Mae eich tîm PMW yn staff cyfeillgar, hawdd mynd atynt, wrth law gyda pholisi drws agored.

Rydym yn gobeithio y cewch chi amser gwych yn aros gyda ni ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam ac, os oes unrhyw beth y byddwch ei angen, neu os oes gennych gwestiwn, galwch draw yn swyddfa’r llety Llun – Gwe, 08.30 – 16.00 neu anfonwch e-bost accommodation@glyndwr.ac.uk

Mae eich tîm Preswylwyr a Bywyd Campws yma i’ch helpu.

Content Accordions

  • GLYN - RHEOLWR PRESWYLWYR A BYWYD CAMPWS

    Mae’n ymarfer gweithredoedd diymhongar, arweiniad, datrys dadleuon a chydweithio er llwyddiant y gymuned.

    Ymunodd Glyn â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam ym mis Rhagfyr 2021 fel Rheolwr Preswylwyr a Bywyd Campws. Cyn hynny cafodd Glyn lawer iawn o brofiad fel rheolwr yn gweithio mewn Prifysgolion eraill ac o’i amser yn y Gwasanaeth Sifil.

    Mae gan Glyn y penderfynoldeb a’r brwdfrydedd i wella a datblygu Pentref Myfyrwyr Wrecsam.  Ei obaith yw y bydd pob preswylydd yn cael profiad gwych ac yn teimlo’n hynod gartrefol diolch i wasanaeth cwsmer rhagorol a chyfleusterau sy’n ysbrydoli.

    Mae Glyn yn credu mewn cydraddoldeb ac yn credu y dylai pawb gael lle mewn cymuned. Trwy wrando ar adborth y myfyrwyr, trefnu digwyddiadau, a gweithio’n agos ag Undeb y Myfyrwyr mae Glyn yn credu y gallwn greu cymuned ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam lle mae lle i bawb, a lle mae gan bawb le diogel i astudio, cymdeithasu, myfyrio a thyfu.

    Ethos Glyn: “Mae dod at ein gilydd yn ddechrau. Mae cadw â’n gilydd yn gynnydd. Mae gweithio ynghyd yn llwyddiant”

     

  • Pip - Cydnydd Bywyd Preswyl

    Mae’n dathlu rhyddid, gorfoledd, cynaliadwyedd ac amseroedd da.

    Ymunodd Pip â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn llawn amser yn 2015 fel  cynorthwyydd safle yn edrych ar ôl myfyrwyr, preswylwyr a’r safle yng Nghampws Llaneurgain. Yn 2017 daeth yn rhan o dîm cynaliadwyedd a hyrwyddwyr gwyrdd Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, gan helpu i hyrwyddo cynaliadwyedd drwy’r brifysgol gyfan, newid ymddygiad, codi ymwybyddiaeth ac annog cyfranogaeth ac mae wedi cael ei phleidleisio’n Bencampwr Cynaliadwyedd y flwyddyn Undeb Myfyrwyr Glyndŵr Wrecsam dair gwaith, am ei gwaith gwirfoddol ar yr agenda cynaliadwyedd.

    Yn 2021, daeth yn gydlynydd bywyd preswyl ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac mae wedi rhoi’r genhadaeth iddi ei hun i greu cymuned Pentref Myfyrwyr Wrecsam drwy drefnu digwyddiadau/ gweithgareddau, cystadlaethau a thripiau diwrnod i breswylwyr gymryd rhan ynddynt. Mae cefndir Pip mewn lletygarwch wedi atgyfnerthu ymrwymiad cryf i ddarparu gwasanaeth y cwsmer gwych ac mae cael teulu a dod yn fam i ddau o blant wedi rhoi gwerthfawrogiad newydd iddi o bwysigrwydd cariad, gofal a chefnogaeth.

    Mae hi’n eiriolwr dros grwpiau fel Rhuban Gwyn, LHDTC+, Masnach Deg a Gofalwyr Cymru, ac mae hi wedi cael ei hyfforddi i fod yn Weithiwr Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Swyddog Tân, Swyddog Cymorth Cyntaf a Swyddog Ymateb.

    Ethos Pip – Gadewch bethau mewn cyflwr gwell nag oedden nhw pan ddaethoch ar eu traws, triniwch bobl eraill fel yr hoffech chi gael eich trin, mae pob camgymeriad yn gyfle i ddysgu ac mae gweithredu’n creu cymhelliant.

