Mae ein digwyddiadau a phrosiectau wedi’u dylunio i wneud i bawb feddwl am egni, cynaliadwyedd a lleihau carbon. Rydym hefyd yn dathlu Pythefnos Masnach Deg ac yn cytuno gyda'r neges Masnach Deg, dewisiadau siopa syml i sicrhau bargen well i ffermwyr, yn eu caniatáu i wneud dewisiadau eu hunain a rheoli dyfodol eu hunain, yn arwain bywyd urddasol.
Gallwch wel ein rhestr o brosiectau rydym yn gweithio ar, gan gynnwys y rheini rydym wedi cwblhau ac yn barod yn gwneud gwahaniaeth, isod.
Content Accordions
-
Diffodd y Nadolig
Roedd yr ymgyrch llwyddiannus "Trowch o i Ffwrdd" y Nadolig diwethaf wedi creu canlyniadau dros yr adeg Rhagfyr/Ionawr gyda lleihad ynni mawr iawn o 25,805kWh, a chyfrifwyd at ychydig dros 14 tunnell o Allyriad CO²
Anogwyd staff eto i ddiffodd goleuadau a datgysylltu offer drwy gydol rhan helaeth o'r toriad Nadolig diwethaf.
Fe wnaeth mis Rhagfyr ei hun ddangos lleihad ynni gyfan gwbl o 27,945kWh, sy'n cyfrif fel arbediad o 15 tunnell a chwarter o Allyriad CO². Mae hyn yn lleihad ar fis Rhagfyr eleni o 0.4% ac arbediad ychwanegol o dros dunnell o Allyriad CO².
-
Lleihad Carbon
Ein hadroddiad ystadau blynyddol
Adnewyddu Goleuadau gwerth £35k yng Nghanolfan Edward Llwyd, Wrecsam. Roedd y prosiect ynni yma'n cynnwys uwchraddiad eang i ffitiadau LED a T5 mewn adeilad llyfrgell. Gwelodd y 12 mis cyntaf arbedion o 173,000kWh, 85 tunnell o CO2 a £17k.
Inswleiddio’r Gwaith Peipiau a Gosodiadau Gwres a Dŵr Poeth - Wrecsam. Prosiect gwerth £30k i inswleiddio'r gwaith peipiau o'r dwythellau i brif safle'r boeler. Fel hefo'r prosiect i uwchraddio'r goleuadau, cyflawnir canlyniadau gwych. Arbedwyd y 12 mis cyntaf 1,080,900kWh, 200 tunnell o CO2 a £24k.
Arddangoswyd y ddau brosiect yng Nghylchgrawn EM (Energy Manager).
-
Adnewyddu Golau
Mae goleuadau newydd wedi'u gosod yn ardal yr Undeb Myfyrwyr, y prif lwybr rhwng yr adeiladau Peirianneg a Block 'D' ac ardaloedd y Cwad/Cegin Unedig. Mae ardaloedd eraill yn cynnwys y Ganolfan Iechyd ac adeilad Block 'A', yn wynebu'r stadiwm. Erbyn hyn, mae ychydig dan 60 o ffitiadau golau, cymysgedd o SOX a SON, goleuadau gollyngdiad sodiwm gwasgedd uchel ac isel, wedi'u hailosod gyda goleuadau LED sy'n fwy egni-effeithiol.
Mae gan y ffitiadau golau LED newydd sbectrwm golau sy'n welliant mawr o gymharu i'r goleuadau gollyngdiad defnyddiwyd gynt. Mae hefyd ganddyn nhw hyd oes o tua 50,000 o oriau, gyda dadfeiliad araf iawn.
Mae’r cyllid hefyd yn cynnwys goleuadau LED ar gyfer y neuadd chwaraeon, y gweithdy peirianneg, y labordy mhetroleg ac ein prif lyfrgell, gan greu manteision amgylcheddol ac arbedion ariannol. Ceir y goleuadau’n yn y llyfrgell eu defnyddio am lawer o oriau drwy gydol y flwyddyn, ac felly roedd o ddiddordeb penodol ystyried y llyfrgell am raglen foderneiddio.
Bydd yr arbedion arfaethedig a gyflawnir yn lleihau costau ynni goleuadau ein llyfrgell o 40-60%. Yn ogystal, bydd y prosiect ôl-ffitio goleuadau yn arbed costau cynnal a chadw, gan ddefnyddir y goleuadau newydd, ac mae gan eu helfennau hyd oes llawer hirach na'r hen rai. Bydd arbedion ychwanegol yn dod o synwyryddion golau’r dydd, fel bod modd i’r goleuadau ddiffodd eu hunain yn awtomatig pan fydd golau’r dydd yn ddigon llachar mewn ardaloedd penodol.
