Students on a sofa in Wrexham village

Canllaw i Breswylwyr Pentref Myfyrwyr Wrecsam

CROESO 

Annwyl Breswylydd

Ar ran y tîm Preswylwyr a Bywyd Campws, hoffwn estyn croeso cynnes i chi i lety myfyrwyr Prifysgol Wrecsam.  Gobeithio y byddwch yn mwynhau eich amser yn aros gyda ni ac y cewch flwyddyn academaidd lwyddiannus a hwyliog iawn.

Mae’r dudalen hon yn rhoi ychydig o wybodaeth gyffredinol a allai fod o ddefnydd i chi, ynghyd â chodau ymddygiad cyffredinol am y ffordd y dylai preswylwyr ymddwyn pan maen nhw’n aros yn llety Prifysgol Wrecsam.  Cofiwch ddarllen y wybodaeth hon, mae’n bwysig eich bod yn cydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r Brifysgol.

Bydd tîm Undeb Myfyrwyr Wrecsam o amgylch Campws Wrecsam i gynnig cymorth a chyngor i fyfyrwyr a gwybodaeth am amrywiol weithgareddau cymdeithasol.  Bydd hwn yn gyfle gwych i chi gwrdd â ffrindiau newydd a chymdeithasu.  Mae tîm Undeb y Myfyrwyr yn adeilad rhif 5 ar FAP Y CAMPWS

Tra byddwch yn aros, os byddwch angen rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â’ch Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws ar accommodation@wrexham.ac.uk   

Dymunaf bob llwyddiant i chi gyda’ch astudiaethau.

Yn gywir iawn

Glyn Smith – Rheolwr Preswylwyr a Bywyd Campws

Content Accordions

  • CYN I CHI GYRRAEDD
      1. Archebwch eich slot amser cyrraedd – Byddwch yn derbyn ffurflen gyrraedd mewn e-bost bythefnos cyn eich dyddiad cyrraedd. Os na fyddwch wedi derbyn hon, cysylltwch drwy anfon e-bost i accommodation@glyndwr.ac.uk
      2. Trefnwch gyllideb – CYNLLUNTDD CYLLIDEB neu cysylltwch â’n Tîm Cyllid a Chyngor Ariannol – funding@glyndwr.ac.uk
      3. Llenwch ein CEFNOGAETH GWAGAU ar gyfer Pentref Myfyrwyr Wrecsam
      4. COFRESTRU
      5. Trefnwch yswiriant am ddim – Mae’n hawdd meddwl bod gwerth eich eiddo yn is nag ydyw, a dydyn ni ddim yn sôn am eich gliniadur a’ch ffôn. Os byddwch yn adio at ei gilydd werth eich dillad i gyd, eich sychwr gwallt ac offer eraill fel watsiau a Fitbits, gall y gwerth fod yn uchel. CAEL GORCHWYL 
      6. Trefnwch eich CYFRIF BANC MYFYRWYR
      7. Ymunwch â’n cymuned – Chwiliwch am y ddolen yn eich gwybodaeth am gyrraedd, a bydd ein cod QR yn eich lolfa pan gyrhaeddwch
      8. Trefnwch gael eich imiwneiddiadau i gyd
      9. Cofrestrwch gyda meddyg teulu yn Wrecsam
      10. Trefnwch gael unrhyw feddyginiaeth yr ydych ei hangen
      11. Mae cyflwyniad i ymgynefino â phentref myfyrwyr Wrecsam ar gael yn awr ar-lein – PORTH LLETY
      12. Archebwch unrhyw becynnau gwely/cegin yn barod erbyn i chi gyrraedd
      13. PECYN GWELY  / PECYN TYWEL / PECYN CEGIN
  • PARCIO

    I wneud cais i barcio am ddim gyda ni – cofrestrwch eich cerbyd GWNEWCH GAIS AM BARCIO AM DDIM

    Mae gennym ddau faes parcio ar y naill ochr a’r llall i lety Pentref Myfyrwyr Wrecsam.

      • Maes parcio gollwng yn unig – rhwng y llety a’r stadiwm
      • Prif faes parcio ar ochr arall y llety

    Gweler Map Campws WGU. Pentref Myfyrwyr Wrecsam yw rhif 12 ac mae gennym ddau faes parcio, man gollwng a phrif faes parcio sy'n darparu digon o leoedd.

    Byddwch yn ystyriol wrth barcio eich cerbyd a pharciwch yn y mannau sydd wedi eu neilltuo’n arbennig. Peidiwch â pharcio mewn mannau eraill, yn cynnwys:

      • Mannau bathodyn glas (os nad ydych yn dangos bathodyn glas)
      • Mannau sydd â llinellau cris-groes melyn
      • Mannau lle mae glaswellt

    Nid yw Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddifrod, damwain neu golled ac rydych yn defnyddio’r meysydd parcio ar eich menter eich hun.

  • BEICIAU/BEICIAU MODUR

    Mae gan Bentref Wrecsam rac storio beiciau diogel y tu allan i adeilad John Neal.

    Nodwch y dylech gloi eich beic yn ddiogel pan fyddwch yn ei adael. Nid yw Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu ddifrod.

    Ni chaniateir beiciau a beiciau modur y tu mewn i’r blociau llety, bydd unrhyw rai a ganfyddir yno’n torri Amodau a Thelerau eich Preswyliad. Caniateir cerbydau anabledd modur mewn rhai neuaddau penodol ond cofiwch ofyn i’r Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws ynglŷn â gwefru’r cerbyd. Dangoswch barch i’r offer hyn a’r bobl sy’n eu defnyddio nhw.

  • CYRRAEDD

    Cyrraedd ar y penwythnosau cyrraedd – Llenwch y ffurflen slot amser cyrraedd y byddwch wedi ei derbyn mewn e-bost. Mae’n gweithio ar sail y cyntaf i’r felin.

    Bydd y rhai sy’n cyrraedd yn gallu dadlwytho yn y mannau parcio sydd yn union gyferbyn i Bentref Myfyrwyr Wrecsam. Mae pob slot yn 30 munud ac wedi hynny gofynnir i’r preswylwyr symud eu cerbydau i’r maes parcio mwy i roi lle i eraill ddadlwytho.

    Ewch i ddweud wrth swyddfa’r llety eich bod wedi cyrraedd (i’r dde wrth i chi fynd i mewn i Bentref Myfyrwyr Wrecsam, mae arwyddion yn dangos y ffordd at y swyddfa. Mae rhwng blociau A a B John Neal).

    Gwnewch yn siŵr bod gennych eich e-bost wrth law i’w ddangos i dîm y llety a byddwn yn rhoi eich allwedd i chi.

    CADWCH AT EICH SLOTIAU – OS BYDDWCH YN CYRRAEDD YN FUAN NEU’N HWYR EFALLAI Y BYDD YN RHAID I CHI AROS.

    Cyrraedd ar adeg arall ac nid ar y penwythnos cyrraedd

    Bydd allweddi ar gael o – Swyddfa’r Llety 01978293344 Ar y dde wrth i chi fynd i mewn i Bentref Myfyrwyr Wrecsam, mae arwyddion i ddangos y ffordd at y swyddfa. Mae rhwng blociau A a B John Neal. Mae’n agored rhwng 09.00am a 16:00pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

    Os byddwch yn cyrraedd ar ôl 16.00pm neu ar y penwythnos, bydd ein tîm diogelwch ar ddyletswydd ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam a byddent yn hapus i roi eich allwedd i chi.

    Nodwch fod staff diogelwch ar gael 24 awr y dydd. Os nad oes staff diogelwch yn y swyddfa pan gyrhaeddwch, ffoniwch y rhif a ganlyn a byddent yn dod i gwrdd â chi: Diogelwch - 07764687909 neu 07764687910 

    Gwnewch yn siŵr bod gennych eich e-bost wrth law i’w ddangos i dîm y llety a byddwn yn rhoi eich allwedd i chi.

  • ALLWEDDI YSTAFELLOEDD

    Byddwch wedi codi’r allwedd i’ch ystafell wrth gyrraedd. Rydych yn gwbl gyfrifol am gerdyn allwedd eich ystafell, PEIDIWCH â rhoi allwedd eich ystafell i unrhyw un arall.

    Cofiwch fod drws pob ystafell wely yn eu cloi eu hunain felly cadwch allwedd eich ystafell gyda chi fel na chewch eich cloi allan.  

    Mae’n costio £2.00 i gael cerdyn allwedd arall a gallwch godi un o swyddfa’r llety, gallwch dalu 

    Mae’n costio £2.00 i gael cerdyn allwedd arall a gallwch godi un o swyddfa’r llety, gallwch dalu AR-LEIN

  • RHESTR EIDDO

    Mae gwneud rhestr eiddo yn eich DIOGELU CHI, y preswylwyr, rhag gorfod talu am unrhyw ddifrod sy’n bodoli’n barod yn eich ystafell. 

    Mae hefyd yn gyfle i chi dynnu sylw at unrhyw bethau sydd angen sylw er mwyn i ni drefnu i rywun ddod i wneud gwaith cynnal a chadw.  

    Byddwn yn anfon dolen atoch mewn e-bost i agor ein ffurflenni Rhestr Eiddo ar-lein.  

    Wrth dderbyn eich cynnig o ystafell yma ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam, rydych wedi cytuno i:

      • Gadw tu mewn y llety mewn cyflwr glân a thaclus
      • Cymryd y sbwriel a’r deunydd ailgylchu oddi yno’n rheolaidd
      • Cymryd gofal rhesymol o’r holl ddodrefn ac offer a ddarparwn ni ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam
      • Peidio gadael unrhyw eiddo personol neu rwystrau eraill yn y Mannau Comunol
      • Peidio defnyddio posteri, bachau nac eitemau eraill sydd ag unrhyw fath o ddull gludo neu ddal arnynt a allai achosi difrod i waliau, ffabrig neu ddrysau.
      • Rhoi gwybod am unrhyw broblemau cynnal a chadw cyn gynted ag y dônt i’r amlwg

    Dim ond rhestr eiddo ystafell wely y bydd angen i chi ei chwblhau a bydd rhaid i’ch fflat gyflwyno rhestr eiddo ar gyfer eich lolfa.

    Dylai’r rhestr eiddo ar gyfer y lolfa gael ei chwblhau gan y preswylydd sy’n byw yn yr ystafell sydd â’r rhif isaf yn y fflat.

    Mae angen cyflwyno’r ddwy restr eiddo o fewn pythefnos ar ôl cyrraedd.  