  • Paul - Goruchwyliwr y Neuadd

    Eiriolwr dros degwch, caredigrwydd a chreu profiadau gwych mewn bywyd

    Ymunodd Paul â Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn llawn amser yn 2018 pan brynodd y brifysgol Bentref Myfyrwyr Wrecsam, ond mae wedi bod yn goruchwylio lles preswylwyr ac adeiladau Pentref Myfyrwyr Wrecsam ers iddo ddod yn rheolwr neuaddau yma yn ôl yn 2011.

    Cariad mawr Paul yw adnewyddu tai, ac mae hyn wedi rhoi llygad wych iddo wrth gynnal a chadw’r adeiladau. Mae’n eithriadol o drefnus ac mae’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo’n ateb y gofynion cyfreithiol. Mae’n gyfrifol hefyd am y gwaith cynnal a chadw ac am weithredoedd dyddiol pentref myfyrwyr Wrecsam ac mae’n gwrando ar broblemau personol llawer o’n preswylwyr ar yr un pryd.

    Mae Paul wedi gweithio mewn lletygarwch drwy gydol ei yrfa, ac mae hynny wedi cynnwys pob agwedd ar redeg a rheoli gwestai a pharciau gwyliau sy’n cynnwys 7 mlynedd o brofiad dramor, a ddysgodd iddo gael parch mawr tuag at bobl eraill ac sydd wedi rhoi’r awydd iddo i blesio eraill. Mae teulu gan Paul ac, ers iddo gael ei fab a’i ferch gyda’i bartner, mae wedi dod yn esiampl dda iawn, mae’n gyfeillgar, yn benderfynol, mae’n aros yn ddigynnwrf o dan bwysau ac mae’n gwybod mor rymus yw dylanwad … neu efallai y byddai llwgrwobrwyo yn air gwell!

    Mae gan Paul achrediad fel landlord a gyda Rhentu Doeth Cymru, ac mae wedi ei hyfforddi i fod yn Swyddog Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Swyddog Tân, Swyddog Cymorth Cyntaf a Swyddog Ymateb.

    Ethos Paul – Mae diffyg paratoi’n dirwyn at fethiant. Does dim yn ormod o drafferth, 10% o fywyd yw’r hyn sy’n digwydd a 90% o fywyd yw’r ffordd yr ymatebwch iddo.

  • PMW - Cynnal a chadw

    Mae ein dau ddyn cynnal a chadw wedi bod yn edrych ar ôl Pentref Myfyrwyr Wrecsam ers blynyddoedd lawer. Maen nhw’n adnabod ein blociau fel cefn eu dwylo. Maen nhw’n gwneud atgyweiriadau cyffredinol i’r cyfleusterau, yn cynnwys adeiladu dodrefn a symud dodrefn, clirio’r safle a’r tir, trwsio a gosod cyfarpar a chadw ardaloedd yn gyffredinol lân a thaclus.

    Rhwng y ddau, mae gennym lif ddidor o wybodaeth hyfedr. Pan fydd rhywbeth yn codi, gallent ddefnyddio eu profiad a’u medrau i adnabod a datrys unrhyw broblem bron. Maent wedi eu hyfforddi mewn gweithio ar lwyfan gwaith uchel symudol ac mewn sgiliau cadair achub ac maen nhw wedi hyfforddi i fod yn Swyddogion Tân, Swyddogion Cymorth Cyntaf a Swyddogion Ymateb.

    ‘Mae angen llawer o waith cynnal a chadw i fyw’r bywyd da’ 

  • PMW - Tywyllwch

    Mae ein tîm cadw tŷ ar y rhestr fer ar gyfer gwobr y tîm gweithredol gorau, y pleidleisir amdani gan fyfyrwyr ac, mewn arolygon diweddar, gofynnwyd i breswylwyr sgorio’r gwasanaeth y mae ein staff cadw tŷ yn ei ddarparu (gyda 5 yn golygu bodlon iawn) a sgoriodd y tîm 4.7.

    “Hapusrwydd yw tŷ newydd ei lanhau’n ffres” 

  • PMW - Diogelwch

    Mae ein tîm diogelwch gwych yn darparu diogelwch, gofal a chymorth i’n preswylwyr bob awr o’r nos a’r dydd.

    Maen nhw wedi eu hyfforddi mewn sgiliau cadair achub ac i fod yn Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Swyddogion Tân, Swyddogion Cymorth Cyntaf a Swyddogion Ymateb.

    'Proses nid cynnyrch yw diogelwch’