Rydym yn cefnogi ymgyrch a mentrau i annog staff a myfyrwyr i wneud dewisiadau cynaliadwy yn eu bywydau, tu fewn a thu allan i'r brifysgol.

 

Caiff cyllideb flynyddol yr adran Amgylchedd a Chynaliadwyedd ei defnyddio i weithredu prosiectau cynaliadwyedd a chodi ymwybyddiaeth ymhlith myfyrwyr a staff.  Mae hyn yn ymwneud â rheoli amrywiaeth o wahanol brosiectau, gan gynnwys cynlluniau ymgysylltu staff/myfyrwyr, fel Hyrwyddwyr Gwyrdd, a chymryd rhan mewn digwyddiadau Gwyrdd. Mae ein digwyddiadau wedi'u dylunio er mwyn gwneud i bawb feddwl am ynni, cynaliadwyedd a lleihau carbon.

Rydym hefyd yn dathlu Pythefnos Masnach Deg ac yn cefnogi neges Masnach Deg, dewisiadau siopa syml sy'n galluogi ffermwyr i gael bargeinion gwell, a'u caniatáu nhw i wneud eu penderfyniadau eu hunain a rheoli eu dyfodol eu hunain, gan fyw bywyd urddasol.

Campws Cyfeillgar i Ddraenogod

Mae Prifysgol Wrecsam wedi cofrestru i fod yn Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod.

Yn yr 20 mlynedd diwethaf mae nifer y draenogod yn y DU wedi gostwng i hyd at hanner oherwydd traffig, sbwriel a diffyg cynefinoedd naturiol. Gan weithio ochr yn ochr â Chymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain rydym yn gweithio i wneud ein campysau yn llefydd diogel ac addas i ddraenogod ffynnu.

Drwy weithio'n agos gyda'n myfyrwyr rydym wedi gosod grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod sy'n edrych tuag at dderbyn achrediad i'r Brifysgol. Mae yna lawer o frwdfrydedd ynghylch y staff a myfyrwyr dros yr ymgyrch yn barod, a bydd y grŵp yn cynnal digwyddiadau ac ymgyrch gall bawb gymryd rhan ynddynt.

A hedgehog in the grass

 

Content Accordions

  • Beth rydym yn gwneud i sicrhau campws sy'n gyfeillgar i Ddraenogod?

    Beth rydym yn gwneud yn PW i sicrhau campws sy'n gyfeillgar i Ddraenogod

    • Darparu cynefinoedd addas sy'n hygyrch.
    • Darparu lle diogel iddynt fwyta ac yfed
    • Ychwanegu tai draenog pwrpasol i'w cadw'n ddiogel ac yn sych
    • Sicrhau bod gennym ni gampws heb sbwriel
    • Cynnal arolygon draenogod o amgylch y campysau
    • Creu grŵp campws cyfeillgar i Ddraenogod ar gyfer staff a myfyrwyr
    • Creu ymwybyddiaeth trwy'r cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau a digwyddiadau
    • Gosod arwyddion croesi ar gyfer Draenogod
    • Cynnwys ymwybyddiaeth ar Ddraenogod wrth Sefydlu contractwyr perthnasol h.y. gweithwyr tir i wirio ardaloedd am ddraenogod cyn strimio neu ddefnyddio offer tebyg.

    Y Her Draeong-Gyfeillgar Mawr i Gasglu Sbwirel dros y Cyfnod Clo

    Llynedd fe wnaeth PW cymryd rhan yn y Casgliad Sbwriel Draenog-Gyfeillgar Mawr dros y Cyfnod Clo.

    Mae draenogod wedi'u gorchuddio â miloedd o ddrain, sy'n eu gwneud yn agored i fynd yn sownd mewn sbwriel. Yn anffodus, mae llawer o ddraenogod yn marw bob blwyddyn oherwydd hyn. Bydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn glanhau'ch cymuned ac yn arbed llawer o anifeiliaid.

    Daeth PW yn 9fed allan o 22 o brifysgolion a gyda'n gilydd rydym wedi tynnu bron i 700 o fagiau sbwriel o gampysau ledled y DU a'u gwneud ychydig yn fwy cyfeillgar i ddraenogod. Da iawn a diolch i bawb a gymerodd ran.

     

    Wedi dod o hyd i ddraenog sydd angen help?

    Ffoniwch warchodfa bywyd gwyllt Cilgwri, ar agor 24 awr - 01516255464 - Gwarchodfa bywyd gwyllt Cilgwri

    Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â grŵp Campws Cyfeillgar i Ddraenogod, anfonwch e-bost atom ar sustainability@wrexham.ac.uk

    Darllenwch mwy ar flogiau campws cyfeillgar i ddraenogod -

    Ffeithiau am Ddraenogod - Lauren WGSU

    Campws Cyfeillgar i Ddraenogod PGW

    Mae gweminar gwych am Gampws Cyfeillgar i Ddraenog a'r hyn y mae'n ei olygu nawr ar gael yma - Gweminar Campws Cyfeillgar Draenog

Teithio Cynaliadwy

Fel rhan o Wythnos Go Green yn 2023 cynhaliodd y brifysgol holiadur i ddeall arferion cymudo staff a myfyrwyr. Cymerwch olwg ar ganlyniadau ein harolwg.

