Cynllun Twf - cytuno cyllid ar gyfer prosiect £18m Prifysgol Wrecsam

Date: Dydd Llun Tachwedd 20

Yr wythnos hon, mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru wedi cymeradwyo'r achos busnes llawn ar gyfer Canolfan Opteg a Pheirianneg Menter Prifysgol Wrecsam (EEOC). 
Yn garreg filltir arwyddocaol, bydd y prosiect yn datblygu canolfan arbenigol ar gyfer ymchwil, cydweithredu busnes a datblygu sgiliau mewn opteg, ffotoneg a chyfansoddion ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Bydd hefyd yn integreiddio hydrogen fel ffynhonnell danwydd amgen gan gyfrannu at arferion cynaliadwy mewn diwydiant.
Rhan allweddol o'r prosiect yw denu buddsoddiad i Ogledd Cymru a chreu cyflogaeth leol, gyda rhwng 70 a 90 o swyddi newydd yn cael eu rhagweld o ganlyniad i'r prosiect, a mwy na 1,000 o bobl wedi'u hyfforddi i gwrdd ag anghenion y dyfodol.
Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu ar draws dau o safleoedd y brifysgol - y Ganolfan Dechnoleg OpTIC yn Llanelwy a champws Plas Coch yn Wrecsam. 
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac Arweinydd Cyngor Gwynedd: '''Rydym yn falch bod y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter wedi cyrraedd cam mor bwysig. Dyma'r prosiect cyntaf yn y rhaglen Arloesi mewn Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel i gyrraedd y pwynt hwn. 
"Does dim amheuaeth y gall y ganolfan, drwy'r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli ym Mhrifysgol Wrecsam, yrru datblygiad cynnyrch mewn technolegau carbon isel. A hyn ar adeg sydd mor bwysig i ddatgarboneiddio a llwyddiant busnesau rhanbarthol yn y dyfodol."
Mae cymeradwyaeth yn golygu y gall y prosiect symud ymlaen i ddechrau ar y safle yn gynnar yn 2024, gyda chwmni o’r Gogledd, Wynne Construction, eisoes wedi'i benodi'n brif gontractwr ar gyfer y gwaith adeiladu ym Mhlas Coch.
Bydd ymgysylltu ar draws y rhanbarth yn parhau trwy gydol 2024, a disgwylir i'r cyfleusterau agor erbyn hydref 2025. 
Mae'r prosiect yn rhan o strategaeth Campws 2025 gwerth £80m y Brifysgol, sydd am wella campysau prifysgolion, i sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad at y cyfleusterau a'r amgylchedd dysgu gorau.
Bydd y cyfleuster newydd pwrpasol ar safle Plas Coch yn Wrecsam yn eistedd wrth galon y campws a dyma'r prosiect carbon isel cyntaf i'w gyflawni fel rhan o strategaeth ailddatblygu gyffrous ar y campws,  tra bydd y cyfleuster OpTIC yn Llanelwy yn cael gwaith uwchraddio isadeiledd hanfodol i ddarparu rheolaeth amgylcheddol agos o fewn y labordai.  
Ychwanegodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Mae buddsoddiad gan Gynllun Twf Gogledd Cymru ar gyfer datblygu'r Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yn gam allweddol i wella ein cysylltiadau â diwydiant a chyflogwyr allweddol ar draws y rhanbarth. 
"Rydym yn ymwybodol o’r angen brys i leihau allyriadau carbon a gwastraff o weithgynhyrchu, fel y manteision cost ac effeithlonrwydd posibl. Fodd bynnag, gan fod technoleg sy'n newid yn gyson yn gallu bod yn ddryslyd i lawer, nod y Ganolfan Opteg a Pheirianneg Menter yw darparu'r cyfleusterau a’r ymchwilwyr o'r Brifysgol a fydd yn helpu ac yn cefnogi busnesau i ddatblygu a gweithredu'r atebion gorau."
