Mae'r Rhwydwaith Mentora Myfyrwyr y Gyfraith yn gobeithio cynorthwyo myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y gyfraith a darparu cyngor a chymorth iddynt.
Gan ein bod yn gyfreithwyr ein hunain, rydym yn deall y pryderon a'r ansicrwydd sy'n wynebu myfyrwyr wrth lywio'r diwydiant cyfreithiol.
Felly, nod ein rhwydwaith yw:
- Meithrin amgylchedd cefnogol a gonest i fyfyrwyr y gyfraith
- Rhoi'r un cyfleoedd i fyfyrwyr sydd â llai o fynediad ac adnoddau drwy eu cynorthwyo i oresgyn y rhwystrau rhag mynd i'r proffesiwn cyfreithiol
- Gwella'r profiad i fyfyrwyr sy'n astudio'r gyfraithRhannu ein profiadau ein hunain a bod wrth law i roi cymorth a chyngor cyfeillgar
- Cynorthwyo myfyrwyr i ddatblygu synnwyr o hunaniaeth yn ystod eu gradd yn y gyfraith
- Lleihau'r nifer o fyfyrwyr sydd ddim yn cwblhau eu cwrs
I'r mentoriaid
Byddwch yn cael y cyfle i gynorthwyo eich myfyrwyr ffurfio llwybr gyrfaol cliriach ac osgoi'r anfanteision a gawsoch chi.
Cofrestrwch ar gyfer dod o hyd i fentor
Os ydych yn fentor y gyfraith â'r dyhead i ddod yn gyfreithiwr cymwys drwy ba bynnag ffordd (twrnai/bargyfreithiwr/CILEX) a bod gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r rhaglen fel ymgeisydd, llenwch y ffurflen ar-lein.
Beth sy'n digwydd yn y rhwydwaith?
- Bydd y myfyriwr yn paru gyda chyfreithiwr cymwys sef y Mentor
- Bydd y Mentor yn cysylltu â'r myfyriwr drwy e-bost i gyflwyno eu hunain yn y lle cyntaf
- Bob mis bydd trafodaeth hyd at 30 munud ynghylch unrhyw ymholiad/cwestiwn cyfreithiol neu'r cymorth sydd ei angen
- Bydd cyfle i fyfyrwyr gael Mentor newydd bob 6 mis oni bai eich bod yn dymuno cadw'r un presennol gan mai penderfyniad y myfyriwr yw hyd y berthynas bydi hon