Menyw a oroesodd drawsblaniad dwbl yr ysgyfaint yn dod yn nyrs yn dilyn oes o ofal gan 'nyrsys anhygoel'
.jpeg)
Dyddiad: Hydref 26, 2026
Mae menyw wnaeth oroesi trawsblaniad dwbl yr ysgyfaint wyth mlynedd yn ôl yn dathlu graddio gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Nyrsio ar ôl cael ei hysbrydoli gan oes o ofal gan 'nyrsys anhygoel'.
Cafodd Carly Edge, 37 o Ddeganwy ddiagnosis o Ffibrosis Systig pan oedd ond yn chwe wythnos oed. Er gwaethaf plentyndod iach, erbyn ei bod yn ei hugeiniau hwyr, roedd ei hiechyd wedi dirywio i'r fath raddau ei bod angen trawsblaniad dwbl yr ysgyfaint.
"Roeddwn i'n wael iawn, ond ro'n i'n ddigon ffodus i gael y trawsblaniad ychydig cyn fy mhen-blwydd yn 30," meddai Carly. "Treuliais fis yn Ysbyty Wythenshawe, ond ar ôl gwella, ro'n i'n teimlo'n wych. Roedd o'n rhywbeth mor drawsnewidiol. Ro'n i wir yn teimlo y gallwn i wneud unrhyw beth ro'n i ei eisiau."
Roedd Carly wedi bod wrth ei bodd gyda mathemateg yn yr ysgol, ac roedd wedi dechrau ar yrfa lwyddiannus mewn cyfrifeg, ond ar ôl y llawdriniaeth roedd hi'n awyddus i newid cyfeiriad.
"Doeddwn i erioed wir wedi ystyried nyrsio fel gyrfa o'r blaen gan nad o'n i wedi bod yn teimlo'n ddigon da, ond wedi'r trawsblaniad, ro'n i wir yn teimlo y gallwn i wneud unrhyw beth, ac y gallwn i ddechrau gwneud y pethau nad o'n i wedi meddwl eu gwneud o'r blaen. Dechreuais feddwl am yrfa mewn nyrsio.
"Drwy gydol fy mywyd rwyf wedi cael nyrsys anhygoel yn gofalu amdana i, felly penderfynais roi cynnig arni fy hun. Dewisais astudio ar gampws Llanelwy Prifysgol Wrecsam gan fy mod i eisiau aros yn agos at adref.
"Roedd yn brofiad gwych. Roeddwn wrth fy modd. Ro'n i wastad wedi hoffi'r ysgol a dysgu, ac mae Prifysgol Wrecsam yn wych os nad ydych chi eisiau prifysgol anferthol.
"Roedd yna rai lleoliadau penodol nad o'n i'n gallu mynd iddyn nhw, ond roedd yr holl dîm yn Llanelwy'n wych ac roedden nhw'n gofalu amdana i fel pe bawn i'n ddarn o aur. Roedden nhw'n wirioneddol dda hefo fi, ac alla' i ddim diolch digon iddyn nhw."
Wedi graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf, bydd Carly yn dechrau ar ei rôl newydd fel nyrs yn Adran Cleifion Allanol Ysbyty Glan Clwyd yn yr wythnosau sydd i ddod. Bydd hefyd yn parhau i wirfoddoli gyda Gwaed a Thrawsblaniad y GIG, yn helpu timau clinigol ledled y DU i lywio eu gwaith a'u cynlluniau yn y dyfodol o safbwynt claf. “Mae gen i rôl wirfoddol fel Partner Claf ar gyfer trawsblannu ysgyfaint yn NHSBT (Gwaed a Thrawsblaniad y GIG) yr wyf yn teimlo'n angerddol iawn yn eu cylch. Rwy'n rhan o'r grŵp cenedlaethol sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch trawsblannu ysgyfaint yn y DU, ac mae'n fraint cael gweithio ochr yn ochr ag arweinwyr a chlinigwyr er mwyn datblygu strategaeth a pholisi ar gyfer gwasanaethau trawsblannu ysgyfaint.
"Mae'r sefydliadau y tu ôl i drawsblaniadau yn y DU, a'r bobl sy'n gysylltiedig â nhw, yn anhygoel. Maen nhw mor ymroddgar i wella canlyniadau ar gyfer cleifion. O'u herwydd hwy, a haelioni pobl sy'n rhoi eu horganau, gall pobl fel fi gael cynnig arall ar fywyd.
"Alla' i ddim aros i ddechrau ar fy rôl newydd yn nyrsio a helpu eraill fel y cefais i fy helpu."
Carly Edge, sydd wedi graddio mewn Nyrsio, gyda'i mentor Bernadette Evans (Uwch-ddarlithydd mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam)