Dip HE Cwnsela

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2025
Hyd y cwrs
2 BL (rhan-amser)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
2il
yng Nghymru
Canolbwyntio ar
gyflogadwyedd
Addysgir gan
gynghorwyr cymwys
Pam dewis y cwrs hwn?
Wrth i’r galw am gwnselwyr proffesiynol gynyddu, yn enwedig yn y sector preifat, mae’r Diploma mewn Cwnsela yn gyfle i ddatblygu’n broffesiynol ac yn bersonol drwy raglen o astudiaeth academaidd a thrwy brofiadau.
- Bydd yn rhoi cymhwyster proffesiynol mewn Cwnsela i chi
- Bydd yn eich paratoi i weithio gyda chleientiaid sy'n oedolion
- Addysgir gan gynghorwyr cymwys
- Bydd yn datblygu eich gallu i ysgrifennu ac ymarfer yn fyfyriol, cymhwyso theori yn ymarferol, deall a chymhwyso egwyddorion moesegol yn eich gwaith, a phroffesiynoldeb yn ymarferol
- Bydd yn helpu'r rhai sy'n gweithio mewn proffesiynau cysylltiedig trwy ychwanegu dealltwriaeth a sgiliau gwerthfawr
*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd yn y 3ydd gorau o blith Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon am Foddhad Cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, 2024.
*Mae’r maes pwnc hwn wedi’i raddio’n 2il yng Nghymru yn nhabl y gynghrair maes pwnc Cwnsela, Seicotherapi a Therapi Galwedigaethol yn Nhabl Cynghrair Prifysgolion y Daily Mail, 2024.

Cwnsela ymMhrifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
Mae’r cwrs:
- Yn cynnwys lleoliadau clinigol - mae lleoliadau yn rhan bwysig o'r cwrs a rhaid eu cwblhau i fod yn gymwys ar gyfer y diploma llawn
- Mae'r cwrs wedi'i seilio ar y dull person-ganolog, sy'n eich galluogi i ddarparu perthnasoedd empathig, dilys a fydd yn datblygu rhyngweithio therapiwtig effeithiol
- Yn pwysleisio datblygiad personol, hunanymwybyddiaeth ac aeddfedrwydd seicolegol yr hyfforddai
- Yn darparu 450 o oriau cyswllt wyneb yn wyneb dros 2 flynedd.
Beth fyddwch chin ei astudio
BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)
Mae blwyddyn un yn cyflwyno'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn gwnselydd effeithiol. Mae'r modiwlau theori craidd yn cwmpasu datblygiad y dull cwnsela sy’n canolbwyntio ar unigolion, a'r amodau sy'n ofynnol yn ymarferol, yn bersonol, yn broffesiynol ac yn foesegol i roi'r rhain ar waith.
Nod y modiwlau sgiliau craidd neu'r modiwlau ymarfer yw eich galluogi i ddatblygu sgiliau cwnsela effeithiol a rhoi'r rhain ar waith gyda chyfoedion. Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi lefelau effeithiolrwydd eich gwaith eich hun a myfyrio ar gryfderau personol a meysydd i'w datblygu.
Modiwlau
- Sgiliau Cwnsela sy'n Canolbwyntio ar y Person (1): Cyflwyniad i ymarfer sgiliau cwnsela.
- Cyflwyno Theori Cwnsela sy'n Canolbwyntio ar Berson: Cyflwyniad i ddamcaniaeth cwnsela.
- Sgiliau Cwnsela sy'n Canolbwyntio ar y Person (2): Parhad o Sgiliau (1). Byddwch yn datblygu eich ymarfer sgiliau gyda chyfoedion, gan ymestyn eich sesiynau ymarfer a thynnu ar y ddamcaniaeth a ddysgwyd yn y modiwlau boreol.
- Theori Cwnsela sy'n Canolbwyntio ar y Person a Hunanddatblygiad: Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o ddamcaniaeth sy'n canolbwyntio ar y person a sut mae hyn yn berthnasol i ymarfer.
- Sgiliau ar gyfer Lleoliad Cwnsela: Mae’r modiwl hwn yn dechrau eich paratoi ar gyfer eich lleoliad trwy ddatblygu eich sgiliau ar gyfer cyfweliadau lleoliad, i sicrhau lleoliadau cyn lefel 5.
- Theori Cwnsela Cyfoes sy'n Canolbwyntio ar y Person: Datblygu ar ddamcaniaeth cwnsela sy'n canolbwyntio ar y person, gan edrych ar ddatblygiadau mwy diweddar yn y maes.
BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)
Mae Blwyddyn 2 (lefel 5) yn adeiladu ar ac yn ehangu eich portffolio o sgiliau a gwybodaeth. Ym mlwyddyn 2 byddwch yn ymgymryd â lleoliad clinigol, gan roi eich sgiliau ar waith gyda chleientiaid mewn lleoliad asiantaeth. Ym mlwyddyn 2, yn ogystal â darlithoedd a seminarau/gweithdai, byddwch hefyd yn mynychu grwpiau datblygu/hunanofal personol er mwyn gwella eich hunanymwybyddiaeth.
Modiwlau:
- Lleoliad Cwnsela Hyfforddeion dan Oruchwyliaeth (1): Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i'ch cefnogi yn eich lleoliad. Hwylusir sesiynau grŵp gan diwtoriaid modiwl, a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau ar faterion lleoliadau, cleientiaid ac ystyriaethau moesegol. Yn y modiwl hwn, mae'n ofynnol i chi ddod â recordiadau o'ch cleientiaid i mewn er mwyn i'ch cyfoedion ac arweinwyr modiwlau arsylwi a chynnig adborth adeiladol.
