BSc (Anrh) Ymddygiad, Lles a Chadwraeth Anifeiliaid (atodol)
Manylion cwrs
Côd UCAS
D301
Blwyddyn mynediad
2024, 2025
Hyd y cwrs
1 BL (llawn-amser) 2 BL (rhan-amser)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Northop
Pam dewis y cwrs hwn?
Mae’r rhaglen atodol BSc (Anrh) Ymddygiad, Lles a Chadwraeth Anifeiliaid yn dilyn ein FdSc Ymddygiad, Lles a Chadwraeth Anifeiliaid Cymhwysol. Mae’n darparu pecyn cytbwys o sgiliau a gwybodaeth, sydd wedi ei deilwra ar gyfer y bobl hynny sy’n dymuno gweithio yn y sector gofal anifeiliaid.
Bydd myfyrwyr yn:
- *Astudio mewn maes pwnc a raddiwyd yn 1af yn y DU o ran boddhad myfyrwyr yn nhablau cynghrair pwnc Amaeth & Choedwigaeth y Complete University Guide 2023
- Datblygu ac ehangu eu gwybodaeth bresennol yn themâu craidd lles, ymddygiad a chadwraeth anifeiliaid
- Cynllunio a gweithredu astudiaeth ymchwil o’u dewis
- Datblygu’n bersonol a phroffesiynol i wella cyflogadwyedd o fewn y diwydiant
- Mynediad i ystafell glinigol filfeddygol, man hyfforddi pwrpasol a chwrs ystwythder safonol Crufts.
- Mwynhau ymweliadau i elusennau anifeiliaid, canolfannau bywyd gwyllt a lleoliadau eraill sydd yn gysylltiedig â’r diwydiant
Gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau HND, FdSc neu Dip HE mewn pwnc cysylltiedig mewn sefydliadau eraill hefyd ymuno â’r cwrs.
Prif nodweddion y cwrs
- Datblygu gwybodaeth ar lefel uchel am ffisioleg, ymddygiad, hyfforddiant, lles a chadwraeth anifeiliaid.
- Amgylcheddau astudio trefol a gwledig – rhannwch eich amser astudio rhwng campws Llaneurgain sydd yn nghanol cefn gwlad trawiadol Gogledd Cymru a’n campws yn Wrecsam, ar gyrion tref fwyaf Gogledd Ddwyrain Cymru.
- Cysylltiadau rhagorol gyda diwydiant.
- Cyfleoedd i gynnal eich prosiect ymchwil eich hunan mewn arbenigedd o’ch dewis mewn lleoliadau amrywiol.
- Staff sy’n gweithio yn y diwydiant gyda sgiliau academaidd ac ymarferol arbenigol, a phrofiad o weithio gydag ystod o anifeiliaid domestig a gwyllt.
- Ymunwch â’n cymdeithas sŵolegol a mwynhau ystod o ddigwyddiadau, gweithgareddau a gwibdeithiau drwy gydol y flwyddyn.
- Mae dilyniant o’r BSc (Anrh) Gwyddor Ymddygiad, Lles a Chadwraeth Anifeiliaid yn cynnwys cyflogaeth neu astudiaeth ôl-raddedig.
Beth fyddwch chin ei astudio
MODIWLAU
-
Polisi Cadwraeth: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio ecoleg ystod o rywogaethau sy’n frodorol i'r DU a deall dulliau cadw a’r angen i gadw’r rhywogaethau hyn gan gynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol.
-
Sgiliau Ymchwil Cymhwysol a Datblygiad Proffesiynol: Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i adolygu llenyddiaeth berthnasol er mwyn llunio dogfen cynnig ymchwil sy'n sail briodol a moesegol gadarn i brosiect ymchwil. Bydd yn dysgu dulliau casglu data a dadansoddi ystadegol ichi er mwyn dehongli’r data hynny.
