Undeb Myfyrwyr
Mae Undeb Myfyrwyr Wrecsam yma i’ch cynrychioli chi a’ch llais.
Rydym yn ymdrechu i wneud eich profiad myfyriwr y gorau gall fod. Mae beth sy’n bwysig i chi yn bwysig i ni! Mae pob myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam yn aelod o’r Undeb Myfyrwyr yn awtomatig. Yn fan hyn gallwch bleidleisio a sefyll yn etholiadau’r UM, defnyddio’r gwasanaeth Cyngor, ac ymuno cymdeithas neu dîm chwaraeon. Ewch i’n gwefan i wybod mwy www.wrexhamglyndwrsu.org.uk.
Derbynfa a Siop
Mae derbynfa a siop yr UM ar gael ar gyfer eich anghenion marsiandïaeth a chyfarwyddiadau i gyd. Rydym yn gwerthu rhagor o hwdîs, crysau-t a bagiau UMGW ac offer ysgrifennu hanfodol. Gallwch archebu apwyntiad gyda’n canolfan cyngor yna, neu dderbyn unrhyw wybodaeth am yr Undeb, gan gynnwys cyfarwyddiadau i adrannau perthnasol y brifysgol. Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’n heitemau siop neu wasanaethau UM, gallwch yrru e-bost i ni ar union@wrexham.ac.uk.
Bar y Llew Diog a Pizzeria
Mae Bar y Llew Diog a Pizzeria yn le hamddenol ar y campws gallwch gwrdd â ffrindiau, cael rhywbeth i fwyta neu yfed neu fell le i ddal i fyny gyda’ch astudiaethau. Rydym wedi ein lleoli yn adeilad yr Undeb Myfyrwyr ar Gampws Plas Coch. Yn y Llew Diog, mae gennym ni ddewis llydan o ddiodydd alcoholaidd a heb alcohol gydag opsiynau bwyd blasus a fforddiadwy. Mae’r lle yn hyblyg ac wedi’i ddylunio er mwyn cefnogi digwyddiadau dan arweiniad myfyrwyr. Felly, os oes gennych syniad ar gyfer gweithgaredd hoffwch drefnu yn y lle, gyrrwch e-bost i glynsbar@wrexham.ac.uk neu dewch i mewn i’n gweld ni ar y campws.
Clybiau a Chymdeithasau
Mae cymdeithasau yn ffordd wych i chi gwrdd â phobl newydd gyda diddordebau tebyg a hefyd yn esgus gwych i chi drio rhywbeth newydd sbon. Yma yn UMGW, mae gennym ni ragor o glybiau a chymdeithasau o gymdeithasau LGBT+ ac Iechyd a Lles i Rasio TWP a Marchog. Rydym drwy’r amser yn chwilio am ffyrdd i amrywio beth sydd gennym ni i gynnig ein myfyrwyr gyda’r sefydliad o gymdeithasau newydd yn digwydd drwy’r amser, rydym yn siŵr fod yna rywbeth i bawb.