Manylion cwrs

Côd UCAS

243H

Blwyddyn mynediad

2025

Hyd y cwrs

3 BL (Llawn amser) 6 BL (Rhan amser)

Tariff UCAS

96-112

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

1af yn y DU

am Foddhad Myfyrwyr*

Yn y 5 uchaf

allan o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon am Foddhad Cyffredinol*

Ymhlith y 10 uchaf yn y DU

am Gymorth Academaidd*

Pam dewis y cwrs hwn?

Datglowch eich potensial a dechreuwch eich taith i mewn i blismona modern. Bydd ein gradd Plismona Proffesiynol yn sicrhau eich bod yn barod i gwrdd â gofynion gwasanaeth heddlu'r 21ain ganrif.


Bydd y cwrs yma yn: 

  • Cyfuno dysgu seiliedig ar senario yn efelychu sefyllfaoedd plismona gyda darlithoedd a seminarau wedi'u dysgu gan staff academaidd profiadol a swyddogion heddlu profiadol wedi ymddeol
  • Cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth academaidd a sgiliau mewn plismona

Byddwch yn:

  • Ymgolli mewn cyfarfyddiadau plismona ffug fel rhan o'n Diwrnod Digwyddiad Mawr blynyddol, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer eich gyrfa ar ôl cymhwyso.
  • Cyfuno’r dysgu efelychiad hwn gyda darlithoedd a seminarau a addysgir gan staff academaidd profiadol profiadol a swyddogion heddlu profiadol sydd wedi ymddeol. Dysgu’r wybodaeth gyfreithiol angenrheidiol a'r sgiliau trosglwyddadwy allweddol i fodloni gofynion gweithredol gwasanaeth yr heddlu ar ôl cwblhau'r cwrs.

*Astudiwch radd sy'n rhan o faes pwnc sy'n 1af yn y DU am Foddhad Myfyrwyr yn y Complete University Guide, 2025.

*Mae'r cwrs hwn yn rhan o faes pwnc sydd: 

  • Ymhlith y 10 uchaf yn y DU am gymorth academaidd, yn ogystal ag asesu ac adborth, llais myfyrwyr, a threfniadaeth a rheolaeth.
  • Yn y 5 uchaf allan o Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon am foddhad cyffredinol.
  • Yn y 5 uchaf yn y DU am ymwybyddiaeth o gymorth lles meddwl.

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, 2024 

North Wales Police logoDyfed-Powys Police logoWest Mercia Police logoThames Valley Police logoCity of London Police logo
Policing students

Plismona Yn PGW

Gwyliwch i glywed gan fyfyrwyr ar ein BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol

Prif nodweddion y cwrs

  • Yn eich arfogi â'r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau a'r offer sy'n berthnasol iawn i gyflogaeth fel Cwnstabl yr Heddlu a rolau plismona eraill.
  • Bydd ein Diwrnod Digwyddiad Mawr yn eich galluogi i brofi digwyddiadau efelychiadol amser real a datblygu eich sgiliau yn gweithio'n broffesiynol gyda myfyrwyr o Wyddoniaeth Fforensig a Gwyddor Parafeddygon.
  • Datblygu gwybodaeth am y system cyfiawnder troseddol ehangach a'r sgiliau uwch wrth ymdrin yn effeithiol ac yn sensitif ag aelodau'r cyhoedd.
  • Manteisiwch ar ein 'Tŷ Dysgu' a ffug ystafelloedd cyfweld yr heddlu ar gyfer efelychiadau.
  • Creu cysylltiadau cryf a chynaliadwy â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector sy'n ymwneud â phlismona ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol.
  • Profwch radd sy'n falch o weithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu Gorllewin Mersia, Heddlu Dyffryn Tafwys a Heddlu Dinas Llundain. 

