Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

12 wythnos

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Ydych chi am wella eich rhagolygon gyrfa, gwella'ch sgiliau, neu ystyried symud i addysgu? Ystyriwch gofrestru ar ein Cyflwyniad i Addysgu a Hyfforddiant.

 

Dyma pam:

 

  1. Datblygu gyrfa: Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn hyfforddwr yn y gweithle neu symud i addysgu? Mae'r cwrs rhagarweiniol hwn yn eich arfogi â sgiliau a gwybodaeth newydd a all agor drysau i gyfleoedd gwaith. Bydd yn rhoi hanfodion i chi o ran sut rydym yn strwythuro addysgu a dysgu sy'n cael effaith.
  2. Hyblygrwydd: Wedi'i ddylunio gydag oedolion prysur mewn golwg, mae'r cwrs hwn yn cymryd ymagwedd gymysg at astudio, gyda chymysgedd o ddosbarthiadau nos a deunyddiau ar-lein i weithio drwyddi yn eich amser eich hun. Perffaith ar gyfer y rhai sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd ond sy'n jyglo ymrwymiadau eraill.
  3. Hwb i'ch hyder: Mae'r tîm yn Wrecsam yn deall y gall dychwelyd i astudio fod yn frawychus. Mae'r cwrs byr hwn yn ffordd berffaith o 'drochi eich bysedd' yn ôl i addysg a bydd ein tîm cefnogol wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad ar bob cam o'r ffordd.
  4. Ydych chi eisiau dechrau dysgu? Yn y pen draw, mae'r cwrs hwn yn gam cyntaf gwych i'r rhai sydd am ddechrau addysgu, ond sy'n bryderus am neidio'n syth i'n darpariaeth TAR. Rhowch gynnig ar ein Cyflwyniad i Addysgu a Hyfforddiant, yna gweld ble mae eich cam nesaf yn mynd â chi.

Prif nodweddion y cwrs

  1. Blas perffaith i'r rhai sy'n ystyried gyrfa mewn addysgu neu hyfforddiant ond nad ydynt am ymrwymo i TAR llawn.
  2. Mae'r cwrs byr hwn yn llwybr delfrydol i'n TAR i'r rhai sy'n barod i gymryd y camau nesaf.
  3. Dysgu cyfunol gyda chwe noson ym Mhrifysgol Wrecsam a chyfres o dasgau dysgu ar-lein.
  4. Staff cefnogol sydd â phrofiad helaeth mewn addysg oedolion a lleoliadau hyfforddiant proffesiynol.

Beth fyddwch chin ei astudio

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth i ddysgwyr o'r cysyniadau a'r egwyddorion allweddol sy'n gysylltiedig ag addysgu a dysgu effeithiol. Drwy gydol y cwrs, bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth am y sgiliau angenrheidiol i addysgu neu hyfforddi o fewn eu cyd-destun eu hunain.

Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn dangos ystyriaeth o'r nodweddion allweddol sy'n gysylltiedig ag addysgwyr oedolion effeithiol ac yn gwerthuso rhwystrau i ddysgu y gall myfyrwyr ôl-16 eu hwynebu.

Fel rhan o'r cwrs hwn, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn ymarfer myfyriol i ddatblygu eu llinellau dadl eu hunain a llunio barn gadarn yn unol â damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol sy'n gysylltiedig â dysgu, addysgu ac asesu.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogwyr yn gallu dewis ac adolygu strategaethau addysgu, dysgu ac asesu priodol sydd wedi'u teilwra i'w cyd-destun eu hunain.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Unrhyw gymhwyster ar Lefel 3 neu uwch.

Addysgu ac Asesu

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn 6, dau awr o weithdai dysgu gweithredol (ar y campws) a byddant yn cwblhau 6 tasg llyfr gwaith ar-lein. Felly, bydd disgwyl i fyfyrwyr fynychu'r campws unwaith bob pythefnos.

Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu, ar Lefel 4, gan bortffolio o waith.

Ffioedd a chyllid

FREE

Dyddiadau cyrsiau

Dyddiad Cychwyn: Dydd Mercher 5 Mawrth 2025 - Archebwch nawr

Mae dysgwyr yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau ar-lein yn annibynnol bob wythnos yn eu hamser eu hunain, gyda chwech sesiwn wyneb yn wyneb a fydd yn cael eu cynnal ar Gampws Wrecsam ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 5 Mawrth - 6yh - 8yh 
  • Dydd Mercher 19 Mawrth - 6yh - 8yh
  • Dydd Mercher 2 Ebrill - 6yh - 8yh
  • Dydd Mercher 30 Ebrill - 6yh - 8yh
  • Dydd Mercher 14 Mai- 6yh - 8yh
  • Dydd Mercher 28 Mai - 6yh - 8yh