(Cwrs Byr) Cyflwyniad i’r Theatr Llawdriniaethau
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
8 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Dysgu Cyfunol
Pam dewis y cwrs hwn?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi mewnwelediad i chi i amgylchedd unigryw Adrannau Theatr. Mae hyn yn cynnwys y daith y bydd cleifion yn mynd arni yn ystod y llawdriniaeth, y safonau a’r gwerthoedd sy’n sail i ofal ein cleifion, a’r rolau a'r proffesiynau amrywiol o fewn y tîm hynod sgilgar hwn o ddarparwyr gofal.
Bydd ffocws penodol ar rolau a chyfrifoldebau Ymarferwyr yr Adran Llawdriniaeth yn y maes hwn, a chwmpas cynyddol yr ymarfer yn yr Adran Theatr a’r tu allan iddi.
Prif nodweddion y cwrs
- Astudio cymwys ar gyfer ein Gradd BSc Israddedig, Ymarfer yr Adran Llawdriniaeth
- Modiwl unigryw yn y brifysgol
- Arddulliau dysgu/addysgu a fydd yn gweddu i raglenni gradd israddedig, yn rhai llawn amser a rhan amser, yn y Brifysgol
- Strwythur prifysgol agored a chefnogol
Beth fyddwch chin ei astudio
- Cyflwyniad i’r Amgylchedd Theatr
- Y Daith yn ystod Llawdriniaeth - Gofal sy’n Canolbwyntio ar y Claf
- Cyflwyniad i Arbenigeddau Llawfeddygol
- Rolau’r ODP a’r Tîm Aml-ddisgyblaethol
- Ein Safonau a’n Gwerthoedd
- Anaestheteg
- Llawdriniaeth
- Gofal ar ôl rhoi Anaestheteg
- Rolau Cynyddol yr ODP
- Arweiniad ar Ysgrifennu Academaidd ac Asesiadau
Addysgu ac Asesu
Bydd yr asesiad yn cynnwys aseiniad ysgrifenedig yn archwilio rolau a chyfrifoldebau Ymarferwyr yr Adran Llawdriniaeth ynghylch gofal cleifion.
Ffioedd a chyllid
AM DDIM
Dyddiadau’r cwrs
Dyddiad Cychwyn:
- Dydd Mawth 25 Mawrth 2025 - Archebwch Nawr
Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yn rhedeg bob dydd llun neu dydd mawrt rhwng 18:00yh a 20:00yh