Swyddi Gwag Is-gwmni

Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Prifysgol Wrecsam yn chwilio am ymgeiswyr ar hyn o bryd i ddod yn Gyfarwyddwyr/Ymddiriedolwyr is-gwmnïau’r Brifysgol gan gynnwys North Wales Science a Glyndŵr Innovations Ltd. 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymgymryd â rôl cyfarwyddwr neu ymddiriedolwr ar gyfer elusen leol sy’n darparu rhaglenni STEAM ar draws gogledd a chanolbarth Cymru yn ogystal â gogledd-orllewin Lloegr (North Wales Science), neu ar gyfer cyfleuster ymchwil a datblygu graddfa fawr sydd wedi’i adeiladu’n bwrpasol yn Llanelwy, gogledd Cymru, sy’n darparu ystod o wasanaethau technegol i Ddiwydiant a sefydliadau technegol, gan gynnwys cefnogaeth peirianneg, mesureg arwynebedd, a chreu optegau (Glyndŵr Innovations Ltd).

North Wales Science (NWS) - 

Mae North Wales Science yn is-gwmni i Brifysgol Wrecsam sy’n eiddo yn llwyr iddi. Mae NWS yn elusen addysgiadol gyda chyrhaeddiad a thraweffaith eang. Mae’n rhedeg canolfan ddarganfod gwyddoniaeth, Xplore! sydd wrth galon Canol Dinas Wrecsam, a darpariaeth ysgol goedwig, Xplore! Byd Natur, ar safle coedwig hanesyddol yn Llaneurgain, Sir y Fflint. 

Mae Bwrdd NWS yn chwilio am unigolion gyda phrofiad mewn meysydd megis 

  • Codi arian
  • Marchnata
  • Y sector cyfathrebu gwyddoniaeth
  • Twristiaeth
  • Addysg blynyddoedd cynnar
  • Ynni glân
  • Busnes preifat

Am ragor o wybodaeth, ewch draw i ymweld â gwefan Canolfan Ddarganfod Xplore! 

Neu’r Pecyn Ymgeisydd NWS.

Glyndŵr Innovations Ltd (GIL) - 

Mae Glyndŵr Innovations Ltd, yn is-gwmni sy'n eiddo'n llwyr i Brifysgol Wrecsam. Mae’r cwmni’n cynnig gwasanaeth dylunio ac adeiladu llawn ar gyfer systemau optegol a chydrannau bach a mawr; mae’r gallu mwyaf ar gyfer optegau sydd ag arwynebeddau cymhleth hyd at 1.8m mewn diamedr. Mae hyn yn cynnwys arwynebeddau amgrwm, ceugrwm, fflat, sfferig, asfferig neu ffurf rydd. Mae cynhyrchu, mesureg a phrofi optegau mawr yn cael ei gefnogi gan dimau peirianneg a mesureg sy’n gweithio o fewn ardal weithgynhyrchu a labordai penodol. Mae galluoedd peirianneg yn cynnwys dyluniad opto-fecanyddol a mecanyddol gan gynnwys mowntiau optegol a chychwyniad manwl gywir gan gynnwys offer cefnogaeth o’r ddaear. Mae’r tîm hefyd yn brofiadol wrth adeiladu, integreiddio a chomisiynu’r systemau hyn. Yn ddiweddar, mae’r tîm wedi datblygu systemau optegol eithriadol o ysgafn i’w defnyddio mewn cymwysiadau delweddu’r ddaear o’r awyr.

Mae Bwrdd GIL yn chwilio am unigolion gyda phrofiad mewn meysydd megis – 

  • Marchnata
  • Gwerthiant masnachol
  • Trawsnewidiad TG
  • Profiad yn y diwydiant gweithgynhyrchu
  • Cadwyn gyflenwi’r Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Profiad arall perthnasol o fewn y sector 

Am ragor o wybodaeth, ewch draw os gwelwch yn dda i wefan Glyndŵr Innovations Ltd

Neu’r pecyn Ymgeisydd GIL.

Rydym yn croesawu diddordeb gan unigolion sydd â barn gadarn a safbwynt ar lefel bwrdd. Gall profiad perthnasol ddod o sectorau masnachol cyhoeddus, wedi’u rheoleiddio neu sectorau addysgu uwch. Bydd y gallu i fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn bwysig.

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i ehangu amrywiaeth ei Bwrdd, ei His-bwyllgorau, ei his-gwmnïau ac yn annog yn arbennig ddiddordeb gan fenywod ac ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig sy’n cael eu tangynrychioli.

Am sgwrs gyfrinachol ynghylch y cyfleoedd hyn, cysylltwch gyda Joy Morton, Ysgrifennydd y Brifysgol, Plas Coch, Heol yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW 

joy.morton@wrexham.ac.uk

Y Broses Ymgeisio

Anfonwch geisiadau at clerktotheboard@wrexham.ac.uk gan nodi’r rôl rydych yn mynegi diddordeb ynddi fel testun yr e-bost.

Dylai ceisiadau gynnwys C.V. a phapur esboniadol.

Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cyfweld.

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 30eg Mehefin am 5pm.