Dal yn ceisio penderfynu? Dal yn chwilio? Mae amser o hyd i sicrhau lle a chychwyn fis Medi 2026
P’un a ydych yn newid cyfeiriad, yn dychwelyd i addysg, yn datblygu eich gyrfa, yn chwilio am gyfleoedd newydd, neu’n syml, yn barod i astudio rhywbeth rydych wastad wedi dyheu amdano, mae amser o hyd i benderfynu beth sy’n dod nesaf. Os mai creadigrwydd, gofal, chwilfrydedd neu arloesedd sy’n eich gyrru, ym Mhrifysgol Wrecsam gall eich cam nesaf fynd â chi’n bellach nag a feddyliwch.
Mae lleoedd yn parhau i fod ar gael ar gyfer mis Medi 2026, o raddau creadigol megis Ffotograffiaeth a Chelf Sylfaen i gyrsiau’n canolbwyntio ar ofal mewn Iechyd Meddwl a Llesiant a phynciau sy’n cael eu harwain gan chwilfrydedd megis Ymddygiad Cŵn.
Mae amser o hyd i ganfod cwrs sy’n cydfynd â’ch nodau a darganfod cyfleoedd na fyddech efallai wedi eu hystyried.
Gweler Ein Cyrsiau Ystyriwch bob CwrsWyddoch chi?
Mae Prifysgol Wrecsam wedi cael ei chydnabod am sawl gwobr yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2026 - Y gwobrau mwyaf a bleidleisir gan fyfyrwyr yn y DU.
1 af
yng Nghymru
Ac 2il yn y DU ar gyfer Cymorth Myfyrwyr gan ennill gwobr arian - Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2026
2 il
yng Nghymru
ac ymhlith y 10 gorau yn y DU ar gyfer Rhagolygon Gyrfa - Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2026
2 il
yng Nghymru
A 3ydd yn y DU ar gyfer Neuaddau a Llety Myfyrwyr gan ennill gwobr efydd - Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2026
Ydych chi’n ystyried gyrfa newydd?
Nid yw pawb yn dilyn yr yrfa yr oeddent unwaith wedi’i dychmygu iddynt eu hunain. Efallai eich bod yn chwilio am rywbeth mwy ystyrlon, her newydd, neu swydd sy’n adlewyrchu’ch diddordebau a’ch uchelgeisiau’n well.
Beth bynnag sydd wedi gwneud i chi ailfeddwl am eich cyfeiriad, gall y Brifysgol eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd, magu hyder, ac agor posibiliadau newydd ar gyfer y dyfodol yr ydych yn awyddus i’w greu i chi’ch hun.
Ydych chi’n ystyried gwella eich gyrfa?
Rydych eisoes wedi magu profiad gwerthfawr, ond gallai gradd eich helpu i gymryd y cam nesaf. P’un a ydych yn awyddus i gryfhau eich gwybodaeth, datblygu sgiliau newydd, neu baratoi ar gyfer mwy o gyfrifoldebau, gall y Brifysgol eich helpu i gyflawni eich uchelgeisiau proffesiynol.
Ar y daith, byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr profiadol, yn cysylltu â phobl o’r un anian, ac yn cael mewnwelediadau ymarferol a all eich helpu i symud ymlaen yn hyderus.
Yn ystyried dysgu gydol oes?
Nid yw bywyd yn rhoi’r gorau i gynnig cyfleoedd newydd i ddysgu. Efallai eich bod wastad wedi bod eisiau astudio pwnc arbennig neu herio’ch hun mewn ffordd newydd, ond fod gan fywyd gynlluniau eraill. P’un a ydych yn dilyn angerdd hirsefydlog, yn mynd i’r afael â diddordeb personol, neu’n dysgu oherwydd y mwynhad o ddysgu, gall y brifysgol fod yn gyfle i chi ddarganfod rhywbeth newydd a buddsoddi ynoch eich hun.
Ydych chi’n meddwl mai nawr yw’r amser cywir i fynd i’r brifysgol?
Nid oes raid i chi gychwyn y Brifysgol ar yr un pryd â phawb arall. Efallai i chi gymryd amser allan ar ôl yr ysgol neu’r coleg, wedi teithio, eisiau ennill ychydig o arian, neu angen amser i benderfynu ar yr hyn yr oeddech ei eisiau mewn bywyd. Nawr, gall pethau deimlo’n wahanol.
