.jpg)
Dod yn Llysgenhadwr Myfyriwr
Yn recriwtio nawr! Ennill arian wrth astudio
£13.45 yr awr
Ydych chi’n chwilio am waith hyblyg â thâl sy’n cyd-fynd â’ch astudiaethau?
Dewch yn Llysgenhadwr Myfyriwr a helpwch ddarpar fyfyrwyr i ddarganfod sut beth yw bywyd ym Mhrifysgol Wrecsam mewn gwirionedd. Byddwch yn cwrdd â phobl newydd, yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ac yn meithrin profiad gwerthfawr ar gyfer eich CV, wrth ennill rhywfaint o arian ychwanegol.
Mynegi DiddordebY rôl ar gip
| Cyflog | £13.45 yr awr |
|---|---|
| Oriau | Cyfleoedd hyblyg wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch astudiaethau |
| Lleoliad | Ar y campws, ar-lein ac mewn digwyddiadau allanol dethol |
| Hyfforddiant | Darperir hyfforddiant ac arweiniad |
| Pwy all wneud cais? | Myfyrwyr presennol Prifysgol Wrecsam |
Beth mae Llysgenhadwr Myfyriwr yn ei wneud?
Llysgenhadon Myfyrwyr yw wynebau cyfeillgar Prifysgol Wrecsam. Byddwch yn helpu darpar fyfyrwyr a’u teuluoedd i deimlo’n groesawgar, yn ateb eu cwestiynau ac yn rhannu eich profiad eich hun o astudio yma.
Yn dibynnu ar eich diddordebau a’r cyfleoedd sydd ar gael, gallech:
- Groesawu ymwelwyr mewn Diwrnodau Agored a digwyddiadau eraill y Brifysgol.
- Arwain teithiau o gwmpas y campws.
- Siarad â darpar fyfyrwyr mewn ffeiriau UCAS ac yn ystod ymweliadau ag ysgolion a cholegau.
- Helpu gyda sesiynau holi ac ateb ar-lein.
- Creu blogiau, fideos a chynnwys cyfryngau cymdeithasol.
- Cymryd rhan mewn sesiynau tynnu lluniau, cyfweliadau ac astudiaethau achos myfyrwyr.
- Cefnogi’r tîm Derbyniadau gyda thasgau gweinyddol achlysurol.
Ni fyddwch o reidrwydd yn gwneud popeth ar y rhestr hon. Mae gwahanol gyfleoedd ar gael drwy gydol y flwyddyn, gan eich galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n gweddu i’ch sgiliau a’ch diddordebau.
Pam dod yn Llysgenhadwr Myfyriwr?
Mae dod yn Llysgenhadwr Myfyriwr yn ffordd hyblyg o ennill arian, cwrdd â phobl newydd a meithrin profiad gwerthfawr ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Byddwch yn magu eich hyder, yn datblygu sgiliau ar gyfer eich CV ac yn helpu darpar fyfyrwyr i deimlo’n wybodus ac yn groesawgar ym Mhrifysgol Wrecsam.
““Mae’r cyfleoedd diddiwedd i gymryd rhan mewn pethau anhygoel yn un o’r pethau rwy’n eu caru fwyaf am y Brifysgol. Drwy’r rôl, rwyf wedi cael cynnig cyfleoedd gan gynnwys cymryd drosodd cyfrif Instagram, ysgrifennu blogiau, ymchwil a hyfforddiant ychwanegol.””
Emma Telfer
SeicolegCwestiynau Cyffredin
Content Accordions
-
Pwy all ddod yn Llysgenhadwr Myfyriwr?
Mae'r rôl yn agored i fyfyrwyr presennol Prifysgol Wrecsam. Rydym yn chwilio am bobl sy'n gyfeillgar, yn ddibynadwy, yn barod i weithio fel rhan o dîm ac yn hapus i rannu eu profiad o fywyd prifysgol.
-
A oes angen profiad blaenorol arnaf?
Nid oes angen profiad blaenorol fel llysgenhadwr. Yr hyn sy’n bwysicaf yw eich bod yn frwdfrydig, yn hawdd mynd atoch ac yn barod i ddysgu. Darperir hyfforddiant ac arweiniad.
-
Pa fath o waith y byddaf yn ei wneud?
Gall cyfleoedd gynnwys Diwrnodau Agored, teithiau o gwmpas y campws, ffeiriau UCAS, ymweliadau ag ysgolion a cholegau, sesiynau holi ac ateb ar-lein, cynnwys cyfryngau cymdeithasol, sesiynau tynnu lluniau a chymorth gweinyddol achlysurol.
Ni fydd disgwyl i chi o reidrwydd gymryd rhan ym mhob math o weithgaredd.
-
A yw'r oriau'n sefydlog?
Nac ydy. Mae cyfleoedd Llysgenhadon Myfyrwyr yn digwydd ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn ac maent wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’ch astudiaethau a’ch ymrwymiadau eraill.
-
A oes rhaid i mi dderbyn pob cyfle?
Nac oes. Gallwch fynegi eich diddordeb mewn cyfleoedd ar sail eich argaeledd, eich sgiliau a’ch diddordebau.
-
A fyddaf yn derbyn hyfforddiant?
Byddwch. Byddwch yn cael yr hyfforddiant, yr arweiniad neu’r briffio ar y diwrnod sydd eu hangen ar gyfer pob gweithgaredd.
-
Faint y byddaf yn cael fy nhalu?
Mae Llysgenhadon Myfyrwyr yn cael eu talu £13.45 yr awr. Bydd gwybodaeth am gyflwyno taflenni amser a derbyn taliad yn cael ei darparu pan fyddwch yn ymuno â’r tîm.
-
A all myfyrwyr rhyngwladol wneud cais?
Gallant, ar yr amod bod eich fisa yn caniatáu i chi weithio yn y DU. Chi sy’n gyfrifol am ddilyn unrhyw gyfyngiadau ar nifer yr oriau y cewch weithio.