Myfyrio ar Sgyrsiau wrth y Tân 2025/2026

Gan Dr Phoebe Teh, Darllenydd mewn Cyfrifiadura Cymdeithasol
Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu'n fraint o'r mwyaf cael arwain y gyfres Sgyrsiau wrth y Tân, gan ddwyn ynghyd cydweithwyr o bob rhan o'r ddwy gyfadran i rannu syniadau, profiadau ac ysbrydoliaeth mewn lleoliad anffurfiol a diddorol. Hoffem ddiolch o waelod calon i'n holl siaradwyr gwadd am eu haelioni'n rhoi o'u hamser, gan neilltuo awr a hanner bob mis i'n tynnu ni i mewn i sgyrsiau meddylgar, ac yn aml annisgwyl, y mae pob un ohonom wedi cael budd ohonynt.

Ionawr
Dechreuasom ym mis Ionawr gyda Tom Rozario, Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol, a'n cyflwynodd ni i Ieithyddiaeth Corpws a Chwnsela, sy'n agor safbwyntiau newydd ar sut mae dadansoddi ieithyddol yn gallu croestorri arferion sy'n canolbwyntio ar bobl. Nid yn unig y llwyddodd ei sesiwn i ehangu ein dealltwriaeth o fethodoleg corpws ond llwyddodd hefyd i annog sgwrs ystyriol am y ffordd mae iaith yn adlewyrchu dimensiynau emosiynol a therapiwtig.
Chwefror
Ym mis Chwefror, bu Nick Bate, Darlithydd Iaith Saesneg, yn arwain sesiwn ryfeddol ar Ystryw, Iaith a Diwylliant, oedd yn atseinio'n gryf gyda'r diddordebau ymchwil parhaus o fewn y grŵp. Ers hynny, mae'r sgwrs hon wedi datblygu i fod yn gydweithrediad gwerth chweil, a bellach mae Nick yn gobeithio cychwyn ar ei daith PhD o fewn y tîm Cyfrifiadura dan fy ngoruchwyliaeth.

Mawrth
Ym mis Mawrth, bu Karen Heald, Athro mewn Ymarfer Celf Ryngddisgyblaethol, yn rhannu ei gwaith rhyngweithiol arloesol sy'n cyfuno barddoniaeth, ieithyddiaeth, a chelf ddigidol. Llwyddodd ei gallu i drosi syniadau cymhleth yn ffurfiau gweledol ac artistig ar y sgrin cyfrifiadur i ysgogi ffyrdd newydd o feddwl ynghylch cyfathrebu ymchwil ac ymarfer creadigol.
Ebrill
Ym mis Ebrill, cawsom ein harwain gan Dr David Sparke, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol, drwy drafodaeth ar Newid Hinsawdd, gan ein hannog i fyfyrio ar yr her fyd-eang hon o bersbectifau rhyngddisgyblaethol lluosog. Ysgogodd ei sesiwn ni i ystyried sut gall dulliau amrywiol, sy'n amrywio o ddadansoddi data a pheirianneg i AI, gyfrannu at fynd i'r afael â materion cymdeithasol cymhleth.

Mai
Ym mis Mai, rhannodd Yuriy Vagapov, Athro Peirianneg Drydanol, fewnwelediadau gwerthfawr ar sut i annog myfyrwyr i gyhoeddi papurau, gan dynnu o'i brofiad helaeth. Cynigiodd ei gyngor ymarferol a'i fyfyrdodau ar fentora strategaethau defnyddiol ar gyfer datblygu ymchwil myfyrwyr.
Mehefin
Yn olaf, canolbwyntiodd sesiwn mis Mehefin yr Athro Anne Nortcliffe ar ddatblygu gallu ymchwil drwy addysg uwch, gan ein hysbrydoli ni i feddwl yn ddyfnach am ein teithiau academaidd ein hunain a sut rydym yn meithrin sgiliau ymchwil mewn eraill.
.jpg)
Ar draws yr holl sesiynau, mae'r Sgyrsiau wrth y Tân wedi creu man agored a hamddenol ar gyfer deialog, boed drwy fideo, sleidiau, neu drafodaeth anffurfiol. Maent wedi'n galluogi ni i gysylltu ar hyd disgyblaethau, cyfnewid syniadau, ac archwilio cyfeiriadau ymchwil newydd gyda'n gilydd.
Mae adborth gan gyfranogwyr yn cynnwys y canlynol:
"Fel aelod newydd o staff ym Mhrifysgol Wrecsam, rwyf wedi sylwi bod y sgyrsiau hyn yn arbennig o werthfawr ar gyfer dysgu am yr ystod o ymchwil sy'n cael ei chynnal ar draws y brifysgol. Maent wedi cynnig cyfle rhagorol i gwrdd â chydweithwyr eraill sy'n weithredol o ran ymchwil ac adnabod cydweithrediadau posibl sy'n cyd-fynd â'm diddordebau ymchwil fy hun.
Cefais fudd o'r cyngor a rannwyd gan gydweithwyr mwy profiadol, yn benodol ar gynnwys myfyrwyr mewn prosiectau ymchwil a'u cefnogi drwy'r broses gyhoeddi yn seiliedig ar draethodau hir eu gradd Meistr.
Rwy'n hoff iawn o fformat y sesiynau. Mae'r sgyrsiau'n teimlo'n naturiol ac yn cynnig yr hyblygrwydd ar gyfer trafodaethau diddorol i ddatblygu y tu hwnt i'r prif bwnc, gan wneud pob sesiwn yn ddifyr, yn graff ac yn bleserus.”
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at sgyrsiau yn y dyfodol, neu eu llywio, fe'ch gwahoddwn yn gynnes i ymuno yn y drafodaeth drwy'r Hwb Cyfrifiadura Cymdeithasol Di-elw sy'n ceisio dwyn ynghyd ymchwilwyr i gyfathrebu, cydweithio, ac ysbrydoli. Cysylltwch â mi drwy Phoey.Teh@wrexham.ac.uk.