Celfyddyd Ymchwil 2026
.jpg)
Mae’r gweithdy trochol Celfyddyd Ymchwil, sy’n ddigwyddiad a gynhelir bob dwy flynedd, wedi dod yn uchafbwynt gwirioneddol yn amserlen Hyfforddiant a Digwyddiadau’r Swyddfa Ymchwil am sawl rheswm:
- Fe’i cynhelir yn yr Ysgol Gelf yn Stryt y Rhaglaw, sy’n llawn egni a naws greadigol go iawn
- Rhydd y cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig (PGR) a MA i gysylltu a chwilio am ffyrdd newydd o feddwl am eu hymchwil, ac mae gwylio hynny’n digwydd yn ddiddorol iawn
- Bydd yn tynnu pawb allan o’u hamgylcheddau ymchwil arferol a rhoi cyfle iddynt fyfyrio, rhywbeth nad oes gan bobl yr amser i’w wneud bob tro
- Mae gweld y cynnyrch terfynol o ddelweddu’r ymchwil yn arbennig, ond mae gweld y daith sy’n arwain at y pwynt hwnnw o gyd-greu mor unigryw
Cynhaliwyd y gweithdy eleni ganol fis Mai, gyda 14 o gyfranogwyr, dan arweiniad Karen Heald, Athro mewn Ymarfer Celfyddydau Rhyngddisgyblaethol, ac roedd yn brynhawn llawn o wahanol weithgareddau. Yn gyntaf cafwyd math o ‘speed dating’, sesiwn ymgyfarwyddo, lle mae gan Fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig dri munud i esbonio’u hymchwil i fyfyriwr MA. Pan ddaw’r tri munud i ben, maent yn symud at berson arall ac mae’r amser sydd ganddynt i gyfleu a chyflwyno’u hymchwil yn lleihau’n raddol gyda phob cylchdro. Yn y diwedd dim ond 30 eiliad sydd gan y myfyrwyr i gyflwyno’u hymchwil! Roedd myfyrwyr yn gweld yr elfen lleihau amser yn heriol, gyda phobl yn adrodd yn ôl eu bod wedi colli manylion allweddol mewn ambell i gylchdro, ond ei fod yn ymarfer gwerth chweil y gallant ei ddefnyddio wrth rwydweithio yn y dyfodol…sy’n wledd i’n clustiau! Roedd yr ystafell yn llawn bwrlwm yn ystod y sesiwn, ffordd berffaith i gychwyn y prynhawn.
Ar ôl cinio, cafodd Karen bawb i wneud y gweithgaredd ymgyfarwyddo "Exquisite Corpse". Mae’r gêm hon wedi’i gwreiddio mewn gêm barlwr a ddyluniwyd er mwyn datgloi’r dychymyg. Mae’n ymwneud â chreu “creadur” drwy blygu papur yn dri darn fel bod cyfranogwyr yn creu pen, corff neu goesau heb weld cyfraniad yr artist blaenorol. Yna agorwyd y dyluniadau ardderchog a’u dangos yn eu holl ogoniant. Cawsom elfennau robotaidd, elfennau anifeilaidd a ffurfiau dynol…. gyda rhai ohonynt yn dod ynghyd yn arbennig o dda i greu corff diddorol o waith. Gwelwyd yr hylifau artistig yn llifo gyda’r gêm hon, ysgogwyd sgwrs, a chafwyd cipolwg ar ddawn artistig a chreadigrwydd pobl.
.jpg)
Aeth y prynhawn yn ei flaen i ddelweddu’r ymchwil. Cafodd Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig eu paru gyda phartner artistig, a chawsant eu hannog i ddechrau sgwrsio am ymchwil y Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig a gwneud nodiadau ar bapur A4, gan ystyried awgrymiadau megis:
- Dulliau Methodolegol
- Pwy fydd yn elwa o’r ymchwil
- Teitl traethawd ymchwil addas a chwestiynau ymchwil cefnogol
- Rhwystrau a heriau a all fod wedi cael effaith ar y daith neu’r ymchwil hyd yn hyn
- Sut mae’r daith ymchwil honno wedi edrych hyd yn hyn
Yna dechreuodd y parau fraslunio cynrychiolaeth weledol o’u sgwrs archwiliol ar ‘y papur mawr’, roedd yn amser i ymrwymo! Rhannwyd parau ar draws y stiwdio, gyda rhai wrth fyrddau, rhai’n gweithio ar y llawr ac eraill yn symud i ystafelloedd ar wahân. Defnyddiwyd amrywiol adnoddau gan gynnwys paent, pensiliau lliw, deunyddiau a ffabrigau i greu gwead ac adeiladu strwythur 3D hyd yn oed.
Aeth pob pâr ar eu taith eu hunain, gan gymryd gwahanol ddulliau, gyda gwahanol ganlyniadau a hedfanodd yr amser. Rhoddodd Karen y rhybudd ‘10 munud olaf’ o leiaf deirgwaith dros gyfnod o 45 munud, gan fod pobl wedi ymgolli cymaint yn eu creadigaethau, oedd yn ysbrydoledig i’w weld. Daeth y grŵp yn ôl at ei gilydd a darparu trosolwg o’u dehongliadau artistig a sut oeddent yn ymwneud â’u hymchwil a’r daith ymchwil. Drwy baru’r myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig â’r artistiaid llwyddwyd i ddatgloi ffordd newydd o feddwl am yr ymchwil a rhyngweithio gyda’r gwaith. Creodd bawb rywbeth hardd ac ystyrlon, o octopws i gastell 3D, i ardd wedi blodeuo’n llawn, i ddiferyn o law yn creu llifogydd, a phopeth arall yn y canol.
.jpg)
Diolch o galon i’r artistiaid, yr Athro Karen Heald, aelodau’r tîm ymchwil sy’n cefnogi popeth yn weithredol, ac i’r holl fyfyrwyr sydd wedi mynychu ac ymgysylltu’n llwyr â’r sesiwn. Mae pob un ohonoch yn gwneud y gweithdy hwn yn ddigwyddiad arbennig yr ydym yn edrych ymlaen at ei fynychu. Diolch!