Capsiwn: Argraff artist o'r EEOC ar ôl ei gwblhau
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Mae'n wych gweld y prosiect arloesol hwn yn symud ymlaen fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru.  Bydd yn ased gwerthfawr ar gyfer gweithgynhyrchu yn y rhanbarth, a bydd hefyd yn cyfrannu tuag at ein hagenda datgarboneiddio.  Mae gan y Cynllun Twf y potensial i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i economi Gogledd Cymru, gyda chefnogaeth £120m gan Lywodraeth Cymru.  Mae'n dda gweld cwmni lleol, Wynne Construction, fel y prif gontractwr sy'n hwb pellach i'r rhanbarth.  Rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect hwn yn datblygu ac yn gwneud gwahaniaeth."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies: "Mae'n wych gweld cynnydd gyda Chynllun Twf Gogledd Cymru yn cymeradwyo'r prosiect pwysig hwn. Mae Prifysgol Wrecsam eisoes yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu anhygoel yn y maes hwn, ac rwy'n falch iawn ei bod hi wedi bod yn bosib defnyddio cyllid gan Lywodraeth y DU a'n partneriaid i greu cyfleusterau newydd ac adeiladu ar eu harbenigedd. 
Nodiadau i olygyddion
1. Mae Cynllun Twf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £1 biliwn i economi'r rhanbarth, ac mae £240m ohono'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
2. Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yw'r corff sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer y Cynllun Twf ac mae'n bartneriaeth rhwng chwe awdurdod lleol gogledd Cymru a sefydliadau addysgol y rhanbarth.
3. Uchelgais Gogledd Cymru yw'r sefydliad sy'n gyfrifol am gyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru.
4. Achos busnes llawn yw'r penderfyniad buddsoddi terfynol unwaith y bydd prosiect wedi cwblhau'r holl weithgarwch cydsynio a chaffael angenrheidiol. Mae'n dilyn cymeradwyo'r achos busnes amlinellol.
5. Fel rhan o Gynllun Twf Gogledd Cymru, drwy'r prosiect, mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig cyfleusterau newydd ac wedi'u hadnewyddu yn Wrecsam a Llanelwy, yn y drefn honno, i gefnogi busnesau gweithgynhyrchu rhanbarthol o bob maint ac is-sectorau i ddiwallu'r angen dybryd a hanfodol i leihau allyriadau carbon. Drwy gyflwyno deunyddiau ysgafn newydd fel cyfansoddion i brosesu a chynhyrchion, ynghyd â thechnegau gweithgynhyrchu ynni isel datblygedig yn seiliedig ar driniaeth microdon o blastigau, gellir cyflawni gostyngiadau pwysau sylweddol, a lleihau gwastraff sylweddol yn y broses weithgynhyrchu hefyd. 
Bydd yr EEOC hefyd yn arwain ar y gwaith o ddylunio ac adeiladu cynhyrchion newydd drwy integreiddio cyfansoddion ac opteg, ac ymchwil blaengar i atebion datblygedig sy'n cefnogi mabwysiadu tanwydd hydrogen. Gellir cyflawni lleihau pwysau sylweddol cerbydau ac awyrenneg, gydag arbedion tanwydd cydredol, heb unrhyw aberth o ran diogelwch na pherfformiad. Bydd y cyfleuster newydd pwrpasol ar safle Plas Coch yn Wrecsam yn eistedd wrth galon y campws a dyma'r prosiect carbon isel cyntaf i'w gyflawni fel rhan o strategaeth ailddatblygu gyffrous ar y campws,  tra bydd y cyfleuster OpTIC yn Llanelwy yn cael gwaith uwchraddio isadeiledd hanfodol i ddarparu rheolaeth amgylcheddol agos o fewn y labordai.  
6. Bydd y ddau safle yn integreiddio'r offer diweddaraf ac yn cydweithio â busnesau ledled Gogledd Cymru a rhanbarthau'r ffin i weithredu datrysiadau datgarboneiddio a chynyddu cynaliadwyedd ar draws pob maes gweithgynhyrchu. 
Bydd busnesau'n gallu partneru â'r brifysgol i ddylunio, cynhyrchu a phrofi deunyddiau a chydrannau mewn amgylchedd rheoledig. Bydd hyn yn arwain at gynhyrchion a systemau sy'n fwy effeithlon ac sydd angen llai o ynni, gan leihau costau ac allyriadau. 
Bydd cyfleoedd pellach ar gyfer lleihau pwysau mewn diwydiant y mae'r prosiect EEOC yn bwriadu eu harchwilio. Mae cyllid o £11.55m o'r Cynllun Twf yn cael ei geisio, gyda chyllid cyfalaf cyfatebol o £4.87m (rhan o Adeilad Porth y campws sydd gerllaw) a chyllid arian parod cyfatebol o £1.7m.