Cynaliadwyedd mewn addysg
Mae’r Brifysgol yn teimlo’n gryf am sicrhau bod myfyrwyr yn deall, ac yn ystyried, materion datblygu cynaliadwy byd-eang. Mae ein myfyrwyr yn mynd ymlaen i chwarae rolau allweddol yn effeithio ar ddyfodol y blaned ac yn ei ddiogelu. Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ESDGC) yn rhan hanfodol o lawer o fodiwlau ledled y Brifysgol.
Er enghraifft:
Mae ein myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen, ym mhob pwnc ledled y Brifysgol, yn gorfod cyflawni modiwl ar Faterion Cyfoes ble maent yn astudio ac yn trafod pynciau megis newid yn yr hinsawdd ac addasu genetig.
Yn Astudiaethau Plentyndod, mae pwysigrwydd o ddysgu cynaliadwyedd i blant nawr yn gydnabyddus. Gall plant sy'n tyfu i ddeall ac ymarfer cynaliadwyedd o fewn eu hunedau teulu ac yn lleol mewn cymuned gael effaith bwerus ar ddyfodol pawb. Gall plant rhagweithiol sy'n cymryd cynaliadwyedd o ddifri ddysgu eraill am leihau defnydd, i ailgylchu ac ailddefnyddio eitemau i ddiogelu adnoddau'r Ddaear.
Mae myfyrwyr Egni Adnewyddadwy wedi bod ar lawer o dripiau gan gynnwys taith gan Muir a Mick o fferm wynt Peel Energy ar yr M53, trip i gynllun micro hydro Corwen ac ymweliad i fferm Spring Bank sy'n defnyddio pŵer gormodol o wynt a solar i wneud hydrogen sy’n rhedeg cerbyd fferm.
Cynnig prifysgol Glyndwr Wrecsam - Cyllid, ysgoloriaethau a bwrsariaethau.
Content Accordions
Nod fframwaith dysgu gweithredol (ALF) y Brifysgol yw gwneud y defnydd gorau o fannau dysgu ar y campws gyda deunyddiau dysgu ar-lein sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, y gellir eu cyrchu unrhyw bryd. Yn ôl Rheoliadau Academaidd Prifysgol Wrecsam, mae’n rhaid i’r holl waith gael ei gyflwyno’n electronig. Mae’r dulliau hyn yn lleihau’r defnydd o adnoddau, gan gynnwys papur ac argraffu ar gyfer gwaith myfyrwyr.
Datblygiad Proffesiynol
Rydym yn ymrwymedig yn y datblygiad proffesiynol o'n staff a myfyrwyr.
I gymhwyso a gweithredu Gweledigaeth Addysg mewn Datblygu Cynaliadwy (ESD) a chyflwyno addysg, ymchwil ac arloesedd trawsnewidiol trwy:
- Darparu addysg o safon sy'n seiliedig ar werthoedd sy'n drawsnewidiol ac yn edrych i'r dyfodol, lle mae datblygiad academaidd, corfforol ac emosiynol y myfyriwr yn ganolog a'i hwyluso trwy fynediad i academyddion a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau sy'n eu gwella'n yrfaol, fel gwirfoddoli, cyfnewidfeydd, lleoliadau a menter.
- Mabwysiadu system meddylfryd a dull cyfannol at ddysgu trwy ein gweithredoedd a'n staff cefnogol wrth gyflawni rhagoriaeth gydag ymrwymiad ac angerdd.
- Darparu amgylchedd dysgu iach ac ymgysylltu, tu mewn a thu allan, gyda chyfleoedd a gweithgareddau dysgu amlddisgyblaethol ar gyfer myfyrwyr, athrawon, staff a chymuned yr ysgol ehangach (h.y. y gymuned leol y mae'r brifysgol wedi'i leoli ynddo) ar gyfer meithrin datblygiad llythrennedd ecolegol.
- Mesur a, ble mae angen, lleihau ôl troed ecolegol PW mewn ffyrdd o'r fath sy'n gwahodd ymgysylltu â'r gymuned brifysgol fwy.
- Cynnal a gwella grym PGW i ddod yn Gymuned Ddysgu lle caiff ymgysylltiad a chyfranogiad gan holl aelodau cymuned yr Ysgol eu gwerthfawrogi a'u croesawu, a ble ceir ymarfer partneriaeth a chydweithio ar gyfer ESD.
Mae'r Brifysgol yn chwarae rhan weithgar wrth hyrwyddo ADCDF yng Nghymru. Er enghraifft, mae staff academaidd yn gynrychiolwyr ar y Grŵp Cynghorau Addysg Uwch yng Nghymru ac ar Ganolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru yn y Rhwydwaith Byd-eang RCE a gydlynir gan Brifysgol y Cenhedloedd Unedig yn Japan.
Content Accordions
- Engage - cynhadledd staff
Cyflwynodd yr Athro Claire Taylor, Dirprwy Is-Ganghellor yn y brifysgol Dysgu a Chyflawniad Myfyrwyr Cefnogol: Llwyddiant y Gorffennol a Heriau'r Dyfodol yn y Gynhadledd Flynyddol Staff "Engage". Roedd y cyflwyniad yn adlewyrchu'r flwyddyn ddiwethaf mewn perthynas ag addysgu a dysgu ac wedi darparu'r targedau allweddol ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Dangosodd Claire yr angen i alinio addysgu i anghenion a chyflogadwyedd rhanbarthol. Un i'w nodi yw'r gofyniad i dargedu mwy o amgylchedd a chynaliadwyedd yn y cwricwlwm.
Pencampwyr ESD
Dr Colin Stuhlfelder
Mae Colin yn rhan ohoni wedi cyflwyno strategaeth tai ar draws Gogledd Cymru ac i lawr i Gymoedd De Cymru ac mae wedi siarad ar faterion sy'n amrywio o ymddygiad gwrthgymdeithasol i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â defnydd cynaliadwy o adnoddau mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol.
David Sprake
Treuliodd David 10 mlynedd yn gweithio mewn prosiectau Peirianneg (contractio ac ymgynghori) fel gorsafoedd pŵer, adeiladu ffyrdd, amddiffynfeydd môr, iechyd y cyhoedd (dŵr ffres), arolygon topograffig, peirianneg strwythurol.
- Addysg ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy
Cynhaliodd Dr Colin Stuhlfelder ddarlith wych, addysgiadol a deniadol yn y Gynhadledd Staff diweddar. Mynychodd staff o bob maes academaidd a phroffesiynol y sesiwn awr o hyd i ddysgu sut i ymgorffori cynaliadwyedd i'r cwricwlwm a sut i wneud i fyfyrwyr feddwl am faterion gwleidyddol, cyfreithiol ac ariannol cyfredol a chwestiynu a ydynt yn iawn neu'n anghywir. Roedd defnydd Colin o hiwmor a'r mathau o gyfeiriadau sydd gan fyfyrwyr ar bennau eu bysedd yn ddiddorol iawn. Diolch yn fawr i Colin, am gyflwyno'r sesiwn yma.
Nod fframwaith dysgu gweithredol (ALF) y Brifysgol yw gwneud y defnydd gorau o fannau dysgu ar y campws gyda deunyddiau dysgu ar-lein sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, y gellir eu cyrchu unrhyw bryd. Yn ôl Rheoliadau Academaidd Prifysgol Wrecsam, mae’n rhaid i’r holl waith gael ei gyflwyno’n electronig. Mae’r dulliau hyn yn lleihau’r defnydd o adnoddau, gan gynnwys papur ac argraffu ar gyfer gwaith myfyrwyr.