Y Llwybr Ysgol Haf Nad Oeddwn i Erioed wedi Bwriadu ei Fynychu
.png)
Gan Dmitrii Iarovoi
Dychmygwch dreulio misoedd yn datblygu eich ymchwil ac yna'n sicrhau lle mewn ysgol haf fawr ei bri. Mae'r llefydd yn brin, mae'r ariannu'n gystadleuol, ac mae pob llwybr yn cynnig cyfle unigryw i ddysgu gan arbenigwyr sy'n arwain eu maes, i adeiladu rhwydweithiau proffesiynol ac i archwilio ymchwil sydd ar y rheng flaen.
Nawr, dychmygwch, oherwydd anawsterau archebu lle, a galw digynsail, eich bod chi rywsut neu'i gilydd yn dod i fod ar lwybr hollol wahanol i'r un wnaethoch chi ei ddewis yn wreiddiol. Dyna'n union beth ddigwyddodd i mi yr haf hwn yn Ysgol Haf Dysgu Peirianyddol Rhydychen.
Fy nghynllun oedd mynychu llwybr AI Cynhyrchiol ac Asiantol, oedd yn alinio'n agos gyda fy niddordebau ymchwil. Fodd bynnag, oherwydd y galw mawr a'r llefydd cyfyngedig, cefais fy neilltuo i'r llwybr Dysgu peirianyddol ac AI mewn AI Meddyginiaethol yn lle hynny. Doeddwn i na'r trefnwyr yn gallu newid yr hyn gafodd ei neilltuo. I ddechrau arni, roedd yn teimlo fel camgymeriad siomedig. Roedd AI Meddygol yn bell iawn oddi wrth maes fy ymchwil, ac ro'n i'n cwestiynu a fyddai'r profiad yn berthnasol. Fodd bynnag, ar ôl sicrhau lle, penderfynais wneud y gorau o'r cyfle a mynychu gyda meddwl agored.
.png)
Roedd yr ychydig sesiynau cyntaf yn heriol. Ro'n i'n baglu dros dermau anghyfarwydd, fframweithiau arbenigol a chysyniadau nad oeddwn i erioed wedi clywed amdanynt o'r blaen. Roedd rhai cyflwyniadau'n anodd i'w dilyn, ac ar adegau, ro'n i'n teimlo fel rhywun ar y tu allan ymysg ymchwilwyr roedd eu harbenigedd yn ymddangos i fod yn fydoedd ar wahân i fy rhai i. Ac eto, digwyddodd rhywbeth annisgwyl.
Wrth i'r wythnos fynd yn ei blaen, dechreuais sylweddoli bod llawer o'r heriau oedd yn cael eu trafod yn hynod o gyfarwydd. Er gwaethaf gweithio mewn gwahanol ddisgyblaethau, roedd ymchwilwyr yn gweithio gyda nifer o'r un cwestiynau. Sut ydym yn dylunio ymchwil ystyrlon ac arloesol? Sut allwn ni ddatrys problemau gan ddefnyddio dulliau AI clasurol a modern? Sut ydym yn gallu rheoli adnoddau cyfrifiadura cyfyngedig? Sut ydym yn gweithio gyda data cymhleth ac amherffaith? Sut ydym yn cyfathrebu canfyddiadau'n effeithiol? A sut ydym yn mynd i'r afael â phryderon moesegol wrth ddangos traweffaith o'r byd go iawn? Roedd y cyd-destun yn wahanol, ond roedd yr heriau sylfaenol yn hynod o debyg.
Yr hyn wnaeth fy synnu i hyd yn oed yn fwy oedd cymaint ro'n i wedi'i ddysgu gan ddulliau a ddatblygwyd oddi allan i fy maes fy hun. Roedd y gymuned AI Meddygol wedi creu fframweithiau, methodolegau a safbwyntiau oedd yn cynnig ffyrdd newydd o feddwl am broblemau rwy'n eu hwynebu yn y fy ymchwil. Roedd clywed sut roedd ymchwilwyr gofal iechyd wedi mynd i'r afael ag ystyriaethau moesegol, cyfyngiadau data a heriau gweithredu'r byd go iawn yn darparu dealltwriaeth nad oeddwn erioed wedi'i phrofi o'r blaen. Roedd y bobl y cwrddais â nhw yr un mor bwysig. Cysylltais gydag ymchwilwyr na fyddwn i fel arfer fyth wedi eu cyfarfod, ac roedd y sgyrsiau hynny'n herio rhai o fy rhagdybiaethau ynghylch ymchwil AI. Roeddent hefyd yn ehangu fy nealltwriaeth o'r dirwedd ymchwil ehangach.
Efallai, yn bwysicach na dim, fe wnaeth y digwyddiad ddylanwadu'n uniongyrchol ar fy ngwaith fy hun. Wedi fy ysbrydoli gan nifer o syniadau a drafodwyd yn ystod yr ysgol haf, dechreuais ddylunio prosiect ymchwil bychan oedd yn addasu cysyniadau o AI gofal iechyd i'w ddefnyddio mewn prosiect sgwrsfot AI. Mae'r canlyniadau cynnar yma wedi bod yn eithriadol o addawol, a nawr rwy'n paratoi i werthuso'r dull yn fwy ffurfiol a datblygu'r gwaith yn bapur ymchwil.
Mae ymchwil yn aml yn ein hannog ni i arbenigo. Rydym yn cael ein meddiannu'n llwyr gan ein pynciau ein hunain, a'n hamgylchynu gan theorïau a dulliau cyfarwydd, a chymunedau arbenigol. Er bod arbenigedd trylwyr yn hanfodol, mae yna berygl bod ein ffordd o feddwl yn cael ei gyfyngu gan ffiniau ein disgyblaeth. Roedd y profiad hwn yn fy atgoffa bod arloesi yn aml yn digwydd yng nghroestoriad gwahanol feysydd. Gall chwilfrydedd, bod yn agored a pharodrwydd i ymgysylltu gyda syniadau anghyfarwydd weithiau fod yr un mor werthfawr ag arbenigedd pwnc.
Wrth gwrs, mae yna gyfyngiadau. Buaswn yn parhau i'w chael yn anodd dilyn cynhadledd hynod dechnegol mewn meysydd megis cemeg neu ffiseg ddamcaniaethol. Fodd bynnag, gall camu i mewn i ddisgyblaeth debyg ein hamlygu i safbwyntiau newydd, cydweithrediadau annisgwyl a syniadau sy'n gallu trawsnewid ein hymchwil ein hunain.
Roedd yr hyn a ddechreuodd yn broblem archebu lle mewn cynhadledd wedi dod yn un o'r profiadau mwyaf gwerthfawr yn fy siwrne ymchwil. Weithiau nid y cyfleoedd rydym wedi cynllunio ar eu cyfer yw'r rhai gorau, ond yn hytrach, y rhai nad oeddem fyth yn disgwyl eu cael.