Gwybodaeth i ddangos sut yr ydym yn cael ein hariannu a lle rydym yn buddsoddi ein hincwm.

Gweledigaeth a Strategaeth hyd at 2030

Yn ystod 2024, dechreuom ar y gwaith o lunio Gweledigaeth a Strategaeth hyd at 2030, gan adeiladu ar lwyddiannau Strategaeth 2025. Ymgymerwyd â phroses ymgynghori gynhwysfawr yn cynnwys myfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol. Cadarnhaodd y broses hon bod hunaniaeth ac ethos Prifysgol Wrecsam fel prifysgol fodern hyderus sy’n tyfu yn ased pwerus i’w coleddu, hyd yn oed wrth i ni ddatblygu set newydd o nodau ac amcanion strategol. Bydd ein pwrpas craidd yn parhau i fod i drawsnewid unigolion a chymunedau, o’n rhanbarth a thu hwnt, drwy eu haddysg uwch a chyda ffocws eglur ar broffesiynoldeb a chyflogadwyedd. Mae hyn yn berthnasol ledled prif edefynnau ein portffolio o fewn Iechyd, STEM, y Gwyddorau Cymdeithasol, Busnes a’r Diwydiannau Creadigol. Mae cydweithredu gyda diwydiant a phartneriaid cymunedol, yn ogystal â chyrff addysgol eraill, yn ganolog i’n cyfeiriad strategol. Yn sail bellach i hyn yw ein gwaith cenhadaeth ddinesig arloesol yn y rhanbarth, sy’n gosod y safonau yn y sector addysg uwch yng Nghymru.

O le mae ein Harian yn Dod

Yn ystod 23/24, llwyddodd y Grŵp Prifysgol i gynyddu cyfanswm eu hincwm i £62.2m, cynnydd o £50.9m yn ystod y flwyddyn flaenorol.

  • Ffioedd dysgu a chontractau addysg:     77%
  • Grantiau cyrff ariannu:                            11%
  • Cytundebau a Grantiau Ymchwil:             1%
  • Incwm arall:                                             11%

Ffioedd Dysgu a Chontractau Addysg

Mae prif ffynhonnell refeniw y Brifysgol yn parhau i ddeillio o ffioedd dysgu a chytundebau addysg lle bu cynnydd parhaus mewn incwm Ffioedd Dysgu, i fyny o £37.1m yn 22/23 i £47.8m yn 2023/34, yn berthnasol i garfan myfyrwyr yr ail flwyddyn sydd wedi ymrestru ar gyrsiau Nyrsio a chyrsiau Perthynol i Iechyd a gomisiynwyd gan HEIW yn bennaf.

Grantiau Cyrff Ariannu

Mae Medr - Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac ymchwil (Cyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru yn flaenorol) yn darparu cyllid i’r Brifysgol ar gyfer amrywiaeth o fentrau, yn cynnwys grant cyfalaf a ddefnyddiwyd i ariannu gwelliannau campws yn ymwneud â’r Ardal Wyddoniaeth a Pheirianneg ac a fydd yn parhau yn 2024/25.

Grantiau Ymchwil a Chontractau

Mae hyn yn cynnwys grantiau ymchwil gan lywodraethau’r DU, cyrff sector cyhoeddus, diwydiant ac elusennau eraill. Mae incwm ymchwil wedi lleihau er y bydd nifer o grantiau UKRI cyffrous yn dechrau gweld lefelau cynyddol o incwm yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Incwm Arall

Mae hyn yn cynnwys incwm o leoliadau preswyl, arlwyo, cynadleddau, grantiau a chontractau nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil, grantiau cyfalaf, buddsoddiadau, cyfraddau llog a chyfraniadau.

Lle Mae Ein Harian yn Cael ei Wario

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 23/24 , manylir ar sut y gwariodd y Brifysgol ei hincwm isod:

Mae prif wariant Prifysgol Wrecsam ar addysgu uniongyrchol ac mae'n parhau i fuddsoddi mewn addysgu a dysgu i sicrhau gwerth i’n myfyrwyr, yn ogystal ag mewn amrywiaeth o feysydd eraill sydd o fudd i’n myfyrwyr, yn eu cefnogi ac yn gwella profiad y myfyrwyr.

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Wrecsam: Cyfrannodd y Brifysgol £485,000 er mwyn helpu i gefnogi rhediad Undeb y Myfyrwyr. Fel rhan o'r Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, gosodwyd yr Undeb Myfyrwyr yn gydradd gyntaf yng Nghymru.

