Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn tystysgrif, rhaid i'ch canlyniadau fod wedi'u cadarnhau gan un o Fyrddau Asesu'r Brifysgol ar gyfer dyfarniad sydd wedi'i ardystio.

Yn ogystal, mae'n rhaid i chi hefyd beidio â bod ag unrhyw oblygiadau ariannol yn ddyledus i'r Brifysgol er mwyn derbyn eich tystysgrif.

Pryd geith fy nhystysgrif ei hanfon i mi?

Pan fydd eich dyfarniad wedi'i gadarnhau i chi trwy e-bost, bydd y gwaith o gynhyrchu tystysgrifau ar gyfer dyfarniadau cymwys yn dechrau a byddant yn cael eu hanfon maes o law. 

Wedi i dystysgrifau gael eu hanfon, gallant gymryd hyd at fis i'w danfon drwy'r Post Brenhinol i fyfyrwyr y DU a hyd at ddau fis i'w danfon trwy gludwyr post rhyngwladol i fyfyrwyr y tu allan i'r DU. 

Os na fydd eich tystysgrif wedi eich cyrraedd o fewn chwe mis i gael eich e-bost canlyniadau, cysylltwch â certificates@wrexham.ac.uk.  

Sut caiff fy nhystysgrif ei hanfon ataf?

Os oedd eich man astudio yn y DU, neu os ydych yn fyfyriwr Prifysgol Wrecsam Ar-lein, bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad "cartref" sydd gan y Brifysgol ar ffeil i chi. Er mwyn sicrhau bod eich tystysgrif yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad cywir gallwch wirio bod eich cyfeiriad cartref a gedwir ar ffeil yn gywir. I wneud hyn:

  • Mewngofnodwch trwy e:Vision gyda'ch enw defnyddiwr a chyfrinair Prifysgol Wrecsam
  • Gwiriwch fod y CYFEIRIAD CARTREF a gofnodwyd ar eich cyfer yn gywir.
  • Os yw'n anghywir, dylech ei ddiweddaru i sicrhau bod eich tystysgrif yn cael ei phostio i'r cyfeiriad cywir pan fydd yn barod i'w hanfon. Noder: Byddai angen diweddaru eich cyfeiriad o fewn 1 wythnos i dderbyn eich e-bost cadarnhau dyfarniad. 

Ail-wirio eich cyfeiriad cartref ar gyfer post yw'r ffordd orau o sicrhau nad yw'ch tystysgrif yn mynd ar goll wrth ei chludo ac nad oes oedi cyn i chi ei chael.

Os buoch yn astudio yn un o'n sefydliadau partner y tu allan i'r DU, bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon i swyddfa ganolog eich sefydliad a bydd anfon/casglu eich tystysgrif yn cael ei drefnu ganddyn nhw yn uniongyrchol.

Rwy’n credu bod fy nhystysgrif yn cael ei dal yn ôl

Ni fydd y Brifysgol yn anfon tystysgrifau o unrhyw fath i unrhyw fyfyriwr sydd â ffioedd heb eu talu sy’n ddyledus i’r Brifysgol. Os oes gennych unrhyw ffioedd sy’n ddyledus sy’n atal rhyddhau’ch tystysgrif dylech gysylltu ag Adran Gyllid y Brifysgol ar y manylion isod ar unwaith.

E-bost: accountsreceivable@wrexham.ac.uk neu ffoniwch: 01978 293037.

I fyfyrwyr sy’n astudio mewn Colegau Partner rhaid i chi gysylltu’n uniongyrchol â Thîm Cyllid y Coleg Partner.

Mae tystysgrifau hefyd yn cael eu dal yn ôl hyd nes y ceir canlyniad apêl academaidd / uniondeb academaidd / disgyblu / addasrwydd i ymarfer.

Copi arall o dystysgrifau

Mae tystysgrifau yn ddogfen gyfreithiol bwysig a dylid ei thrin felly. Ni fydd Prifysgol Wrecsam yn rhoi tystysgrif arall/ddyblyg i unrhyw ymgeisydd sydd â thystysgrif wreiddiol heb ei difrodi. Mae tystysgrif arall/ddyblyg, er eu bod yr un statws â’r rhai gwreiddiol y maent yn eu disodli, yn cael eu cynhyrchu ar y cynllun a ddefnyddir ar hyn o bryd, ac felly gallant fod yn wahanol o ran cyflwyniad i’r rhai gwreiddiol.

Mae yna nifer o amgylchiadau lle efallai yr hoffech chi brynu copi arall/dyblyg o’ch tystysgrif. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y math perthnasol wrth osod eich archeb. Dim ond un copi o’ch tystysgrif wreiddiol y gallwch ei archebu, ni fydd archebion lluosog yn cael eu prosesu.

Caiff pob copi newydd o dystysgrif ei hanfon trwy bost ail ddosbarth fel arfer ond mae opsiynau postio drwy ddulliau Llofnodi Amdano ac Olrhain hefyd ar gael. Ein nod yw anfon copi o dystysgrifau o fewn 6 wythnos ar ôl derbyn eich archeb (ar gyfer anfon copi o dystysgrif wreiddiol a ddifrodwyd, bydd hyn 6 wythnos ar ôl i ni dderbyn y dystysgrif wreiddiol a ddifrodwyd). Sylwer, os prynir postio cyflym, nid yw hyn ond yn berthnasol i’r dull postio; nid yw’n bosibl cyflymu’r broses argraffu tystysgrifau.

Pa fath bynnag o dystysgrif newydd sydd ei hangen arnoch, rhaid i chi hefyd lenwi’r holiadur er mwyn cwblhau eich archeb.

Sylwer na fydd y Brifysgol yn anfon tystysgrif i gyfeiriad lle na dderbyniwyd tystysgrif o’r blaen heb ddefnyddio dull postio Llofnodi Amdano neu Olrhain (am gost ychwanegol i’r myfyriwr). Fel arall, gellir rhoi cyfeiriad diogel gwahanol ar gyfer anfon y dystysgrif.

Archebu copi newydd o dystysgrif Dyfarniad Prifysgol Wrecsam/Glyndŵr

Os rhoddwyd eich dyfarniad gan Brifysgol Wrecsam, gellir prynu tystysgrif newydd o siop ar-lein y Brifysgol. Wrth osod eich archeb, dewiswch UN o’r cynhyrchion 1-4 yn unig.

Archebu copi newydd o dystysgrif Tystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma

Cyn 2005 cynhyrchwyd tystysgrifau gan Edexcel a bydd angen i chi gysylltu ag Edexcel (sef Pearson bellach) yn uniongyrchol er mwyn cael tystysgrif newydd.

I fyfyrwyr o 2005 ymlaen, cynhyrchir y dystysgrif gan y Brifysgol. Ewch i siop ar-lein y Brifysgol trwy’r ddolen hon. Wrth osod eich archeb, dewiswch UN o’r cynhyrchion 1-4 yn unig.

Archebu copi newydd o dystysgrif Prifysgol Cymru

Os yw’r dystysgrif yr ydych eisiau copi ohoni yn ddyfarniad Prifysgol Cymru, rhaid i chi wneud cais am gopi newydd yn uniongyrchol i Gofrestrfa Prifysgol Cymru.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich tystysgrif, cysylltwch â certificates@wrexham.ac.uk.