  • EITEMAU YR YDYM YN EU GWAHARDD

    Mae’n ddrwg gennym, ond nid ydym yn caniatáu’r canlynol yn eich ystafell wely:

      • Gwresogydd
      • Tegell
      • Popty reis
      • Tostiwr
      • Offer golchi/sychu
      • Er diogelwch, nid ydym yn caniatáu i chi ddefnyddio ceblau estyn gyda nifer o socedi
      • Hefyd, nid oes caniatâd i anifeiliaid anwes yn y neuaddau preswyl

    Mae caniatâd i chi gael eich teledu eich hun yn eich ystafell, ond edrychwch i weld a oes angen i chi gael trwydded i wneud hynny. Mae’r Brifysgol yn talu am y drwydded deledu ar gyfer y teledu yn y gegin gomunol.

    Mae’r eitemau a ganlyn wedi eu gwahardd drwy’r llety i gyd:

      • Canhwyllau
      • Llosgwyr arogldarth
      • Goleuadau coed Nadolig
      • Padell sglodion
      • Ffrïwr saim dwfn
      • Barbeciw
      • Tân gwyllt
  • Y RHYNGRWYD

    Mae WIFI ar gael, ac mae pwyntiau cysylltu â’r rhyngrwyd ym mhob ystafell. Byddwch yn derbyn cebl rhyngrwyd pan fyddwch yn cyrraedd, ac rydym yn argymell eich bod yn defnyddio hwn er mwyn cael y gwasanaeth gorau.

    Cysylltiad WIFI 

      • Cysylltwch at rwydwaith Wifi ‘ASK4 Wireless’
      • Ewch i signup.ask4.com
      • Dilynwch y broses gofrestru

    Cysylltiad â Gwifren

      • Cysylltwch y cebl Ethernet o’r cyfrifiadur i’r soced yn y wal 
      • Ewch i signup.ask4.com
      • Dilynwch y broses gofrestru

    Rhowch wybod os oes problem:

    Cysylltwch ag ASK4 yn uniongyrchol - Support.ask4.com  

    Ni all y staff Diogelwch a staff y Dderbynfa/Swyddfa’r Preswylwyr a Bywyd Campws helpu gydag unrhyw broblemau technoleg gwybodaeth.

    CYFLYMDER

    Cyflymder gyda Gwifren: Lawrlwytho hyd at 250Mb/s.

    Cyflymder 4Wireless: Lawrlwytho enwol o hyd at 250Mb/s.

    MANYLION

    Bydd 4Wireless wedi ei ddarparu dros y bandiau diwifr 2.4 a 5GHz, gan alluogi dyfeisiau diwifr cyfatebol 802.11ax (Wi-Fi 6)

    Nifer y Dyfeisiau sydd â Hawl: Dim cyfyngiad.

  • CYNNAL A CHADW

    Pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem cynnal a chadw yn eich fflat neu ystafell wely, rydych yn rhoi eich caniatâd i’r staff cynnal a chadw gael mynediad at y broblem. Does dim rhaid i chi fod yn bresennol.

    RHODDWCH FATER CYNNAL A CHADW YMA

    Cofiwch na fydd unrhyw broblem a gofnodir y tu allan i oriau’r swyddfa’n cael ei gweld tan y diwrnod dilynol.

    Bydd gwaith blaenoriaeth uchel yn cael ei weld o fewn 24 awr.

    Bydd gwaith blaenoriaeth isel a chanolig yn cael ei weld o fewn 10 diwrnod gwaith.

    Os byddwch eisiau rhoi gwybod am waith blaenoriaeth uchel y tu allan i oriau’r swyddfa, ffoniwch y staff diogelwch  - 07764 687910 neu 07764 687909

  • GLANHAU

    Nodwch mai chi sy’n gyfrifol am gadw eich ystafell ac ardal y gegin yn lân a thaclus. (Mae rota yn y gegin i helpu gyda hyn ym Mhentref Wrecsam).

    Mae hwfer ym mhob un o’n fflatiau i chi ei ddefnyddio, newidiwch y bagiau’n rheolaidd os gwelwch yn dda.  Os byddwch yn gweld nam ar unrhyw gyfarpar, rhowch wybod.

    Mae tîm o lanhawyr yn cadw’r mannau comunol yn lân (y cyntedd, grisiau, coridorau, ac ati) o fewn y blociau llety.

  • DIOGELWCH

    Mae’r staff Diogelwch yn darparu Cymorth 24/7 ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam - 07764687909 / 07764687910 

    PRYD I GYSYLLTU Â’R STAFF DIOGELWCH

      • I gael cymorth tu allan i oriau’r swyddfa ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam
      • I roi gwybod am ddigwyddiad/eitemau amheus, neu unrhyw weithred droseddol, anfoesol neu anghyfreithlon, yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i, werthu, darparu neu ddefnyddio sylweddau anghyfreithlon, storio neu drin nwyddau a ladratwyd neu buteindra. Os canfyddir bod gan fyfyriwr sylweddau anghyfreithlon, bydd yn wynebu’r drefn ddisgyblu a bydd gofyn iddo/iddi adael y llety
      • Os na fyddwch yn teimlo’n ddiogel ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam
      • I gwyno am sŵn yn ystod yr oriau tawel 23.00 / 08.00

    GAIR DIOGEL

    Mae’r brifysgol wedi cyflwyno ‘gair diogel’ i’r myfyrwyr ei ddweud wrth staff diogelwch y brifysgol os byddent mewn sefyllfa annifyr neu beryglus. Mae hyn yn eu galluogi i geisio cymorth ychwanegol gan y staff diogelwch heb roi gwybod i’r person sydd yn eu cwmni.

    Y gair diogel yw PEARL – pan ddywedwch y gair hwn bydd y tîm diogelwch yn sylweddoli bod angen cymorth arnoch chi.

    DIOGELWCH PERSONOL
    Rhowch wybod i staff y llety os ydych yn gadael y llety am fwy nag wythnos er mwyn osgoi unrhyw bryder diangen.

    Hefyd ystyriwch hyn;

      • Peidiwch â gadael i unrhyw un eich dilyn i mewn i’r adeiladau.
      • Rhowch wybod i staff tîm y llety neu’r staff diogelwch os bydd nam ar y drysau.
      • Gwnewch yn siŵr bod eich drws wedi cau’n iawn wrth fynd i mewn ac allan o’ch ystafell wely.
      • Ceisiwch osgoi cerdded adref ar eich pen eich hun.
      • Cadwch eich ffôn symudol gyda chi bob amser rhag ofn y bydd argyfwng.
      • Ffoniwch dacsi os nad ydych yn teimlo’n ddiogel. Defnyddiwch dacsis trwyddedig yn unig ac, os ydych ar eich pen eich hun, y lle mwyaf diogel i eistedd yw tu ôl i’r gyrrwr.
      • Os byddwch yn cario eich gliniadur, rhowch ef mewn bag gwahanol oherwydd bydd cas gliniadur yn tynnu sylw ato.
      • Defnyddiwch ffyrdd prysur wedi eu goleuo’n dda. Defnyddiwch y palmant!
      • Cerddwch ar yr un ochr â’r cerbydau sy’n dod tuag atoch fel eich bod yn gallu eu gweld nhw ac fel eu bod nhw’n gallu eich gweld chi.
      • Peidiwch â chymryd y ffordd fyrraf er mwyn cyrraedd yn gyflymach os ydych yn torri drwy fannau tawel ac unig, mannau rydych yn ansicr ohonynt, neu rywle lle nad ydych yn gallu gweld/symud cystal e.e. drwy goedwig/llwybrau cefn.
      • Gwnewch yn siŵr bod gennych eich cerdyn allwedd yn barod pan gyrhaeddwch eich drws ffrynt.
      • Pan fyddwch mewn bariau a chlybiau, cadwch eich diod gyda chi bob amser fel nad oes cyfle i rywun arall roi rhywbeth ynddo.
      • Osgowch gangiau o bobl nad ydych yn eu nabod.

    CCTV PENTREF MYFYRWYR WRECSAM

    Mae teledu cylch cyfyng (CCTV) ar waith yn y Llety ac mewn rhai ardaloedd o gampws y brifysgol.

    Mae pob aelod o’r staff diogelwch sydd ar batrôl yn gwisgo camerâu ar eu cyrff ac yn recordio data clywedol a gweledol.

    Os bydd sefyllfa annhebygol yn codi lle’r ydych yn dioddef neu’n gweld trosedd ar safle’r brifysgol, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am hyn i’r tîm diogelwch.

    O dan reoliadau GDPR nid oes caniatâd i chi gael systemau CCTV domestig neu breifat o fewn y llety.

  • CAMYMDDYGIAD RHYWIOL A THRAIS

    Nod y Brifysgol yw darparu amgylchedd diogel a chefnogol i fyfyrwyr astudio a rhyngweithio â myfyrwyr eraill, staff ac ymwelwyr, a lle gall staff weithio heb unrhyw gamymddwyn a thrais rhywiol. Mae camymddwyn a thrais rhywiol yn cyfeirio at sbectrwm eang o ymddygiadau na ellir eu gwahanu oddi wrth fathau eraill o drais ar sail rhywedd gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, drais partner agos neu gam-drin domestig, ymddygiad gorfodol a/neu reoli, a stelcian.

    Beth yw Camymddwyn Rhywiol:
    Diffinnir Camymddwyn a Thrais Rhywiol fel unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso a ddigwyddodd yn bersonol neu drwy lythyr, ffôn, neges destun, e-bost neu gyfryngau electronig a/neu gymdeithasol eraill.
    Diffinnir cam-drin domestig ac ymddygiad gorfodol neu reoli fel unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad sy’n rheoli, yn gorfodi, yn bygwth, yn drais neu’n cam-drin rhwng y rhai sy’n, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu waeth beth fo’u rhyw neu rywioldeb.

    Beth yw caniatâd:
    Cydsyniad yw’r cytundeb trwy ddewis lle mae gan yr unigolyn y rhyddid a’r gallu i wneud y dewis hwnnw. Ni ellir rhagdybio cydsyniad ar sail profiad rhywiol blaenorol neu ganiatâd a roddwyd yn flaenorol, neu o absenoldeb cwyn, ac mae pob gweithred rywiol newydd yn gofyn am ailgadarnhad o gydsyniad fel sylfaen perthynas rywiol iach a pharchus.

