(Cwrs Byr) Sbaeneg A1 (Dechreuwr)
Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
13 wythnos
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae dysgu unrhyw iaith newydd yn brofiad gwerth chweil, llawn hwyl. Ac nid yw dysgu Sbaeneg yn eithriad. A dweud y gwir, o’r holl ieithoedd y gallwch chi eu dysgu, mae Sbaeneg yn ddewis arbennig o dda. Mae Sbaeneg yn iaith swyddogol mewn dros 20 o wledydd ledled y byd. Felly bydd yn agor drysau i chi weithio, teithio, neu fyw dramor.
Prif nodweddion y cwrs
- Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r iaith.
- Dysgu gwybodaeth sylfaenol am y Sbaeneg.
- Ymarfer eich sgiliau gwrando a siarad.
Beth fyddwch chin ei astudio
Wedi cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn medru:
- cyfnewid cyfarchion syml
- cyflwyno eu hunain ac eraill
- Rhoi gwybodaeth bersonol ynglŷn â theulu, swydd neu astudiaethau, lle maent yn byw
- Rhoi'r un wybodaeth am bobl eraill
- Defnyddio rhifau 1-100, dyddiadau, amser, prisiau
- Siopa am fwyd a dillad
- Archebu bwyd a diod
- Rhoi cyfarwyddiadau
- Siarad am y tywydd
- Defnyddio amser presennol berfau rheolaidd a rhai afreolaidd, er enghraifft ser, estar, tener, poner ayyb.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn; dim ond diddordeb yn y pwnc!
Y dyddiad cau ar gyfer cadw lle ar y cwrs hwn yw wythnos cyn y dyddiad dechrau.
Addysgu ac Asesu
Mae'r asesiad yn cynnwys y tasgau a restrir isod:
- sgiliau sgwrsio: defnyddio 3 enghreifftiau byr o natur bob dydd a tthrafodaeth rydd
- sgiliau ysgrifennu: testun byr, er enghraifft, cerdyn post neu lythyr
- sgiliau darllen: darllen a deall testun byr ac ateb cwestiynau yn Saesneg
- sgiliau gwrando: gwrando ar ddeunydd sain ac ateb cwestiynau am y deunydd yn Saesneg
Ffioedd a chyllid
£195
Ar gyfer staff/myfyrwyr/ presennol cysylltwch â shortcourses@wrexham.ac.uk i ofyn am gôd gostyngiad am ffi gostyngol
Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.
Dyddiadau'r cwrs
Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.