BSc (Anrh) Datblygu Gemau Cyfrifiadurol (gyda blwyddyn sylfaen)

A student tests out a computer game using a handheld controller, while another student watches the monitor

Manylion cwrs

Côd UCAS

I620

Blwyddyn mynediad

2023, 2024

Hyd y cwrs

4 BL (llawn-amser)

Tariff UCAS

48-72

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

2il allan o brifysgolion Cymru

ar gyfer yr addysgu ar fy nghwrs (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

3ydd allan o brifysgolion Cymru

am boddhad cyffredinol (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)*

Wedi ei achredu’n

llawn gan BCS y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae cwrs yma, sydd yn rhan o faes pwnc sydd wedi ei farnu’n gyntaf yn y DU o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, wedi ei gynllunio i ddatblygu sgiliau cryf mewn datblygu gemau technegol a rheoli prosiectau i wella eich cyflogadwyedd.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda sefydliadau fel Cronfa Gemau’r DU, Gemau Cymru a BAFTA Cymru i sicrhau bod gan ein myfyrwyr fynediad at hyfforddiant a gwybodaeth flaengar sy’n gysylltiedig â’r diwydiant. Mae’r cwrs hefyd wedi ei achredu’n llawn gan BCS, y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG.

Rydym yn gartref i raglen Talent Gemau Cymru ac yn hwb Tranzfuser rhanbarthol, sydd wedi’i noddi a’i gefnogi gan Gronfa Gemau’r DU a Thalent Gemau’r DU. Mae ein canolfan deori busnes yn gartref i sawl stiwdio gemau gwobrwyol sydd yn eiddo i fyfyrwyr.

Mae'r cwrs, sydd wedi esblygu dros y degawd diwethaf, yn gyfle i fyfyrwyr:

  • Ddatblygu’r sgiliau technegol sydd yn sail i ddylunio gemau, rhaglennu a phiblinell dechnegol celfyddyd gemau.
  • Elwa o ymgysylltiad agos gyda’r diwydiant gydag ymweliadau cyson, siaradwyr gwadd nodedig, cyflwyniadau, grwpiau trafod a digwyddiadau cymdeithasol.
  • Ennill profiad a mewnwelediad gwerthfawr i’r broses o ddatblygu gemau a rheoli stiwdio annibynnol.
  • Cael cymorth gan fentor personol gyda phrofiad ym maes datblygu gemau er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth.
  • Mynediad at ein canolfan deori gemau a’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf mewn stiwdio arbenigol ar gyfer datblygu gemau.
  • Datblygu portffolio a sgiliau cyflogadwyedd hollbwysig.
  • *Astudio cwrs sy’n rhan o grŵp pwnc CHA3 sydd yn yr 2il safle allan o brifysgolion Cymru am addysgu fy nghwrs a 3ydd allan o brifysgolion Cymru am boddhad cyffredinol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.
Global Game Jam logo - with the tagline Innovation, Experimentation, CollaborationBCS accredited logo

Prif nodweddion y cwrs

  •  Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Gymdeithas Cyfrifaduron Prydain.
  • Cyswllt rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant gemau a chyfryngau trwy ddarlithoedd gwadd, seminarau a digwyddiadau cenedlaethol a lleol.
  • Cewch eich dysgu gan dîm gwobrwyol sydd â chefndir a phrofiad proffesiynol yn y maes.
  • Mynediad i’n canolfan deori busnesau gemau mewnol.
  • Dysgu sut i reoli tîm datblygu gemau proffesiynol wrth ddefnyddio methodoleg ac ymarferion a ddefnyddir yn y diwydiant.
  • Mae’r cwrs yn bartner a noddwr swyddogol i Wobrau Gemau BAFTA Cymru.
  • Gweithio gyda’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf mewn dwy stiwdio datblygu gemau sydd yn arbenigo mewn cynllunio, cynhyrchu, cipio symudiadau a realiti rhithwir.
  • Mae’r cwrs wedi ei achredu gan y Gymdeithas Cyfrifiadura Brydeinig.