    Beth i'w wneud mewn argyfwng
    Ar y Campws
    Os ydych ar y campws, mae angen cysylltu â’r gwasanaethau brys drwy’r tîm Diogelwch, a fydd yn eu harwain i’r lleoliad cywir:
    Ffoniwch Ddiogelwch ar 07764687909 neu 07640687910. Gall swyddogion diogelwch ffonio'r aelod o staff y Brifysgol sydd ar alwad, a gallant gysylltu â'r gwasanaethau brys os oes angen.
    Rhowch wybod i'r Tîm Diogelwch cyn gynted â phosibl bob amser os ydych wedi ffonio 999 o'r Brifysgol fel y gallant helpu. Oddi ar y Campws
    Ffoniwch 999 i gael mynediad at y gwasanaethau brys

    Beth i'w wneud mewn achos nad yw'n argyfwng
    Lle nad oes bygythiad uniongyrchol bellach i ddiogelwch unigolyn neu ar ôl i unrhyw ymateb brys angenrheidiol ddigwydd, gall unigolyn ddewis cael cymorth meddygol, ymweld â chanolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol neu ymweld â chlinig iechyd rhywiol ar ôl y digwyddiad.
    Efallai y bydd unigolyn hefyd yn dymuno gwneud adroddiad i’r heddlu, ac os yw’n gwneud hyn, rhaid iddo hysbysu’r Brifysgol os yw hefyd yn ffeilio adroddiad o dan y weithdrefn hon, fel y gall ymchwiliad gan yr heddlu gael blaenoriaeth.

    Datgeliad a/neu Adroddiad
    Mae Datgelu ac Adrodd yn gamau gweithredu ar wahân y gall y Parti sy’n Adrodd ddewis eu cymryd
    Yn dilyn Datgeliad, bydd y Parti Adrodd yn cael eu hopsiynau adrodd ynghyd â gwybodaeth am adnoddau ar gyfer cefnogaeth arbenigol. Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gallai fod angen amser a myfyrio ar y Parti sy'n Adrodd cyn gwneud penderfyniad. Bydd y Parti Adrodd yn cael yr opsiwn a chefnogaeth i wneud un neu fwy o’r canlynol:
    • adrodd i'r Heddlu;
    • adrodd i'r Brifysgol o dan Bolisi Camymddwyn a Thrais Rhywiol y Brifysgol;
    • peidio â rhoi gwybod am y digwyddiad; a/neu
    • derbyn cyngor ar y cymorth sydd ar gael.

    I gael rhagor o wybodaeth gweler y Polisi Camymddwyn a Thrais Rhywiol

  • POST A PHARSELI

    Dylai eich cyfeiriad post gynnwys y manylion canlynol i sicrhau bod eich post yn cyrraedd yn iawn: -

    *Eich Enw*

    Prifysgol Wrecsam

    Pentref Myfyrwyr Wrecsam

    *Eich Bloc*

    *Rhif eich Ystafell*                                            

    Ffordd yr Wyddgrug                                          

    Wrecsam                                               

    LL11 2AW 

    Bydd parseli a phecynnau i breswylwyr Pentref Myfyrwyr Wrecsam yn cael eu danfon i Ystafell y Post gerllaw’r Brif Dderbynfa yn y Brifysgol (gwelwch isod i gael map, neu what 3 words i gael y lleoliad), byddwch angen gofyn am eich llythyrau/parseli a dangos ID i brofi pwy ydych.

    Cysylltwch â reception@wrexham.ac.uk neu 01978290666 i weld a oes gennych bost/parseli

    Gellir casglu post yn ystod yr amseroedd a ganlyn:

    10:00 – 12:00 // 14:00 – 15:00 – Dydd Llun i Ddydd Gwener

    LLEOLIAD YSTAFELL Y POST

    MAP CAMPWS – Pentref Myfyrwyr Wrecsam yw rhif 12 a rhif 1 yw derbynfa’r prif gampws.

    What3words - ///list.just.early

  • FIDEOS A LLAWLYFRAU HOW 2
  • MAPIAU A THEITHIO

    MAPIAU

    MAP CAMPWS

    MAP TREF WRECSAM

    TRÊN

    • Mae gan Wrecsam ddwy orsaf drenau – gallwch gerdded i orsaf Wrecsam Cyffredinol mewn 5 munud o Bentref Myfyrwyr Wrecsam.  
    • Os oes gennych unrhyw ymholiadau am drenau, cysylltwch â: -  Transport for Wales - Wrexham General

    BWS

    • Mae’r orsaf fysiau ar Stryd y Brenin
    • I gael manylion, ffoniwch 01978 292000  
    • Bysiau coets – mae National Express yn gweithredu o Stryd y Brenin hefyd.  
    • Ffôn: 0871 781 8181  

    TACSI

    • Tacsis a Bws Tacsi Wrexham & Prestige 01978 357777  
    • Apollo Taxis – 01978 262626  
    • Station Cars 01978 363661 
    • Wrexham Taxis (24 awr) 01978 291999
  • CYMUNED PENTREF MYFYRWYR WRECSAM

    GWERTHOEDD PENTREF MYFYRWYR WRECSAM

    DERBYNIAD – Ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam rydym yn derbyn pobl fel y maen nhw, hyd yn oed pan maen nhw’n wahanol i ni, neu os nad ydym yn cytuno â nhw. Mae parchu pobl yn eich perthynas â nhw’n creu teimlad o ymddiriedaeth, diogelwch a lles.

    CAREDIGRWYDD – Gall fod mor syml â gwenu ar gyd-fyfyriwr, curo ar ddrws rhywun, neu fwyta cinio gyda rhywun. Y pethau bach a wnawn ni sy’n cadw’r cysylltiadau cryf o fewn ein cymuned. 

    YSTYRIAETH A CHANIATÂD – Byddwch yn ymwybodol o’ch effaith ar bobl eraill, byddwch yn ofalus i beidio achosi anghyfleuster neu niwed i bobl eraill. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o fwlio a byddwn yn herio unrhyw ymddygiad fel hyn.

    Mae hyn yn cynnwys camddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a grwpiau sgwrsio. Mae’n drosedd i rannu deunyddiau preifat, naill ai ffotograffau neu fideos, o berson arall, heb eu cydsyniad a gyda’r bwriad o achosi cywilydd neu ofid.

    Ein gobaith yw y bydd dod yn rhan o’n cymuned ac ystyried Pentref Myfyrwyr Wrecsam yn gartref i chi yn eich helpu i ymdrechu am fwy a chanolbwyntio ar y canlyniadau rydych yn gobeithio amdanynt. Gobeithio y bydd Pentref Myfyrwyr Wrecsam yn creu teimlad o berthyn, derbyniad a dealltwriaeth ac yn dod yn ysbrydoliaeth i chi, gan greu atgofion a phrofiadau bywyd tra byddwch chi gyda ni.

    GRWPIAU

    Mae gennym grŵp Facebook Cymuned Pentref Myfyrwyr Wrecsam a byddwch wedi derbyn dolen i’r grŵp preifat yma gyda’ch gwybodaeth am gyrraedd. Bwriad hwn yw rhoi cyfle i chi i ddod i nabod eich gilydd cyn i chi gyrraedd, aros mewn cysylltiad tra byddwch yma, cymryd rhan mewn gweithgareddau/digwyddiadau tra byddwch yn aros gyda ni, ac mae’n ffordd i ni gyfathrebu gwybodaeth i’n gilydd drwy gydol y flwyddyn.

    CYSYLLTIADAU

    Glyn's bar (Undeb y Myfyrwyr) 

    WgSU CYMDEITHASAU
    Umii -
    Download Umii for iPhone 
    Download Umii for Android  

    TalkCampus – Bydd eich cyfeiriad e-bost myfyriwr yn rhoi mynediad am ddim i chi – y cwbl sydd angen ei wneud yw lawrlwytho TalkCampus o’r storfa apiau neu defnyddiwch y ddolen a ganlyn

    Gall y myfyrwyr hefyd ddefnyddio Llinell Gymorth Glinigol TalkCampus i gael cymorth cwbl gyfrinachol gyda’u hiechyd meddwl unrhyw amser o’r dydd neu’r nos. Download TalkCampus drwy’r storfa apiau.

  • AWGRYMIADAU AM BENTREF MYFYRWYR WRECSAM

    BYW GYDA PHOBL ERAILL – DOD I NABOD EICH GILYDD 

    Efallai eich bod oll wedi byw gyda’ch gilydd yn barod neu efallai nad ydych erioed wedi cwrdd o’r blaen. Waeth beth yw’r sefyllfa, bydd dod i nabod eich gilydd yn helpu’n fawr os ydych am fyw gyda’ch gilydd. 

    • Dechreuwch ddod i nabod eich gilydd, mae gemau torri’r ias yn dda i wneud hyn.
    • Dewch o hyd i ddiddordeb sy’n gyffredin rhyngoch, siaradwch amdano gyda’ch gilydd! Dysgwch beth maen nhw’n hoffi ei wneud yn eu hamser rhydd ac awgrymwch ddiwrnod/noson allan yn gwneud y gweithgaredd hwnnw a gwnewch hyn gyda phawb arall yn y tŷ.
    • Gwnewch bethau gyda’ch gilydd – ewch i’r dafarn fel grŵp i gael pryd o fwyd a diod, neu gallech gael noson i mewn a choginio pryd i’ch fflat neu archebu bwyd tecawê. 

    Does dim rhaid i chi fod yn ffrindiau gorau, oherwydd weithiau dydy rhai pobl ddim y bobl iawn i chi, ond bydd ffurfio rhyw fath o berthynas yn gwneud eich bywyd o ddydd i ddydd cymaint yn haws.  

    RHANNU OERGELL

    • Penderfynwch a ydych am rannu’r bwydydd sylfaenol neu brynu eich bwydydd sylfaenol eich hun
    • Gwnewch yn siŵr bod gan bawb yr un maint o le â phawb arall
    • Defnyddiwch y drws fel lle comunol i bawb
    • Os ydych eisiau i bobl beidio cyffwrdd â rhai pethau penodol, dywedwch hynny.
    • Taflwch unrhyw fwyd sy’n hen neu sydd wedi dod i ben ar unwaith
    • Os byddwch yn gwneud llanast, ewch ati i’w lanhau
    • Siaradwch â’ch gilydd

    YMDRIN Â GWRTHDARO

    Peidiwch ag anwybyddu gwrthdaro – er ei fod yn demtasiwn i gadw eich teimladau i mewn, fel dicter a rhwystredigaeth, er mwyn peidio achosi dadl, mae tueddiadau fel hyn i osgoi dadlau’n gallu cael effaith ar eich iechyd meddwl.

    Os byddwch yn gadael dadleuon heb eu datrys, gall arwain at achosi rhwystredigaeth a theimladau cryfach o unigrwydd i chi sy’n gallu adeiladu dros amser.

