Cyhoeddiad y mis - Gorffennaf 2026
.png)
Mae ymchwilwyr Prifysgol Wrecsam wedi datblygu map ar raddfa gymunedol o grynodiadau carbon deuocsid (CO₂) atmosfferig ar hyd a lled Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gan gynnig mewnwelediadau gweledol newydd i batrymau allyriadau lleol yng ngogledd Cymru.
Gan ddefnyddio data ansawdd aer yn deillio o loeren, dadansoddiad geo-ofodol ac adnoddau mapio rhyngweithiol, nododd yr ymchwil fannau poeth CO₂ parhaus ar hyd a lled Wrecsam y gellid eu defnyddio i gefnogi cynllunio’n seiliedig ar dystiolaeth ar lefel leol ac annog y targedau sero-net ymhellach.
Cyd-ysgrifennodd Adekunle Oladiji, Cynorthwyydd Addysgu Graddedig mewn Seiber a Chyfrifiadura, bapur ar ganfyddiadau ymchwil dan y teitl “Tracking Carbon Emissions: Mapping CO2 in North Wales”. Cyhoeddwyd y papur, a ysgrifennwyd gyda Dr Phoey Lee Teh a Dr Colin Kuka, yn ddiweddar yn y Journal of Social Computing.
Adekunle Oladiji
Y Dull
Mae Wrecsam yn cynnwys cymunedau gwledig, dinesig ac amdrefol, ond eto i gyd mae’r data a ddefnyddir i gefnogi mesurau lleihau CO₂ yn seiliedig ar ystadegau cyfunol sy’n gallu cuddio mannau poeth lleol a rhwystro nodau hinsawdd. Nod yr ymchwil oedd mynd i’r afael â’r bwlch yn y monitro ar lefel gymunedol er mwyn helpu i ddatgelu lle gallai ymyriadau fod fwyaf buddiol.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys:
- Casglu data
- Prosesu geo-ofodol
- Dadansoddiad ystadegol a gofodol
- Delweddu rhyngweithiol ac adnabod mannau poeth
Cafodd data demograffig ei fapio yn erbyn ffiniau gweinyddol geo-ofodol (yn cynnwys Sir y Fflint gyfagos) er mwyn sicrhau cywirdeb gofodol, a chafodd llygredd aer a data atmosfferig (1 Ionawr-30 Mehefin 2025) ei ddadansoddi ar gyfer crynodiad CO2. Yna cafodd y data ei brosesu (ei lanhau a’i ddilysu) a’i ddadansoddi (cydberthnasau, tueddiadau a chymariaethau rhanbarthol) er mwyn datblygu fframwaith atgynyrchadwy ar gyfer monitro carbon ar raddfa gymunedol. Roedd yr ymchwil yn defnyddio data sydd ar gael yn gyhoeddus a gwahanol feddalwedd cyfrifiadura i gynhyrchu siartiau delweddu, map ffoliwm a map coropleth.
Canfyddiadau
Amlygodd yr ymchwil sawl prif ganfyddiad a allai fod yn sail i benderfyniadau amgylcheddol:
- Mannau poeth CO₂: Cofnododd Rossett a Holt yn Wrecsam, sydd wedi eu lleoli yng ngogledd-ddwyrain y sir, y cyfraddau crynodiadau CO₂ cyfartalog uchaf yn y set ddata a gafodd ei dadansoddi
- Roedd gan gymunedau gogledd-ddwyrain eraill (Llai, Gresffordd, Gwersyllt, Brychdyn, Rhosddu, a Gwaunterfyn) grynodiadau uwch o CO₂
- Nid yw poblogaethau mawr yn rag-benderfynydd annibynnol o grynodiadau uwch o CO₂, gan fod daearyddiaeth leol, seilwaith a gweithgarwch economaidd hefyd yn chwarae eu rhan
- Gall newidiadau tymhorol ddylanwadu ar grynodiadau CO₂ a mannau poeth, gyda’r tywydd, newidiadau atmosfferig, a ffermio / gweithgareddau diwydiannol yn ffactorau cyfrannol posibl
Datgelodd yr ymchwil hefyd barhad mewn patrymau allyriadau ar draws ffin Wrecsam-Sir y Fflint, sy’n awgrymu bod cyfle am ddulliau rhanbarthol cydlynol i weithredu dros yr hinsawdd. Cafodd rhai cyfyngiadau eu nodi hefyd gan yr awduron, gan gynnwys mai dim ond 6 mis o’r flwyddyn oedd y set ddata a ddefnyddiwyd yn ei gynrychioli, sy’n golygu nad oedd y cylch tymhorol llawn wedi cael sylw yn yr ymchwil.
Mae’r meddalwedd a ddefnyddir gan yr ymchwilwyr i gynrychioli’r canfyddiadau data yn weledol yn cefnogi symudiad eang tuag at blatfformau geo-ofodol ffynhonnell agored ar gyfer monitro amgylcheddol, gyda’r papur yn manylu bod “adnoddau delweddu’n seiliedig ar borwr yn gwella ymgysylltiad cyhoeddus a natur ddeongladwy”.
Argymhellion
Gallai’r astudiaeth a datblygiad y map rhyngweithiol gefnogi mewnwelediadau y gellir gweithredu arnynt ar gyfer llywodraethu amgylcheddol ac ymgysylltiad cyhoeddus yng ngogledd Cymru, gan gynnwys ymyriadau wedi’u targedu’n ddaearyddol a’u haddasu’n dymhorol.
Mae dinasyddiaeth ecolegol ac addysg yn brif ffocws i sawl awdurdod ar hyn o bryd, ac nid yw Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yn eithriad i hyn. Gall y dull, y canfyddiadau ac adnodd rhyngweithiol yr astudiaeth hon gefnogi agenda gwyddoniaeth dinasyddion ac addysgol ar hyd a lled Wrecsam.
Gallai ymchwil yn y dyfodol ehangu’r amserlen a chwmpas daearyddol y setiau data, ymgorffori setiau data ychwanegol, a defnyddio technegau rhagfynegol uwch er mwyn gwella’r adnabyddiaeth o ddulliau a’r gallu i ragweld.