Os yw’r Brifysgol yn teimlo fel y cam nesaf cywir, gall Prifysgol Wrecsam eich helpu i adeiladu ar y profiadau yr ydych wedi eu cael a newid yr amser yr ydych yn ystyried eich dyfodol yn rhywbeth go iawn.
Ydych chi'n ystyried opsiynau newydd?
Mae’n hollol arferol i ailystyried eich cynlluniau. Efallai fod eich canlyniadau wedi newid eich opsiynau, fod eich blaenoriaethau wedi newid, neu eich bod wedi dechrau ailystyried a yw’r cwrs neu’r brifysgol wreiddiol a ddewisoch yn iawn i chi.
Beth bynnag sydd wedi gwneud i chi ailfeddwl, mae digon o bosibiliadau y gallwch edrych arnynt. Gall Prifysgol Wrecsam eich helpu i ganfod llwybr sy’n adlewyrchu sut ydych wedi datblygu drwy gydol Addysg Bellach ers i chi ddechrau meddwl am y Brifysgol.
Ymunwch â ni fis Medi eleni“Ar ôl gorffen fy lefel-A, roeddwn wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan yn hytrach na mynd i’r brifysgol. Wrth i’r haf fynd yn ei flaen, dechreuais ailfeddwl am fy opsiynau a phenderfynu fy mod eisiau cychwyn fy ngradd y mis Medi hwnnw. Roedd Gwyddor Ymddygiad, Lles a Gwarchodaeth Anifeiliaid Prifysgol Wrecsam yn sefyll allan oherwydd ei fod yn cyfuno popeth yr oeddwn yn angerddol drostynt mewn un radd. O edrych yn ôl, newid fy nghynlluniau oedd un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed - mae fy ngradd yn ddiddorol iawn, werth chweil, ac wedi helpu i fy mharatoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a gyrfa yn gweithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol.”
Maham
BSc (Anrh) Plismona Proffesiynol“Ar ôl gorffen fy lefel-A, roeddwn wedi penderfynu cymryd blwyddyn allan yn hytrach na mynd i’r brifysgol. Wrth i’r haf fynd yn ei flaen, dechreuais ailfeddwl am fy opsiynau a phenderfynu fy mod eisiau cychwyn fy ngradd y mis Medi hwnnw. Roedd Gwyddor Ymddygiad, Lles a Gwarchodaeth Anifeiliaid Prifysgol Wrecsam yn sefyll allan oherwydd ei fod yn cyfuno popeth yr oeddwn yn angerddol drostynt mewn un radd. O edrych yn ôl, newid fy nghynlluniau oedd un o’r penderfyniadau gorau a wnes i erioed - mae fy ngradd yn ddiddorol iawn, werth chweil, ac wedi helpu i fy mharatoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig a gyrfa yn gweithio gydag anifeiliaid yn y dyfodol.”
Anna
BSc (Anrh) Gwyddor Ymddygiad, Lles a Gwarchodaeth Anifeiliaid“Roeddwn wastad wedi breuddwydio am fynd i’r brifysgol, ond am flynyddoedd roeddwn wedi darbwyllo fy hun nad oedd yn addas i fi. Rhwng cyfrifoldebau gofalu, heriau iechyd a phoeni a fyddwn yn rhan o bethau fel myfyriwr aeddfed, teimlai’r syniad fel pe bai y tu hwnt i mi. Mae astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Wrecsam wedi gwneud i mi sylwi mai’r pryderon hynny oedd yn fy nal yn ôl. Wrth edrych yn ôl, mae’n bechod nad oedd gen i’r hyder i gymryd y cam hwnnw yn gynt - mae wedi trawsnewid fy hyder, wedi rhoi synnwyr o bwrpas i mi, ac wedi dangos i mi y gall y brifysgol fod ar gyfer unrhyw un.”
Claire
BSc (Anrh) Seicoleg (gyda blwyddyn sylfaen)Taclo’r Mythau
Beth am edrych ar rai camdybiaethau cyffredin ynghylch rhai o’n cyrsiau mwyaf poblogaidd i ymgeiswyr uniongyrchol a’r myfyrwyr hynny sy’n dod atom drwy’r system glirio.