    Mae’n bwysig cyfathrebu er mwyn ymdrin â gwrthdaro – Gofynnwch i’r unigolyn/unigolion sy’n rhan o’r sefyllfa a gewch chi gael cyfarfod ac esboniwch yn glir beth rydych yn bwriadu ei gyfleu i’r unigolyn arall / unigolion eraill.

    Yn ystod y cyfarfod, cofiwch yr awgrymiadau hyn:

    • Peidiwch â cholli’ch tymer
    • Eglurwch beth yw’r broblem
    • Gwrandewch
    • Peidiwch â beio neu gyhuddo eich gilydd.
    • Canolbwyntiwch ar y broblem sydd dan sylw, nid y ffordd rydych yn teimlo tuag at eich gilydd.  
    • Archwiliwch broblemau sydd o dan yr wyneb
    • Derbyniwch fod safbwynt y person arall yn wahanol, ond nid yn anghywir.

    AWGRYMIADAU GAN Y MYFYRWYR

    • Os ydych yn teimlo’n swil, rhowch nodyn ar eich drws i’ch cyflwyno eich hun gan ofyn iddynt guro’r drws os gwelwch yn dda.
    • Osgowch fynd i berthynas ramantus gyda phobl yn eich fflat.
    • Arbedwch arian drwy goginio gyda’ch gilydd.
    • Dydy swyddfa’r llety ddim yn cymryd parseli felly, ar y cyfarwyddiadau danfon, rhowch eich rhif ffôn iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu cysylltu â chi pan maen nhw’n cyrraedd.
    • Os gallwch, gwnewch eich golchi gyda’r nos. Rydych bron yn sicr o gael peiriant.
    • Cadwch lygad am gystadlaethau i breswylwyr Pentref Myfyrwyr Wrecsam, gallwch ennill gwobrau da.
    • Os yw clo eich drws yn fflachio’n goch cyn cloi/datgloi, cysylltwch â’r staff cynnal a chadw, mae angen iddynt newid y batri dyna’r cwbl.
    • Ar ddiwrnodau gemau pêl-droed, mae’r stadiwm yn hurio stiwardiaid i reoli’r maes parcio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd eich ID/allwedd eich ystafell gyda chi wrth adael, er mwyn profi eich bod yn breswylydd ac i beidio gorfod talu am barcio. 
  • ORIAU TAWEL

    Cadwch y sŵn ar lefel nad yw’n amharu ar gysur preswylwyr eraill neu’n torri ar draws eu cwsg neu eu gallu i astudio. Yn enwedig rhwng 23.00pm a 08.00am bob dydd.

  • Y GOLCHDY

    Y golchdy – Byddwch wedi derbyn cerdyn golchdy gyda’ch cerdyn allwedd pan gyrhaeddoch. Mae cyfarwyddiadau llawn ynglŷn â sut i’w ddefnyddio ar gefn y cerdyn.

    Mae’r adeilad golchi dillad yn y maes parcio, yn wynebu’r ddau floc llety; mae’n agored 7 diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd.

    I fynd i mewn i’r golchdy, dilynwch y cyfarwyddiadau: Defnyddiwch y cod sydd yn eich llawlyfr preswylwyr a’i roi i mewn i’r bysellfwrdd a throi’r ddolen yn wrthglocwedd.

    Rhoi credyd ar eich cerdyn golchdy:

      1. Ewch ar-lein circuit.co.uk
      2. Prynwch eich cod unigryw i roi credyd
      3. Cymerwch eich cerdyn golchdy a’r cod rhoi credyd i’r peiriant rhoi credyd (sydd yn

    Rhaid i chi ddod â’ch powdwr golchi eich hun

    Circuit Managed Laundry Systems, a neb arall, sy’n gyfrifol am y cyfleusterau golchi ac sy’n eu gweithredu. Os byddwch yn gweld bod nam ar un o’r peiriannau, rhowch wybod drwy ffonio’r rhif ffôn ar y posteri yn y golchdy: -

    Rhoi gwybod am nam ar beiriant a/neu gael ad-daliad –

    Circuit Laundry - 0800 092 4068.

  • CYFLEUSTERAU’R CAMPWS

    ARLWYO

    United Kitchen sydd yn y prif adeilad. 

    Mae ein prif le bwyta’n cynnig popeth o ffyn bara, brechdanau a saladau i pasta a pizzas a phrydau brecwast – o fyrbrydau i brif brydau cyflawn. Rydym yn cynnal amrywiaeth o ddiwrnodau thema drwy gydol y flwyddyn ynghyd ag amrywiol hyrwyddiadau a chynigion “Bargen-brydau”.

    Amseroedd Gweini Dyddiol (Yn ystod y tymor yn unig): Dydd Llun i Ddydd Gwener 09:00am i 13.30pm

    Café Bar 45 sydd wrth y dderbynfa yn y prif adeilad.

    Mae bar coffi brand Costa yng nghanol y campws, sy’n cynnig popeth o ddanteithion toes amser brecwast, myffins cartref a theisennau plât i ffyn bara, brechdanau wedi tostio neu paninis gyda llenwad hael, a cappuccino ewynnog.

    Amseroedd Agor (Yn ystod y tymor yn unig): Dydd Llun i Ddydd Iau 8.00am i 4.00pm a Dydd Gwener 8.00am i 3.00pm

    Bean Machine sydd yng Nghanolfan Edward Llwyd.

    Mae’r caffi Starbucks hwn yn cynnig amrywiaeth eang o ddiodydd poeth ac oer unigryw.  Brechdanau, paninis wedi tostio a byrbrydau a melysion “Codi a Chymryd”. Mae detholiad bach o hanfodion dyddiol fel pâst dannedd, plasteri, ac ati, ar gael hefyd.

    Amseroedd Agor (Yn ystod y tymor yn unig): Dydd Llun i Ddydd Iau 09.30am i 3.00pm

    Canolfan Chwaraeon WGU

    Mae ein sports centre ynghanol campws Wrecsam Prifysgol Wrecsam. Mae’n un o’r safleoedd chwaraeon gorau yng Ngogledd Cymru ac mae wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau chwaraeon mawr  https://www.glyndwr.ac.uk/en/Sport/Venues/Indoorfacilities/


    Mannau astudio

    Oes gormod o bethau i dynnu eich sylw yn eich ystafell?  Ewch i un o’r mannau astudio ar y campws.

    Mae llawr cyntaf y llyfrgell yn barth astudio ar gyfer gwaith grŵp tawel neu unigol.

    Mae ail lawr y llyfrgell yn barth tawel sy’n caniatáu astudio unigol heb fawr ddim i dorri ar eich traws.

    Mannau ail lenwi

    Rydym wedi darparu pwyntiau dŵr yfed am ddim ers blynyddoedd ond, i geisio hyrwyddo’r mannau hyn ac annog pobl i’w defnyddio nhw, rydym bellach yn rhan o’r cynllun refill ac mae ein mannau ail lenwi dŵr am ddim ar draws y campysau yn rhan o’r cynllun.

    Gardd gomunol

    what3words location: ///joined.enjoy.assume

    Yn agored 09.00 / 17.00 bob dydd

    Llyfrgell WGU

    What3words location: ///hands.galaxy.chief

    Dydd Llun i Ddydd Iau– 08:45 / 20.00

    Dydd Gwener – 08:45 / 17.00

    Dydd Sadwrn – 10:00 / 15.00

    Dydd Sul – Ar gau

    learningresources@wrexham.ac.uk

  • MANYLION AM YR ARDAL LEOL

    MEDDYGON TEULU LLEOL

    Strathmore – 28 Ffordd Caer - 01978 352055

    Plas y Bryn – Stryd y Capel - 01978 351308

    Canolfan Feddygol Hillcrest – 86 Ffordd Holt - 01978 788287

    Meddygfa Cilgant San Siôr - 01978 290708

    GWASANAETH DEINTYDDOL MEWN ARGYFWNG

    Bydd triniaeth argyfwng ar gael yng: - Nghanolfan Ddeintyddol Wrecsam, Grove Road, Wrexham, LL11 1DY

    I gael apwyntiad, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47

    Os ydych yn gwybod bod un o’ch ffrindiau yn y fflat yn sâl, rhowch wybod i’r dderbynfa/y Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws cyn gynted ag y gallwch a byddent hwy’n rhoi cyngor i chi ynglŷn â sut i gael cymorth.

    SIOPAU

    Mae gan Wrecsam nifer o barciau siopa ynghyd â stryd fawr sy’n llawn o’r manwerthwyr mwyaf. Mae Dôl yr Eryrod yn ganolfan newydd gyda siopau adran newydd ychwanegol. Mae marchnadoedd traddodiadol dan do ac awyr agored i’w cael hefyd, ynghyd â marchnadoedd Ffrengig sy’n ymweld â marchnadoedd ffermwyr rheolaidd.

    Dyma’r siopau agosaf at y prif gampws: -

    BWYD

    Fferyllfeydd

    Boots ar Barc Siopa Plas Coch

    Trydanol a Thechnoleg

    Cardiau ffôn

    Sainsbury’s ar Barc Siopa Plas Coch

    Cash point – ar Barc Siopa Plas Coch

    Bwytai

    Plas Coch Public House, Frankie and Benny’s a Sainsbury’s, oll ar Barc Siopa Plas Coch.

    Bariau

    Parciau

    Banciau

    Campfeydd

    Adloniant

    Mae Prifysgol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â Theatr Clwyd i gynnig amrywiaeth eang o adloniant yn Neuadd William Aston, o gyngherddau roc i ballet, ac o ddigrifwyr i gorau. https://williamastonwrexham.com/

    Cwmnïau storio –

    Store first Storage WREXHAM/ELLESMEREPORT

  • ADDEWID I’R CWSMER A CHYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH

    Mae Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn ymrwymo i ddarparu llety sydd o werth da am arian i’r myfyrwyr mewn amgylchedd glân, diogel a chyfeillgar, a darparu tîm o staff parod i helpu a hawdd mynd atynt sy’n cynnig gwasanaeth proffesiynol ac effeithlon bob amser.

