle i archwilio gyrfa ym maes iechyd/gofal cymdeithasol y tu hwnt i nyrsio/bydwreigiaeth. Bydd myfyrwyr yn meddwl am eu galwedigaethau eu hunain ac yna'n darganfod yr ystod eang o gyfleoedd o fewn therapi galwedigaethol fel gyrfa.
Cyflwyniad i Ffisiotherapi (addas ar gyfer 15+)
Bydd y cwrs yn rhoi trosolwg ar ffisiotherapi a’r herion a chyfleoedd gallai’r yrfa ei chynnig. Mae hefyd cyfle i gael blas ar seminar prifysgol.
- Seicoleg
Ein hunain delfrydol a gwirioneddol: a allwn gysoni'r ddau, ai peidio? (addas ar gyfer 16+)
Eglura damcaniaeth hunan-wirioneddol Carl Rogers y cymhelliad dynol sylfaenol i gyflawni ein potensial, a dod yn beth yr hoffem fod, h.y. ein 'hunan ddelfrydol'. Mae'r duedd i ymdrechu tuag at ein 'hunan ddelfrydol' yn golygu ein bod yn brwydro'n gyson gyda'r ffordd rydym yn gweld ein hunain ar hyn o bryd, h.y. ein 'hunan go iawn'. Beth yw stori'r daith hon o'n 'hunan wirioneddol' i ddod yn 'hunan ddelfrydol' a sut mae'n effeithio ar ein bywydau?
Beth yw Seicoleg? (addas ar gyfer 16+)
Trosolwg o seicoleg gan gynnwys hanes cryno
Dulliau mewn Seicoleg (addas ar gyfer 16+)
Trosolwg cryno o'r gwahanol ddulliau mewn Seicoleg, pob un yn cynnig esboniad a safbwynt gwahanol ar ymddygiad dynol. Mae'r dulliau a drafodir yn cynnwys ymddygiadol, gwybyddol, seicodynamig, dyngarol, esblygol, biolegol a chymdeithasol.
Arbrofion Seicoleg allweddol (addas ar gyfer 16+)
Dewch i mewn i rai o'r arbrofion allweddol mewn seicoleg gan gynnwys Arbrawf Carchar Stanford ac astudiaeth Obedience Milgram.
Beth yw Seicoleg? (addas ar gyfer 16+)
Trafodaeth ar rai o'r cysyniadau allweddol y byddwch yn dysgu amdanynt wrth astudio ar gyfer gradd mewn Seicoleg; gyda throsolwg o lwybrau proffesiynol a sgiliau perthnasol ar gyfer gyrfaoedd yny dyfodol.
Pwy oedd Phineas Gage? (addas ar gyfer 16+)
Pwy oedd Phineas Gage a beth all ei astudiaeth achos ei ddweud wrthym am rai o'r gwahanol feysydd craidd seicoleg?
- Troseddeg
Natur v Magwraeth (addas ar gyfer 16+)
A yw unigolion yn cael eu dylanwadu'n fiolegol i gyflawni troseddau neu a yw'r amgylchedd cyfagos ar fai? Bydd y ddarlith ryngweithiol hon yn archwilio'r ddadl natur/anogaeth sy'n bodoli mewn troseddeg drwy drafod astudiaethau achos perthnasol a'r ffactorau a allai annog ymddygiad troseddol. Mae'r ddarlith yn dechrau gyda'r diffiniadau o natur a magwraeth a rhoddir esboniad pam mae'r ddau ohonynt yn bodoli mewn troseddeg drwy ddamcaniaethau biolegol a chymdeithasegol. Hefyd, trafodir dwy astudiaeth achos sy'n cydnabod dwy ochr y ddadl. Mae'r ddarlith yn ystyried y troseddeg fiogymdeithasol gyfoes, gan archwilio'r ffyrdd y mae agweddau biolegol ac amgylcheddol sy'n dylanwadu ar ymddygiad tra'n ystyried cwrs bywyd unigolion a'u llwybrau troseddu.
