Cwestiynau Cyffredin ynghylch ffioedd i fyfyrwyr israddedig llawn amser sy’n dychwelyd
Content Accordions
- Beth yw’r swm newydd ar gyfer ffioedd dysgu?
£9,250 yw uchafswm y ffi a ganiateir ar gyfer rhaglenni israddedig llawn amser mewn prifysgolion yng Nghymru.
- Sut y byddaf yn gwybod beth yr wyf yn ei dalu?
Os ydych chi’n fyfyriwr newydd sy’n dechrau yn 2024, bydd eich ffi wedi’i nodi ar eich llythyr cynnig gan y Brifysgol.
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dychwelyd a bod eich astudiaethau wedi’u hariannu gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC), byddwch yn derbyn e-bost gan SLC yn gadael i chi wybod bod cyfanswm y ffioedd dysgu a ellir eu hariannu wedi cynyddu i £9,250.
Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dychwelyd a’ch bod yn ariannu eich astudiaethau eich hun, bydd yr anfoneb a anfonir atoch chi/eich noddwr yn 2024/25 yn adlewyrchu’r ffi newydd.
- Mae fy ffioedd dysgu’n cael eu hariannu gan GIG Cymru drwy Fwrsariaeth Ffioedd Dysgu AaGIC
Mae fy ffioedd dysgu’n cael eu hariannu gan GIG Cymru drwy Fwrsariaeth Ffioedd Dysgu AaGIC A oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Nac oes. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth os mae eich ffioedd dysgu’n cael eu hariannu gan AaGIC; ni fydd y cynnydd yn effeithio arnoch.
Fodd bynnag, os ydych chi’n astudio cwrs AaGIC ac wedi optio allan o fwrsariaeth ffioedd dysgu AaGIC, bydd pwynt 2 uchod yn berthnasol.
- A fydda i’n gallu cymryd benthyciad myfyrwyr uwch i dalu am y newid yn y ffioedd?
Byddwch. Er mwyn cefnogi myfyrwyr, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cynyddu’r swm y gallwch ei hawlio ar gyfer ffioedd dysgu. Os ydych chi wedi ymgeisio i fenthyg y swm llawn i dalu am eich ffioedd, bydd y swm yn cynyddu’n awtomatig i £9,250. Ni fydd y swm a fenthycir yn cynyddu’n awtomatig ar gyfer y myfyrwyr hynny sydd wedi dewis ymgeisio am swm is na’r uchafswm yn unig.
- Rydw i wedi gohirio mynd i’r Brifysgol. Pa ffi fydda i’n ei dalu?
Bydd y Brifysgol yn cyhoeddi ffioedd i fyfyrwyr newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn ystod gwanwyn 2025 a chodir y swm perthnasol ar y pwynt hwnnw. Bydd hyn yn cael ei nodi yn y llythyr cynnig newydd a anfonir atoch cyn i chi ddechrau gyda ni.
- Rydw i’n fyfyriwr rhyngwladol. A fydd y newidiadau’n effeithio arnaf?
Ni fydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r cap ar ffioedd dysgu i israddedigion yn effeithio ar y ffi a godir ar hyn o bryd ar fyfyrwyr rhyngwladol.
- Mae gen i gwestiwn o hyd ynglŷn â ffioedd, gyda phwy ydw i'n cysylltu?
Os ydych chi'n ymgeisydd newydd sy'n gwneud cais i astudio ym Mhrifysgol Wrecsam ym mis Medi, e-bostiwch admissions@wrexham.ac.uk. Os ydych chi'n fyfyriwr presennol a fydd yn dychwelyd ym mis Medi, e-bostiwch fees@wrexham.ac.uk.