    YMHOLIADAU CYFFREDINOL

    Y Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws sy’n ymdrin â’r holl ymholiadau am lety ac mae’r tîm hwn ym Mhentref Wrecsam i’w cael yn John Neal. Gallwch gysylltu â nhw hefyd drwy anfon e-bost i accommodation@glyndwr.ac.uk

    Pan fyddant yn ymdrin ag ymholiadau, bydd y tîm yn:

      1. Ymateb i bob ymholiad mewn ffordd gyfeillgar, gwrtais a phroffesiynol
      2. Rhoi ymateb cychwynnol i bob ymholiad o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

    Os na fyddwn yn cyflawni’r safonau hyn:

    Er bod trefnau mewnol i fonitro safon ein gwasanaeth, hoffem ofyn i chi gysylltu os nad yw eich profiad â’r Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws yn cyrraedd y safonau hyn. I wneud hynny, cysylltwch â’r Glyn Smith - Rheolwr Preswyl a Bywyd Campws - G.smith@glyndwr.ac.uk

    EIN GWARANT AM ANSAWDD DA

    Mae’r safon hwn yn ymwneud â’r ddarpariaeth gan y tîm Preswylwyr a Bywyd Campws i bob grŵp o gwsmeriaid sy’n defnyddio Llety Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

    Y Cytundeb Lefel Gwasanaeth

    1/ Bydd y staff yn barod i helpu cwsmeriaid gan ddangos parch a chwrteisi tuag atynt.

    2/ Bydd y staff yn cadw at ofynion y polisïau iechyd, diogelwch a glanweithdra ac yn sicrhau bod yr amgylchedd yn ddiogel a saff i’r cwsmeriaid i gyd.

    3/ Bydd y staff yn parchu preifatrwydd y preswylwyr (ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â’r Amodau Preswyliad).

    4/ Bydd y staff yn rhoi gwybod yn syth i’r Tîm Cynnal a Chadw am unrhyw ddiffygion neu atgyweiriadau. Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod oriau rhesymol er mwyn creu cyn lleied ag y bo modd o amhariad.

    5/ Bydd y staff i gyd yn gwisgo’r wisg briodol a bathodynnau enw fel bod cwsmeriaid yn gallu eu hadnabod yn hawdd.

    6/ Bydd manylion prisiau/tariffau ar gael os gofynnir.

    7/ Bydd tariffau’r ystafelloedd yn cael eu cymharu â thariffau prifysgolion eraill a chystadleuwyr lleol yn flynyddol er mwyn meincnodi’r gwerth am arian a gynigir.

    8/ Bydd y dodrefn, ffitiadau a gosodiadau i gyd yn cael eu prynu gan gwmnïau cyflenwi sydd ag enw da a byddent yn cydymffurfio â’r safonau BS.

    9/ Bydd y mannau comunol yn y llety’n cael eu cadw’n lân a thaclus a heb unrhyw beryglon.

    10/ Rhoddir gwybod i gwsmeriaid am unrhyw addasiadau i’r gwasanaeth drwy hysbysiad ysgrifenedig.

    11/ Gwneir arolygon llety i fesur boddhad y cwsmer a bydd y canlyniadau ar gael os gofynnir amdanynt.

    12/ Gwneir y gwaith gweinyddol am y llety o ddydd i ddydd i gyd mewn ffordd broffesiynol.

    I gyflawni ein hamcanion, gwneir yr asesiadau a ganlyn:

    AROLYGON

    Rydym yn gwneud 2 Arolwg sy’n rhoi’r cyfle i fyfyrwyr roi sylwadau am ein cyfleusterau a’n gwasanaeth er mwyn i ni allu datblygu, gwella a darparu ein cynhyrchion a’n gwasanaethau ar sail eu hadborth a’u disgwyliadau. Cynhelir yr arolwg cyntaf ym mis Tachwedd wedi i’r myfyrwyr ymgartrefu yn eu llety, a gwneir arolwg diwedd blwyddyn ym mis Mai i ganfod a yw unrhyw fesurau gwella a weithredwyd wedi gwella’r gwasanaeth.

  • CODAU YMDDYGIAD PENTREF MYFYRWYR WRECSAM

    BLANCEDI TÂN

    Rydym yn darparu, monitro a gofalu am flancedi tân yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol.  Rydym yn gwirio’r offer bob wythnos ac yn ei roi drwy archwiliad allanol bob blwyddyn.  Mae’r label ar bob eitem yn dweud wrthych pryd y cafodd yr archwiliad allanol ei wneud ddiwethaf.

    SYNWYRYDDION MWG / SYNWYRYDDION GWRES

    Dylech ddod yn gyfarwydd â lle mae’r synwyryddion mwg (yng nghoridorau a mannau grisiau’r fflat) a synwyryddion gwres (yn eich ystafell ac yn y gegin). Mae’n drosedd y cewch eich cosbi amdani (ac yn drosedd anghyfreithlon) os ydych yn amharu’n fwriadol ar y synwyryddion, oherwydd gallai hyn achosi niwed difrifol i chi’ch hun ac i eraill.

    Mae’n RHAID cadw drysau’r gegin ar gau bob amser, hyd yn oed pan fyddwch yn coginio.

    Mae’r synwyryddion yn y cynteddau’n synwyryddion mwg a byddent yn cael eu sbarduno gan fwg. Felly, mae’n hanfodol nad yw drysau cegin yn cael eu cadw’n agored neu na roddir rhywbeth yn eu herbyn i’w dal yn agored. Mae’r synwyryddion yn y gegin yn sensitif i wres, felly ni fydd mwg yn achosi iddynt ganu.  Peidiwch â gadael pethau’n coginio heb i chi fod yno’n cadw golwg.

    DRYSAU TÂN / DRYSAU DIOGELWCH

    Rhaid cadw drysau tân ar gau drwy’r amser, ac mae’n drosedd rhoi rhywbeth yn eu herbyn/oddi tanynt i’w dal nhw’n agored am unrhyw reswm.  Mae drws eich ystafell wely’n ddrws tân hefyd.  Mae drysau diogelwch a drysau mynediad cyffredin yn ddrysau tân hefyd ac felly dylid eu cadw ar gau.

    Os byddwch yn gweld drws tân yn cael ei ddal yn agored, eich cyfrifoldeb chi yw cau’r drws hwn. Os byddwch yn gweld bod drws yn cael ei gadw’n agored yn gyson, rhowch wybod am hyn i’r Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws/ y Dderbynfa cyn gynted ag y gallwch

    PROFION PAT

    Gwelwch ein Health and Safety Policy Tudalen 30 i gael manylion. 

    GWEITHDREFN MYND ALLAN OS BYDD TÂN

    Rydym yn cynnal ymarferion tân o leiaf dair gwaith y flwyddyn ac mae sain y larymau tân yn cael eu profi bob wythnos.  Bydd angen i chi ddod yn gyfarwydd â’n gweithdrefnau mynd allan os bydd tân – mae copi ar y prif hysbysfwrdd yn eich bloc. Mae angen i chi wybod lle mae ein pwynt ymgynnull os bydd tân a chymryd rhan yn yr ymarferion.

    Disgwylir i chi gydymffurfio bob amser â’r gweithdrefnau mynd allan gan adael yr adeiladau pryd bynnag y bydd larwm tân yn seinio a mynd draw i’r man ymgynnull dynodedig. Peidiwch â chymryd yn ganiataol mai ymarfer ydyw: gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol.  Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r weithdrefn, bydd rhaid i chi dalu ffi.

    DIM YSMYGU – YN CYNNWYS DEFNYDDIO E-SIGARÉTS

    Mae’n bolisi gan Brifysgol Wrecsam hyrwyddo iechyd a lles ei myfyrwyr, staff, contractwyr, ymwelwyr a defnyddwyr eraill drwy ddarparu amgylchedd iach a di-fwg. Felly mae holl safleoedd y Brifysgol, yn cynnwys llety’r myfyrwyr, yn ddi-fwg, ac mae gwaharddiad ar ysmygu drwy’r llety cyfan.  Does dim caniatâd i ysmygu o fewn pellter o 5 metr i fynedfeydd yr adeiladau.

    Mae yn erbyn y gyfraith ac mae’r myfyrwyr yn gyfrifol am gydymffurfio â’r polisi hwn (gallwch gael copi o hwn gan y Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws neu o’r dderbynfa) ac ystyrir unrhyw achos o dorri’r polisi’n drosedd o dan weithdrefnau disgyblu myfyrwyr y Brifysgol ac mae’n torri amodau eich deiliadaeth.

    CYFFURIAU A/NEU ANTERTH CYFREITHLON

    Mae gwaharddiad llym ar ddefnyddio/darparu cyffuriau/anterth cyfreithlon mewn lleoedd byw. Os canfyddir myfyrwyr sydd â chyffuriau ganddynt, sy’n gwerthu cyffuriau neu sy’n defnyddio cyffuriau, byddent yn wynebu gweithdrefnau disgyblu ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid iddynt adael eu llety. Rhoddir gwybod i’r heddlu a gallai hynny beri iddynt gael eu harestio.

    SŴN

    Cadwch sŵn i lefel nad yw’n amharu ar gysur preswylwyr eraill neu’n torri ar draws eu cwsg neu eu gallu i astudio. Yn enwedig rhwng 23.00pm a 08.00am bob dydd.

    Byddwch yn ystyriol o lefelau sŵn wrth ddefnyddio mannau comunol, dan do a thu allan, yn enwedig yn ystod yr oriau tawel. Bydd pobl sy’n anystyriol dro ar ôl tro yn cael eu herio gan ddefnyddio gweithdrefnau disgyblu mewnol.

    BYGYTHIADAU

    Peidiwch ag aflonyddu neu fygwth aflonyddu (yn cynnwys aflonyddu ar sail oed, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, credo, hil, diwylliant, anabledd neu ddull o fyw), gan ddefnyddio trais neu fygwth defnyddio trais, neu ymosod yn llafar ar unrhyw un.

    CARDIAU HUNANIAETH Y MYFYRIWR

    Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam, byddwch yn derbyn Cerdyn ID Myfyriwr.

    Bydd y rhain ar gael i’w nôl o’r llyfrgell, o Ddydd Llun 26 Medi.

    Efallai y gofynnir i chi ddangos eich cerdyn ID am nifer o resymau, yn cynnwys;

      1. Os cewch eich cloi allan o’ch llety
      2. I gasglu post
      3. I gael mynediad i’r labordai cyfrifiadurol tu allan i oriau
      4. I gael gwiriad diogelwch ar Safleoedd y Brifysgol
      5. Trwy gwblhau’r cyflwyniad ymgynefino hwn rydych yn cytuno i ddarparu eich enw a’ch rhif myfyriwr os bydd unrhyw aelod o staff yn gofyn amdanynt.
      6. Gallwch gasglu eich cardiau o lyfrgell Prifysgol Wrecsam.

  • GWESTEION

    Mae croeso i breswylwyr gael gwesteion, ond mae’n RHAID i bob gwestai sy’n aros dros nos gael eu cymeradwyo gan swyddfa’r llety. 