Trosedd a Chosb trwy’r Oesoedd (addas ar gyfer 16+)
Sut mae cosb wedi newid drwy'r oesoedd? Sut olwg oedd ar gosb yn y gorffennol? Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn archwilio'r gwahanol fathau o gosb a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd drwy gydol hanes. Mae'r ddarlith yn dechrau gyda gweithredoedd a ystyrir yn droseddol yn y cyfnod Canoloesol a'r gosb a achoswyd ar y rhai a geir yn euog. Yna, archwilir y cyfnod Modern Cynnar yn dadadeiladu'r newidiadau sy'n geiliedig ar droseddu a chosbi. At hynny, archwilir y system cyfiawnder troseddol yn y cyfnod rhwng 1700 a 1900 cyn symud ymlaen i 1900 i'r 21ain ganrif. Bydd pob cyfnod yn cynnwys astudiaethau achos ac enghreifftiau o'r gwahanol gosbau a dyfeisiau a ddefnyddir i gael dryswch.
- Ieuenctid a Chymuned
Beth yw Gwaith Ieuenctid a Chymuned (addas ar gyfer 16+)
Trosolwg o’r cwrs, trafodaeth sydyn am egwyddorion gwaith ieuenctid a chymuned, cyfleoedd gwaith a dilyniant, cwestiynau
Beth yw Gwaith Ieunctid? (addas ar gyfer 16+)
Sesiwn gwaith ieunctid a chymuned fach ar themâu camddefnydd cyffuriau, iechyd rhywiol, perthnasau iach, cyllidebu ayyb, trosolwg o’r cwrs, trafodaeth fer am egwyddorion Y&CW, cyfleoedd gwaith a dilyniant, cwestiynau.
- Chwaraeon
Gordewdra a'r heriau: Tew i ffit (addas ar gyfer 16+)
Bydd hwn yn edrych ar yr argyfwng gordewdra presennol a'r problemau wynebwyd gan ymarferwyr iechyd a'r ysgrifenwyr polisi wrth geisio cymell y boblogaeth i ddod yn fwy ymwybodol o effeithiau'r gordewdra ar iechyd a'r argyfwng presennol a wynebwyd. Bydd y ddarlith yn rhyngweithiol yn archwilio syniadau o sut mae cymdeithas wedi ei sefydlu ac os mae hyn yn ffactor sy'n ein rhwystro rhag cael yn ffit yn lle tew. Bydd y dreth siwgr a'r amgylchedd fwyd a'i effaith ar y boblogaeth, ein harferion cyffredinol a'n agweddau tuag at fwyd ac ymarfer cord yn cael eu trafod.
Gwyddor Hyfforddi: Integreiddio Gwyddor Chwaraeon i mewn i Hyfforddi (addas ar gyfer 16+)
Mae'r ddarlith hon yn edrych ar gyflwyno myfyrwyr i bedwar elfen gwyddor hyfforddi a sut maent wedi eu hintegreiddio i gyfarwyddo ymarfer hyfforddi a datblygiad y perfformiwr. Gweithdy rhyngweithiol yw hwn i hybu dysgu myfyrwyr gyda dadansoddiad perfformiad. Bydd cyfranogwyr yn dysgu trwy ddatblygiad ffisioleg, seicoleg, dadansoddiad perfformiad a defnyddio addysgeg hyfforddi fel y llwybr cyfathrebu.
Hyfforddi Pêl-droed a Gwyddor Pêl-droed (addas ar gyfer 16+)
Mae'r ddarlith yma'n cyflwyno myfyrwyr i fyd pêl droed. Bydd unigolion yn cael cyfle i ddeall y broses hyfforddi ym mhêl droed a chymhwysiad dynesiad amlddisgyblaeth. Bydd unigolion yn datblygu dealltwriaeth o sut gall ymgysylltiad gyda';r rhaglen eu galluogi i ddod yn hyfforddwr pêl droed effeithiol. Hefyd, bydd cyfranogwyr yn deall y gyrfaoedd a'r cyfleoedd ar agor iddynt fel seicolegydd/ffisiolegydd a dadansoddwr perfformiad yn gweithio ym mhêl droed. Mae hwn yn weithdy/ddarlith ryngweithiol yna archwilio cysyniadau pêl droed a gwyddor pêl droed.
Nid Oes Angen Ymarferwyr Waliau a Nenfwd i Ysbrydoli Plant Ifanc ac Oedolion (addas ar gyfer 16+)
Bydd y ddarlith hon yn cyflwyno'r posibiliadau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion i ymgysylltu â dysgu, chwarae a chreadigrwydd yn yr amgylchedd tu allan naturiol. Mae yna ffocws cynyddol ar ein cyfrifoldeb fel dinasyddion y DU i ystyried cynaliadwyedd a chynnal ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r ddarlith yma'n amlygu sut mae'r amgylchedd tu allan yn helpu i ddarparu dynol ryw gyda chynaliadwyedd yn nhermau iechyd a lles.
Rheoli Anafiadau Llym (addas ar gyfer 16+)
Dealltwriaeth fodern o reoli anafiadau llym. Gellir addasu hyn i gyd-fynd â manyleb modiwl rhaglen benodol neu ei chyflwyno fel darlith ychwanegol/ganmoliaethus.
Cyfergydion Chwaraeon (addas ar gyfer 16+)
Dealltwriaeth fodern o reoli anafiadau chwaraeon llym. Gellir ei haddasu ar gyfer manyleb modiwl cwrs penodol neu gellir ei chyflwyno fel darlith ychwanegol/cyflenwol. Yn y gorffennol mae hyn wedi'i gyflwyno ar-lein a hefyd fel gweithdy sy'n cynnwys cymysgedd o theori ac elfennau ymarferol.
Anatomeg Dynol (addas ar gyfer 16+)
Dealltwriaeth fodern o reoli anafiadau chwaraeon llym. Gellir ei haddasu ar gyfer manyleb modiwl cwrs penodol neu gellir ei chyflwyno fel darlith ychwanegol/cyflenwol.
Pam gwneud ymarfer corff? (addas ar gyfer 4+)
Yn y gorffennol mae hyn wedi'i gyflwyno ar-lein a hefyd fel gweithdy sy'n cynnwys cymysgedd o theori ac elfennau ymarferol. Gellir newid y sgwrs hon i gyd-fynd â phoblogaeth benodol o fyfyrwyr. Bydd yn seiliedig ar ymarfer corff, pam mae'n bwysig o safbwynt corfforol, seicolegol a chymdeithasol. Gallai gynnwys pwysigrwydd chwarae a pham y dylem fod yn hyrwyddo hyn.
- Gwyddoniaeth
Gweithdy Ôlion bysedd (addas ar gyfer pob oed, 45 munud)
Bydd myfyrwyr yn dysgu am yr elfennau a ddefnyddir wrth ymchwilio olion bysedd. Bydd y sesiwn yn archwilio technegau a ddefnyddir gan wyddonwyr fforensig, megis tynnu llwch a chasglu ar y safle yn ogystal â cymharu â chydweddu olion. Bydd y sesiwn hefyd yn trafod beth sydd yn digwydd os ydy’r heddlu’n cofnodi eich olion bysedd. Efallai bydd y gweithdy ymarferol hwn ychydig yn anniben, ond bydd myfyrwyr yn mynd â chofnod o'u holion bysedd adref i'w archwilio'n fanylach.
Gweithdy profi cyffuriau ffug (addas ar gyfer 16+)
Adnabod sylweddau anhysbys drwy ddadansoddiad cemegol ansoddol
Gweithdy arddangos llysnafedd (addas ar gyfer 11+)
Gweithdy lle caiff myfyrwyr wneud llysnafedd ac ar yr un pryd dysgu am gemeg a ffiseg y llysnafedd.
Cemeg Werdd (addas ar gyfer 16+)
Mae’r trawsnewid o economi’n seiliedig ar olew i un yn seiliedig ar bio er mwyn datblygu diwydiant gynhyrchu wir gynaliadwy yn ddibynadwy i raddau mawr ar dechnolegau newydd megis cemeg werdd a nanothechnoleg. Mae’r ddarlith yma’n cwmpasu’r 12 egwyddor sylfaenol o gemeg werdd.
Chromatograffaeth Nwy mewn Archwiliadau Llosgi Bwriadol (addas ar gyfer 16+)
Bydd y sesiwn hwn yn cyflwyno myfyrwyr i dechneg chromatograffaeth nwy ac yn arddangos defnydd y dechneg wrth archwilio achosion lle mae amheuaeth o losgi bwriadol. Bydd cymwysiadau eraill o gromatograffaeth nwy’n cael eu hystyried ynghyd â datblygiadau diweddaraf yn y dechneg gan gynnwys cromatograffaeth nwy cyflym a chromatograffaeth nwy 2D.
Archwiliad Fforensig Olion Dynol (addas ar gyfer 16+)
Cyflwyniad i’r technegau wrth chwilio am, adfer ac adnabod olion dynol. Bydd y sesiwn hwn yn cyffwrdd ar agweddau o batholeg, archaeoleg ac anthropoleg a’u cymhwysiad i achosion cyfoes a hanesyddol megis pobl goll a thrychineb tyrfa.
Dwr i'r Genedl (addas ar gyfer 11+, 45 munud)
Gweithdy a darlith yn archwilio'r wyddoniaeth tu ôl i dechnegau puredigaeth y diwydiant dŵr ond hefyd sut i buro dŵr eich hunan er mwyn goroesi yn y gwyllt! Gellir addasu'r cynnwys ar gyfer plant o 7 i 13.
- Celf a Dylunio
Creu eich Portffolio ar gyfer Ymgeiswyr Celf a Dylunio (addas ar gyfer 11+, 45 munud)
Trafodaeth ar gynnwys craidd mae'r rhai sy'n cael eu cyfweld a'r rhai sy'n cyfweld yn ffeindio'n ddefnyddiol o fewn portffolios myfyrwyr a chyflawni'r cydbwysedd orau o dystiolaeth sgiliau gydag arbrofi creadigol, arloesol i ddod i gyfweliad.
Cyfleoedd Gyrfa ar gyfer Pobl Greadigol (addas ar gyfer 11+, 45 munud)
Trafodaeth ynglŷn â rôl creadigrwydd mewn cynllunio gyrfa ddynamig a gofyn pa mor rhagfynegadwy gall cynllunio gyrfa fod o fewn cymdeithas gymhleth a newid technolegol. Mae hyn yn cynnwys y potensial ar gyfer hunangyflogaeth greadigol.
Pwy Sy'n Meddwl Gallent Dynnu Llun? (addas ar gyfer 11+, 45 munud)
Trafodaeth am y cyfathrebu posib drwy dynnu llun a braslunio fel ffordd amgen i ddefnyddio geiriau a sut gall meddwl yn wahanol gael ei archwilio drwy ddelweddu.
- Amgylchedd Adeiledig
Cyflwyniad i'r Amgylchedd Adeiledig - Gyrfaoedd mewn Technoleg (addas ar gyfer pob oed)
Cyflwyniad i natur yr Amgylchedd Adeiledig, y rolau a chyfrifoldebau o'r rhai hynny sy'n ymwneud a dyluniad ac adeiladu adeiladau ac isadeiledd, ac archwiliad o'r bric ddarostwng (ac ymarfer ymarferol mewn methiant strwythurol).
- Cyfrifiadura
Gall Beiriannau Feddwl? (addas ar gyfer 16+)
Beth mae ‘deallusrwydd artiffisial’ wir yn ei olygu?
Graffiau yn y Byd Sydd Ohoni (addas ar gyfer 16+)
Cyflwyniad ymarferol i ddamcaniaeth graff.
Pa Mor Anodd Gall o Fod? (addas ar gyfer 16+)
Cyflwyniad i broblemau ‘anodd’ yng nghyfrifiadura.
Technocyfalafiaeth (addas ar gyfer 16+)
‘Daw data yn aur newydd ac rydym i gyd am ddod yn arloeswyr!’ Sut mae hyn am weithio?
Y Gêm ‘Athro ar y Trên (addas ar gyfer 16+)
Gall ‘data mawr’ a’r ‘Rhyngrwyd Pethau’ ein gadael gydag unrhyw breifatrwydd?
Beth Gall Gyfrifiaduron Wneud os oeddynt yn Deall Emosiynau Dynol? (addas ar gyfer 16+)
Mae’r sgwrs yma’n darparu cyflwyniad i’r maes “Cyfrifiadura Affeithiol” sy’n ymwneud â sut gall dechnolegau gael eu mwyhau trwy eu cyfarparu â deallusrwydd emosiynol. Rydym yn ystyried yn eang beth all ddigwydd os oedd technolegau: (a) yn gallu deall emosiwn dynol; (b) yn gallu dynwared emosiwn dynol, a (c) gyda’u hemosiynau eu hunain. Mae’r sgwrs yn llawn enghreifftiau o ymarfer ac ymchwil presennol ac mae lle ar gyfer rhyngweithio a dadl fywiog wrth i ni drafod y maes newydd yma o gyfrifiadura!
AI yn dylunio peirianneg (addas ar gyfer 16+)
Bydd y sgwrs yn cyflwyno technegau peirianneg a datblygu meddalwedd sydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial.
Galaxian i Guitar Hero: Sain Gemau Cyfrifiadur a Fideo (addas ar gyfer 16+)
Mae’r sesiwn hwn yn rhoi cyflwyniad i egwyddorion gwyddonol sain a’r ffordd caiff ei ddefnyddio mewn gemau cyfrifiadur a fideo i gyflawni realaeth a throchiad. Archwiliwyd egwyddorion cyfryngau sain a gweledol ynghyd a thrafodaeth ac arddangosiad o beth sydd yn gwneud sain ar gyfer gemau’n wahanol i sain ar gyfer teledu a ffilm. Bydd cyfranogwyr yn profi ystod eang o synau a cherddoriaeth yn ystod y sgwrs a llawer o drafodaeth. (Cyflwyniad 1 i 1.5 awr. Gall gynnwys gweithdy recordio sain, ble bydd angen cyfrifiaduron a meddalwedd golygu. Mae’r gweithdy yma’n ychwanegu 2 awr bellach.)
Playspace (addas ar gyfer pob oed)
Mae gweithdy yn rhoi cyflwyniad i Realiti Rhithwir a Realiti Estynedig, sganio ac argraffu 3D, meddalwedd hacio diogelwch seiber, ac Arduino a Rhyngrwyd Pethau
Cerflunio 3D ar Gyfer Gemau Fideo (addas ar gyfer 16+)
Mae’r sesiwn hwn yn darparu cyflwyniad i gerflunio 3D cymeriadau fideo gan ddefnyddio Autodesk Mudbox. Archwiliwyd technegau ac egwyddorion sylfaenol cerflunio a modelu wedi’i danategu gan arddangosiad a gweithgaredd ddosbarth ymarferol. Bydd cyfranogwyr yn profi ystod o offer a thechnegau yn ystod y sesiwn. (Cyflwyniad 1-awr. Bydd yn cynnwys cyflwyniad i feddalwedd, sydd angen cyfrifiaduron a meddalwedd. Mae’r gweithdy yma’n ychwanegu 2 awr bellach). Anogwyd cyfranogwyr i ddod a cho' bach.
Modeli 3D ar gyfer Gemau Cyfrifiadurol (addas ar gyfer 16+)
Bydd y sesiwn yn gyflwyniad i Fodeli 3D i gemau fideo gan ddefnyddio Autodesk Maya. Ceir archwiliad o'r offer ac egwyddorion Modeli 3D, ynghyd â gweithgareddau dosbarth ymarferol. (cyflwyniad awr o hyd. Bydd cyflwyniad i'r meddalwedd, sydd yn ychwanegu dwy awr arall). Dylai cyfranogwyr ddod â chofion pin i'r sesiwn.
- Cyfryngau
Cyflwyniad i Sain a Cherddoriaeth Mewn Gemau Cyfrifiadur a Fideo (addas ar gyfer 11+)
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n chwarae (a gwneud) gemau’n cyffroi am raffeg slic a’r chwarae gemau deniadol maent yn ei brofi. Fodd bynnag, mae defnydd sain yn aml yr arwr angof mewn gemau llwyddiannus. Mae’r sgwrs yma’n archwilio’r rôl mae sain a cherddoriaeth yn chwarae mewn gemau cyfrifiadur a sut fe’i defnyddiwyd i ddod a gemau’n fyw ac i wneud i ni nid yn unig feddwl, ond teimlo’r gemau rydym yn chwarae.
Cyflwyniad i’r Stiwdio Deledu (1awr, hyd at 10-12 y grŵp)
Bydd myfyrwyr yn dysgu am sut mae’r stiwdio’n gweithio fel amgylchedd tîm a chael dealltwriaeth o’r dechnoleg sy’n ei yrru.
Mae hwn yn weithdy rhyngweithiol ble bydd myfyrwyr yn creu fideo byr o sesiwn stiwdio deledu.Cyflwyniad i Synthesis Sain (1awr, hyd at 24 y grŵp)
Bydd myfyrwyr yn dysgu beth yw syntheseisydd yn ogystal â’r blociau sy’n gwneud iddo weithio. Bydd myfyrwyr yn gweithio â’i gilydd i adeiladu syntheseisydd gweithredol yn seiliedig ar feddalwedd.
