Cyllid israddedig
Efallai byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol i'ch helpu i dalu'ch ffioedd dysgu a'ch costau byw.
Benthyciadau a Grantiau
Myfyrwyr o Gymru
Bydd pob myfyriwr o Gymru sy'n astudio ym Mhrifysgol Wrecsam yn gymwys i gael uchafswm o £12,150 (£10,315 os ydynt yn byw gartref) mewn cymorth ariannol a ddarperir drwy gymysgedd o grantiau a benthyciadau. Bydd pob myfyriwr cymwys yn gallu hawlio isafswm grant o £1,000 gan y llywodraeth. Darganfyddwch fwy yma.
Myfyrwyr o daleithiau Jersey
Myfyrwyr o daleithiau Guernsey
Canslo'r benthyciad yn rhannol ar gyfer myfyrwyr Cymru
Gall fyfyrwyr o Gymru a gafodd fenthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ym mlwyddyn academaidd 2010/11 neu wedi hynny ac a oedd yn fyfyriwr llawn-amser, dderbyn hyd at £1,500 o'u balans benthyciad wedi'u diddymu gan Lywodraeth Cymru.
Mae myfyrwyr a dderbyniodd fenthyciad am gostau byw gan CMC yn gymwys ar gyfer y diddymiad o £1,500 unwaith y byddant yn gwneud eu had-daliad gyntaf. Ceir y gostyngiad ei roi i weddill eu benthyciad fyfyrwyr gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr pan fyddant yn dechrau ad-dalu.
I fod yn gymwys, rhaid i chi fod:
- myfyriwr sy'n byw yng Nghymru
- wedi derbyn benthyciad cynhaliaeth naill ai yn 2010/11 neu wedi hynny gan Gyllid Myfyrwyr Cymru
- efallai na fyddwch yn gymwys os ydych ar ôl yn eich ad-daliadau neu wedi torri'r cytundeb ad-dalu
Ni fydd myfyrwyr yn derbyn y diddymiad mwyaf os byddant yn talu cyn iddynt dderbyn yr holl fenthyciad cynhaliaeth y mae ganddynt hawl iddo h.y. os cânt eu hasesu am £1,500 o fenthyciadau cynhaliaeth ac wedi derbyn 2 daliad sef cyfanswm o £1000 ond yn gwneud ad-daliad cyn y 3ydd taliad dim ond diddymiad o £1,000 fydd ganddyn nhw.
Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru am wybodaeth lawn am yr hyn.
Myfyrwyr gyda Dibynyddion
Yn dibynnu ar amgylchiadau personol, mae'n bosibl fod myfyrwyr gyda dibynyddion yn gymwys i dderbyn y grantiau cymorth canlynol:
Grant Oedolion Dibynnol
Lwfans Dysgu i Rieni
Grant Gofal Plant
Mae grantiau cymorth i fyfyrwyr o'r Alban yn wahanol, gweler yma am wybodaeth.
Cyngor wedi'i Deilwra i Chi
Mae gan ein tîm Cyllid Myfyrwyr a Chyngor Ariannol cyfeillgar a chefnogol flynyddoedd o brofiad mewn deall pryderon myfyrwyr ac mae ganddynt yr wybodaeth ddiweddaraf i gyd. Gall y tîm ddweud wrthych am gyllid posibl ar gyfer astudiaethau llawn-amser neu ran-amser ac maent hefyd yn cynnig ymchwiliadau iechyd ariannol i sicrhau eich bod chi'n derbyn popeth y mae gennych hawl i'w dderbyn yn ystod eich astudiaethau.
Mae'r tîm hefyd yn cynnig cyngor rheoli arian i fyfyrwyr; o awgrymiadau i arbed arian i gyfarfodydd trafod arian un-i-un, mae ein hymgynghorwyr yma i'ch helpu. Ceir pob ymholiad drwy'r gwasanaeth ei drin yn gwbl gyfrinachol felly cysylltwch â ni drwy ffonio 01978 293295 neu e-bostio funding@glyndwr.ac.uk heddiw.
Datganiad Cydymffurfiaeth â Safonau'r Iaith Gymraeg
Cyhoeddir yr holl ddogfennau sy'n ymwneud ag ymgeisio am grant, bwrsariaethau neu gymorth ariannol i ymgeiswyr unigol (myfyrwyr neu aelodau unigol o staff academaidd) yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg a ni cheir eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. Os bydd rhaid cyfweld ymgeiswyr unigol am grantiau neu gymorth ariannol, cynhelir cyfweliadau yn y Gymraeg ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais yn y Gymraeg gan ddefnyddio cyfieithu ar y pryd os oes angen. Os cyflwynir cais am grant neu gymorth ariannol yn y Gymraeg, rydym yn hysbysu canlyniad ein penderfyniad i'r ymgeisydd yn y Gymraeg. Wrth wneud penderfyniad mewn perthynas â dyfarnu grant neu gymorth ariannol, rydym yn ystyried yr effeithiau bydd dyfarniad neu gymorth o'r fath yn eu cael ar gyfleoedd yr ymgeiswyr a phobl eraill i ddefnyddio'r Gymraeg ac rydym yn sicrhau na fydd ein penderfyniad yn lleihau cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith nac yn achosi effeithiau andwyol.