Mae tystiolaeth yn dangos fod trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r potensial i gymryd lle 21% o siwrnai car presennol mewn ardaloedd dinesig o gwmpas y DU. Er ceir bysiau eu defnyddio mwy nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer siwrnai leol, mae eu defnydd wedi lleihau 11% dros y degawd diwethaf.

Buddion o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus:

  • Mae defnyddwyr yn fwy gweithgar drwy gerdded i ac o orsafoedd a phen teithiau
  • Mae'ch siwrne yn fwy hamddenol gan fod gennych amser i ddarllen neu i wrando ar gerddoriaeth
  • Mae'n well i'r amgylchedd (gall bws llawn dynnu 50 car oddi ar y lon)
  • Mae'n lleihau'r angen i feysydd parcio, yn golygu gall troi tir i mewn i lefydd gwyrdd fel parciau ac ardaloedd cymunedol
  • Mae'r brifysgol yn cynnig trafnidiaeth Am Ddim i fyfyrwyr rhwng campysau Wrecsam a Llaneurgain drwy'r adeg tymor.

I logi trafnidiaeth, e-bostiwch northophelpline@wrexham.ac.uk 

Mae Cymru yn arwain y byd gyda'i deddfwriaeth Teithio Lesol. Mae'r Ddeddf Teithio Lesol (Cymru) 2013 wedi rhoi'r cyfle i Gymru drawsnewid ei hun i mewn i wlad ble mae cerdded a beicio yn ffyrdd normal o deithio o gwmpas ar gyfer siwrnai lai.

Staff and students on cycle scheme bikes

Mae PW yn prysur ddod yn fwy ymwybodol o fanteision teithio cynaliadwy. Y flwyddyn nesaf rydym yn gobeithio hyrwyddo ymgyrchoedd a digwyddiadau gyda'r nod o gael staff a myfyrwyr i ystyried opsiynau teithio cynaliadwy a dod yn fwy egnïol.

Mis Cerdded Cenedlaethol - Mai

Wythnos y Beic – Mehefin

Content Accordions

  • Seiclo i gwaith

    Cynllun Beicio 

    Mae Chwaraeon Prifysgol Wrecsam yn cynnig gwasanaeth llogi beic i staff a myfyrwyr allu ddefnyddio i drafaelio rhwng campysau ac o gwmpas Wrecsam. (£10.00 i logi am 7 diwrnod). Ar hyn o bryd, mae yna 14 o feiciau ar gael i logi (mae dau o'r rhain yng nghampws Llaneurgain) ac mae'n bosib eu llogi am hyd at 7 diwrnod ar unrhyw adeg.

    Mae yna lawer o resymau pam y bydd beicio i ac o gwmpas y campws o fudd i chi, heblaw am ei fanteision amgylcheddol amlwg:

    • Cadw'n heini - Mae beicio yn ffordd wych o gadw'n heini a gall helpu i leihau'r risg o glefyd y galon
    • Arbed arian - Mae marchogaeth beic yn llawer rhatach na gyrru car. Unwaith mae gennych chi feic, does dim angen tanwydd, yswiriant na threth arnoch chi...ac ni wnaeth gostio hanner cymaint â hynny yn y lle cyntaf!
    • Ewch yn gyflymach! - Mae heriau cymudwyr mewn dinasoedd eraill yn y DU wedi dangos mai'r beic yw'r dull teithio cyflymaf mewn traffig dinesig
    • Arhoswch yn ifanc! -  Mae beicwyr rheolaidd yn mwynhau lefel ffitrwydd sy'n gyfartal â pherson ddeng mlynedd yn iau. (Ffynhonnell: Fforwm Cenedlaethol Sefydliad Clefyd Coronaidd y Galon, Sharp)
    • Cyfleusterau golchi - Mae gan y Brifysgol gawodydd ar gael i'w defnyddio yn y ganolfan chwaraeon
    • Parcio di-dâl a chyfleus - Ydych chi erioed wedi gweld beiciwr yn chwilio am le i barcio?! Mae'r Brifysgol yn darparu llawer iawn o fannau cadw beiciau ledled y campws...dewch o hyd i le ar gyfer eich beic yn un o'r cyfleusterau niferus ar y campws a chofiwch ei gloi!

    Sut mae'r cynllun yn gweithio

    Os hoffech chi logi Beic o'r Gronfa ewch i'r dderbynfa yn y ganolfan chwaraeon. Bydd angen i chi ddangos eich cerdyn adnabod myfyrwyr / staff dilys a gofynnir i chi ddarllen a chytuno i'r amodau a thelerau llogi.

    Yna fe gewch chi'r beic, clo/allweddi'r beic a chyfarpar diogelwch, mae pob un ohonynt wedi'u rhestru ar y ffurflen archebu rydych chi'n ei llofnodi.

    Mae gan bob campws cyfleusterau i gadwch feic ac i lanhau gyda chawodydd yn y ganolfan chwaraeon yn Wrecsam a'r adeilad Mitchelmore yn Llaneurgain.

