HNC Technoleg Adeiladu

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
2023, 2024
Hyd y cwrs
1 BL (rhan-amser)
Lleoliad
Wrecsam
Course Highlights
Wedi’i achredu
gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB)
Cyfleoedd
i ymweld â phrosiectau adeiladu byw ac arsylwi ar waith yn y safleoedd
Rydych yn cwblhau
eich astudiaethau mewn un flwyddyn academaidd drwy ddiwrnod astudio
Pam dewis y cwrs hwn?
Y Diwydiant Adeiladu yw un o’r sectorau cyflogaeth mwyaf ei faint yn y Deyrnas Unedig ac mae angen cyflenwad cyson o dechnolegwyr adeiladu i gyfrannu at brosiectau adeiladu a pheirianneg sifil o bob maint.
- Mae rhaglen HNC Technoleg Adeiladu yn gymhwyster delfrydol i’r rheiny sy’n cael eu hysgogi wrth weld eu gwaith caled yn cael ei wobrwyo a’u harbenigedd yn cael ei gydnabod mewn diwydiant adeiladu bywiog a heriol.
- Er bod llawer o dechnolegwyr adeiladu yn ymwneud â chynllunio a goruchwylio prosiectau datblygu newydd, mae llawer o rai eraill yn gyfrifol am y dechnoleg sy’n cyfrannu at brosiectau treftadaeth ac adnewyddu; prosiectau sy’n aml yn sensitif eu natur oherwydd arwyddocâd hanesyddol neu bensaernïol, neu ansawdd traddodiadol yr adeiladwaith presennol. Gall gyrfa mewn technoleg adeiladu felly fod mor amrywiol neu mor arbenigol ag y dymunwch iddo fod wrth ddilyn eich dyheadau a’ch uchelgeisiau personol eich hun.


Yr Amgylchedd Adeiledigyn Prifysgol Wrecsam
Prif nodweddion y cwrs
- Gellir ei gwblhau mewn un flwyddyn academaidd yn unig.
- Ymweliadau â phrosiectau adeiladu byw i edrych ar y gwaith ar safleoedd.
- Cyfleoedd pellach i ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant drwy gynadleddau a darlithoedd gwadd.
- Adnoddau digidol eang o safon diwydiant ar gael i’w defnyddio ar y campws ac oddi ar y campws Caiff darlithoedd eu cynnal mewn blociau er mwyn i fyfyrwyr fynychu ar sail diwrnod astudio.
- Defnyddir amrywiaeth o ddulliau addysgu a dysgu i sicrhau bod cynnwys technegol yn cael ei gymhwyso i senarios adeiladu nodweddiadol.
- Mae maes pwnc yr Amgylchedd Adeiledig yn rhan o Gyfadran y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (FAST) ac felly mae’r cynnwys yn elwa o gysylltiad â disgyblaethau peirianneg, cyfrifiadura ac ynni adnewyddadwy.
Beth fyddwch chin ei astudio
Mae’r cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Technoleg Adeiladu yn cynnwys chwe modiwl craidd sydd gyda’i gilydd yn esbonio prosesau a thechnolegau’r diwydiant adeiladu cyfoes. Caiff pynciau eu hystyried o’r egwyddorion cyntaf un, er mwyn i chi ddod i werthfawrogi materion sylfaenol wrth ddylunio, adeiladu, rheoli, defnyddio a datgomisiynu prosiectau adeiladu.
MODIWLAU (LEFEL 4)
- Technoleg Dylunio 1
- Rheoli Adeiladu 1
- Technoleg Adeiladu 1
- Adeiladu Cynaliadwy Mesur Meintiau 1
- Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Datblygwyd cynnwys y cwricwlwm i fodloni gofynion Fframwaith Addysg y Sefydliad Adeiladu Siartredig, felly mae’r modiwlau yn ymdrin â phob agwedd ar gynnwys technegol fel y disgwylid mewn cymhwyster adeiladu ar Lefel 4.
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Er mwyn cofrestru ar raglen HNC Technoleg Adeiladu, rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi yn y sector adeiladu ac yn gallu cael eu rhyddhau i fynychu diwrnod o astudio. Fel arfer, bydd disgwyl i ymgeiswyr fod ag o leiaf un o’r canlynol:
- Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol BTEC Lefel 3;
- aelodaeth o gorff proffesiynol sy’n gysylltiedig ag adeiladu ar lefel a ystyrir yn briodol gan dîm y rhaglen; neu
- 80–112 pwynt tariff UCAS
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r meini prawf mynediad safonol a restrir uchod, a byddai disgwyl iddynt ddangos drwy gyfweliad fod ganddynt y potensial i lwyddo ar y rhaglen.
Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr sydd â digon o brofiad priodol yn y diwydiant, er yr ystyrir asesiad diagnostig er mwyn mesur gallu academaidd, yn enwedig mewn mathemateg a Chymraeg neu Saesneg.
Rydym hefyd yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol, a dylai eu cymwysterau presennol fod wedi’u hamlinellu gan y Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol am Gydnabyddiaeth Academaidd (NARIC) i fod yn rhai sy’n cyfateb i gymhwyster mynediad perthnasol y Deyrnas Unedig. Os nad y Gymraeg neu’r Saesneg yw iaith gyntaf yr ymgeisydd, disgwylir iddynt ddangos hyfedredd yn yr iaith Saesneg. Gall ymgeiswyr Ewropeaidd ddarparu’r dystiolaeth hon mewn nifer o ffyrdd (gweler: http://www.glyndwr.ac.uk/en/Europeanstudents/entryrequirements/) gan gynnwys IELTS; mae ymgeiswyr rhyngwladol angen Prawf Iaith Saesneg Diogel (SELT) a gymeradwywyd gan UKVI (gweler: http://www.glyndwr.ac.uk/en/Internationalstudents/EntryandEnglishLanguageRequirements/ i gael y manylion).
