Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

4 Dyddiau

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Dysgu Cyfunol

Pam dewis y cwrs hwn?

Cewch baratoi i astudio ar lefel 6 a 7 gyda’r cwrs byr hwn. Byddwch yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol wrth ddod yn ddysgwr annibynnol a gwella eich hyder yn eich gallu i astudio.

Prif nodweddion y cwrs

  • Dod yn ddysgwr annibynnol. 
  • Gwella eich hyder yn eich gallu i astudio ar lefelau ol-raddedig. 
  • Cael 20 credyd ar lefel 6 ar ôl cwblhau.  

Beth fyddwch chin ei astudio

Modiwl rhan-amser unigol yw hwn sydd ar gyfer myfyrwyr sy'n sy'n dymuno dychwelyd neu fynd ymlaen i astudio ar lefel uwch. Mae'r amser cyswllt gyda thiwtoriaid a mynediad at adnoddau Addysg Uwch yn rhoi mwy o hyder i astudio/ysgrifennu ar Lefel 6 neu fwy.

Bydd myfyrwyr yn astudio:

  • Sgiliau astudio (ysgrifenna academaidd)
  • Cyfeirnodi Harvard
  • Defnyddio'r llyfrgell
  • Defnyddio Moodle
  • Chwilio cronfeydd data (Athens)
  • Adnoddau electronig.
  • Adfyfyrio a modelau adfyfyrio
  • Ymchwil ansoddol a meintiol
  • Dulliau gweithredu wrth feirniadu astudiaethau ymchwil
  • Hunan-ymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol (cymhelliad i astudio)
  • Sgiliau cyflwyno
  • Rheoli amser

Addysgu ac Asesu

Mae'r asesiad (traethawd 3000 o eiriau) yn gofyn i'r myfyriwr gynnal adolygiad beirniadol o dystiolaeth gyfoes ar bwnc cul o fewn eu maes proffesiynol/academaidd. Mae hyn yn gofyn bod y myfyriwr yn cael hyd i ac yn gwerthuso llenyddiaeth o bwys ac yn rhoi hyn ar waith ym maes ei arbenigedd. Caiff sgiliau ysgrifennu academaidd a sgiliau cyflwyno yr aseiniad eu hasesu hefyd.

Ffioedd a chyllid

Yn Rhad ac am ddim

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae gennym nifer o gyfleoedd ariannu ar gael, llenwch y ffurflen er mwyn darganfod os ydych chi'n gymwys i astudio'r cwrs hwn am ddim. Gwnewch gais nawr trwy'r ffurflen hon.

Mae bwrsariaeth ar gael i ymgeisio amdano, ar gyfer myfyrwyr sydd am wneud y cwrs yma. Llenwch y ffurflen hon er mwyn penderfynu beth yw eich cymhwysedd: cliciwch yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â shortcourses@glyndwr.ac.uk

Dyddiadau cyrsiau

Os hoffech wybod mwy am ddyddiadau pellach i'r cwrs, cofrestrwch eich diddordeb.