Costau ychwanegol untro ar gyfer 2023/24: Nod y Brifysgol yw dim ond gwario ar lefelau sydd o fewn i’r incwm y mae wedi’i gynhyrchu yn ystod y flwyddyn ac nid oedd unrhyw eitemau untro anarferol i’w hadrodd yn 2023/24.

Buddsoddiad yn Ein Campysau ac Ystadau

  • Cyfleusterau myfyrwyr / Campws 2025 a Seilwaith:                                   £7.30m
  • Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth: (wedi’i ariannu gan grant allanol)    £0.71m
  • Offer Ymchwil:                                                                                            £0.07m

Mae ein campysau a’n hystadau yn ganolog i effeithiolrwydd gweithredol ein prifysgol a phrofiad staff a myfyrwyr fel ei gilydd; mae’n chwarae rhan hanfodol yn y broses o sicrhau y gall prifysgol fodloni’r nifer helaeth o ofynion sydd ganddi.  Wrth i’r sector addysg uwch addasu i amgylchedd newydd a mwy cystadleuol, mae rôl a phwrpas yr ystâd fel mantais gystadleuol bosib hefyd wedi cynyddu.

Mae’r Brifysgol wedi parhau gyda’i chynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Campws 2025  fel rhan o’n dyhead i wella ansawdd adnoddau sydd ar gael i’n dysgwyr ac yn ystod y flwyddyn, defnyddiwyd y grant cyfalaf Medr (HEFCW yn flaenorol) er mwyn ariannu gwelliannau campws sy’n berthnasol i’r Ardal Wyddoniaeth a Pheirianneg fydd yn parhau yn ystod 2024/25. Mae’r gwaith adeiladu cam 2A yn yr Ardal Arloesi Iechyd ac Addysg (HEIQ) wedi’i gwblhau yn ystod y flwyddyn gyda datblygiadau pellach cam 2B gan gynnwys codi adeilad a godir yn bwrpasol sy’n cynnwys cyfleusterau technegol o’r radd flaenaf er mwyn cefnogi’r Ganolfan Efelychu Gofal Iechyd, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2024/25.

Enillodd Wynne Construction y tendr i adeiladu’r Ganolfan Fenter, Peirianneg ac Opteg £13m newydd ar gampws Plas Coch (yr EEOC) a dechreuwyd ar y gwaith adeiladu ym mis Chwefror. Mae adeiladwaith yr adeilad tirnod hwn sydd wedi’i ariannu gan Gynllun Twf Gogledd Cymru wedi hen ddechrau ac ar amser ar gyfer cwblhau yn ystod hydref 2025. Dyma brosiect mwyaf Cynllun Twf Gogledd Cymru sydd ar waith hyd yma, a bydd yn sail i gyflogaeth ac ymchwil yn y sector gweithgynhyrchu uwch yn y rhanbarth. Yn ogystal â chostau adeiladu ym Mhlas Coch, bydd £1.4m yn cael ei wario ar offer o’r radd flaenaf. Bydd £1.7m hefyd yn cael ei wario ar adnewyddiadau ac offer ar Gampws Llanelwy. Mae Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn ariannu'r mwyafrif o'r gwaith yma (£11.55m) gyda’r Brifysgol yn cyfrannu £1.7m tuag at y cyfanswm prosiect o £13.25.

Cwblhawyd y prosiect Academi Arloesi Seibr, a gafodd ei hunan-ariannu, mewn blwyddyn hefyd, gan gynnig dysgu arbrofol cyffrous i fyfyrwyr a phartneriaid allanol. Agorwyd y cyfleuster hwn ym mis Gorffennaf 2024.

Cwblhawyd y Labordy Biomecaneg a Gwyddorau Perfformiad yn ystod 2024 hefyd ac mae’n cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf, sy’n cynnig y cyfle i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd arbenigol, gan ddefnyddio offer o leoliadau cynhwysol sy’n gyffredin mewn chwaraeon elit.

Cwblhawyd nifer o brosiectau cyfalaf bach gyda gwariant o £0.25, yn cynnwys gwelliannau i gysylltedd ac offer clyweledol/taflunio i nifer o feysydd astudio o amgylch y campws a gwaith uwchraddio seddi a phodiau astudio o fewn y llyfrgell.