    Mae’n RHAID i bob gwestai gael eu cymeradwyo gan swyddfa eich llety. Os byddwn ni’n methu adnabod ymwelydd, byddwn yn gofyn iddo/iddi adael y llety.

    Chi sy’n gyfrifol am ddiogelwch eich gwestai ac rydych yn gwbl gyfrifol am eu hymddygiad. Rydych yn atebol am unrhyw ddifrod y byddent yn eu hachosi wrth ymweld â Phentref Myfyrwyr Wrecsam yn unol â’ch contract.

    Mae hawl i bob preswylydd gael 1 gwestai i aros ar y tro, a hynny heb fod yn hirach na 2 noson, ac ni cheir eu gadael ar eu pennau eu hunain.  

    Instructions on how to book a guest 

    Cwrteisi wrth gael gwesteion i aros ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam.

      1. Siaradwch â’ch cyfeillion yn y fflat am gael gwestai
      2. Rydym yn disgwyl yr un pethau gan eich gwestai ag yr ydym yn eu disgwyl gennych chi
      3. Peidiwch â gadael eich gwestai ar ei ben/phen ei hun ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam
      4. Dim ond yn eich ystafell wely chi y gall y gwestai gysgu, ac nid yn y mannau comunol.
  • CAEL GWARED Â GWASTRAFF A DEUNYDDIAU AILGYLCHU

    Rydym yn annog pob myfyriwr i gyfranogi’n weithredol yn ôl-troed carbon Prifysgol Wrecsam.

    Mae gofyn i fyfyrwyr ailgylchu i’r bagiau/biniau a ddarperir a’u cymryd i’r mannau ailgylchu. Mae’r man ailgylchu ym Mhentref Wrecsam nesaf at y Golchdy.

    Dylai’r ailgylchu fod yn ‘wastraff glân’ sy’n golygu y dylid golchi popeth y mae modd eu golchi (gan ddefnyddio’r dŵr sy’n weddill ar ôl golchi’r llestri yn ddelfrydol), dylid tynnu labeli ac, os yw’n bosibl gwneud hynny, dylid gwasgu pob eitem yn fach neu’n fflat.


    BETH SY’N MYND I MEWN I BA FIN?

    Y bin gwastraff cyffredinol

    Gallwch roi unrhyw wastraff cartref nad oes modd ei ailgychu na’i gompostio yn eich bin gwastraff cartref du/glas, er enghraifft…

      • Pacedi creision
      • Papur melysion/siocled
      • Deunydd lapio plastig
      • Cling ffilm
      • Deunydd lapio swigod
      • Polystyren
      • Cewynnau

    PAPUR A CHARDBORD

      • Defnydd pacio o gardbord
      • Cardbord rhychiog
      • Post sothach
      • Papurau newydd
      • Cylchgronau
      • Yellow Pages
      • Catalogau
      • Carpion papur
      • Amlenni
      • Tiwbiau papur toiled
      • Blychau dal wyau cardbord

    PLASTIGAU CYMYSG

      • Poteli plastig
      • Potiau plastig
      • Hambyrddau plastig
      • Tybiau plastig

    GWYDR

      • Poteli gwydr
      • Jariau gwydr

    TUNIAU A CHANIAU

      • Caniau diod
      • Tuniau bwyd
      • Chwistrellau erosol
      • Ffoil glân

    No thanks!

      • Gwydr wedi torri
      • Cartonau bwyd a diod
      • Cewynnau budr
      • Cling ffilm
      • Pacedi creision
      • Bagiau cario

    Peidiwch â rhoi bagiau cario yn unrhyw un o’r biniau ailgylchu comunol. Bydd hyn yn achosi halogiad ac efallai na fydd eich biniau ailgylchu’n cael eu gwagio.

    Wrexham Council 

  • ARCHWILIADAU O’CH YSTAFELL A’R LOLFA

    Archwiliad ystafelloedd – Mae’r rhain yn digwydd ddwywaith y flwyddyn, cewch eich hysbysu pan mae archwiliadau ystafell yn mynd i ddigwydd. Does dim rhaid i chi fod yn bresennol os nad ydych eisiau bod yno.

    Pethau sy’n achosi i fyfyrwyr gael archwiliad aflwyddiannus:

      • Budreddi
      • Blerwch
      • Cyfarpar cegin yn eu hystafell
      • Unrhyw beth wedi ei lynu at eich waliau – (DIM OND eitemau wedi eu glynu gyda BluTac ar DDRYSAU A CHYPYRDDAU sy’n dderbyniol)

    Archwiliadau lolfa – Ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi bod archwiliadau lolfa’n mynd i ddigwydd.

    Pethau i’w gwneud yn rheolaidd fel bod eich fflat yn pasio’r archwiliad:

      • Gwagio biniau’n rheolaidd
      • Peidio gadael llestri yn y sinc
      • Cadw’r arwynebau’n lân
      • Glanhau’r llawr
      • Cadw’r cyfarpar yn lân
      • Dim storio eitemau mawr yn y mannau comunol
  • FOLTEDD/PLYGIAU PRYDEINIG

    Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r plygiau a’r foltedd cywir ar gyfer y Deyrnas Unedig, sef 230/240v.
    Gofynnwch i’ch Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws os ydych yn ansicr.

    PEIDIWCH Â GADAEL UNRHYW DDYFEISIAU SY’N CAEL EU GWEFRU Â NEB YN CADW LLYGAD ARNYNT

  • IECHYD A DIOGELWCH

    DIOGELWCH TÂN
    Mae’r Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws yn gwneud ymarferion tân yn gyfnodol; gwnewch yn siwr eich bod yn gadael yr adeilad bob tro y byddwch yn clywed y larwm. 
    Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd ffi i’w thalu.
     
    Cofiwch, os byddwch yn camddefnyddio offer tân, gallai olygu bod angen i chi dalu ffi a chost prynu rhai newydd ac wynebu gweithdrefnau disgyblu’r Brifysgol a/neu erlyniad troseddol. Un o’r pethau sy’n achosi tanau amlaf mewn prifysgol yw bwyd yn cael ei goginio a neb yn cadw llygad arno, yn enwedig yn hwyr y nos o dan ddylanwad alcohol.

     
    Felly byddwch yn ofalus yn y gegin ac, os ydych yn teimlo’n llwglyd ar ôl noson allan, archebwch fwyd tecawê neu gwnewch frechdan!

    EICH CYFRIFOLDEB CHI

    Mae’n ofyniad cyfreithiol fod pob myfyriwr, aelod o staff neu berson arall sy’n gweithio neu’n byw ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn sicrhau nad ydynt yn creu peryglon iddynt eu hunain neu i bobl eraill, heblaw lle nad oes modd osgoi hynny. (Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974).
    Mae i angen i bawb sy’n gweithio neu’n byw yma gymryd cyfrifoldeb am gadw’r holl gynteddau, grisiau, allanfeydd a drysau tân yn glir o rwystrau.Bydd y Brifysgol yn codi ffi ar unrhyw un sy’n amharu â’r offer sydd wedi’i osod am resymau iechyd a diogelwch e.e. larwm tân, diffoddwyr tân, a rhaid talu pob ffi ar unwaith, gall y costau fod naill ai’n unigol neu’n gomunol, h.y. i’w talu gan bob un o’r preswylwyr yn y fflat.

    ARGYMHELLION 

    Er mwyn eich diogelu, mae systemau synhwyro awtomatig o fewn y lleoedd byw. Mae’r rhain yn hynod o sensitif a gallant gael eu sbarduno gan:

    • Chwistrellau erosol yn cael eu chwistrellu’n agos at y pennau synhwyro
    • Cael cawod gyda’r drysau’n agored 
    • Bwyd wedi’i losgi a phadellau gril budr 

    Rydych yn cytuno i ufuddhau i’r holl reoliadau tân ac ymateb i’r larymau tân. Gallwch weld y rheoliadau tân o dan y pennawd Codau Ymddygiad Cyffredinol yn Llawlyfr y Preswylwyr.

    Mae gan bawb gyfrifoldeb i gymryd gofal a chadw eich cegin a’ch ystafelloedd gwely’n lân a thaclus – mae cadw’ch lle’n daclus a glân yn lleihau’r risg o dân ac yn golygu bod yr allfeydd tân yn glir.

    Y DREFN YMADAEL OS BYDD TÂN

    Pan glywch y larwm

    Ewch allan o’r adeilad drwy’r allanfa agosaf a mwyaf diogel bob tro mae’r larwm yn canu.
     
    Caewch bob ffenestr a drws ar eich ôl, os yw’n ddiogel i chi wneud hynny.


    PEIDIWCH â stopio i gasglu eiddo personol.

    Peidiwch byth â mynd yn ôl i mewn i’r adeilad nes bydd aelod o staff y brifysgol yn dweud wrthych am wneud hynny.

    DARGANFOD TÂN 
    Os nad yw’r larwm yn seinio’n barod, ewch i’r man torri gwydr agosaf (sydd fel arfer gerllaw’r allanfa dân) a seinio’r larwm, yna ewch allan heb gynhyrfu.

    Dewch i wybod ble mae eich man ymgynnull tân agosaf.  
     
    Nodwch na ddylai unrhyw un sydd heb gael yr hyfforddiant cywir ddefnyddio diffoddydd tân.

    Peidiwch byth â defnyddio dŵr ar dân hylif fflamadwy.

    Os nad oes rhywun wedi ffonio’r gwasanaethau argyfwng eto, deialwch 999 a gofynnwch am y gwasanaethau tân ac achub.

    CYMORTH CYNTAF 
    Dylai pob adeilad ddangos manylion ei weithiwr cymorth cyntaf dynodedig a fydd yn ymdrin â digwyddiadau bach. (Gofynnwch i’r Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws am y weithdrefn).  Neu, gallwch gysylltu â’r tim Diogelwch, mae pob aelod o’r tîm wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.
     
    Mae’r rhifau i’w cael ar yr hysbysfyrddau iechyd a diogelwch ym mynedfa pob bloc. Ond, os byddwch mewn sefyllfa lle mae’n rhaid i chi ymdrin â rhywun sy’n sâl, dyma eich blaenoriaethau:

    • Aseswch y sefyllfa
    • Peidiwch â’ch rhoi eich hun mewn perygl
    • Gwnewch yr ardal yn ddiogel
    • Cadwch y claf yn gynnes
    • Anfonwch am gymorth – ar unwaith
    • Parhewch i siarad â’r claf i dawelu ei feddwl/meddwl nes daw cymorth

    CLEFYD Y LLENG FILWYR 

    Mae gan y Brifysgol raglen i ostwng y bacteria clefyd y lleng filwyr yn y systemau dŵr. Mae gennych chi ran i’w chwarae yn hyn o beth. Os nad ydych yn defnyddio eich tapiau neu gawod am fwy na 7 diwrnod, dylech redeg y tapiau am 2 funud, gan fod yn ofalus i beidio anadlu i mewn.

