Mae'r campws ar gau oherwydd toriad pŵer y bore yma (dydd Iau). Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau yfory (dydd Gwener).

Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Wrecsam yn ymrwymo i ddod â chasgliadau celf a diwylliant cenedlaethol i gymunedau yng ngogledd Cymru.

Vice Chancellor Prof Joe Yates & Jane Richardson, Chief Exec of Museum Wales

Dyddiad: Mehefin, 10, 2026

Mae Prifysgol Wrecsam wedi ymuno â grŵp Amgueddfa Cymru i gynyddu mynediad i gasgliadau celf Cymreig ar gyfer cymunedau ar draws gogledd Cymru. 

Fel y mae, o’r saith amgueddfa yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, dim ond un sydd yng Ngogledd Cymru (Amgueddfa Lechi Genedlaethol Llanberis), sy’n ei gwneud hi’n anoddach i bobl yr ardal fwynhau casgliadau cenedlaethol y wlad. 

Er mwyn cynyddu mynediad i bobl yng ngogledd Cymru, mae Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Wrecsam wedi creu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) sy’n cytuno i gydweithio i greu mwy o gyfleoedd i gymunedau lleol eu gweld yn y dyfodol. 

Yn ymarferol, gallai hyn gynnwys: 

• Dod â chasgliadau amgueddfa, arddangosfeydd ac arteffactau i leoliadau cymunedol, ysgolion a lleoliadau cyhoeddus. 

• Cydweithio ag arddangosfeydd teithiol a gweithgaredd allgymorth sy'n gysylltiedig â chasgliadau cenedlaethol. 

• Cefnogi adrodd straeon cymunedol, treftadaeth a phrosiectau cyfranogiad sy'n helpu pobl i gysylltu â hanes, diwylliant a hunaniaeth leol. 

• Archwilio cyfleoedd ar gyfer arddangosfeydd, arteffactau a gweithgaredd diwylliannol i'w cynnal o fewn y Brifysgol a mannau cymunedol yn y dyfodol. 

Meddai Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltu â Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Wrecsam: “Nid oes gan lawer o gymunedau, ysgolion a theuluoedd ar draws gogledd ddwyrain Cymru fynediad hawdd at gasgliadau cenedlaethol a phrofiadau diwylliannol Cymru. Mae’r bartneriaeth ag Amgueddfa Cymru felly’n creu cyfle i archwilio sut y gellir dod â diwylliant, treftadaeth a chasgliadau yn uniongyrchol i gymunedau, ysgolion a mannau cyhoeddus, yn hytrach na disgwyl i gymunedau deithio i safleoedd amgueddfeydd. 

“Mae Prifysgol Wrecsam yn dod ag arbenigedd mewn ymgysylltu â’r gymuned, ymchwil, gwerthuso a gweithio ar sail lle, tra bod Amgueddfa Cymru yn dod ag arweinyddiaeth ddiwylliannol, casgliadau, arbenigedd a chyrhaeddiad cenedlaethol.” 

Meddai’r Athro Joe Yates, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn gyfle pwerus ar gyfer cydweithredu traws-sector sy’n rhoi diwylliant, cymunedau a mynediad wrth galon. Drwy weithio gydag Amgueddfa Cymru, gallwn helpu i ddod â chasgliadau ac arbenigedd cenedlaethol yn uniongyrchol i gymunedau ledled gogledd Cymru, gan ehangu cyfranogiad a chryfhau ymgysylltiad diwylliannol ar draws y rhanbarth. 

“Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd yn cefnogi cydweithio agosach ar ymchwil, tystiolaeth ac effaith. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch ymchwil ar y cyd, dulliau sy’n seiliedig ar ddata o fesur effaith, ac archwilio’r potensial ar gyfer strwythurau ymchwil a rennir sy’n ymateb i anghenion partneriaid a chymunedau ledled gogledd Cymru. 

“Gydag ymchwil yn sail i’n dull cydweithredol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau effaith ddiriaethol, fesuradwy sy’n cefnogi lles, creadigrwydd a chyfle. Mae’r bartneriaeth hon yn cyd-fynd yn agos â’n gweledigaeth i fod yn brifysgol ddinesig fodern sy’n arwain y byd a’n huchelgais i fod yn brifysgol begwn i Gymru - gan weithio mewn partneriaeth i sicrhau buddion parhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” 

Ychwanegodd Jane Richardson, Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru – Cymru: “Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac mae’n bwysig ein bod yn amgueddfa wirioneddol genedlaethol gyda safleoedd ledled Cymru i rannu ein hanes a’n treftadaeth. Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod modd mwynhau’r casgliad cenedlaethol mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru. 

“Er y bydd ailddatblygiad trawsnewidiol yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis yn sicrhau dyfodol stori fyd-eang y diwydiant llechi, bydd y bartneriaeth hon â Phrifysgol Wrecsam yn gwella ymgysylltiad diwylliannol a chyfranogiad yn y rhanbarth ymhellach, gan ganiatáu i bobl ddehongli’r casgliad cenedlaethol mewn ffyrdd newydd, gwneud cysylltiadau, a chreu profiadau trochi sy'n adrodd hanes Cymru.”