Buddsoddi mewn Seilwaith TG a Digidol

Un o’r cyflawniadau allweddol ar gyfer effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yw sicrhau bod ein buddsoddiad mewn seilwaith TG yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon ac yn effeithiol. Parhaodd y Brifysgol i weithredu prosiectau yn ymwneud â TG, yn cynnwys sefydlu’r Offer Rhwydwaith Ardal Leol Aruba (LAN) ar Gampysau Plas Coch a Regent Street i wella cysylltedd Wi-Fi ar gyfer yr holl ddefnyddwyr am gost o £0.43. Parhawyd gyda gwneud gwelliannau i’r Systemau Rheoli Gwybodaeth Myfyrwyr (SITS) a’r System Rheoli AD (iTrent) gyda chyhoeddiad y Ffurflen Adolygu PDR newydd. Cafodd y Gwasanaeth Bwrdd Gwaith o Bell Homework4 ei ddisodli gan system Rwydwaith Preifat Rhithwir (VPN) mwy sefydlog a chyfeillgar i ddefnyddwyr.

Cyflwynwyd y Porth Desg Gwasanaeth INFORM newydd i alluogi codi materion a cheisiadau gyda'r Adran Gwasanaethau Gwybodaeth drwy’r porth, gan ddisodli’r dull o anfon e-byst at y cyfeiriad e-bost canolog.

Mae uwchraddiad i’r System Rheoli Ystadau a Chyfleusterau wedi cael eu cwblhau a’u darparu ynghyd â hyfforddiant yn ôl yr angen.

Bydd y rhain yn cyflawni effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd proses, yn ogystal â gwella dysgu myfyrwyr drwy weithrediadau digidol.

Buddsoddiad mewn Ymchwil

Yn ystod y cyfnod adrodd 23/24, bu'r Brifysgol yn llwyddiannus yn ennill £0.400m mewn incwm grantiau ymchwil a chontractau.

Yn ystod y cyfnod 2023/24, mae gwaith ymchwil wedi’i ariannu gan Sefydliad Ymchwil Cyfiawnder wedi cynnwys Improvement Cymru er mwyn adolygu’r dystiolaeth gyfredol ar fodelau gofal cenedlaethol a fframweithiau sy’n darparu gofal i blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu yng Nghymru. Sicrhawyd cyllid Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Hyb ACE Cymru i archwilio gwerth cefnogaeth cyfoedion a goruchwyliaeth ar gyfer heddlu sy’n ymdrin â sefyllfaoedd anodd a phrofiadau o drawma mechnïol. Mae'r Sefydliad Cyfiawnder yn gweithio’n agos gydag ymgynghoriaeth Figure 8 a sefydliadau eraill yn y DU i ymchwilio i alcohol a chyffuriau eraill, yn ystod y 12 mis mae Prifysgol Wrecsam wedi sicrhau arian gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd. Mae rhai prosiectau yn y portffolio hwn yn cynnwys Evidence Into Action Alcohol Project, Evaluation of Buvidal a Minimum Unit Pricing.

Mae Ysgol Gelf Prifysgol Wrecsam wedi parhau i weithio ar ddau brosiect sydd wedi cael eu hariannu gan UKRI er mwyn sefydlu Rhwydwaith Dinasyddion Ecolegol Plws er mwyn hyrwyddo newid cynaliadwy drwy’r economi ddigidol. Bydd prosiect arall sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Caergrawnt ac yn cael ei ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn creu Llwyfan Map Agored Cymunedol i genedlaethau’r dyfodol olrhain y trosglwyddiad gwyrdd ar Ynys Môn.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Wrecsam wedi sicrhau prosiect ymchwil consortiwm fydd yn gweithio gyda sefydliadau a phartneriaid yn y diwydiant yn y DU er mwyn archwilio synwyryddion ffibr gwastad newydd. Bydd y prosiect EPSRC £2.2 miliwn, a sicrhawyd yn gynharach eleni, yn parhau am dair blynedd, gan arddangos ein hymrwymiad i ymchwil cydweithredol yn y maes hwn. Mae ein hymchwilwyr Peirianneg hefyd wedi sicrhau cyllid arloesi SMART i barhau gyda datblygiad a lefel parodrwydd technegol ‘Y Gwyntyll Gyflym’.

Yn ystod y flwyddyn, mae cyllid wedi cael ei sicrhau o gynghorau ymchwil cenedlaethol a chyrff llywodraeth i ddatblygu ymhellach ein themâu ymchwil Cynaliadwyedd ac Iechyd a Llesiant.

