EdD Doethuriaeth Genedlaethol mewn Addysgu (Cymru)

Manylion cwrs
Blwyddyn mynediad
Ionawr 2027
Hyd y cwrs
6 BL (RA)
Côd y sefydliad
G53
Lleoliad
Ar-lein, Dysgu Cyfunol, Wrecsam
Pam dewis y cwrs hwn?
Archwiliwch y cwestiynau addysgol sy'n bwysig i chi drwy ymchwil ddoethurol sydd wedi'i wreiddio yn eich ymarfer proffesiynol. Astudiwch yn rhan amser gyda goruchwyliaeth arbenigol, dysgwch ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol addysg ar hyd a lled Cymru a thynnwch ar arbenigedd pedair prifysgol partner.
Byddwch:
- Astudiwch yn rhan amser ochr yn ochr â'ch rôl broffesiynol
- Ymchwiliwch i fater addysgol sy'n bwysig i chi
- Adeiladwch ar eich dysgu ar lefel meistr
- Sicrhewch fynediad at arbenigedd ar draws prifysgolion partner yng Nghymru
- Derbyniwch gefnogaeth gan dîm goruchwylio academaidd
- Ymunwch â chymuned genedlaethol o ymchwilwyr doethurol
- Cyfunwch ddysgu ar lein gydag ysgol haf breswyl
- Sicrhewch fynediad at ddarpariaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg
- Datblygwch ymchwil a sgiliau meddwl yn feirniadol uwch
- Cyfrannwch wybodaeth wreiddiol at bolisi ac ymarfer addysgol.
A wyddoch chi?
Drwy astudio Doethuriaeth Genedlaethol mewn Addysgu (Cymru) ym Prifysgol Wrecsam, byddwch yn cael mynediad at fanteision unigryw a gynlluniwyd i’ch helpu i lwyddo…
Prif nodweddion y cwrs
Byddwch yn astudio'n rhan amser ar lefel ddoethurol (Lefel 8) drwy gyfuniad o addysgu ar-lein byw, ysgol haf breswyl ac astudio'n annibynnol.
Yn ystod y cyfnod a ddysgir, byddwch yn dysgu ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol addysg ar hyd a lled Cymru drwy sesiynau a ddarperir gan academyddion o'r prifysgolion partner. Bydd cyfarfodydd Cymuned Ymarfer yn darparu cyfleoedd i rannu syniadau, trafod ymchwil a dysgu gan eich cyfoedion. Bydd yr adnoddau ar-lein yn cefnogi eich dysgu rhwng sesiynau.
Mae'r cam cyntaf yn cynnwys modiwl a ddysgir 60 credyd. Byddwch angen neilltuo amser rheolaidd ar gyfer darllen, adolygu llenyddiaeth, datblygu eich dyluniad ymchwil a pharatoi gwaith a asesir, ochr yn ochr â mynychu sesiynau gorfodol. Yn ystod eich cam ymchwil, byddwch yn ymgymryd ag astudio'n annibynnol wedi'i gefnogi gan dîm goruchwylio academaidd, gan gymryd cyfrifoldeb cynyddol dros reoli eich ymchwil a'ch ysgrifennu.
Beth fyddwch chin ei astudio
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu ar eich astudiaeth lefel meistr a phrofiad proffesiynol er mwyn paratoi ar gyfer ymchwil ddoethurol. Drwy fodiwl a ddysgir gorfodol, dysgu ar-lein, ysgol haf breswyl a chyfranogi mewn Ymarfer Cymunedol, byddwch yn datblygu eich syniadau ymchwil ochr yn ochr â chyd-weithwyr proffesiynol addysgu. Byddwch yn cael budd o arbenigedd ar draws prifysgolion partner a chyfleoedd i drafod a mireinio eich ffordd o feddwl o fewn carfan genedlaethol gefnogol. Mae'r cam hwn yn darparu'r seiliau ar gyfer symud ymlaen i'ch ymchwil dan oruchwyliaeth a thesis doethurol.
Modiwlau
Cynllunio ar gyfer astudiaethau doethurol a pharatoi thesis (Craidd): Byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn dylunio eich gwaith ymchwil doethurol a pharatoi ar gyfer eich thesis Doethuriaeth Addysgu. Byddwch yn archwilio'n feirniadol ymchwil addysgol, ymgysylltu gyda thrafodaethau damcaniaethol ac ystyried sut mae gwahanol fethodolegau'n gallu bod yn sail i'ch astudiaeth arfaethedig. Drwy ddysgu dan arweiniad a thrafodaeth, byddwch yn mireinio eich ffocws ymchwil, yn adolygu llenyddiaeth berthnasol a datblygu fframwaith cysyniadol. Byddwch yn archwilio cyfrifoldebau moesegol, eich safle fel ymchwilydd a phenderfyniadau ymarferol o safbwynt casglu, dadansoddi a chyflwyno data. Bydd rhoi sylw i samplu, rhagfarn ac ansawdd y dystiolaeth yn eich helpu i atgyfnerthu eich dyluniad ymchwil. Byddwch hefyd yn datblygu eich ysgrifennu doethurol ac yn dod â'r elfennau hyn ynghyd mewn cynllun cydlynol ar gyfer eich thesis.
