Green spaces on campus

Date: Dydd Mawrth Awst 15

Mae pobl sydd am gael gwell dealltwriaeth o bwysigrwydd rhagnodi gwyrdd yn ogystal â gwella eu sgiliau proffesiynol yn cael eu hannog i gofrestru ar gwrs byr sy'n cael ei redeg ym Mhrifysgol Wrecsam. 

Mae'r cwrs chwe wythnos Rhagnodi Cymdeithasol Gwyrdd – Egwyddorion ac Ymarfer wedi'i anelu at y rhai sy'n gweithio yn y sector presgripsiynu cymdeithasol neu sy'n cyflwyno gweithgareddau iechyd gwyrdd. Fodd bynnag, mae hefyd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc. 

Bydd y cwrs, sy'n dechrau ar 4 Medi ac sy'n rhad ac am ddim i gofrestru arno, yn cael ei addysgu trwy gyfuniad o weithdai rhyngweithiol, a ddarperir ar y campws, yn ogystal â chael ei gefnogi gan ddeunyddiau dysgu ar-lein, y gellir cael mynediad atynt ar adeg sy'n gyfleus i ddysgwyr. 

Meddai Justine Mason, Uwch Ddarlithydd mewn Iechyd Meddwl a Lles ym Mhrifysgol Wrecsam/Prifysgol Wrecsam, sy'n cyflwyno'r cwrs: "Mae rhagnodi cymdeithasol gwyrdd yn arfer sy'n tyfu'n gyflym sy'n ceisio cysylltu pobl i gymryd rhan mewn ymyriadau a gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur, sy'n digwydd yn bennaf yn y gymuned, i wella iechyd meddwl a lles unigolion. 

"Dim ond y mis diwethaf, awgrymodd adroddiad gan yr elusen, Yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt y gallai'r GIG arbed mwy na £635 miliwn y flwyddyn trwy ragnodi a chofrestru pobl i fyny i raglenni iechyd a lles sy'n seiliedig ar natur. 

Nod ein cwrs Rhagnodi Cymdeithasol Gwyrdd yw rhoi cyfle i unigolion, sy'n cofrestru arno, gael dealltwriaeth ddyfnach o ragnodi gwyrdd a gwella eu sgiliau proffesiynol, gan ddod â rhagnodwyr cymdeithasol a'r rhai sy'n darparu gweithgareddau 'gwyrdd' sy'n seiliedig ar natur at ei gilydd. 

"Cofrestrwch ar ein cwrs i helpu i gynyddu eich dealltwriaeth neu wella'r gwasanaeth a'r gweithgareddau rydych chi'n eu darparu." 

Ceir rhagor o fanylion am y cwrs Rhagnodi Cymdeithasol Gwyrdd – Egwyddorion ac Ymarfer, gan gynnwys sut i archebu, yma: https://glyndwr.ac.uk/cy/cyrsiau/cyrsiau-byr/rhagnodi-cymdeithasol-gwyrdd/ 

Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau byr sydd ar gael ym Mhrifysgol Wrecsam ar gael yma: https://glyndwr.ac.uk/cy/cyrsiau/cyrsiau-byr/ Neu drwy e-bostio: shortcourses@glyndwr.ac.uk.