BA (Anrh) Ffotograffiaeth
Ydych chi’n meddwl fod ffonau clyfar yn gwneud ffotograffwyr proffesiynol yn ddiwerth?
BA (Anrh) Ffotograffiaeth
Efallai fod ffonau clyfar wedi gwneud ffotograffiaeth yn fwy hygyrch, ond mae angen mwy na phwyso botwm ar gyfer cael lluniau sy’n sefyll allan. Mae angen cyfeiriad creadigol, rheolaeth dechnegol, deall dynameg goleuo, ôl-olygu, adrodd stori a llygaid weledol gref.
Mae galw am bobl sy’n deall cyfansoddiad cynnwys gweledol o safon uchel ar draws ffasiwn, hysbysebu, golygyddol, digwyddiadau, chwaraeon, rhaglenni dogfen a’r diwydiannau creadigol wrth i’r cyfryngau cymdeithasol yrru’r gofynion o hyrwyddo drwy adrodd straeon gweledol.
Gall astudio BA (Anrh) ffotograffiaeth eich helpu i ddatblygu’r sgiliau technegol, creadigol a phroffesiynol arbenigol sydd eu hangen i gynhyrchu gwaith gyda phwrpas, sglein ac effaith.
Ymgeisiwch NawrBSc (Anrh) Iechyd Meddwl a Llesiant
Ydych chi’n meddwl fod gyrfa mewn iechyd meddwl yn golygu darparu therapi’n unig?
BSc (Anrh) Iechyd Meddwl a Llesiant
Mae gyrfa mewn iechyd meddwl yn golygu llawer mwy na darparu therapi. Efallai y byddwch yn cefnogi llesiant gweithiwr drwy iechyd galwedigaethol, gan helpu gweithleoedd i ymateb i straen, gorweithio ac absenoldeb. Gallwch weithio gyda phobl ifanc a theuluoedd er mwyn eu cysylltu â’r gwasanaethau cywir, neu ymuno ag elusennau, ysgolion a sefydliadau cymunedol er mwyn gwella ymwybyddiaeth, lleihau stigma a’i gwneud yn haws i gael mynediad at gymorth.
Gall astudio Iechyd Meddwl a Llesiant eich helpu i ddeall y ffactorau sy’n llywio iechyd meddwl a datblygu’r sgiliau ymarferol i gefnogi pobl a chymunedau mewn ystod eang o leoliadau.
Ymgeisiwch NawrFdSc Ymddygiad, Hyfforddiant a Pherfformiad Cŵn
Ydych chi’n meddwl bod yn rhaid i chi ddod yn filfeddyg er mwyn gweithio gydag anifeiliaid?
FdSc Ymddygiad, Hyfforddiant a Pherfformiad Cŵn
Nid yw gweithio gydag anifeiliaid yn golygu bod yn rhaid i chi ddod yn filfeddyg. Gall deall ymddygiad cŵn agor drysau i ystod eang o yrfaoedd gwerth chweil, o gynorthwyo perchnogion annibynnol gyda hyfforddiant, gweithio ym maes addasu ymddygiad i gefnogi anifeiliaid y lluoedd arfog yn yr heddlu a’r fyddin i feithrin sgiliau canfod arogleuon.
Bydd astudio Ymddygiad Cŵn yn eich helpu i ddatblygu gwybodaeth arbenigol o sut mae cŵn yn meddwl, dysgu ac ymateb i’w hamgylchedd. Gyda galw cynyddol am ddulliau wedi’u harwain gan ymddygiad ar draws y sectorau hyfforddi, llesiant a chŵn gwaith, ac ymwybyddiaeth gynyddol ohonynt, gall arbenigedd cŵn arwain at yrfa gwerth chweil gan helpu cŵn a’u perchnogion i gael gwell canlyniadau.
Ymgeisiwch NawrCelf Sylfaen
Ydych chi’n meddwl bod creadigrwydd yn angerdd ac nid yn llwybr gyrfa?
