(Cwrs Byr) Cyflwyniad i Therapi Iaith a Lleferydd
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
7 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs ‘Cyflwyniad i Therapi Iaith a Lleferydd’ hwn yn ymuno ag ystod o gyrsiau ‘Cyflwyniad i’ Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol (AHP) ym Mhrifysgol Wrecsam. Y prif nod yw ehangu cyfranogiad a mynediad i gyrsiau gofal iechyd i fyfyrwyr o lwybrau traddodiadol, a llwybrau nad ydynt yn rhai traddodiadol.
Mae’r cwrs ar-lein saith wythnos hwn yn cynnwys gwybodaeth a sgiliau paratoadol i gefnogi cais i astudio Therapi Iaith a Lleferydd neu gais i gwrs gofal iechyd perthnasol gan ei fod yn cynnwys y gwerthoedd gofal iechyd craidd ac yn rhoi trosolwg o fywyd myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Wrecsam. Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu gan Therapyddion Iaith a Lleferydd cofrestredig mewn gwaith o’r bwrdd iechyd lleol.
Byddai’n ddeniadol i ymgeiswyr sydd â chryfderau’n megis cyfathrebu’n dda, gweithio mewn tîm a sgiliau rhyngbersonol a dyhead i weithio yn y proffesiwn neu’r sector gofal iechyd. Byddai cwblhau’r cwrs yn ased gwerthfawr ar y rhan ‘profiad perthnasol’ o gais i’r BSc Therapi Iaith a Lleferydd. Byddai hefyd yn rhoi cyfle i gwrdd â staff addysgu a chael gwybod mwy am y cwrs, yr yrfa, y brifysgol a bywyd fel myfyriwr.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys myfyrwyr drwyddi draw drwy ddefnyddio’r Fframwaith Dysgu Gweithredol a’r dull dysgu cyfunol.
Prif nodweddion y cwrs
- Cyflawnir gan Therapyddion Iaith a Lleferydd o’r bwrdd iechyd lleol
- Cwrs am ddim
- Sesiynau wedi’u recordio a deunyddiau’n cael eu huwchlwytho fel bod myfyrwyr yn gallu cael mynediad iddynt yn eu hamser eu hunain
- Cefnogi cais i astudio Therapi Iaith a Lleferydd
- Ennill 20 credyd ar Lefel 4
- Rhagor o wybodaeth am astudio’r cwrs a bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cyflwyniad a throsolwg Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Perthynol
- Cyfathrebu a Llyncu
- Rôl y Therapydd Iaith a Lleferydd
- Therapi Iaith a Lleferydd fel gyrfa + Cwis ffurfiannol hanner ffordd drwy’r cwrs
- Themâu yn y proffesiwn
- BSc (Anrh.) Therapi Iaith a Lleferydd yn Prifysgol Wrecsam
- Crynodeb ac Asesiad
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae’r cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs yn cau wythnos cyn dyddiad cychwyn y cwrs.
Addysgu ac Asesu
- 7 awr o addysgu byw cydamserol
- 29 awr o gynnwys anghydamserol gan gynnwys darllen, gweminarau, podlediadau ar Moodle er mwyn paratoi ar gyfer y sesiynau byw a’r asesiadau
- 164 awr o ddysgu annibynnol
- Asesiad hanner ffordd – wythnos 4. MCQ
- Asesiad crynodol – wythnos 7. Darn o waith myfyriol yn ymwneud â datganiad personol.
Ffioedd a chyllid
AM DDIM
Dyddiadau'r cwrs
Dyddiad Cychwyn: Dydd Gwener 9 Mai 2025 - Archebwch nawr
Dyddiadau Sesiynau:
- Dydd Gwener 9 Mai - 10yb - 11:30yb - Campws Wrecsam
- Dydd Gwener 16 Mai - 10yb - 11:00yb - Ar-lein Microsoft Teams
- Dydd Gwener 23 Mai - 10yb - 11:00yb - Ar-lein Microsoft Teams
- Dydd Gwener 30 Mai - 10yb - 11:00yb - Ar-lein Microsoft Teams
- Dydd Gwener 6 Mehefin - 10yb - 11:00yb - Ar-lein Microsoft Teams
- Dydd Gwener 13 Mehefin - 10yb - 11:00yb - Ar-lein Microsoft Teams
- Dydd Gwener 20 Mehefin - 10yb - 11:00yb - Ar-lein Microsoft Teams