(Cwrs Byr) Cyflwyniad i’r Proffesiwn Parafeddygol
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
9 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi cipolwg ar werthoedd ac athroniaeth y proffesiwn parafeddygol. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i rai o'r cysyniadau cyfredol allweddol sy'n ymwneud ag ymarfer parafeddygol, rôl parafeddygon a materion ehangach sy'n gysylltiedig â chynnig gofal parafeddygol mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol cyfoes.
Bydd myfyrwyr hefyd yn:
- Archwilio'r safonau proffesiynol a chyrff rheoleiddio ar gyfer parafeddygon cofrestredig ynghyd â hanes a dyfodol gofal argyfwng a brys
- Cael eu cyflwyno i broses a gwerth hunan-fyfyrio, a'u paratoi ar gyfer gwneud ceisiadau ar gyfer y Brifysgol ac astudio yn y dyfodol
Prif nodweddion y cwrs
- Cynnig trosolwg i fyfyrwyr o’r proffesiwn Parafeddygol a’r Cwrs Gwyddoniaeth Barafeddygol BSc (Anrh) sy’n cael ei gynnig ym Mhrifysgol Wrecsam
- Mae'r dull cyfunol yn galluogi dysgu hyblyg gydag addysgu wyneb yn wyneb ar y campws a chynnwys wedi’i recordio ar-lein
- Galluogi myfyrwyr i ymgyfarwyddo â’r campws, Amgylchedd Dysgu Rhithiol y Brifysgol – Moodle, a chwrdd â myfyrwyr eraill a thîm y rhaglen
- Arweiniad wrth baratoi cais a pharatoi am Gyfweliad i unigolion sy’n dewis symud ymlaen gyda chais i'r Brifysgol
- Lefel 4 20 credyd ar gael ar ôl cwblhau
Beth fyddwch chin ei astudio
Bydd yr holl sesiynau’n cael eu cynnal ar y campws ar ddydd Mercher, rhwng 2:00pm ac 4:00pm, ar wahân i’r sesiynau anghydamserol a restrir isod:
- Wythnos 1 - Lansio’r cwrs
- Wythnos 2 - Cyflwyniad i’r proffesiwn parafeddygol
- Wythnos 3 - Cyflwyniad i Goleg y Parafeddygon - anghydamserol
- Wythnos 4 - Gwerthoedd, ymddygiad ac agweddau
- Wythnos 5 - Sut mae’r gwasanaeth ambiwlans yn gweithio
- Wythnos 6 - Parafeddygon yn gweithio o fewn Iechyd a Gofal cymdeithasol - anghydamserol
- Wythnos 7 - Arloesedd a newidiadau i ymarfer parafeddygol
- Wythnos 8 - Paratoi eich cais i’r Brifysgol - anghydamserol
- Wythnos 9 - Dyddiad cyflwyno’r asesiad
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae angen isafswm o 10 cyfranogwr er mwyn i'r cwrs redeg.
Nodwch bod yn rhaid i chi fod yn 16+ oed er mwyn bwcio lle ar y cwrs hwn.
Addysgu ac Asesu
- Asesiad Un – Prawf yn y dosbarth
Prawf 30-munud ar-lein yn ystod wythnos 9 y cwrs. Bydd y prawf yn cynnwys 20 Cwestiwn Amlddewis, a fydd yn cynnwys un ateb cywir allan o bedwar ateb posibl - Asesiad Dau – gwaith cwrs
Wyth darn myfyrio bychan am eich dysg yn ystod eich cwrs. Dylai’r myfyrdodau hyn amlinellu'r hyn rydych wedi’i ddysgu ar ôl bob wythnos, sut aethoch ati i wella eich dealltwriaeth, a sut mae'n berthnasol i ddod yn Barafeddyg. Ni fydd eich myfyrdodau’n cael eu marcio na’u graddio’n academaidd, ond bydd adborth yn cael ei gynnig. I lwyddo yn y cwrs, bydd gofyn ichi gwblhau wyth darn myfyrio bychan.
Mae disgwyl i fyfyrwyr gyflawni 40% neu uwch ar gyfer y prawf ar-lein A chwblhau wyth darn myfyrio bychan i lwyddo yn y cwrs.
Ffioedd a chyllid
AM DDIM
Dyddiadau'r Cwrs
Sylwch na fydd y cwrs hwn yn rhedeg yn y cylch 2024 / 2025
Os hoffech gael eich rhoi ar restr ymholiadau ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, cofrestrwch eich diddordeb.