    Os byddwch i ffwrdd yn hirach na 7 diwrnod, mae angen i chi roi gwybod i’r Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws a byddent hwy’n trefnu i’r tapiau gael eu fflysio tra byddwch i ffwrdd.

    Y WEITHDREFN ARGYFWNG 
    Os byddwch angen rhoi gwybod am argyfwng fel tân neu ddamwain, mae gan y Brifysgol linell ffôn argyfwng:

    • 01978 293333 os ydych yn ffonio o linell allanol neu ffôn symudol
    • Est. 3333 os ydych yn galw o ffôn mewnol

    Yna mae ganddynt drefnau i gael y gwasanaeth argyfwng perthnasol atoch mor gyflym ag sy’n bosibl. 
     
    Os ydych wedi deialu 999 ac wedi gofyn am y gwasanaethau argyfwng, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i’r tîm diogelwch hefyd a bydd y rhain wrth law i helpu ac i gyfeirio’r gwasanaethau i’r lle cywir. 
     
    Cofiwch roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch pan fyddwch yn ffonio’r gwasanaethau argyfwng: L.I.O.N /  LLE.D.A.N

    Location – Lleoliad, y cyfeiriad lle’r ydych

    Incident – Digwyddiad, beth sydd wedi digwydd, maint yr anafiadau

    Other – Arall, unrhyw wybodaeth arall, efallai y byddwch angen mwy nag un gwasanaeth argyfwng

    Number – Nifer, faint o bobl

  • CYNALIADWYEDD

    Mae Prifysgol Wrecsam yn falch o’i gwelliannau parhaus i ostwng ei hôl-troed carbon a’i gwastraff.

    Cadwch lygad ar y manylion diweddaraf am gynaliadwyedd y brifysgol - Think Green

    Gweithiwch ynghyd drwy wneud y pethau hyn...

    • Diffoddwch yr holl gyfarpar trydanol os nad ydych yn eu defnyddio
    • Diffoddwch eich goleuadau wrth adael yr ystafell
    • Byddwch yn ymwybodol o faint o ddŵr a ddefnyddiwch e.e. wrth lanhau eich dannedd
    • Ailgylchwch eich gwastraff lle gallwch
    • Coginiwch i’ch fflat
    • Cofiwch adfer, ailddefnyddio ac ailgylchu
    • Yfwch ddŵr tap - mae gan y Brifysgol fannau ail-lenwi ar y campws
    • Prynwch fwyd lleol
    • Rhowch wybod am dapiau’n diferu neu’n gollwng
    • Caewch eich ffenestri a’r drysau os yw’r gwres ymlaen
    • Rhowch y dŵr yr ydych ei angen yn y tegell, a dim mwy na hynny
    • Cymerwch gawod gyflym
  • GWRES

    Mae rheiddiaduron eich ystafell wely wedi eu rheoli’n rhannol gan y thermostat ar y wal yn eich cegin.

    Felly, os yw thermostat y gegin wedi ei droi i lawr, bydd rheiddiaduron eich ystafell wely dim ond yn cyrraedd y tymheredd sydd wedi ei osod ar thermostat wal y gegin, a byddent yn diffodd pan gyrhaeddwch y tymheredd hwnnw.  Mae hyn yn wir waeth beth yw’r rhif yr ydych wedi gosod rheiddiaduron eich ystafell wely arno. 

    Os byddwch eisiau troi’r gwres i lawr yn y gegin, defnyddiwch y rheolydd ar y rheiddiadur(on) ac nid ar y thermostat os gwelwch yn dda.

    Os cewch chi unrhyw broblem gyda’ch gwres dylech roi gwybod amdani ar unwaith fel problem cynnal a chadw 

    RHODDECH FATER CYNNAL A CHADW YMA 

    PEIDIWCH â gorchuddio unrhyw offer gwresogi oherwydd mae hyn yn eithriadol o beryglus. Os byddwch eisiau sychu dillad, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cyfleusterau golchdy sydd wedi eu darparu i chi! Nid oes caniatâd i chi gael lein sychu dillad dros dro.

    Yn ystod misoedd yr haf, bydd y gwres drwy Bentref Myfyrwyr Wrecsam i gyd wedi ei droi i lawr i arbed ynni.

  • RWYF ANGEN CYMORTH

    RWY’N TEIMLO’N SÂL

    Ewch i https://111.wales.nhs.uk/   

    Os byddwch angen siarad â rhywun, cysylltwch â’ch meddyg neu ffoniwch 111 i ofyn am gyngor meddygol.

    I siarad â meddyg mae’n rhaid i chi fod wedi eich cofrestru yn un o’r meddygfeydd lleol (gwelwch y rhestr uchod). Ffoniwch am apwyntiad.

    Pryd i ddefnyddio ysbyty – Mae gwasanaeth yr ysbyty ar gyfer gofal argyfwng yn unig. NI ddylech ei ddefnyddio yn lle mynd at y meddyg.

    Gofal Damwain ac Argyfwng

      1. Ar y Campws   Dydd Llun – Dydd Gwener 0800-17.00

    Os yw’n argyfwng sydd angen ambiwlans: Mae’n rhaid i chi gysylltu â derbynfa Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar 293333, neu’r tîm diogelwch ar 07764 687910 / 07764687909 a byddan nhw’n trefnu cymorth.

      1. Unrhyw adeg y tu allan i’r oriau uchod

    Ffoniwch am ambiwlans drwy ddeialu 999 a rhowch gymaint o wybodaeth am yr argyfwng ag y gallwch a chysylltwch â’r tîm Diogelwch er mwyn iddynt helpu i ddangos i’r ambiwlans lle i fynd.

      1. Yn llety Pentref Wrecsam - 

    Cysylltwch â’r gwasanaeth ambiwlans drwy ddeialu 999 fel uchod. Rhowch wybod i’r tîm diogelwch ar 07764 687909 neu 07764 687910. 

    Dim ond mewn argyfwng y dylech ddefnyddio’r gwasanaeth ambiwlans. 

    Mae’n bosib y bydd ffi i’w thalu am beidio defnyddio’r gwasanaeth hwn yn gywir.

    Y gwasanaeth damwain ac argyfwng agosaf yw Ysbyty Maelor Wrecsam 01978 291100 

    CYMORTH IECHYD MEDDWL

    Gallwch gael cymorth iechyd meddwl drwy ffonio 111 a gwasgu 2 .

    Argyfyngau

    Os byddwch angen unrhyw wasanaethau argyfwng, ffoniwch 999 yn uniongyrchol.  Gofynnwn hefyd i chi roi gwybod i’r tîm diogelwch am hyn fel eu bod nhw’n barod pan fydd y cerbydau argyfwng yn cyrraedd.

    Cofiwch fod adran argyfwng yr ysbyty (Damwain ac Argyfwng) a’r gwasanaethau ambiwlans ar gyfer cyflyrau difrifol sy’n bygwth bywyd ac sydd angen sylw meddygol ar unwaith.

    LLETY 

    accommodation@glyndwr.ac.uk / 01978293344 

    DIOGELWCH 

    security@glyndwr.ac.uk / 07764687909 

    GWASANAETH CYNNAL A CHADW PENTREF MYFYRWYR WRECSAM

    REPORT A WSV MAINTENANCE ISSUE HERE  wsvmaintenance@glyndwr.ac.uk / 01978313926  

     

    DERBYNFA’R PRIF GAMPWS

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y post a pharseli reception@glyndwr.ac.uk / 01978290666  

    ASK 

    Mae hwn ar lawr gwaelod Canolfan Edward Llwyd a dyma’r lle i fynd os hoffech gael cymorth proffesiynol.  Bydd y staff sydd yno’n gwrando ar eich ymholiad ac yn eich cyfeirio chi at y gwasanaeth perthnasol, neu’n eich helpu i’ch cyfeirio eich hun drwy ‘giosg hunanwasanaeth’. Gallwch gael gafael ar yr un gwasanaethau hefyd drwy hunanatgyfeirio ar y deilsen ‘Mynediad i Fyfyrwyr a Bywyd Campws’ ar y Fewnrwyd. ask@glyndwr.ac.uk 

    CYFRIFON 

    I ofyn cwestiynau am eich cyfrif/taliad accountsreceivable@glyndwr.ac.uk 

    RHYNGRWYD PENTREF MYFYRWYR WRECSAM - ASK4 

    support@ask4.com / 01143033232 

    GOLCHDY PENTREF MYFYRWYR WRECSAM - CIRCUIT  

    www.circuit.co.uk / 08000924068 / 01422820040 

    SGILIAU ACADEMAIDD

    Cymorth 1-i-1 sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o sgiliau academaidd learningskills@glyndwr.ac.uk  

    CYNGOR AM ARIAN A CHYLLIDO

    Cymorth a chyngor am arian a chyllido funding@glyndwr.ac.uk   

    GYRFAOEDD  

    Cymorth i chwilio am gyfleoedd rhan amser a gwirfoddol careers.centre@glyndwr.ac.uk  

    CAPLANIAETH 

    Clust i wrando chaplains@glyndwr.ac.uk  

    CYNHWYSIANT 

    Cymorth gyda dyslecsia, cymorth tiwtor un-i-un a’r lwfans i fyfyrwyr anabl (DSA) inclusion@glyndwr.ac.uk  

    UNDEB Y MYFYRWYR

    Cwrdd â ffrindiau, ymuno â chymdeithasau/timau chwaraeon, cyngor gan gyd-fyfyrwyr. union@glyndwr.ac.uk  

    GORSAF HEDDLU WRECSAM

    101 

    GWASANAETHAU ARGYFWNG

    999

     

  • TRWYDDED DELEDU

    Pecyn Cymorth trwyddedau teledu i fyfyrwyr.

    Prynwch eu trwydded ar ein gwefan. Yn ogystal, gallwn eich cefnogi i ateb unrhyw ymholiadau unigol sydd gennych am drwyddedau teledu.

    Os byddwch yn gwneud unrhyw rai o’r uchod heb drwydded ddilys, rydych mewn perygl o gael eich erlyn ac o orfod talu dirwy o hyd at £1,000, ynghyd ag unrhyw gostau cyfreithiol a/neu iawndal y gallent ofyn i chi ei dalu.  Dyma’r gyfraith!! Dysgwch y ffeithiau.

