Astudiaethau myfyriwr Glyndŵr yn gosod sylfeini llwyddiant ym myd adeiladu

Joe construction career

Mae myfyriwr Rheolaeth Adeiladwaith wedi rhoi ei sgiliau ar waith mewn prosiect mawr i adeiladu ysgol newydd o’r radd flaenaf yn Sir y Fflint.

Mae Joe Hackney, o Gefn y Bedd, yn cyfuno’i gwrs â rôl Ddirprwy Reolwr Safle i gwmni blaengar Wynne Construction.

Ei brosiect diweddaraf ydy gweithio ar Ysgol Penyffordd, ysgol newydd a gafodd ei gwblhau yn gynharach yn yr haf.

Ar ôl dechrau astudio er mwyn gwella’i ragolygon gyrfa, sicrhaodd Joe ei rôl newydd ar ôl mynychu digwyddiad yn y brifysgol lle wnaeth myfyrwyr ar gwrs Rheoli Adeiladu ac Amgylchedd Adeiledig Glyndŵr cwrdd â chwmnïau yn y sector adeiladu’r rhanbarth.

Meddai: “Roeddwn i’n gweithio’n llawn amser pan wnes i gysylltu â Phrifysgol Glyndŵr - doeddwn i ddim yn hapus yn y swydd roeddwn i’n ei gwneud, felly wnes i gais i fynd ar gwrs llawn amser. Roedd 20 cwmni adeiladu gwahanol yn rhan o’r digwyddiad yng Nghanolfan Catrin Finch ar y campws, ac roedd Wynne yn un ohonyn nhw. Roedd cyfleoedd i wneud ffug gyfweliadau gyda nhw - a hefyd y cyfle i sicrhau profiad gwaith. Wnes i gais am leoliad gwaith ac mi ges i gyfle ym Mehefin 2018.

“Ar ôl wythnos o brofiad gwaith, ges i alwad gan Chris Wynne, rheolwr cyfarwyddwr y camni. Dywedodd ei fod wedi cael adborth da iawn amdanaf a gofynnodd imi gwrdd â fo am sgwrs anffurfiol.

“Mi es i draw gyda chopi o fy CV jest rhag ofn - ac ar ôl ein, ges i gynnig swydd yn y man a’r lle!”

Mae Joe yn gweithio i Wynne tri diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor, ac yn treulio dau ddiwrnod yn astudio.

Ychwanegodd: “Dwi’n ddirprwy reolwr, sydd yn golygu fy mod i’n helpu rhedeg yr holl safle adeiladu. Dwi’n gwneud llawer o waith papur, cysylltu â llafurwyr, chleientiaid a chontractwyr, ac wrth gwrs mae llawer o waith iechyd a diogelwch hefyd. Mae’n rhaid cadw golwg ar bob dim a sicrhau bod pawb ar y safle yn gweithio’n ddiogel.

 “Rydym ni wedi bod yn gweithio i gael yr ysgol newydd yn barod ar gyfer dechrau’r tymor newydd. Dydw i ddim wedi bod ar y safle trwy’r gwaith i gyd, ond mi wnes i brofiad gwaith yma ac wedyn dod yn ôl unwaith ges i swydd gydag Wynne.

“Mae wedi bod yn wych gweld y prosiect yn cyrraedd pwynt lle mae’r ysgol yn barod - a rŵan dwi’n edrych ymlaen at beth rydym yn mynd i wneud nesaf.”

Mae Joe eisiau annog pobl debyg iddo - sydd efallai ddim wedi cael cymwysterau confensiynol ond wedi datblygu sgiliau a gwybodaeth yn ystod eu bywyd gwaith - ystyried gwneud cais i brifysgol er mwyn cryfhau eu rhagolygon am yrfa.

Meddai: “Dwi wedi gweithio yn yr adeilad a’r diwydiant adeiladu ers i mi adael ysgol - dwi wedi hyfforddi fel saer. I rywun fel fi, sydd heb unrhyw bwyntiau UCAC I’n henw, efallai byddwch yn mewn dau feddwl am ymgeisio i brifysgol - ond mi wnaeth Glyndŵr weithio gyda fi ac mi ges i gynnig diamodol ar sail fy mhrofiad. Mi allen nhw fod wedi fy nhroi i ffwrdd, ond wnaethon nhw ddim - a rŵan dwi ar y trywydd iawn i gael gradd dosbarth cyntaf.

“Mae’n waith caled, ond dwi’n gwybod bod y brifysgol yn cydnabod fy ngwaith. Mae Wynne wedi bod yn gymwynasgar iawn o ran fy astudiaethau - maen nhw hefyd wedi dangos llawer o ffydd ynddo fi ac wedi rhoi llawer o gymorth.

“Mae’r swydd yn sicr wedi helpu fy astudiaethau. Mae’n ddefnyddiol oherwydd mai beth dwi’n ei gwneud ar y safle hefyd yn beth dwi’n dysgu amdano yn y brifysgol. Yn yr un modd, mae fy astudiaethau’n sicr wedi helpu gyda’r swydd.

Ychwanegodd David Cheesbrough, Prif Ddarlithiwr Amgylchedd Adeiledig ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Bwriad y cyrsiau ydy galluogi myfyrwyr fel Joe I ddatblygu’r sgiliau maen nhw eu hangen i lwyddo yn eu gyrfaoedd - ac mae wedi bod yn wych i’w weld yn gwneud hynny gydag Wynne Construction.

“Ers cychwyn ei hastudiaethau gyda ni, mae Joe nid yn unig wedi defnyddio’r cyfleoedd mae’r cwrs yn ei gynnig, ond hefyd wedi gweithredu’r sgiliau a ddatblygodd o yn Glyndŵr I wneud y rôl - a hefyd wedi datblygu cyfleusterau addysg o’r radd flaenaf ar gyfer un o’n cymunedau lleol.”