    Nid oes neb yn gwybod dinas yn well na'r beicwyr sy'n reidio yna bob dydd - y llwybrau gorau, y cyffyrdd dyrys, a chaffiau cyfeillgar i feicwyr. Rhannwch eich gwybodaeth am lwybrau Wrecsam yma

     

  • Trafnidiaeth Cyhoeddus

    Caiff bron i 40% o siwrnai sy'n llai na dwy filltir eu gwneud mewn car. Mae teithiau car llai yn creu lefelau llawer mwy o allyriadau niweidiol, gan nad yw peiriannau yn gweithio ar eu tymheredd gorau posibl.

    Gall lawer o siwrnai fer eu gwneud, yn hawdd, ar drafnidiaeth gyhoeddus a gwneud gwahaniaeth mawr i'ch ôl troed carbon.

    Trên

    Cynlluniwch eich siwrne

    Bws

    Bysiau Wrecsam

    Bysiau Llaneurgain

  • Wythnos Troi’n Wyrdd

    Eleni, bydd Wythnos 'Mynd yn Wyrdd' rhwng 11 Mawrth a 15 Mawrth.

     

    Gwahoddir myfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Wrecsam i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n hyrwyddo ffordd iachach a chynaliadwy o fyw. Mae'r digwyddiadau'n cynnwys Cyfnewidfa Dillad,  Ddileu Gwastraff Dydd Mercher, a Planhigfa 'Treemendous'!

     

    I ddarganfod mwy a chymryd rhan, ewch i:https://www.wrexhamglyndwrsu.org.uk/main-menu/campaigns/go-green-week-2024

  • Pythefnos Masnach Deg

    Wyddoch chi y daethom yn Brifysgol Fasnach Deg yn 2018?

    Dywedodd y Sefydliad Masnach Deg mewn perthynas â'n cais,

    "Da iawn, rydych wedi rhoi cyfuniad arbennig o fanwl o bolisïau i ni sy'n dangos eich ymrwymiad yn helaeth i Fasnach Deg a'r camau sydd yn eu lle i sicrhau y cynhelir safon uchel o ymarfer foesegol. Mae eich cymhelliant wedi gwneud argraff dda arnom a gwych yw gweld y cydweithrediad posibl gyda grŵp Masnach Deg Wrecsam".

    Cynhyrchion Masnach Deg yn PW

    Mae Prifysgol  Wrecsam yn gwerthu cynhyrchion Masnach Deg ar draws ei holl allfeydd arlwyo, gan gynnwys yr Undeb Myfyrwyr, ac yn cynnig cynhyrchion Masnach Deg ym mhob cyfarfod mewnol ac allanol.

    Bob blwyddyn am bythefnos yn ystod mis Chwefror a Mawrth, mae Masnach Deg yn canolbwyntio ar fasnach drwy ymgyrchPythefnos Masnach Deg. Ynghyd â ffermwyr a gweithwyr Masnach Deg, ymgyrchwyr a busnesau ledled y wlad, maent yn pwysleisio'r gwahaniaeth y gall Masnach Deg ei wneud i fywydau a chymunedau.

    Cystadlaethau Pythefnos Masnach Deg i ennill Nwyddau Masnach Deg

    Rydyn ni'n cynnal cystadlaethau i ennill Nwyddau Masnach Deg, ac yn syml iawn mae prynu eitem Masnach Deg yn eich cynnwys mewn raffl i ennill rhai nwyddau.

     

     

  • Awr y Ddaear

    Ym mis Mawrth rydym yn cymryd rhan yn Awr y Ddaear.

    Bob blwyddyn, mae Awr y Ddaear, a threfnwyd gan WWF, yn digwydd rhwng 8:30pm a 9:30pm (amser lleol). Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl, busnesau a thirnodau yn rhoi awr i gynnal digwyddiadau, mae preswylwyr Prifysgolion yn diffodd eu goleuadau, mynd tu allan ac yn gwneud sŵn ar gyfer mudiad Awr y Ddaear.

  • Ailgylchu gyda Gofal Canser Tenovus

    Ar hyn o bryd mae gan WU fannau gollwng Ailgylchu Gofal Canser Tenovus o amgylch ein campysau. Y nod yw annog staff, myfyrwyr ac ymwelwyr i beidio â thaflu eu heitemau diangen i ffwrdd mewn ymgais i achub yr amgylchedd.

    https://www.tenovuscancercare.org.uk/ 

    Mae gollwng eich dillad mewn bin casglu Gofal Canser Tenovus yn golygu y byddant yn cael bywyd newydd. Bydd ailgylchu eich hen eitemau nid yn unig yn atal y nwyon tŷ gwydr hynny rhag cael eu hallyrru ond hefyd yn lleihau'r angen am ddillad newydd eu gweithgynhyrchu, gan leihau'r difrod amgylcheddol a achosir yn y broses gweithgynhyrchu tecstilau i bob pwrpas.




  • WSU - YMGYRCHOEDD

    Mae ein Hundeb Myfyrwyr Wrecsam yn fawr ar gynaliadwyedd - edrychwch ar eu hymgyrchoedd