Students walking past St Giles Church

Byw Oddi ar y Campws

MYFYRWYR

Wrth fyw oddi ar y campws, mae'n bwysig i chi ddewis eiddo sy'n ddiogel, cadarn ac wedi'i reoli'n dda.

Mae gan dîm Preswyl a Bywyd Campws Prifysgol Wrecsam cofrestr ar-lein o'r enw Student Pad ble gallwch chi chwilio am eiddo addas i'w rhentu o fewn ac o gwmpas ardal Wrecsam.

CHWILIO AM EIDDO MYFYRWYR

I wella ein gwasanaeth i fyfyrwyr, dim ond perchnogion wedi'u hachredu gyda thystysgrif Cynllun Achredu Perchnogion Cymru caiff eu rhestru trwy Student Pad. Cefnogwyd y Cynllun APC gan bob cyngor yng Nghymru ac mae'n hysbysebu perchnogion a gwerthwyr proffesiynol sy'n rhentu llety o ansawdd da wrth ddeall anghenion myfyrwyr a'u rhwymedigaethau fel perchnogion.

Mae'r tîm Preswyl a Bywyd Campws bob tro ar gael i roi cymorth ac arweiniad i fyfyrwyr sy'n dewis byw mewn llety preifat ond mae'n bwysig cofio pan mae myfyrwyr yn rhentu eiddo, mae'r cytundeb deiliadaeth rhwng y myfyriwr a'r perchennog. Felly, dylai fyfyrwyr ceisio datrys unrhyw broblem yn syth gyda'u perchennog neu gyda'r cyngor.

I gynorthwyo gyda llety ymhellach i ffwrdd, gweler Map Rheilffyrdd Rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru. . Mae'r campws agosaf at orsaf Wrecsam Cyffredinol (gorsaf ar waelod y llinell borffor) felly gallwch weld pa ardaloedd eraill a allai fod yn hyfyw ar gyfer llety.

 

LANDLORDIAID

Mae gan Brifysgol Wrecsam nifer o gampysau, ac nid oes gan bob un lety ar y safle.

Os oes gennych eiddo yn Wrecsam, Llaneurgain, Llanelwy byddai gennym ddiddordeb mewn hysbysebu eich eiddo.

Gwelwch y wybodaeth isod, ond os byddwch angen rhagor o fanylion, cysylltwch ar Accommodation@glyndwr.ac.uk

Content Accordions

  • BETH YW STUDENTPAD

    Student Pad yw’r platfform gorau ar gyfer llety myfyrwyr, ac mae wedi bod yn helpu myfyrwyr i ganfod eu lle byw perffaith ers mwy na 23 mlynedd.

    Mae Studentpad yn darparu cronfa ddata gynhwysfawr o lety preifat a llety prifysgol i fyfyrwyr, ac mae’n cael ei diweddaru’n gyson. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr allu gwneud dewis deallus gyda chyngor ymarferol, defnyddiol a hawdd ei ddeall.

    Trwy wneud hyn, maen nhw hefyd yn cynnig cyfle i landlordiaid/asiantau myfyrwyr drwy Brydain gyfan hysbysebu a gwerthu eu heiddio i’r cannoedd o filoedd o fyfyrwyr sy’n ymweld â’n safle bob blwyddyn.  Mae’n rhaglen rheoli eiddo ar-lein, wedi ei ddatblygu dros y 10 mlynedd diwethaf, sy’n bwerus ac yn rhad ac am ddim i landlordiaid/asiantau.

    Mae Studentpad yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych am y gwasanaeth neu unrhyw rai o’r eiddo sydd wedi eu rhestru ar ein gwefannau Studentpad.

    Gallwch anfon sylwadau i feedback@studentpad.co.uk

  • TRWYDDED TAI AMLFEDDIANNAETH (HMO) - LANDLORDIAID

    Mae’n rhaid i chi gael trwydded os ydych yn rhentu Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) mawr yng Nghymru neu Loegr. Diffinnir eich eiddo fel HMO mawr os yw pob un o’r dilynol yn berthnasol:

      • mae’n cael ei rentu i 5 neu fwy o bobl sy’n ffurfio mwy nag 1 annedd
      • mae rhai o’r tenantiaid, neu bob un ohonynt, yn rhannu toiled, ystafell ymolchi neu gyfleusterau cegin
      • mae o leiaf 1 tenant yn talu rhent (neu mae eu cyflogwr yn ei dalu drostynt)

    Cael eich trwydded

  • COST HYSBYSEBU - LANDLORDIAID

    Dyma gost hysbysebu eiddo ar Studentpad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam am gyfnod o 12 mis:

    Dyma’r ffioedd o 1 Ebrill tan 31 Mawrth.

    Codir 50% o’r gost ar y rhai sy’n gwneud cais ar ôl 31 Hydref.

    Eiddo 1af (hyd at 15 ystafell wely)

    £ 80.00

    Pob Eiddo Ychwanegol (hyd at 15 ystafell wely)

    £ 25.00

     

  • COFRESTRU LANDLORD

    I gofrestru ar Studentpad Prifysgol Glyndŵr Wrecsam - Cofrestrwch ar Studentpad

    Byddwn yn derbyn hysbysiad pan fyddwch wedi cofrestru ac wedi llwytho hysbyseb am eich eiddo, yna byddwn yn gwirio eich tystysgrifau ac, unwaith y byddwch wedi talu, byddwn yn caniatáu eich hysbyseb. Yna rydym yn hysbysebu’r rhain i’n myfyrwyr.

  • TALU AM HYSBYSEB

    I wneud taliad am hysbyseb eiddo -  Dolen talu hysbyseb eiddo