Addysgu ac Asesu
Caiff y modiwlau eu cyflwyno drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau addysgu a dysgu, gan gynnwys darlithoedd traddodiadol, gweithgareddau ymarferol, tiwtorialau a thrafodaethau grŵp, gwaith labordy, arsylwi ar safleoedd adeiladu ac arfarnu cyfoedion. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn yr amgylchedd dysgu academaidd ac yn teimlo y gallant gyfrannu at y drafodaeth mewn unrhyw ddosbarth, tiwtorial neu weithgaredd dysgu arall sy’n rhan o’u hastudiaethau – mae addysgu a dysgu yn broses ddwyffordd yn y bôn a barn y myfyrwyr yn hanfodol bwysig yn y broses honno.
Mae sawl ffordd o asesu yn y rhaglen gyda’r nod o efelychu’r mathau o sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig, ymarferol, gweledol a llafar a ddisgwylir gan dechnolegwyr adeiladu; mae adroddiadau ysgrifenedig, defnyddio offer technegol, cyflwyniadau gweledol, dadansoddiadau labordy, profion yn y dosbarth, gwaith cwrs a chyflwyniadau llafar oll yn ffyrdd pwysig y gall myfyrwyr ddangos eu dealltwriaeth. Mae’r mathau o asesu ar gyfer pob modiwl yn dibynnu ar yr hyn sy’n cyd-fynd orau â natur y cynnwys technegol ym mhob pwnc; gyda’i gilydd maent yn cynnig cyfleoedd amrywiol i fyfyrwyr ddangos eu diddordeb, eu brwdfrydedd a’u dehongliad o’r cynnwys yn ystod eu hastudiaethau.
O ran anghenion asesu penodol, gall adran Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol gynnig arweiniad a chymorth priodol os bydd unrhyw fyfyrwyr eisiau gofyn am addasiadau rhesymol i’r prosesau asesu oherwydd anabledd, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol cydnabyddedig.
Dysgu ac addysgu
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cyfleoedd ar gyfer rheolwyr adeiladu yn bodoli o fewn y diwydiant adeiladu mewn llawer o gyd-destunau amrywiol, o ddatblygiadau adeiladau newydd i brosiectau treftadaeth ac adnewyddu o bob graddfa a math - gall datblygu gyrfa fel rheolwr adeiladu felly arwain at lawer o brofiadau boddhaus, yn anad dim oherwydd y ffaith nad oes dau brosiect adeiladu'r un fath, a bod rheolwyr adeiladu yn debygol o dreulio cymaint o amser ar y safle ag y maent wrth eu desgiau. Mae'r amgylchiadau hyn yn golygu y gall gyrfa ym maes rheoli adeiladu fod yn heriol yn aml, yn arbennig o werthfawr, ond ni fydd byth yn arferol.
Mae’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) mewn Technoleg Adeiladu yn gymhwyster sy’n cael ei gydnabod i fod yn ffordd gynhwysfawr, wybodus a gwerthfawr o fesur dealltwriaeth wrth gymhwyso manylion adeiladu technegol.
Mae’r cyfleoedd i dechnolegwyr adeiladu yn y diwydiant adeiladu i’w cael mewn llawer o gyd-destunau amrywiol, o ddatblygiadau ‘adeiladu o’r newydd’ i brosiectau treftadaeth ac adnewyddu o bob maint a math – gall datblygu gyrfa fel technolegydd adeiladu felly arwain at lawer o brofiadau gwerth chweil. Mae hyn yn arbennig o wir o ystyried nad oes unrhyw ddau brosiect adeiladu yr un fath, a bod technolegwyr adeiladu yn debygol o dreulio’r un faint o amser ar y safle ag y maent wrth eu desgiau. Mae’r amgylchiadau hyn yn golygu bod gyrfa mewn technoleg adeiladu yn aml yn gallu bod yn heriol, yn hynod werth chweil, ond byth yn gyson yr un fath.
Felly, bydd y cymhwyster HNC Technoleg Adeiladu yn rhoi sail gadarn ar gyfer datblygu gyrfa yn agweddau technegol prosiectau adeiladu mewn ystod o gyd-destunau. Mae myfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau’r rhaglen yn parhau i sefydlu eu hunain fel dylunwyr technegol, arolygwyr adeiladu, syrfewyr adeiladu a thechnolegwyr adeiladu eraill amrywiol, yn bennaf oherwydd y profiad a’r ddealltwriaeth a gawsant wrth ddilyn rhaglen HNC Technoleg Adeiladu ym Mhrifysgol Wrecsam.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid ichi dalu'ch ffioedd hyfforddi ymlaen llaw.
Ffioedd dysgu Prifysgol Wrecsam 2023/24 ar gyfer Technoleg Adeiladu HNC yw £9000.
Bydd y ffioedd rydych chi'n eu talu a'r cymorth ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Ceir gwybodaeth gyflawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid.
Gan eich bod yn gweithio yn y sector adeiladu, cysylltwch ag Arweinydd y Rhaglen Dr Gareth Carr oherwydd mae’n bosibl y gallai cyllid fod ar gael drwy gynlluniau wedi’u rhedeg gan sefydliadau sgiliau sector.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.