University building

Cynaliadwyedd

Mae Prifysgol  Wrecsam yn anelu i hyrwyddo cymunedau, gwasanaethau a defnyddio adnoddau corfforol cynaliadwy.

Mae ein Gweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd (SAWG), byddin fach o Hyrwyddwyr Gwyrdd, yn cynnwys Myfyrwyr a Staff, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr a chynrychiolwyr Unison, ac mae Cynaliadwyedd wedi derbyn cyllideb flynyddol o £20,000 wedi'i ddiogelu ar gyfer prosiectau arbennig.

Rydym hefyd yn aelod o'r Ganolfan Ymchwil Gwastraff ac Adnoddau Cymru, wedi'i reoli gan Brifysgol Caerdydd ac wedi'i gyllido drwy'r Cynllun Credyd Treth Dirlenwi a Llywodraeth Cymru.

Outdoor space on campus

Cadw ein hymrwymiad i gynaliadwyedd

Rydym wedi defnyddio 100% o drydan adnewyddadwy ers 2018

Mae allyriadau carbon wedi gostwng 50% ers 2009/10

Fe wnaethom ailgylchu 34% o'n gwastraff yn 2022/23 - ein targed nesaf yw 50%.

Beth rydym yn gwneud

Darganfyddwch mwy am ein hymrwymiad tuag at adnoddau, dysgu a gwasanaethau cynaliadwy

Students in the canteen

Helpu'r amgylchedd

149 tunnell o wastraff wedi'i gasglu, 34% wedi'i ailgylchu

24% o werthiannau ddiodydd poeth mewn cwpanau ailddefnyddiol - 10,888 tafladwy wedi'u hosgoi

Lleihad nwy a thrydan o 22% ers 2009/10

Gwobrau ac achrediadau

Pobl a'r Planed 2:1

Mae Prifysgol Wrecsam ymysg y traean uchaf o brifysgolion Prydeinig mewn rhestr werdd am ei berfformiad yn y Cynghrair Prifysgol Pobl a'r Blaned. Mae tîm Pobl a'r Blaned yn mesur popeth o bolisïau lleihau carbon i fesurau lleihau defnydd dŵr, gyda 153 o brifysgolion yn y DU wedi'u graddio felly. Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn safle 36 ac yn y 5 uchaf ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr a staff ac ar gyfer gyrfaoedd a recriwtio moesegol.

TISC

Mae'r Brifysgol hefyd wedi ymuno â Chod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol yn y Gadwyn Gyflenwi a'r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern, sef y gofrestr data agored mwyaf yn y byd sydd wedi ymrwymo i ddod â chaethwasiaeth modern a cham-drin gweithlu'r gadwyn gyflenwi i ben.

Gwobr Cymdeithas Ddinesig Ardal Wrecsam ar gyfer Cynaliadwyedd

Derbyniwyd y brifysgol wobr Cymdeithas Ddinesig Ardal Wrecsam ar gyfer cynaliadwyedd. Disgrifiodd y gymdeithas adeilad y Ganolfan Diwydiannau Creadigol fel "darn trawiadol a llwyddiannus o bensaernïaeth fodern". Mae ei nodweddion cynaliadwy wedi bod yng nghalon yr adeilad ers cafodd ei ddylunio, o'r to sedwm 'gwyrdd' i gyflenwad y toiledau i gyd o ddŵr glaw wedi'i ailgylchu a chasglwyd o'r to, defnyddir pympiau gwres o'r awyr i'r aer, er mwyn darparu gwres, ac mae'r to gwyrdd yn darparu màs thermol uchel sy'n lleihau'r galw am ynni ymateb cyflym.

Effaith Werdd

Mae Effaith Werdd yn grymuso unigolion ac adrannau leihau eu heffaith amgylcheddol yn herio'r brifysgol i weithredu nifer o gamau ymarferol, hawdd a fydd yn helpu'r amgylchedd. Mae Undeb Myfyrwyr WGU yn gwithio ar y cud a Phrifysgol Wrexham ar y Wobr Effaith Werdd yn flynyddol. Eleni cafwyd sgor o 305 a gwobr RHAGOROL.