Beth fyddwch chin ei astudio

BLWYDDYN 1 (LEFEL 4)

MODIWLAU

  • Sgiliau Astudio mewn Addysg Uwch
  • Deall Rôl Cwnstabl Heddlu
  • Gwerthfawrogi Gwahaniaeth a Chynnal Safonau Proffesiynol
  • Gwneud Penderfyniadau a Doethineb
  • Cyfiawnder Troseddol

BLWYDDYN 2 (LEFEL 5)

MODIWLAU

  • Gwybodaeth a Chudd-wybodaeth 
  • Plismona'n Seiliedig ar Dystiolaeth & Datrys Problemau
  • Plismona'r Ffyrdd
  • Plismona Digidol a Gwrth-Derfysgaeth
  • Dulliau a Sgiliau Ymchwil
  • Plismona Ymateb

BLWYDDYN 3 (LEFEL 6)

MODIWLAU

  • Ymchwiliad Heddlu
  • Gwendid a Risg
  • Diogelu'r Cyhoedd
  • Plismona Cymunedau Cyfoes
  • Prosiect Ymchwil

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Y gofynion lleiaf yw:

1) 96-112 pwynt UCAS neu gyfatebol e.e.  Llwyddo rhaglen Mynediad i Addysg Uwch gyda 15 credyd lefel 2, 45 credyd lefel 3 i gael eu graddoli yn dilyn y rheolau cyfuno canlynol: 6 Rhagoriaeth, 33 teilyngdod, 6 llwyddo; ac 

2) Mae'n rhaid i'r ymgeisydd ddangos yn eu datganiadu personol UCAS eu bod yn barod i ymgymryd ag Addysg Uwch a'r cymhelliant, yn enwedig, i ymgymryd â gradd BSc (Anrh) Plismona.

Neu

1) Mae mynediad i'r radd hefyd yn bosibl lle y mae ymgeisydd yn gallu dangos y bydd dysgu blaenorol ac/neu drwy brofiad yn eu galluogi i ymdopi â gofynion academaidd a phroffesiynol y rhaglen.

Yn amodol ar argaeledd lleoedd, byddai ymgeiswyr sy'n bodloni unrhyw un o'r gofynion hyn yn derbyn cynnig am gyfweliad. Yn y cyfweliad edrychir ymhellach ar barodrwydd yr ymgeiswyr i ymgymryd ag  Addysg Uwch a'u cymhelliant a'u cymhwysedd arddangosiadol i  i ymgymryd â gradd Plismona.

Addysgu ac Asesu

Caiff aseiniadau eu gosod o flaen llaw ac yn cael eu darparu i fyfyrwyr mewn llawlyfrau modiwlau a'u marcio a'u dychwelyd drwy e-bost. Mae myfyrwyr yn cael adborth electronig ac ar lafar ar yr holl asesiadau o fewn terfyn amser priodol a bennir gan reoliadau'r Brifysgol (pedair wythnos ar hyn o bryd).

Mae meini prawf asesu yn cael eu cyhoeddi yn llawlyfr rhaglenni'r myfyrwyr sy'n cael eu dosbarthu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd. Er mwyn cynnal dull gweithredu lle gallu myfyrwyr ddatblygu eu diddordebau eu hunain ac yn cyfeirio at eu profiadau eu hunain gellir ateb cwestiynau llawer o'r aseiniadau o wahanol safbwyntiau.

Mae'r rhaglen yn cynnwys ystod o asesiadau gan gynnwys traethodau, arholiadau, cyflwyniadau a chwarae rôl. 

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r rhaglen wedi ei chynllunio'n benodol i ddarparu ar gyfer y bobl hynny sy'n dymuno dod yn swyddogion yr heddlu. Tra nad yw cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gwarantu cael eich penodi'n Gwnstabl Rheolaidd, mae'n galluogi myfyrwyr i wneud cais credadwy ar gyfer swydd o'r fath wrth iddynt godi. Mae hyn oherwydd y dylai cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus gynnig statws yn erbyn y gofynion hyfforddi a osodir gan heddluoedd/gwasanaethau unigol yn ystod cyfnodau prawf o gyflogaeth.

Ar gyfer y rhai hynny nad ydynt eisiau dod yn swyddog heddlu gwarantedig, ond sydd eisiau gweithio o fewn plismona, bydd y rhaglen hon yn darparu cymhwyster academaidd cref i gefnogi'r fath ddewis yrfaol.

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.

Crime scene tape with police car in background

Cymerwch ran yn ein hymarferhyfforddi amser-real blynyddol

Pob blwyddyn rydym yn cynnal efelychiad dysgu ar ffurf Diwrnod Safle Trosedd proffil-uchel, gyda myfyrwyr o ystod o gyrsiau yn actio, bod yn dystion, archwilio ac adrodd ar drosedd proffil-uchel sydd wedi digwydd ar y campws.