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (BLWYDDYN SYLFAEN)

Mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i fyfyrwyr o ran defnyddio fformiwlâu, trin data a chynrychiolaeth. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r prif galedwedd a meddalwedd sy'n gysylltiedig â defnyddio systemau cyfrifiadurol, yn ogystal â dod i wybod y diweddaraf am ddatblygiadau cyfredol mewn technoleg. Bydd nifer o gyfleoedd i weithio ar weithgareddau ymarferol fel robotiaid a dylunio CAD a fydd yn cael ei ddatblygu ymhellach ar lefel gradd.

MODIWLAU

  • Mathemateg Cyfrifiadura
  • Caledwedd a Meddalwedd Cyfrifiadurol
  • Datblygiadau mewn Technoleg
  • Dylunio a Thechnoleg
  • Y Sgiliau Sydd eu Hangen Arnoch
  • Astudiaethau Cyd-destunol

BLWYDDYN 2 (LEFEL 4)

Mae lefel 4 yn cyflwyno sgiliau damcaniaethol ac ymarferol gan y byddwch yn gweithio fel rhan o dîm bach i ddatblygu gemau ac yn dysgu hanfodion rheoli cynhyrchu ynghyd ag adeiladu gwybodaeth o ddylunio a datblygu 2D a 3D. Mae mathemateg a rhaglennu hefyd yn chwarae rhan bwysig, ynghyd â dealltwriaeth o'r caledwedd a ddefnyddir ar gyfer gemau a chyfryngau.

Byddwch hefyd yn archwilio cyd-destun ehangach datblygu gemau a'r materion allweddol y mae’r diwydiant yn eu hwynebu heddiw.

MODIWLAU

  • Dylunio Gemau a Rhyngweithio
  • Technoleg Gemau
  • Datblygu Asedau Gêm
  • Amgylchfydoedd Gemau a Dylunio Naratif
  • Datrys Problemau a Rhaglennu
  • Y Diwydiant Gemau a Methodolegau Cynhyrchu Ystwyth

BLWYDDYN 3 (LEFEL 5)

Mae Lefel 5 yn adeiladu ar eich portffolio o sgiliau a gwybodaeth ac yn ei ehangu, gan ychwanegu at eich sgiliau cerflunio a modelu digidol, ynghyd â dylunio a chynhyrchu sain ar gyfer gemau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddylunio a datblygu apiau ar gyfer Android a llwyfannau symudol eraill.

Yn allweddol, yn ystod yr ail semester, byddwch yn gwella eich sgiliau datblygu a rheoli ymhellach drwy weithio ar ddau brosiect gemau grŵp o faint gan ddefnyddio methodolegau rheoli ac offer cefnogi safon diwydiant.

MODIWLAU

  • Technoleg Gemau Difrifol
  • Modelu ac Animeiddio 3D ar gyfer Peiriannau Gêm
  • Technoleg Sain ar gyfer Gemau
  • Datblygu apiau Rhyngrwyd a Symudol
  • Prosiect Grŵp
  • Rheoli Stiwdio Annibynnol a Chynhyrchu Gemau.

BLWYDDYN 4 (LEFEL 6)

Mae Lefel 6 yn ehangu ymhellach ar y sgiliau blaenorol a ddatblygwyd, gan ganolbwyntio ar ansawdd a rheolaeth broffesiynol ochr yn ochr â sgiliau ymarferol uwch.

Mae'r prosiect grŵp arloesol yn y flwyddyn olaf wedi ei gynllunio i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r rôl a'r cyfrifoldebau a ddewisoch fel datblygwr proffesiynol, sydd yn eich paratoi ymhellach ar gyfer y gweithle. Byddwch yn ffurfio tîm datblygu gemau ac yn arbenigo mewn rôl dechnegol o'ch dewis am flwyddyn academaidd lawn. Byddwch chi a'ch tîm yn cyflwyno'r gêm orffenedig yn y digwyddiad gemau blynyddol a fynychir gan aelodau o'r cyhoedd a chynrychiolwyr diwydiant.

Mae gennym gysylltiadau cryf gyda diwydiant ac mae ein modiwlau blwyddyn olaf wedi eu cynllunio i ganolbwyntio ar ddatblygiad gyrfa i'ch paratoi ar gyfer y pontio o raddio i waith llawn amser.