Buddsoddiad yn y Gymuned - Strategaeth Cenhadaeth Ddinesig

Cafodd ein Cenhadaeth Ddinesig ei chreu a’i datblygu gan weithio gyda nifer o bartneriaid ledled gogledd Cymru, ac mae hi wirioneddol wedi cael ei chyd-greu o amgylch yr heriau pwysicaf yn ein cymdeithas, ac yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth i ddod ag anghydraddoldeb cymdeithasol i ben yng ngogledd Cymru erbyn 2030. Caiff ein hymrwymiad i’n cenhadaeth ddinesig ei adlewyrchu yn

ein cyfranogiad cryf ym Mhartneriaeth Porth Wrecsam, Cynllun Twf Gogledd Cymru, y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a Chynghrair Mersi a Dyfrdwy. Yn hollbwysig, mae ein dull o weithredu wedi’i seilio ar fod yn hyblyg ac yn chwim, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn y ffordd orau bosib i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau a’n partneriaid, megis yr argyfwng costau byw, a’r argyfwng hinsawdd, er mwyn cyflawni newid sy’n cael effaith, yn bellgyrhaeddol ac yn seiliedig ar le.

Mae enghreifftiau o’r gweithgareddau rydym wedi bod yn gysylltiedig â hwy, wedi eu harwain a’u galluogi ar draws y rhanbarth a thrwy ein Strategaeth Partneriaeth Cenhadaeth Ddinesig, yn cynnwys:

  • Sicrhau dros £0.800m o gyllid Medr (HEFCW yn flaenorol) i gyflwyno prosiect Prifysgol y Plant ar draws gogledd Cymru - gan ddenu sylw 51 o ysgolion ledled gogledd Cymru gyda 1,115 o bobl ifanc yn cael cefnogaeth drwy’r prosiect. Derbyniodd 616 o bobl ifanc 30 awr o weithgareddau allgyrsiol gan raddio o Brifysgol y Plant Gogledd Cymru.
  • Yn ogystal, fel rhan o’r peilot Prifysgol y Plant Gogledd Cymru 2023/24 fe wnaethom weithio mewn partneriaeth gyda Menter Môn a Bwytai Dylan’s i ddarparu Blychau Lleiant gyda chynhwysion ffres a ryseitiau, i hyd at 900 o deuluoedd ar draws gogledd Cymru, a chan ddarparu cefnogaeth yn ystod yr argyfwng costau byw.
  • Rydym yn parhau i ddatblygu ein dull o ddod yn sefydliad sy’n wybodus am Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod TrACE.
  • Gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a datblygu’r Prosiect 100 o Straeon - Enghraifft Comisiwn Bevan, sydd wedi cefnogi dealltwriaeth bellach o brofiadau maes gofal iechyd yn yr ardal drwy ddull adrodd straeon.

Gwasanaethau Cefnogi Effeithiol

Gweithgaredd craidd yw darpariaeth gwasanaethau addysg i fyfyrwyr a’r rhaglenni ymchwil a ymgymerir gan academyddion. 

Gan hynny, gwerth am arian yn y cyd-destun hwn yw model gweithredu effeithiol a chynnal costau cyffredinol a gweinyddol yn isel. Fodd bynnag, dylid cadw mewn cof fod ‘costau gweinyddol’ yn cynnwys swyddogaethau meysydd cyllid, adnoddau dynol a gwasanaethau TG, recriwtio a derbyniadau myfyrwyr, ac ni fyddai’n bosib i'r Brifysgol weithredu hebddynt. 

Mae lefel costau gweinyddol fel cyfran o wariant y Brifysgol wedi aros ar 17.3% am yr ail flwyddyn yn olynol ac mae’n parhau i ddarparu gwasanaethau cefnogi effeithiol.

Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddenu, datblygu, ymgysylltu a chadw’r staff gorau. Trwy weithredu ein Strategaeth Bobl, rydym yn ymdrechu i ddarparu cyfleoedd perthnasol i staff i ddatblygu eu sgiliau personol a phroffesiynol yn barhaus, er mwyn eu galluogi i wneud cyfraniad cadarnhaol at weledigaeth ac amcanion strategol y Brifysgol.

Datganiadau Ariannol

Mae’r datganiadau ariannol yn darparu gwybodaeth i roi trosolwg gwir a theg o berfformiad ariannol y Brifysgol a’i sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn. Edrychwch ar y datganiadau ariannol yma.