Darlithydd Chwaraeon yn llwyddiannus yn rowndiau rhagbrofol i Bencampwriaethau Codi Pŵer Prydain

Date: Dydd Gwener Ebrill 14

Mae darlithydd o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW) yn dathlu ar ôl cymhwyso'n llwyddiannus i gystadlu ym mhencampwriaethau Codi Pŵer Prydain eleni. 

Bu Dr Chelsea Batty, Uwch Ddarlithydd Ffisioleg Chwaraeon Cymhwysol, Iechyd ac Ymarfer yn y brifysgol, yn cystadlu yn y Rhagbrofion Codi Pŵer Prydeinig APBU/BPU a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nottingham – ei chystadleuaeth gyntaf mewn mwy na saith mlynedd. 

Yn y cyfnod cyn y digwyddiad, roedd Chelsea yn ystyried tynnu allan ar ôl dioddef o bwl o'r ffliw ond diolch byth gwnaeth adferiad buan cyn y gystadleuaeth 

Wrth siarad ar ôl cymhwyso, dywedodd Chelsea: "Dwi'n teimlo mor falch o fy hun - yn enwedig ar ôl bod yn bedridden am nifer dda o wythnosau cyn y gystadleuaeth, ro'n i'n agos at ganslo gan nad oeddwn i'n credu y byddwn i fyny iddo ond diolch byth wedi dechrau teimlo'n well ac ar ôl ychydig o sesiynau yn y gampfa, roeddwn i'n teimlo'n hyderus y byddwn i'n gwneud yn dda ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud.J 

"Bydd cymryd rhan ym Mhencampwriaethau Prydain yn brofiad anhygoel - y rhai sy'n llwyddiannus wedyn yn mynd ymlaen i gymhwyso ar gyfer Ewrop ac yna ledled y byd, dydw i'n bersonol ddim yn meddwl fy mod i ar y lefel yna - ond dyma'r profiad o gystadlu'n genedlaethol yn unig fy mod i'n gyffrous amdano." 

Cyn i bencampwriaethau Prydain gael eu cynnal ym mis Gorffennaf, mae Chelsea nawr yn edrych ymlaen at y misoedd nesaf a'i chyfundrefn hyfforddi llym. 

"Ar hyn o bryd rwy'n hyfforddi pum diwrnod yr wythnos am ddwy i dair awr ar y tro, sy'n ddwys a bydd yn sicr yn dwysau wrth i'r gystadleuaeth agosáu ond dydw i ddim yn mynd i roi gormod o bwysau ar fy hun," meddai. 

"Yn y pen draw mae'n ymwneud â'r profiad i mi - ac mae cael cymhwyso yn gyflawniad enfawr yn ei hun, dwi wrth fy modd." 

Ychwanegodd Dr Sarah Dubberley, Prif Arweinydd yr adran yn PGW: "Llongyfarchiadau mawr i Chelsea am ei llwyddiant anhygoel wrth gymhwyso ar gyfer pencampwriaethau Codi Pŵer Prydain eleni. Mae pob un ohonom yn y brifysgol, yn staff ac yn fyfyrwyr, yn hynod falch ohoni a bydd yn ei checio'n eiddgar ym mis Gorffennaf." 

Mae gradd y Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Cymhwysol yn PGW wedi bod yn 1af yng Nghymru ac yn 4ydd yn y DU am foddhad dysgu gan The Guardian University Guide 2023. Mae'r cwrs hefyd wedi cael sêl bendith y British Association of Sport & Exercise Sciences (BASES) Undergraduate Endorsement Scheme (BUES).