Celf Sylfaen
Mae creadigrwydd yn gyrru diwydiannau, o ddylunio, animeiddio a darlunio, i hysbysebu, cyhoeddi, cyfryngau digidol a’r celfyddydau gweledol. Ond mae troi talent greadigol yn yrfa yn golygu mwy na gallu artistig yn unig.
Gall astudio Celf Sylfaen eich helpu i ddatblygu eich arfer creadigol wrth feithrin sgiliau masnachol mewn meysydd megis datblygu portffolio, briffiau i gleientiaid, prisio, hyrwyddo, marchnata, cynllunio prosiectau a chyflwyno eich gwaith yn broffesiynol.
P’un a ydych yn awyddus i greu celf gysyniadol ar gyfer gemau a ffilmiau, dylunio hunaniaethau gweledol ar gyfer brandiau, darlunio llyfrau a chyhoeddiadau, cynhyrchu animeiddiadau, neu ddatblygu eich arfer artistig eich hun, byddwch yn dysgu sut mae gwaith creadigol yn cael ei gomisiynu, ei farchnata a’i werthfawrogi ar draws y diwydiannau creadigol.
Ymgeisiwch NawrFdA Pêl-droed a Datblygiad Cymunedol
Ydych chi’n meddwl bod eich breuddwyd o yrfa bêl-droed yn ddibynnol ar chwarae’n broffesiynol?
FdA Pêl-droed a Datblygiad Cymunedol
Beth am baratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn hyfforddi pêl-droed, datblygu chwaraeon a gwaith cymunedol drwy gyfuno’ch angerdd am bêl-droed gyda sgiliau i gael effaith gadarnhaol mewn cymunedau lleol.
Mewn partneriaeth â Sefydliad Wrecsam AFC, mae’r radd sylfaen hon yn rhoi cyfle i chi ennill profiad cymwysedig, gweithio ar brosiectau’r byd go iawn, cael mynediad at gyfleusterau proffesiynol gan gynnwys caeau o safon yng nghanolfan datblygu pêl-droed cenedlaethol, Parc y Glowyr, a rhwydweithio gyda chlybiau pêl-droed lleol, sefydliadau cymunedol a chyrff llywodraethu.
Byddwch yn graddio’n barod i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, cyflawni rhaglenni cymunedol effeithiol, cefnogi datblygiad chwaraewyr a chymunedau, neu symud ymlaen i astudio ymhellach gyda’r dewis i ddatblygu’r cymhwyster i BA (Anrh) llawn.
Ymgeisiwch NawrGraddau Addysg
Ydych chi’n meddwl mai cyflwyno gwersi yn unig yw addysgu?
Graddau Addysg
Beth am baratoi am yrfa mewn addysgu drwy lwybrau all arwain at Statws Athro Cymwysedig, p’un a ydych yn cychwyn ar eich taith israddedig neu’n symud ymlaen wedi gradd. Caiff llwybrau addysg athrawon Prifysgol Wrecsam eu darparu mewn partneriaeth â St Mary’s Twickenham, y mae ei chyrsiau addysg athrawon cynradd wedi’u barnu’n ‘rhagorol’ gan Ofsted.
Cewch brofiad mewn ysgolion yng Nghymru a Lloegr, gan ddatblygu o addysgu grwpiau bach i ddosbarthiadau cyfan. Gyda chymorth ar leoliad ac addysgu gan ymarferwyr profiadol sy’n cynnal ymchwil ar hyn o bryd, byddwch yn datblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r arfer myfyriol sydd eu hangen arnoch i gefnogi dysgu yn yr ystafell ddosbarth.
Os ydych wedi graddio ac yn barod i ysbrydoli dysgwyr ifanc, beth am ddechrau ar eich gyrfa addysgu a mynd ymlaen i lwybrau fel arweinyddiaeth addysgol yn y dyfodol.
Ymgeisiwch NawrYdych chi’n meddwl nad yw’r Brifysgol ar eich cyfer chi?
Meddyliwch eto!
Beth am fynychu ein diwrnod agored nesaf a gweld sut y gall addysg bellach fynd â chi yn bellach nad ydych chi’n meddwl. Cewch gwrdd â’n hacademyddion, sgwrsio â’n myfyrwyr cyfredol a chrwydro’r campws. Dyma eich cyfle i ddychmygu’ch dyfodol yma.
.jpg)