Gofynion mynediad a gwneud cais
Dylai bod gennych MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) neu radd meistr gyfwerth a gydnabyddir yn y DU gyda ffocws addysgol clir, sy'n dod i gyfanswm o 180 o gredydau, sy'n cynnwys 120 o gredydau a addysgir ar Lefel 7.
Sut i wneud cais
Mae angen i geisiadau gael eu gwneud yn uniongyrchol drwy'r wefan genedlaethol neu gallwch lenwi'r ffurflen ar y dudalen hon.
Ewch i wefan EdD Cenedlaethol (Cymru) am arweiniad a dyddiadau cau ar gyfer gwneud ceisiadau, cymhwysedd cyllid, strwythur y rhaglen a chwestiynau cyffredin.
Noder: Mae ceisiadau cenedlaethol ar gyfer cychwyn ym mis Ionawr 2027 wedi cau, a bydd y ffurflen yn ailagor yn haf 2027 ar gyfer cychwyn ym mis Ionawr 2028.
Yn ogystal â'r ffurflen gais uniongyrchol, mae'n ofynnol i ymgeiswyr y rhaglen hon wneud cais am y cwrs hwn ar gyfer dibenion ymrestru drwy ein dolenni cais brifysgol.
Efallai y bydd angen i chi lenwi'r Ffurflen Gais Cydnabod Dysg Flaenorol os ydych yn hawlio RPL a'i chyflwyno gyda'ch cais. Dylid anfon y ffurflen hon at admissions@wrexham.ac.uk ar ôl ei llenwi.
Gallwch edrych ar Ffioedd a Chyllid i wirio a ydych yn gymwys am unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Oherwydd cymhlethdod y broses geisio a cheisio am gyllid ar gyfer EdD Cenedlaethol (Cymru) Doethur mewn Addysg, byddwn yn rhoi gwybod a yw eich cais yn llwyddiannus cyn gynted ag y bo modd. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu rhoi amserlen ymateb fanwl ar hyn o bryd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch statws eich cais, cysylltwch â ni ar enquiries@wrexham.ac.uk.
Addysgu ac Asesu
Mae'r asesiad wedi'i fwriadu i gefnogi datblygiad eich ymchwil ddoethurol. Yn ystod y cyfnod a ddysgir, byddwch yn cwblhau gwaith a asesir gan arddangos eich dealltwriaeth o'ch dyluniad ymchwil, methodoleg a gofynion eich astudiaeth arfaethedig. Byddwch yn derbyn adborth ffurfiannol gan eich tîm goruchwylio er mwyn eich helpu i fireinio eich gwaith cyn ei gyflwyno. Bydd y modiwl 60 credyd gorfodol yn cael ei asesu ar sail llwyddo/methu a rhaid pasio hwn.
Yn ystod y cyfnod ymchwil, byddwch yn cynhyrchu thesis doethurol yn seiliedig ar waith ymchwil sy'n berthnasol i'ch cyd-destun addysgol neu broffesiynol. Bydd eich thesis yn cael ei arholi gan banel o arholwyr, a byddwch yn trafod ac yn amddiffyn eich ymchwil mewn arholiad llafar, a elwir yn viva voce.
Rhagolygon gyrfaol
Mae ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ymroddedig wedi ymrwymo i'ch helpu i gyflawni'ch nodau proffesiynol. Maent yn darparu cyngor personol, adnoddau defnyddiol, a digwyddiadau cyflogadwyedd allgyrsiol i'ch paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.
Gall graddedigion y cwrs hwn ddilyn gyrfaoedd yn:
- Uwch Arweinydd Addysg
- Cynghorwr Polisi Addysg
- Cynghorwr Gwella Ysgol
- Ymgynghorydd Addysg
- Darlithydd Addysg mewn Prifysgol
Ffioedd a chyllid
Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gael i nifer cyfyngedig o ymgeiswyr.
Barod i Geisio?
Apply Link Accordions
Content Accordions
Peidiwch â Cholli Allan Ar Ymweld â Ni.
Gallwch chi ymuno â ni o hyd yn ein Diwrnod Agored nesaf. Dewch i gwrdd â'n hacademyddion, sgwrsio â myfyrwyr presennol ac archwilio ein campws. Dyma'ch cyfle i ddarlunio'ch dyfodol yma.