  • DYDDIADAU I’W COFIO

    MEDI

      • 23/24 Medi – Mae’r myfyrwyr yn cyrraedd y llety a dyma ddechrau ein contractau llety.  
      • Medi – Ffurflenni rhestrau eiddo i gael eu cwblhau a’u dychwelyd i’n Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws erbyn y dyddiad dynodedig. 

    HYDREF 

      • Wythnos 1af mis Hydref – Rhandaliad 1af y Ffioedd Llety’n daladwy ar gyfer contractau wythnos. Dirwy o £50 am daliadau hwyr. Gwelwch eich Amodau a Thelerau Preswyliad.

    TACHWEDD

      • Adeg cael archwiliad ystafell
      • Arolwg Llety

    RHAGFYR

      • Gadewch i ni wybod os byddwch i ffwrdd, a’ch ystafell yn wag, am fwy na 5 diwrnod dros gyfnod y Nadolig drwy lenwi’r ffurflenni angenrheidiol a gewch gan y Tîm Preswylwyr a Bywyd Campws.
      • Y dyddiad terfynol ar gyfer ceisiadau am estyniad semester 2.

    IONAWR

      • 2il wythnos – Ionawr – 2il Randaliad y Ffioedd Llety’n daladwy ar gyfer contractau wythnos.    
      • Ion/Chwe – Dyddiad ymadael ar gyfer contractau Semester 1

    MAWRTH

      • Y ceisiadau am lety ar gyfer y flwyddyn ddilynol YN AGORED
      • Y cynnig arbennig i’r dychwelwyr sy’n ymgeisio’n gynnar yn agored drwy’r mis.

    EBRILL

      • 2il wythnos – Ebrill – Rhandaliad terfynol y Ffioedd Llety’n daladwy ar gyfer contractau wythnos. 
      • Ebrill/Mai – Adeg archwiliadau ystafell

    MAI

      • Mai – Y dyddiad terfynol ar gyfer ceisiadau am estyniadau’r haf. 

    MEHEFIN/GORFFENNAF

      • Dyddiad ymadael ar gyfer contractau 40 wythnos a semester 2

    MEDI

      • Dyddiad ymadael i’r rhai ar gontractau 51 wythnos
      • Preswylwyr yn cyrraedd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd/contractau llety newydd yn cychwyn
  • SYMUD YSTAFELLOEDD

    Mae pob trefniant i symud ystafell yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael ac mae angen eu trefnu drwy swyddfa eich llety.

    Pan symudir ystafell, mae’n rhaid talu ffi glanhau o £50.00 a bydd y ffi hon yn cael ei hychwanegu at eich cyfrif llety ar ôl i chi symud.

    Peidiwch ag anghofio llenwi ffurflen rhestr eiddo arall ar gyfer eich ystafell newydd.

  • YMADAEL
      • Gadewch eich ystafell yn lân a thaclus
      • Rhaid cael gwared â’r sbwriel i gyd
      • Gwnewch yn siŵr nad oes gennych unrhyw eitemau ar ôl yn y cypyrddau, yr oergell a’r rhewgell
      • Gwnewch yn siŵr fod pob ffenestr ar gau
      • Galwch ym mhrif ystafell bost y brifysgol i sicrhau nad oes gennych bost a pharseli
      • Trowch y rheiddiaduron i ffwrdd (i’r marc *)
      • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd popeth gyda chi oherwydd mae’n bosib y ceir gwared ag unrhyw eitemau sy’n cael eu gadael ar ôl
      • Rhowch eich cerdyn golchdy ac ystafell i staff y llety neu’r staff diogelwch.

    **Cofiwch ystyried ein pantri Pentref y Myfyrwyr os oes gennych eitemau nad ydynt werth eu cymryd adref ond a allai fod o ddefnydd i breswylwyr eraill yn y pentref. Dim ond eitemau heb eu hagor, nad ydynt yn ddarfodus, os gwelwch yn dda**

    Pan fyddwch yn gadael, dewch â’ch allwedd i ni yn swyddfa’r llety cyn i chi fynd.

    Bydd staff yn swyddfa’r llety o 08.30 tan 16.00 o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Os ydych yn bwriadu ymadael tu allan i oriau’r swyddfa, ewch â’ch allwedd i’r tîm diogelwch (y swyddfa ar gornel y fynedfa i Bentref Myfyrwyr Wrecsam, drws nesaf i floc B John Neal) neu rhowch nhw drwy’r blwch llythyrau diogel os nad oes rhywun yno.

  • EIDDO A STORIO

    Mae’n rhaid i chi gadw eich eiddo i gyd yn eich ystafell. Yn anffodus does dim lle storio ychwanegol. Peidiwch â rhoi pethau yn y cynteddau neu’r coridorau, mae angen cadw’r rhain yn glir i fynd allan os oes tân.

    Mae eich contract yn rhedeg yn ddi-dor am yr wythnosau a nodir, felly nid oes angen i chi wagio eich ystafell yn ystod y gwyliau.

    Rydych yn gadael eich eiddo i gyd ar eich menter eich hun. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am fwyd wedi rhewi a gollir oherwydd bod rhewgell wedi torri neu am fod toriad pŵer, felly dylai eich polisi yswiriant eich diogelu rhag colli a difrod i fwyd hefyd. O gofio hyn, peidiwch â gadael i rew gasglu yn yr oergell-rhewgell – cyfrifoldeb y myfyriwr yw eu glanhau nhw.

    Y newyddion da yw ein bod yn cynnwys yswiriant i bob myfyriwr sy’n byw gyda ni, drwy weithio mewn partneriaeth ag Endsleigh, sy’n Rhif 1 o blith y cwmnïau darparu yswiriant i fyfyrwyr.

    Cyn cyrraedd, treuliwch ychydig funudau’n cadarnhau eich diogelwch yswiriant drwy gofrestru gyda My Endsleigh.

    STORIO

    Yn anffodus, does gennym ni ddim cyfleusterau storio ym Mhentref Myfyrwyr Wrecsam

    Seven seas worldwide

    Thomas Brothers - removals and storage- WREXHAM

    Big padlock - storage WREXHAM

    Wrexham storage container - WREXHAM

    Store first Storage WREXHAM/ELLESMEREPORT

    Cadarnhau eich clawr

  • AMODAU A THELERAU
  • MAE GEN I GŴYN

    Mae modd datrys y mwyafrif o gwynion yn hawdd ac yn anffurfiol drwy eu trafod gyda’r aelod perthnasol o staff. Rydym yn argymell eich bod yn ceisio chwilio am ateb anffurfiol cyn gynted ag y byddwch yn cael problem drwy roi gwybod am eich cŵyn i’r Tîm Bywyd Preswyl.  Ond, os nad yw’n bosib cael ateb anffurfiol, yna dylech edrych ar Weithdrefn Gwyno Myfyrwyr y brifysgol sydd ar gael ar Borth y Myfyrwyr yn Swyddfa Weinyddol y Myfyrwyr. Dylai myfyrwyr geisio cymorth gan Ganolfan Cynghori Undeb y Myfyrwyr lle gall cynghorwr gynnig cymorth ar y cam Anffurfiol, trafod yr opsiynau sydd ar gael yng Nghanllaw’r Myfyrwyr 2022-23 Tudalen 10 a rhoi arweiniad am Weithdrefn Gwyno’r Myfyrwyr. Dylai myfyrwyr sy’n astudio mewn sefydliadau partner ddilyn polisi cwynion y partner i ddechrau.

  • DIRWYON A FFIOEDD

    DRYSAU

    Mae’n RHAID cadw drysau tân ar gau drwy’r amser, ac NI ddylid defnyddio unrhyw ffordd o’u dal yn agored. Os gwelir bod drysau tân wedi eu dal yn agored gyda rhywbeth yn eu herbyn/oddi tanynt, yna gorfodir cam disgyblu a dirwy o hyd at £100.

    Dal drysau tân yn agored gyda rhywbeth yn eu herbyn/oddi tanynt = Dirwy o hyd at £100.00

    Difrod i ddrws tân = CYHOEDDWYD AR GOST 

    Difrod i ddrws mewnol – CYHOEDDWYD AR GOST 

    AMHARU AG OFFER DIOGELWCH TÂN – Dirwy o £50.00

    Mae’n drosedd amharu â’r system larwm tân, synhwyryddion mwg, diffoddyddion, torri gwydr tân, ac ati.

    Os ceir hyd i rywun yn achosi difrod o’r fath, rhoddir gwybod i heddlu Gogledd Cymru a byddent yn wynebu erlyniad a dirwy o £50 a byddent yn gorfod gadael Pentref Myfyrwyr Wrecsam ar unwaith.

    ALLWEDD YSTAFELL WEDI EI DDWYN/WEDI MYND AR GOLL - £2.00

    SYMUD YSTAFELL - £50.00

    Pan fyddwch yn symud ystafell, codir ffi o £50.00 am y gwaith glanhau.

    Os bydd preswylwyr yn newid ystafell heb awdurdodiad, bydd y ddau barti’n cael dirwy o £50.00 yr un.

    FFIOEDD GLANHAU – Dirwy o £50, a’r gost fesul awr.

    Os gwelir bod eich ystafell wely a’ch man comunol mewn cyflwr annerbyniol, byddwch yn cael 24 awr i’w addasu, ac os nad yw wedi ei addasu erbyn hynny, bydd ffioedd glanhau allanol i’w talu.

  • Cod Ymarfer Universities UK ar Reolaeth Tai Myfyrwyr

    Cod Ymarfer Universities UK ar Reolaeth Tai Myfyrwyr

    Mae Prifysgol Glyndŵr wedi ymrwymo i God Ymarfer Universities UK ar Reolaeth Tai Myfyrwyr ar gyfer ei safleoedd llety yn:

    • Campws Wrecsam
    • Campws Llaneurgain

    Mae'r cod yn anelu i hysbysu ymarfer gorau dros ragor o agweddau rheolaeth gan gynnwys: Safonau Iechyd a Diogelwch; Trefniadau Cynhaliaeth a Thrwsio; Ansawdd Amgylcheddol; Partneriaethau Perchennog a Deiliaid; Lles Myfyrwyr ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

    Mae yna broses cwynion allanol i'r Brifysgol yn bodoli mewn achosion ble dorrwyd y cod, mewn achosion ble mae cwyn heb ei ddatrys drwy'r Tîm Preswyl a Bywyd Campws neu brosesau cwynion Prifysgol Glyndŵr Wrecsam.

    Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chodau Ymarfer UUK, gallwch fynd i uukcode.info