BEng (Anrh) Ynni Carbon Isel, Effeithlonrwydd & Chynaliadwyedd (Prentisiaeth Gradd)

Students using electrical engineering facilities

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024, 2025

Hyd y cwrs

3 BL (llawn-amser)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Wrecsam

Course Highlights

Arianwyd yn llawn

os ydych yn gweithio yng Nghymru

Modiwlau ac asesiadau

sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant

 

Datblygwch sgiliau

i asesu cynaliadwyedd cynnyrch, gwasanaethau a systemau

 

Pam dewis y cwrs hwn?

Mae’r cwrs hwn wedi ei ddatblygu i gwrdd ag anghenion diwydiant lleol yn y maes hanfodol yma. Mae’r rhaglen yn rhoi sylw i agweddau allweddol sut i greu systemau, cynnyrch a gwasanaethau sydd yn gynaliadwy i gyfyngu ar yr effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd.

Mae'r cwrs: 

  • wedi ei hariannu’n llawn o gymryd eich bod yn gweithio yng Nghymru am 51% o’r amser
  • yn gosod y sail ar gyfer hanfodion peirianneg er mwyn llwyddo yn eich gyrfâu.
  • gyda modiwlau a’r dysgu yn y radd hon sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant wedi eu hadeiladu o amgylch eich gweithle chi eich hun. Mae prosiect ar gyfer pob lefel o’r radd, sydd yn gapfaen i’ch dysgu, ac maent yn eich galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth i broblemau yn y byd go iawn. 

Prif nodweddion y cwrs

  • Gradd wedi ei hariannu’n llawn
  • Rhaglen sydd yn canolbwyntio ar ddiwydiant gydag asesu yn seiliedig ar waith
  • Datblygu dealltwriaeth ddofn o’r maes hanfodol yma o beirianneg
  • Galluogi peirianwyr i asesu cynaladwyedd y systemau a’r cynnyrch a gwneud gwelliannau i’w datblygu

Beth fyddwch chin ei astudio

Blwyddyn 1 (Lefel 4) 

Mae’r flwyddyn gyntaf yn rhoi’r wybodaeth sylfaen sydd ei hangen ar gyfer gradd mewn peirianneg. Yn allweddol i hyn mae’r modiwl prosiect cyntaf yn y cwrs sydd yn eich galluogi chi i gymhwyso’r wybodaeth a enilloch drwy eich astudiaethau.

Modiwlau  

  • Technegau Peirianneg Ddadansoddol
  • Peirianneg a Rheoli Gweithrediadau
  • Dylunio a CAD
  • Systemau Ynni a Chynaladwyedd y Dyfodol
  • Prosiect (Astudiaeth Achos Archwiliad Amgylcheddol)

Blwyddyn 2 (Lefel 5)

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn canolbwyntio mwy ar bwnc craidd y radd gyda modiwlau penodol mewn cynaladwyedd ac ynni adnewyddadwy. Mae’r ail brosiect capfaen yn gofyn ichi ymgymryd ag astudiaeth dichonolrwydd amgylcheddol yn eich gweithle. Bydd y prosiect sydd yn canolbwyntio ar ddiwydiant yn galluogi’r busnes i weld cynnydd eich gwybodaeth a dangos sut i wneud gwelliannau i’r broses i gynyddu cynaladwyedd. 

Modiwlau  

  • Technegau Rheolaeth Ddadansoddol
  • Gweithgynhyrchu Modern, Cynaladwyedd a Diwydiant 4.0  
  • Peirianneg Ynni Solar a Biomas
  • Peirianneg Ynni Gwynt a Hydro
  • Prosiect (Astudiaeth Dichonolrwydd)  

Blwyddyn 3 (Lefel 6)

Nod blwyddyn olaf y radd yw cydgyfeirio ymhellach cynnwys y rhaglen tuag at gynaladwyedd ac effeithlonrwydd ac ynni carbon isel. Mae prosiect y flwyddyn olaf yn ffocws i’r holl astudiaethau. Mae’n adeiladu ar brosiectau capfaen y blynyddoedd cynharach i weithredu’n llawn datrysiad i wella cynaladwyedd ac effeithlonrwydd yn eich busnes. 

Modiwlau  

  • Prosiect
  • Dylunio Cynnyrch
  • Rheoli Gweithlu, Ymgysylltu ac Ymrwymiad
  • Cynnal a Chadw a System Ddiogelwch  
  • Arbed Ynni, Carbon Isel a Systemau Ailgylchu

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Gofynion mynediad safonol y Brifysgol ar gyfer y rhaglen hon (ar gyfle mynediad lefel 4) yw:

  • 48 o bwyntiau tariff UCAS o gymhwyster lefel 3 megis Lefel A
  • 5 TGAU, graddau A*- C, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg/Cymraeg Iaith

Bydd ymgeiswyr heb y pwyntiau tariff UCAS angenrheidiol, neu sydd â chymwysterau nad oes ganddynt bwyntiau tariff UCAS, yn cael eu hystyried yn ôl eu profiad proffesiynol o fewn y diwydiant maent am astudi’r brentisiaeth ynddo. Bydd pob ymgeisydd nad ydynt yn cwrdd â’r gofynion uchod yn cael eu cyfweld cyn iddynt gael cynnig, gan roi cyfle i’r rhai hynny heb bwyntiau tariff UCAS ffurfiol o’r diwydiant arddangos sut mae eu sgiliau yn eu gwneud yn ymgeiswyr addas ar gyfer y rhaglen yma o astudiaeth.

Addysgu ac Asesu

Mae’r cwrs yma yn gwrs un diwrnod yr wythnos am flwyddyn galendr lawn.

Bydd asesiadau yn digwydd drwy draethodau, prosiectau, aseiniadau yn y gwaith, arholiad, astudiaethau achos a phortffolios.  

Bydd y dysgu yn gymysgedd o ddarpariaeth wyneb i wyneb, cynnwys ar-lein, tiwtorialau, astudiaeth hunan-dywys a sesiynau ymarferol.  

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial academaidd. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol, a pharatoi ar gyfer aseiniadau.

Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sydd yno i gynorthwyo gydag agweddau ymarferol o waith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth myfyrwyr fwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

O ran anghenion penodol, gall Gwasanaethau Cynhwysiant y Brifysgol ddarparu arweiniad a chymorth priodol os bydd angen addasiadau rhesymol ar unrhyw fyfyriwr oherwydd anabledd cyfredol a gydnabyddir, cyflwr meddygol neu wahaniaeth dysgu penodol.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i’ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio eich camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O ganfod gwaith i astudiaeth bellach i weithio ar eich diddordebau, sgiliau a dyheadau, maent yn gallu darparu’r  wybodaeth  arbenigol, y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch.

Gall cwblhau’r rhaglenni yma yn llwyddiannus arwain at lu o gymwysterau a llwybrau dilyniant eraill gan gynnwys (ond heb eu cyfyngu i):

  • Astudiaeth ôl-radd mewn Peirianneg yn PGW
  • Cymwysterau proffesiynol drwy’r cyrff proffesiynol sydd yn ffurfio’r Bwrdd Achredu Peirianneg (EAB) a chyrff proffesiynol eraill
  • Statws CEng fel sydd yn briodol i lwybr proffesiynol/gyrfa

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd israddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma

Llety

Os ydych yn edrych am le i aros tra i chi astudio beth am edrych ar ein hadran Llety am fwy o wybodaeth, gan gynnwys prisiau.

I gael mwy o wybodaeth am eich opsiynau, gan gynnwys ein neuaddau preswyl ar Pentref Wrecsam.