Bydd gan fyfyrwyr gyfle i wella eu cyfleoedd gyrfa ymhellach drwy raglenni datblygu Talent Gemau Cymru a Tranzfuzer.

MODIWLAU

  • Prosiect
  • Rhaglennu Gemau Uwch
  • Dylunio ar gyfer Aml-chwaraewyr ac Optimeiddio
  • Modelu ac Animeiddio 3D Uwch ar gyfer Peiriannau Gêm
  • Technolegau’r Dyfodol.

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Ein gofynion cyffredinol ar gyfer y flwyddyn sylfaen yw 48-72 pwynt tariff UCAS ond rydym yn ystyried pob cais yn unigol ac rydym yn ystyried profiad gwaith, cymwysterau/hyfforddiant galwedigaethol, yn ogystal â chymhelliant a’r potensial i lwyddo.

Addysgu ac Asesu

Mae myfyrwyr datblygu gemau yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth o ffyrdd yn ystod eu hastudiaethau israddedig. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol fathau o asesu yn cael ei bennu gan wahanol nodau a deilliannau dysgu'r modiwlau.

Mae’r cwrs yma yn canolbwyntio ar bortffolio ac yn hynny o beth, does dim arholiadau ffurfiol. Yn hytrach bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau technegol a damcaniaethol drwy aseiniadau ymarferol a gweithgareddau ymchwil a datblygu.

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys cynhyrchu gemau digidol (a heb fod yn ddigidol), ysgrifennu adroddiadau technegol ac academaidd, casglu a dadansoddi data cynhyrchu, rhoi cyflwyniadau, ysgrifennu cod, cynhyrchu modelau 3D a ffeiliau sain

Mae dysgu annibynnol yn agwedd bwysig ar bob modiwl, am ei fod yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau penodol i’w pwnc a sgiliau allweddol. Caiff dysgu annibynnol ei hyrwyddo drwy ddefnyddio offer rheoli digidol fel Jira, a thrwy adborth a roddir i fyfyrwyr, sy’n cymryd sawl ffurf gan gynnwys grwpiau bach a thrafodaethau un-i-un. 

DYSGU AG ADDYSGU

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.

Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Gall myfyrwyr sydd yn cwblhau’r cwrs yma fynd ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus fel rhaglenwyr gemau, artistiaid/animeiddwyr technegol ar gyfer gemau, dylunwyr/datblygwyr lefelau, cynhyrchwyr neu feistri sgrym, dylunwyr/datblygwyr apiau.

Cyflogir ein graddedigion gan rhai o gwmnïau mwyaf adnabyddus y byd fel Ubisoft, Sony, Nintendo, Rockstar a Travellers Tales. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i gefnogi graddedigion sydd yn dewis sefydlu eu stiwdios eu hunain o fewn ein canolfan deori busnes.     

Mae’r cwrs yn darparu sgiliau ymarferol mewn modelu 3D, dylunio gemau a rheoli busnes a phrosiectau a fydd yn sicrhau eich bod yn gymwys i weithio mewn amryw o swyddi yn y diwydiant.   

O ystyried y sgiliau technegol a ddatblygir ar y cwrs mae rhai graddedigion yn dewis mynd yn eu blaen i ddilyn gyrfaoedd mewn sawl maes cyfrifiadura  prif-ffrwd fel cymorth TG, ymgynghoriaeth a datblygu apiau ar  gyfer y rhyngrwyd ac e-fasnach.   

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.

Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2023/24 ar gyfer cwrs gradd israddedig amser llawn yw £9000 y flwyddyn.

Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Rhyngwladol

Os ydych yn ymgeisio fel Myfyriwr Rhyngwladol/Ewropeaidd, ac yn byw tu allan i'r DU, dylech wneud eich cais drwy ein system cais ar-lein, Centurus.

I gael gwybodaeth am ofynion mynediad y brifysgol ar gyfer myfyrwyr UE/rhyngwladol, os gwelwch yn dda ewch i'r adran ryngwladol.