Datganiad gan ein His-ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar

Date: 1 Tachwedd 2023

Datganiad gan ein His-ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar:

Annwyl bawb, 

Wedi 8 mlynedd hynod lwyddiannus a dymunol fel Is-ganghellor a Phrif Weithredwr ym Mhrifysgol Wrecsam, rwyf wedi penderfynu y byddaf yn ymddeol ar 1 Medi 2024.

Bydd hyn yn nodi diwedd fy ngyrfa amser llawn yn y byd academaidd; gyrfa a dreuliais mewn tair gwlad a thros bedwar degawd, gan gynnwys ugain mlynedd â chyfrifoldeb terfynol dros sefydliad addysg uwch. Mae wedi bod yn fraint o'r mwyaf cael gweithio gyda thîm rhagorol yma ym Mhrifysgol Wrecsam a gyda rhanddeiliaid sy'n cydweithio'n agos â'r Brifysgol. Gyda'n gilydd rydym yn cael effaith drawsnewidiol ar fyfyrwyr ac ar ein cymunedau, ac rwy'n hyderus y bydd y gwaith hwn yn parhau ymhell i'r dyfodol.

Dros y misoedd nesaf, byddaf yn canolbwyntio'n ddiflino er mwyn parhau i ddatblygu'r Brifysgol a'i throsglwyddo, yn y pen draw, mewn cyflwr da i fy olynydd pan fyddaf yn ymadael.

Unwaith eto, rwyf wedi mwynhau fy amser yn Wrecsam ac yng ngogledd Cymru yn arw, a hoffwn ddiolch ichi am eich cefnogaeth.

 

Yr Athro Maria Hinfelaar

Is-ganghellor

 

Dywedodd Leigh Griffin, Cadeirydd y Bwrdd Llywodraethwyr: 'Mae arweinyddiaeth Maria wedi bod yn hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant a thwf parhaus Prifysgol Wrecsam, ac rwy'n hynod ddiolchgar iddi am hynny. Byddwn yn gweld colled ar ei hôl, ond, tan hynny, edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â hi i lunio dyfodol y Brifysgol.'