BA (Anrh) Cynhyrchu Cyfryngol (gyda blwyddyn sylfaen)

Manylion cwrs
Côd UCAS
MPFY
Blwyddyn mynediad
2023, 2024
Hyd y cwrs
4 BL (llawn-amser)
Tariff UCAS
48-72
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Mynediad 24/7
i stiwdio cynhyrchu
Cyfleoedd
i wneud profiad gwaith yn y diwydiant
Safle gwych
yn y Ganolfan Diwyddiannau Creadigol, cartref BBC Cymru
Pam dewis y cwrs hwn?
Dysgu a gweithio mewn amgylchedd cynhyrchu go iawn – datblygir y cwrs Cynhyrchu Cyfryngau hwn mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant.
Mae'r cwrs:
- yn cynnwys blwyddyn sylfaen i'ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach
- yn canolbwyntio ar archwilio technolegau cyfredol a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg sy'n berthnasol i gynhyrchu cyfryngau llonydd a symudol
- yn cynnwys myfyrwyr yng gweithredu'r cyfleuster cynhyrchu o ddydd i ddydd, gan ymestyn cyfranogiad myfyrwyr y tu hwnt i'r ddarlithfa
- yn canolbwyntio ar ddefnyddio stiwdios cyfryngau a theledu'r brifysgol lle mae myfyrwyr yn archwilio cynhyrchu cyfryngau ar gyfer gwahanol farchnadoedd a llwyfannau, yn ogystal â goleuadau a chaffael ar gyfer gwaith effeithiau gweledol
- wedi'i gynllunio i addysgu a datblygu sgiliau ar draws disgyblaethau ac mae'n cwmpasu ystod eang o dechnolegau a fydd yn helpu i ddatblygu eich portffolio eich hun.
- yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol ar draws ystod o sgiliau cyn cynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.
Prif nodweddion y cwrs
- Mae Canolfan y Diwydiannau Creadigol yn cefnogi gwaith ar draws ystod o ddisgyblaethau creadigol gan ddefnyddio'r diweddaraf ym maes technoleg cynhyrchu teledu.
- Stiwdio Deledu Glyndwr, sy'n cynnwys camerâu ac offer 4K a Manylder Uwch ac ystafell reoli aml-gamera.
- Mae myfyrwyr yn arwain sesiynau byw Glyndwr.tv, wedi'u ffrydio'n fyw ac yn cynnwys cymysgedd o fandiau a pherfformwyr proffil uchel yn ogystal â lleol.
- Mae ein graddedigion wedi cydweithio ag amrywiaeth o gwmnïau lleol gan gynnwys GIG Cymru, Rygbi Cynghrair Cymru, Clwyd Theatre Cymru a nifer o sefydliadau a chynyrchiadau lleol.
- Mae cyn-raddedigion wedi mynd ymlaen i weithio gyda chwmnïau cyfryngau fel y BBC, Universal Music, QVC a Technicolor ac mae myfyrwyr eraill wedi ymgymryd â rolau llawrydd ac wedi ffurfio eu cwmnïau cynhyrchu eu hunain.
- Mae digwyddiadau Diwydiannau Creadigol blaenorol yn y Brifysgol wedi cynnwys Gŵyl Delweddau Symud Myfyrwyr Ffresh yng Nghymru a digwyddiad rhwydweithio dyfodol creadigol blynyddol.
- Mae'r cyfleusterau TG yn rhan greiddiol o gyflwyno cyrsiau, gan gyflwyno amrywiaeth o feddalwedd Golygu anfellol fe Finall Cut, Premiere ac AVID yn ogystal â chywiro lliw, cyfansoddi a phecynnau 3D. Mae'r cyfleusterau TG hyn hefyd yn fynediad agored ac maent ar gael i fyfyrwyr er mwyn datblygu eu sgiliau.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae pob blwyddyn o'r rhaglen wedi'i chynllunio i gyflwyno cysyniadau, sgiliau a damcaniaethau newydd a bydd dilyniant i'r lefel nesaf yn ysgogi ac yn datblygu sgiliau craidd mewn ffordd gronnol.
BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)
MODIWLAU
- Hanfodion Stiwdio
- Cyfathrebu Cyfryngau
- Diwylliant Cyfryngau
- Prosiect Personol
- Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
- Astudiaethau Cyd-destunol
BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)
MODIWLAU
• Cyflwyniad i Sgiliau Sain
• Cyflwyniad i Sgiliau Sgrin
• Sgiliau Astudio
• Dyfodol Creadigol 1 (Portffolio Cyflogadwyedd)
• Dylunio Asedau Cyfryngau Stoc
• Cynhyrchu Cyfryngau
BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)
MODIWLAU
• Safonau Cynhyrchu Stiwdio
• Sgriptio ac Adrodd Straeon
• Effeithiau Gweledol
• Sain ar gyfer Cyfryngau Sgrin
• Dyfodol Creadigol
• Dulliau Ymchwil
• Adrodd Stori Ddigidol
BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)
MODIWLAU
• Traethawd Hir
• Prosiect
• Ôl-gynhyrchu
• Cydweithio â Chleientiaid
• Dyfodol Creadigol
• Technegau Cyfryngau Sy'n Dod i'r Amlwg
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau opsiwn. Dynodir modiwlau yn rhai craidd neu opsiwn yn unol â gofynion cyrff proffesiynol ac adolygiad o'r fframwaith academaidd mewnol, felly gallant newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Mae'r gofynion academaidd ar gyfer y radd ar gyfer o leiaf 48-72 o bwyntiau tariff UCAS ar Lefel A TAG neu gyfwerth. Bydd cymwysterau Sgiliau Allweddol UG a Lefel 3 priodol hefyd yn cael eu hystyried.
Addysgu ac Asesu
Defnyddir ystod o ddulliau asesu ar gyfer y cwrs hwn gan gynnwys creu cynyrchiadau cerdd, traethodau, dysgu yn y gwaith, portffolios, adroddiadau a chyflwyniadau.
Yn ogystal â darlithoedd a gweithdai, anogir myfyrwyr ar y cwrs hwn i archwilio'r cyfleuster hanfodol hwn ar gyfer eu prosiectau eu hunain i wella a chefnogi dysgu a datblygu.
Mae'r holl asesiadau yn seiliedig ar brosiectau
DYSGU AC ADDYSGU
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r hyfforddiant a’r arbenigedd i weithio yn un o feysydd cyffrous niferus y diwydiannau darlledu cyfryngol. Byddwch yn datblygu amryw o sgiliau a fydd yn hybu eich cyflogadwyedd, gan gynnwys sgiliau mewn:
- Ymchwil – mae gennym fyfyrwyr sydd wedi symud ymlaen i addysg AB ac AU, gan gymryd graddau ymchwil hefyd.
- Cyfathrebu – mae myfyrwyr wedi canlyn gyrfaoedd mewn gorsafoedd radio, orielau a gosod sain.
- Defnyddio technoleg – mae’r cwrs yma yn rhoi ystod eang o gyfleoedd technolegol gyda sgiliau y gellir eu defnyddio mewn ystod o feysydd creadigol.
- Y gallu i gydweithredu – rydym wedi lleoli myfyrwyr mewn gwyliau o bwys yn Ewrop
- Dylunio a rheoli prosiectau
Mae’r cyfleoedd gyrfaol yn cynnwys:
- Darlledu – Mae gennym ystod o ddarlledwyr llwyddiannus sy’n gweithio i gwmnïau cenedlaethol mewn cyn-gynhyrchu, cynhyrchu ac ôl-gynhyrchu.
- Cynhyrchu Fideos – Sefydlu eu fideos eu hunain neu weithio i gynhyrchwyr annibynnol ar amryw o brosiectau i ystod eang o gleientiaid.
- Ôl-gynhyrchu – Datblygir sgiliau cyfansoddi a golygu fideos trwy gydol y cwrs, gan gynnig troedleoedd cadarn ar gyfer swyddi VFX ac ôl-gynhyrchu eraill.
- Ffotograffiaeth – Mae dal delweddau, llonydd ac ar fideo, wrth graidd y cwricwlwm, ac mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gynhyrchu ystod o waith ffotograffig.
- Cynhyrchu a Rheolaeth Stiwdio – Mae yna lawer o gyfleoedd i raddedigion ddefnyddio eu sgiliau ar gyfer rheoli prosiectau a chomisiynau eraill gan gleientiaid.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Mae ffioedd dysgu 2023/24 Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol.Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.
Rhyngwladol
I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.