Bwyd a Diod
Mae yna ystod o fannau arlwyo ar draws ein campysau ble gall myfyrwyr fwyta, yfed, ymlacio a chymdeithasu. Hefyd mae nifer o beiriannau gwerthu wedi eu lleoli ar draws y safleoedd i ddarparu lluniaeth cyflym.
Gan mai Plas Coch yw’r campws ble mae’r rhan fwyaf o gyrsiau wedi eu lleoli mae’r safle yn gartref i’r nifer fwyaf o opsiynau o ran prynu eitemau o fwyd a diod. Cegin Unedig yw ein prif fan bwyta, sydd yn cynnig popeth o frecwast, byrbrydau “dewis a mynd”, brechdanau, saladau ac amrywiaeth o brydau poeth traddodiadol a modern. Maent yn darparu ar gyfer gofynion dietegol gan gynnwys prydau halal, llysieuol, prydau heb gynnyrch llaeth a heb glwten, ac mae prydau themâu a barbeciws ar gael yn rheolaidd.
Allfeydd bwyta eraill ar gampws Plas Coch yw:
- Café Bar 45 (bar coffi yn arddull y stryd fawr)
- Bean Machine (siop ‘hanfodion’)
- Grumpy Mule
Hefyd ar y campws mae ein Bwyty 1887, lleoliad gwych ar gyfer pryd bwyd arbennig a lle poblogaidd pan fydd myfyrwyr yn graddio – mae angen archebu bwrdd ar gyfer y bwyty.
Mae Ystafell 23 wedi ei leoli yn Ysgol y Celfyddydau Creadigol ar Stryt y Rhaglaw ac maent yn gweini detholiad o fyrbrydau a diodydd. Hefyd mae dwy allfa ar ein campws yn Llaneurgain, Ffreutur Coleg Llaneurgain a Chaffi Celyn.