Disgyblion yn cael cipolwg ar weithio yn y cyfryngau diolch i Brifysgol Plant Gogledd Cymru

Date: Dydd Gwener Tachwedd 24

Cafodd darpar newyddiadurwyr o ysgol gynradd yn Wrecsam gipolwg ar sut beth yw gweithio yn y diwydiant cyfryngau, diolch i sesiwn a drefnwyd gan Brifysgol Plant Gogledd Cymru.

Gwahoddwyd staff o’r BBC gan Brifysgol y Plant – menter dan arweiniad Prifysgol Wrecsam a Phrifysgol Bangor – i siarad â disgyblion o Ysgol Gynradd Victoria yn Wrecsam am eu rolau yn gweithio i’r darlledwr.

Rhoddodd staff y BBC – gan gynnwys newyddiadurwyr radio, ar-lein a gwasanaethau Cymraeg, golygyddion fideo a lluniau, yn ogystal ag aelodau o dîm BBC Bitesize a Learning  – gipolwg diddorol ar eu swyddi, gan ateb cwestiynau gan y disgyblion ym Mlynyddoedd 3, 4, 5 a 6 am sut beth yw gweithio yn y cyfryngau.

Mae Ysgol Gynradd Victoria yn un o 55 o ysgolion ar draws Gogledd Cymru sydd wedi cofrestru ar gyfer cynllun Prifysgol y Plant, sy’n ceisio codi dyheadau a datblygu sgiliau dysgu newydd drwy weithgareddau a gynigir yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol.

Mae gan ysgolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun fynediad at gyrchfannau dysgu ar draws y rhanbarth, mewn ymgais i annog plant a phobl ifanc i gwblhau 30 awr o weithgareddau dysgu a gwirfoddoli ychwanegol, gyda’r nod cyffredinol o annog uchelgais a, maes o law, gwobrwyo cyfranogiad.  

Dywedodd un o ddisgyblion Blwyddyn 6, Anya Jain, sydd eisoes wedi cwblhau 60 awr o weithgareddau ers ymuno â Phrifysgol y Plant: “Rydw i wrth fy modd yn bod yn rhan o Brifysgol y Plant, rydw i’n cymryd rhan mewn tenis, karate, dawnsio, canu ac actio. Rydw i hefyd yn gwneud taflenni dysgu ar gyfer fy chwaer.

“Mae’n llawer o hwyl ac mae cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad i mi.

“Roedd hefyd yn braf siarad â’r BBC a chael gwybod am eu swyddi.”

Dywedodd Sonia John, Rheolwr Prosiect Prifysgol y Plant: “Mae meithrin cariad at ddysgu a sbarduno awydd plant a phobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyfoethogi wrth galon Prifysgol y Plant.

“Roeddem wrth ein bodd bod ein sesiwn yn Ysgol Gynradd Victoria gyda’r BBC wedi ysgogi llawer o gwestiynau a thrafodaethau cyffrous gyda disgyblion. Pwy a ŵyr, un diwrnod efallai y bydd rhai o’r plant yn yr ystafell yn penderfynu eu bod am gael gyrfa yn gweithio yn y cyfryngau. Profiadau fel hyn sy’n gallu ysbrydoli a siapio’r genhedlaeth nesaf.

“Diolch yn fawr iawn i’r BBC am roi o’u hamser i siarad â disgyblion, ac i ddisgyblion a staff yn Ysgol Gynradd Victoria am eu hymgysylltiad cadarnhaol.”

Ychwanegodd Sian Collyer, Arweinydd Cynhyrchu ar gyfer cynllun datblygu gyrfa Cynhyrchu Creadigol y BBC: “Roedd yn wych cael gwahoddiad gan Brifysgol Plant Gogledd Cymru i siarad â phlant o Ysgol Gynradd Victoria yn Wrecsam am ein rolau yn y BBC – a’r effaith y mae’r BBC yn ei chael.

“Mae cydweithwyr yn y BBC a oedd yn bresennol yn rhan o’n rhaglen Cynhyrchu Creadigol, ac fel rhan ohoni, mae ymgysylltu â phobl ifanc a chael gwybod beth sy’n bwysig iddyn nhw yn allweddol er mwyn gwella’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i gymunedau.”