-
Prosiect Ymchwil: Mae'r modiwl hwn yn rhoi’r cyfle i chi wneud eich ymchwil eich hun mewn pwnc sydd o ddiddordeb arbennig i chi ichi. Wrth wneud y prosiect hwn byddwch yn adolygu llenyddiaeth sy’n berthnasol i'r maes ymchwil rydych wedi ei ddewis, gwerthuso cynllun ymchwil perthnasol a datblygu dull addas o gasglu a dadansoddi data, dadansoddi a dehongli data a gasglwyd ac yn olaf ysgrifennu a thrafod eich canfyddiadau mewn perthynas â'r wybodaeth bresennol.
-
Lles Anifeiliaid Uwch: Mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i edrych ar sut y gall straen gael ei reoli mewn ystod o amgylcheddau a sefyllfaoedd . Mae hefyd yn ceisio rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o addasiadau ffisiolegol ac ymddygiadol anifeiliaid sy'n deillio o hwsmonaeth a dulliau defnyddio modern.
-
Addasu Ymddygiad Anifeiliaid: Nod y modiwl yw datblygu ymwybyddiaeth myfyrwyr o'r angen am ymagwedd systematig at ddeall achoseg problemau ymddygiad a welir mewn anifeiliaid . Bydd yn ymestyn eu dealltwriaeth o sut i ddadansoddi problemau ymddygiad mewn anifeiliaid a gwerthfawrogi cyfyngiadau technegau diagnostig perthnasol.
-
Sgiliau Ymchwil Cymhwysol a Datblygiad Proffesiynol: Mae'r modiwl yn cyflenwi myfyrwyr â'r sgiliau i werthuso cynllun ymchwil yn feirniadol fel y bo'n berthnasol i wyddor ceffylau a rheoli lles ceffylau, i ddewis a chyfiawnhau dulliau priodol o gasglu a dadansoddi data, ac i adfyfyrio'n feirniadol ar ddatblygiad personol dros gyfnod y rhaglen astudio, gan gysylltu ysgolheictod ac ymarfer trwy adfyfyrio ar weithgareddau datblygu proffesiynol penodol
Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Gradd sylfaen neu gyfatebol mewn astudiaethau anifeiliaid neu bwnc cysylltiedig.
Côd UCAS: D301
Addysgu ac Asesu
Mae modiwlau yn cael eu hasesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd. Mae hyn yn cynnwys traethodau academaidd, posteri ymchwil, cyflwyniadau, trafodaethau seminar, arholiadau, portffolios, ymarfer myfyriol ac asesiad ymarferol. Mae'r cydbwysedd rhwng y gwahanol fathau o asesu yn cael ei benderfynu gan wahanol amcanion a deilliannau dysgu y modiwlau.
Dysgu ac Addysgu
Mae modiwlau yn cael eu dysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd damcaniaethol, trafodaethau seminar, darlithoedd gwadd, ymweliadau addysgol, a gwaith ymarferol. Rhwng darlithoedd, disgwylir i fyfyrwyr ddarllen o amgylch eu pwnc a defnyddio’r rhestrau darllen manwl a gyhoeddir y Canllawiau i’r Modiwlau.
Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd.
Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.
O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.
Rhagolygon gyrfaol
Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i ganfod beth yw eich diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.
Mae cyfleoedd gyrfaol yn y diwydiant gofal anifeiliaid yn eang. Gallech fod yn gweithio mewn:
- Sefydliadau lles anifeiliaid
- Cadwraeth
- Sŵau a pharciau bywyd gwyllt
- Milfeddygfeydd
- Cwmnïau bwyd anifeiliaid
- Chwmnïau milfeddygol neu fferyllol.
Mae cyfleoedd astudio pellach ar gael hefyd, megis dilyniant i gymwysterau ymchwil ac addysgu lefel ôl-raddedig.
Gallai myfyrwyr sy'n symud i gyflogaeth ddisgwyl symud ymlaen i yrfaoedd yn y diwydiant anifeiliaid megis rheolwyr Canolfan Lles, ceidwaid sw neu yrfaoedd sy'n gysylltiedig â diwydiant, er enghraifft ymchwil a gwaith ymgynghori.
Ffioedd a chyllid
Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.
Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd.
Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.
Manyleb y rhaglen
Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.
Llety
Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety i gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar y Pentref Wrecsam.