Cyflwyniad i Ôl- Gynhyrchiad Sain ar gyfer Ffilm a Theledu (1awr, hyd at 8 y grŵp)
Darganfyddwch fwy am Ôl-gynhyrchu, gan gynnwys amnewidiad dialog a thechnegau Foley. Bydd myfyrwyr ar y gweithdy yma’n creu ffilm fer ac ychwanegu sain iddo.
Cyflwyniad i Gynhyrchu Radio (1awr, hyd at 12 grŵp)
Bydd myfyrwyr yn dysgu am gelf Cynhyrchu Radio, bydd yn cynnwys ysgrifennu sgriptiau a recordio dialog. Bydd myfyrwyr yn symud ymlaen i greu darn byr ar gyfer darllediad radio ar Calon FM.
- Peirianneg
Profiad Efelychydd Hedfan (addas ar gyfer pob oed, 45 munud, cyfanswm o 20 y grŵp)
Profiad Efelychydd Gyrru (addas ar gyfer pob oed, 45 munud, cyfanswm o 20 y grŵp)
Tanwydd ar gyfer y Dyfodol (addas ar gyfer pob oed)
O fewn ein hoes bydd olew’n dechrau rhedeg allan. Mae'r ddarlith hon yn edrych ar ddewisiadau eraill posib i danwydd ffosil a'r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau'r dyfodol i gymryd mantais o'r symudiad paradigm sy'n dod mewn technegau ynni newydd. Rydym yn cwmpasu yn fyr ynni gwynt, solar, hydro a biomas.
Technoleg Drôn (addas ar gyfer 16+)
Mae Awyrennau Bach Di-griw sy’n cael eu cyfeirio atynt yn boblogaidd fel ‘drôns’ yn fwyfwy poblogaidd yn ein cymdeithas ac yn cael eu defnyddio mewn ystod eang o gymwysiadau masnachol a hamddenol. Mae’r ddarlith hwn yn trafod y dechnoleg ddiweddaraf ac yn ceisio rhagweld dyfodol technoleg drôn yn y DU.
Pŵer Solar (addas ar gyfer 16+)
Pob awr, mae’r haul yn peledu’r Ddaear gyda digon o egni i bweru gweithgaredd dynol ryw i gyd am flwyddyn gyfan. Ond sut yn union rydym yn trawsnewid golau’r haul i drydan yn effeithlon?
Newid Hinsawdd, Heb yr Aer Poeth (addas ar gyfer pob oed)
Mae yna lawer o wybodaeth anghywir o gwmpas newid hinsawdd ac mae’r ddarlith yma’n mynd at y ffeithiau o be sydd wir yn digwydd ac, yn bwysicach, beth sy’n ei achosi. Rydym yn edrych ar y wyddoniaeth, tystiolaeth rydym yn ei weld rŵan, canlyniadau posib i’r dyfodol, a sut mae’r cyfryngau cyffredinol yn dehongli’r materion hyn.
Sesiwn Cyflwyniad i Ddeunyddiau Cyfansawdd Introduction to Composite Materials session (yng Nghanolfan Ymchwil Cyfansawdd Airbus/Wrecsam) (addas ar gyfer 16+)
Mae deunyddiau cyfansawdd wedi chwyldroi peirianneg dros y degawdau diwethaf. Mae eu mas isel wedi’i gyfuno a’u cryfder mawr ac anhyblygedd wedi galluogi cynhyrchwyr awyrennau megis Airbus a Boeing i wneud eu hawyrennau’n fwy ynni effeithlon ac i geir Fformiwla 1 ddod yn fwy diogel a chyflym. Bydd y cyflwyniad yma wedi’i gyfuno â sesiwn labordy yng Nghanolfan Hyfforddiant a Datblygiad Cyfansoddion Uwch Airbus/Wrecsam yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o sut mae peirianwyr yn gallu defnyddio’r deunyddiau hyn.
- Celfyddydau Perfformio
Gweithdy Theatr a Pherfformiad (addas ar gyfer pob oed)
Amrywiaeth o arddangosiadau Theatr a Pherfformiad, yn cynnwys jyglo a sgiliau syrcas.