- Deall Materion Cleient mewn Ymarfer Cwnsela: Gan ddatblygu ar ddamcaniaeth Lefel 4, mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi mwy o ddealltwriaeth i chi o'r materion cyflwyno y gallech eu hwynebu gyda'ch cleientiaid a sut mae hyn yn ymwneud â theori sy'n canolbwyntio ar y person.
- Dangos Effeithiolrwydd Ymarfer Hyfforddeion mewn Cwnsela: Bydd y modiwl hwn yn eich cefnogi i ddatblygu eich portffolio terfynol, gan ddangos eich 100 awr cleient. Byddwch yn mynychu grwpiau CPI a PD wythnosol i gefnogi eich datblygiad sgiliau cwnsela.
- Arfer Cwnsela dan Oruchwyliaeth Hyfforddeion (2): Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio i roi mwy o ddealltwriaeth i chi o'r materion cyflwyno y gallech eu hwynebu gyda'ch cleientiaid a sut mae hyn yn ymwneud â theori sy'n canolbwyntio ar y person.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Fel rheol y disgwyliad yw cymwysterau ar lefel 3 (BTEC, Saron Uwch, Cwrs Mynediad, a chwblhau cwrs Cwnsela Lefel 3). Mae Prifysgol Wrecsam hefyd yn cynnig cwrs Cyflwyniad i Gwnsela Lefel 4 a all fod o ddiddordeb i chi.
Mae o fantais mewn cais os oes gennych brofiad perthnasol yn gweithio mewn rôl cynorthwyo – boed hynny’n waith cyflogedig neu wirfoddol.
Weithiau mae'n bosibl ystyried ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion arferol ar gyfer mynediad i raglen lefel gradd. Mae hyn yn achos pobl sydd yn gallu dangos profiad bywyd/gwaith ychwanegol a gallu i fynd i'r afael â heriau academaidd y rhaglen.
Gofyniad allweddol ar gyfer ymuno â’r cwrs yw’r aeddfedrwydd emosiynol a seicolegol i weithio gyda phobl mewn trallod seicolegol a’r gwydnwch i ymdopi â gofynion y gwaith yma.
Yn eich cais dylech nodi’n eglur eich rhesymau dros fod eisiau ymgymryd â’r rhaglen a’r hyn rydych yn credu yw’r cryfderau sydd gennych chi ar gyfer y rôl.
Mae lle ar y cwrs hwn yn amodol ar wiriadau iechyd galwedigaethol a’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gwahoddir pob ymgeisydd y mae eu ffurflenni'n awgrymu y gallent fod yn addas ar gyfer y rhaglen i sesiwn anffurfiol, gweithgaredd grŵp a chyfweliad unigol.
Addysgu ac Asesu
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb ar y campws, 1 diwrnod yr wythnos 9:00-4:30. Mae'r diwrnod yn cynnwys darlithoedd theori a addysgir yn y bore, ac ymarfer sgiliau yn y prynhawniau. Mae dosbarthiadau yn rhai trwy brofiad yn bennaf sy'n golygu ein bod yn addysgu o'n profiad ein hunain yn gweithio gyda chleientiaid go iawn. Mae'r holl staff addysgu yn gynghorwyr gweithredol, gyda'u cefndir cwnsela proffesiynol eu hunain.
Asesir y cwrs mewn amrywiaeth o ffyrdd. Gall yr asesiadau hyn gael eu hasesu eu hunain, gan gymheiriaid neu diwtor, ac maent yn cynnwys recordiadau a beirniadaethau o sesiynau cwnsela wedi’u trawsgrifio, ymarfer byw gyda chyfoedion (Triads), cyflwyniadau, aseiniadau ysgrifenedig theori a myfyrio, astudiaethau achos a phortffolios tystiolaeth. Mae adroddiadau goruchwyliwr clinigol a lleoliadau i gyd yn rhan bwysig o'r broses asesu. Nid oes arholiadau.
ADDYSGU A DYSGU
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd fel ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau.
Gall myfyrwyr archebu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu i ddelio ag ymarferoldeb gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol pe bai unrhyw fyfyrwyr yn mynnu bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud oherwydd anabledd cyffredinol cydnabyddedig, cyflwr meddygol, neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ymroddedig wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni'ch nodau proffesiynol. Maent yn darparu cyngor personol, adnoddau defnyddiol, a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol i'ch paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.
Gall graddedigion y cwrs hwn ddilyn gyrfaoedd yn:
- Cwnsela
- Goruchwyliwr cwnsela
- Cwnselydd Ysgol
- Addysgu
- Mentor cyfoedion
- Hyfforddi
- Rolau sy'n gysylltiedig ag Iechyd Meddwl
- Adnoddau Dynol
- GIG
- Rolau cysylltiedig â seicoleg
Yn ogystal, efallai y byddwch yn dewis datblygu eich arbenigedd trwy astudiaethau ôl-raddedig. Archwiliwch ein cyrsiau ôl-raddedig am ragor o wybodaeth.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.Llety
Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn cynnig ystafelloedd en-suite ar y campws yn ein Pentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae'r mannau preifat, wedi'u dodrefnu'n llawn hyn mewn lleoliad cyfleus, gan ddarparu mynediad hawdd i gyfleusterau campws, ardaloedd astudio, a mannau cymdeithasol. Hefyd, dim ond 10 munud ar droed ydych chi o ganol y ddinas!
Gyda'r holl filiau wedi'u cynnwys, Wi-Fi am ddim, diogelwch 24/7, a meysydd cymdeithasol mawr, fe welwch bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer profiad myfyriwr gwych.
Archwiliwch ein hopsiynau llety i ddod o hyd i'ch cartref perffaith oddi cartref.