OBE Tarsem Dhaliwal
Cymrawd Anrhydeddus

Cofiant
Ganwyd Tarsem yn India ym 1963 a symudodd i'r DU gyda'i deulu ym 1966. Cafodd ei addysg yn Warrington, ac ymunodd ag Iceland yn wreiddiol fel cyfrifydd dan hyfforddiant ym 1985, a chafodd ei ddyrchafu'n Gyfarwyddwr Cyllid Masnachu ym 1998. Gadawodd y busnes ym 2001 ac ailymunodd ym 2005, yn dilyn trosfeddiannu a chwalu'r Big Food Group, fel Cyfarwyddwr Cyllid y Grŵp ac aelod blaenllaw o'r tîm oedd â chyfranddaliadau rheoli. Heddiw, mae'r Grŵp yn eiddo llwyr i deuluoedd Walker a Dhaliwal ac mae ganddo drosiant o fwy na £4.5bn, tua 1,000 o siopau yn y DU, 30,000 o weithwyr a busnes allforio byd-eang sy'n cyrraedd mwy na 70 o wledydd.
Fel Prif Swyddog Gweithredol y Grŵp ers 2018, mae Tarsem yn rheoli'r Grŵp o ddydd i ddydd, ac yn pennu'r strategaeth i sicrhau ei ffocws parhaus ar ‘Doing It Right’ ar gyfer ei weithwyr, ei gwsmeriaid a'r amgylchedd.
Fel ymddiriedolwr Sefydliad Elusennol Iceland Foods (IFCF), sydd wedi rhoi mwy na £39m i achosion da ers 1973, mae Tarsem wedi bod yn ymwneud yn weithredol â chefnogi codi arian ar gyfer ei phedair prif flaenoriaeth, sef dementia, yr amgylchedd, llesiant a phlant.
Penodwyd Tarsem yn OBE am wasanaethau i economi Cymru, manwerthu ac elusennau yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin 2025. Mae'n briod â Louise ac mae ganddo bedwar o blant ac un ŵyr, y mae pob un ohonynt wedi cael eu cyfarwyddo i rannu ei angerdd dros gefnogi Manchester United.