A criminology textbook

Manylion cwrs

Blwyddyn mynediad

2024

Hyd y cwrs

1 BL (LIA) 2 BL (RHA)

Côd y sefydliad

G53

Lleoliad

Ar-lein

Course Highlights

100%

o'r cwrs yn cael ei gyflwyno ar-lein

Cyfoes

astudiwch fodiwlau perthnasol

 

Ymchwil

y darlithwyr sy'n cyflwyno'r rhaglen yn ymgymryd ag ymchwil

 

 

Pam dewis y cwrs hwn?

MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol hon wedi ei chynllunio i gynnig y cyfle i fyfyrwyr, a chanddynt neu sydd heb radd gyntaf mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol symud ymlaen yn academaidd ac yn broffesiynol.

Mae'r rhaglen yn integreiddio damcaniaeth, ymchwil gymdeithasol, sgiliau a phrofiad proffesiynol, mae'n rhoi sgiliau meddwl yn feirniadol i fyfyrwyr a fydd yn eu galluogi i weithio yn y gweithlu mewn lleoliadau sy'n gysylltiedig â chyfiawnder troseddol a chymunedol. Nod y rhaglen yw:

  • Darparu rhaglen lefel uwch ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau dadansoddi'n feirniadol damcaniaeth ac ymarfer cyfiawnder troseddol.
  • Ymgysylltu myfyrwyr ag asesu a syntheseiddio safbwyntiau damcaniaethol ar bolisi ac arfer cyfiawnder troseddol.
  • Datblygu gwerthfawrogiad uwch o'r cymhlethdodau o weithio ym maes Cyfiawnder Troseddol.

Prif nodweddion y cwrs

  • Un o nodweddion arbennig y rhaglen MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yw ei bod yn cael ei chyflwyno cant y cant ar-lein, gan roi'r hyblygrwydd i fyfyrwyr prysur i gael mynediad i astudiaethau ôl-raddedig wrth ymgymryd ag ymrwymiadau eraill.
  • Mae'r ystod o fodiwlau yn gyfoes ac yn berthnasol i'r tirlun cyfiawnder troseddol cyfredol a bydd yn helpu i adeiladu ar nifer o sgiliau allweddol sy'n datblygu gallu'r myfyrwyr i feddwl yn feirniadol a fydd yn eu tro, yn ffynnu mewn amgylchedd proffesiynol.
  • Yn ogystal â sgiliau a gwybodaeth pwnc, mae graddedigion hefyd yn datblygu sgiliau mewn cyfathrebu, rhifedd, gwaith tîm, meddwl yn feirniadol, cyfrifiadura, a dysgu annibynnol. 
  • Mae'r rhaglen yn adeiladu ar yr arbenigedd a'r diddordebau arbenigol ar draws yr holl raglenni Troseddeg a Gwaith Cymdeithasol yn Prifysgol Wrecsam, a bydd myfyrwyr yn cael cynnig cymorth tiwtorial rhagorol trwy gydol y cwrs.

Beth fyddwch chin ei astudio

MODIWLAU

  • Dulliau Ymchwil Uwch (Craidd)
  • Trosedd a Chyfiawnder Cyfoes (Craidd)
  • Theori Ymlyniad (Opsiwn)
  • Camddefnyddio Sylweddau (Opsiwn)
  • Dysgu wedi'i Drafod (Opsiwn)
  • Terfysgaeth a'i Chanlyniadau (Opsiwn)
  • Prosiect Ymchwil (Craidd)

Mae'r wybodaeth a restrir yn yr adran hon yn drosolwg o gynnwys academaidd y rhaglen a fydd ar ffurf modiwlau craidd neu fodiwlau dewisol. Mae modiwlau'n cael eu pennu'n rhai craidd neu rai dewisol yn unol ag anghenion corff proffesiynol ac adolygiad fframwaith academaidd mewnol, ac felly maent yn gallu newid.

Gofynion mynediad a gwneud cais

Mae'r gofynion mynediad yn cynnwys gradd o leiaf dosbarth 2:1 a byddwn hefyd yn ystyried gradd dosbarth 2.2. Yn ogystal â hyn, byddwn yn ystyried ymgeiswyr a chanddynt brofiad perthnasol. Mae croeso i ymgeiswyr sy'n byw dramor wneud cais. 

 

Addysgu ac Asesu

Mae pob modiwl (ac eithrio'r Prosiect Ymchwil) yn gofyn bod myfyrwyr yn cwblhau traethawd o 4,000 o eiriau.

Yn Nhimester 3 mae rhaid i fyfyrwyr gwblhau Prosiect Ymchwil o 10,000 o eiriau.

Dysgu ac addysgu

Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymrwymo i roi cymorth i'n myfyrwyr i'w galluogi i gyflawni eu potensial academaidd i'r eithaf. Rydym yn cynnig gweithdai a sesiynau cymorth mewn meysydd megis ysgrifennu academaidd, gwneud nodiadau effeithiol a pharatoi ar gyfer aseiniadau. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau gyda thiwtoriaid sgiliau academaidd sy'n ymroddedig i helpu myfyrwyr i delio ag agweddau ymarferol gwaith prifysgol. Mae gan ein hadran cymorth i fyfyrwyr fwy o wybodaeth ar y cymorth sydd ar gael.

 

Rhagolygon gyrfaol

Mae'n gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yno i'ch helpu i wneud penderfyniadau a chynllunio'r camau nesaf tuag at ddyfodol disglair. O gael hyd i waith neu astudiaethau pellach i sylweddoli'ch diddordebau, sgiliau a'ch dyheadau, gallant roi'r wybodaeth, y cyngor a'r arweiniad arbenigol sydd eu hangen arnoch.

Mae'r MA Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn galluogi myfyrwyr i gyflawni eu dyheuadau galwedigaethol, sy'n golygu eu bod nhw'n sefyll allan i ystod eang o gyflogwyr sydd ym maes:

  • Gwasanaeth Prawf
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Yr Heddlu
  • Gwasanaeth Carchardai
  • Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau
  • Adsefydlu Cymunedol
  • Gwasanaeth Digartrefedd
  • Asiantaethau Gwirfoddoli
  • Y Gyfraith
  • Gweithio gyda diddefwyr e.g. elusennau cysylltiedig â thrais yn y cartref

Gydag astudiaethau ôl-raddeig pellach, gall llwybrau gyrfaol sy'n agored i raddedigion gynnwys Seicoleg Cwnsela, Seicoleg Fforensig, Gwaith Cymdeithasol neu ddysgu ac ymchwil.

 

Ffioedd a chyllid

Nid oes rhaid i chi dalu eich ffioedd dysgu ymlaen llaw.

Bydd y ffioedd rydych yn eu talu a'r cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar nifer o ffactorau gwahanol. Gellir dod o hyd i wybodaeth lawn ar ein tudalennau ffioedd a chyllid. Byddwch hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am yr hyn y mae eich ffioedd yn ei gynnwys yn y Cwestiynau Cyffredin ffioedd. 

Mae'r holl ffioedd yn ddarostyngedig i unrhyw newidiadau ym mholisi'r llywodraeth, edrychwch ar ein ffioedd ôl-raddedig.

Manyleb y rhaglen

Gallwch chi weld manyleb lawn y rhaglen yma.