-
Cerbydau Trydan
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn parhau i fwrw ymlaen gyda datrysiadau ecogyfeillgar ar ôl sicrhau hwb cyllid cyfalaf mawr werth £1.6m.
Cyflwynwyd cerbydau trydan newydd fel rhan o gyfres o brosiectau datgarboneiddio, economi gwyrdd a Seilwaith dysgu digidol yn y brifysgol.
Dywedodd y Rheolwr Cyfleusterau, Dennis Powell: “Mae’r cyllid hwn yn gam ymlaen enfawr i’n hagenda gwyrdd, ac mae wedi’n galluogi ni i ddisodli ein fflyd i gyd gyda cherbydau sy’n fwy cynaliadwy.
“Mae’r cerbydau a’r prosiectau eraill yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i leihau ein hôl-troed carbon a chreu amgylchedd mwy cynaliadwy ar draws pob campws.”
Mae’r fflyd trydan yn cynnwys dau fws mini Vauxhall Vivaro e-life, dau gerbyd cynnal a chadw Nissan e-NV200, dau gar cronfa Nissan Leaf i staff, a cherbyd cyfleustodau ar y safle.
Mae'r Undeb Myfyrwyr wedi chwarae rhan sylweddol yng Ngweithgor Gweithredu Cynaliadwyedd PGW sy’n trafod materion gwyrdd, ac roedd Swyddog Cynaliadwyedd yr Undeb Myfyrwyr PGW, Daniel Holmes, yn croesawu cyflwyniad y cerbydau trydan.
Mae cyllid Llywodraeth Cymru hefyd wedi’n galluogi i osod mannau gwefru cerbydau trydan ym maes parcio ymwelwyr Plas Coch, mannau gwefru ar gyfer bysiau mini/cerbydau cynnal a chadw ger adeilad yr Undeb Myfyrwyr, a man gwefru arall ar gampws Stryd y Rhaglaw. Mae mannau gwefru cyflym hefyd ar gael yng nghampysau Llaneurgain a Llanelwy.
-
Ailgylchu
Mae prosiect uchelgeisiol i roi hwb i ailgylchu ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi'i gyflwyno - gyda’r cyntaf o gyfres o safleoedd ailgylchu newydd ledled y campws wedi cyrraedd.
Mae'r safleoedd - sydd eu hunain wedi'u gwneud allan o ddeunyddiau sydd wedi'u hailgylchu - yn rhan o brosiect ehangach a ariennir gan gronfa Economi Cylchol Llywodraeth Cymru, sydd â’r nod i gynyddu lefel ailgylchu Glyndŵr i 50 y cant.
Mae PGW wedi lleihau nifer y biniau gwastraff cyffredinol drwy waredu’r biniau desgiau unigol, ac roedd y staff yn croesawu hyn. Mae pob gorsaf ailgylchu yn cymryd deunydd ailgylchu sych a gwastraff cyffredinol o leiaf, ac anogir staff a myfyrwyr i wahanu eu gwastraff a chwarae eu rhan.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd, Jenny Thomas: “Pan rydym wedi siarad gyda’n staff a myfyrwyr yn flaenorol am ein gwaith i roi hwb i gynaliadwyedd, un o’r pethau allweddol a ddywedon nhw wrthym ni yw eu bod nhw eisiau rhagor o leoedd ble gallent ailgylchu.
“Dyma le bydd y gorsafoedd hyn yn chwarae rhan - maent yn rhan o fenter ledled y campws sy’n helpu pobl i wneud y peth iawn, a fyddwn yn eu defnyddio i gynyddu ein cyfraddau ailgylchu dros y flwyddyn nesaf.
Yn rhan o’r Wythnos Troi’n Wyrdd, cynhaliodd yr Undeb Myfyrwyr sesiwn holi ac ateb gydag Annie Doherty o Veolia a Jenny Thomas, Swyddog SHE y Brifysgol i ateb cwestiynau ac ymholiadau am wastraff. Cafodd y sesiwn ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Sesiwn holi ac ateb ailgylchu gyda Veolia a PGW
Ceir yr holl wastraff cyffredinol a gynhyrchir ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ei hanfon i'w losgi, gyda'r broses yn cynhyrchu trydan. Mae hyn hefyd yn golygu nad yw PGW wedi anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi ers mis Tachwedd 2019.
Hyd yma, rydym wedi cynyddu'r canran o wastraff a ailgylchiwyd ar y safle drwy gyflwyno mannau casglu newydd ar gyfer pren a metel - cysylltwch ag Ystadau os oes gennych rai o’r deunyddiau hyn sydd angen eu gwaredu. Caiff yr holl eitemau trydanol, gan gynnwys batris, eu casglu gan y Gwasanaethau Gwybodaeth i'w hailgylchu.
Mae casgliad gwastraff bwyd newydd wedi dechrau ailgylchu’r gwastraff bwyd a’r coffi a gynhyrchir gan y cyfleusterau arlwyo ar y safle. Bydd cynnydd pellach o gasgliadau gwastraff bwyd ar wahân wrth i fwy o bobl ddod yn ôl i’r campws.
-
Tai Draenogod a Gwestai Pryfaid
Gan wnaeth ein biniau ailgylchu newydd gyrraedd ar baletau, mae PGW am fod yn greadigol ac am eu gwneud i mewn i dai i ddraenogod i gefnogi ein campws cyfeillgar i ddraenogod, a gwestai pryfaid i ddenu mwy o fywyd gwyllt ar y campws.
-
Rhodd tywarchen blodau gwyllt
Mae tîm o hyrwyddwyr gwyrdd staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ychwanegu blagur gwyrdd ffres i’w hamgylchedd lleol - gyda chymorth Cadw Cymru’n Daclus ac Incredible Edible Wrecsam.
Fel rhan o brosiect Llefydd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru, rhoddwyd tywarchen blodau gwyllt 30 metr sgwâr i’r brifysgol gan Cadw Cymru’n Daclus.
-
Keep Cups
Ynghyd ag Aramark Ltd, mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi cyflwyno pris ychwanegol o 20p ar bob diod boeth a gweiniwyd mewn cwpanau tafladwy ar bob campws - ond ni fydd angen ei dalu os ydych yn dod â chwpan eich hun. Y syniad tu ôl i’r pris ychwanegol o 20p ar gyfer cwpanau tafladwy yw annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i fabwysiadu dull mwy cynaliadwy o ran rheoli gwastraff, lleihau cyfanswm y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi a lleihau’r swm y mae’n rhaid i’r Brifysgol ei wario ar reoli gwastraff fel bod modd buddsoddi’r cyllid i adnoddau eraill. Dywedodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Rydym yn annog pob cwsmer sy’n prynu diod boeth i’n helpu ni i leihau, ac yn y pen draw, atal cyfanswm y gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi drwy ddod â chwpanau eu hunain. Mae cwpanau amldro ar gael i’w prynu am £1 ym mhob caffi PGW."
-
Garddwriaeth Cymru
Mae Garddwriaeth Cymru yn brosiect sy’n cael ei reoli a’i gyflwyno gan Brifysgol Wrecsam
Content Accordions
-
Digwyddiad Presgripsiynu Cymdeithasol yn Seiliedig ar Natur
Treuliodd staff Prifysgol Wrecsam ac Undeb y Myfyrwyr ddiwrnod yn adnewyddu mannau gwyrdd y Brifysgol fel rhan o ddigwyddiad presgripsiynu cymdeithasol yn seiliedig ar natur. Aethant ati i blannu planhigion mewn potiau, tacluso, paentio trelar ceffylau a fydd yn cael ei ddefnyddio cyn bo hir ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau yn y dyfodol, a sicrhau bod ein campws yn lle braf i dreulio amser.
-
Iechyd Meddwl
Yn ôl astudiaethau, mae cael profiad o natur yn rhoi hwb i’ch llesiant, gan gynnwys hapusrwydd a gwytnwch, ac mae’n lleihau unigedd cymdeithasol.
-
Iechyd Corfforol
Gall byw neu weithio’n agosach at natur gynnig sawl budd, fel lefelau is o broblemau calon neu anadlu, pwysedd gwaed is, lefelau is o straen a symptomau corfforol straen, a llai o risg o ddiabetes a gordewdra.
Gyda’r holl fuddion hyn, mae’r mannau sydd wedi’u hadnewyddu’n cynnig lle i staff a myfyrwyr dreulio mwy o amser yn gofalu am eu hunain ym myd natur.