Gwobr ar gyfer myfyriwr Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol a ddyluniodd gerbyd awyr addas ar gyfer amodau Mawrth

Date: Dydd Mawrth Ebrill 5

Mae myfyriwr Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol wedi derbyn gwobr am ei “arloesedd ac ymroddiad aruthrol” ar ôl dylunio cerbyd awyr sy’n addas i hedfan ar blaned Mawrth.

Jamie Horn, a raddiodd gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam, yw enillydd lleol gwobr y Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) ar gyfer y flwyddyn hon.  

Derbyniodd y myfyriwr 21 mlwydd  oed gydnabyddiaeth am ei draethawd estynedig yn ei flwyddyn olaf, oedd yn dwyn y teitl ‘Datblygiad y Genhedlaeth Nesaf o Gerbydau Aer ar gyfer y blaned Mawrth a Thu Hwnt’. Roedd dwy ran i’r prosiect, ac fel rhan ohono, cynhaliodd Jamie archwiliad o gerbydau awyr di-griw (UAV) a ddefnyddir ar blanedau eraill, gan greu hefyd ei ddyluniad ei hun o UAV wedi ei bweru - drôn ag iddo aden sefydlog, a oedd, yn ôl y tiwtoriaid, yn abl i hedfan yn atmosffer y blaned Mawrth.

Ar ôl cael ei gyhoeddi’n enillydd, dywedodd Jamie: “Rydw i wrth fy modd mai fi yw enillydd gwobr leol IMechE y flwyddyn hon, ddaeth yn syndod mawr am nad oeddwn i’n ei ddisgwyl o gwbl. 

“I mi, roedd ennill yn eisin ar y gacen, am imi wirioneddol fwynhau fy astudiaethau. Nid yn unig mae fy mhwnc mor ddiddorol, mae hefyd yn eang ei gwmpas. Ar gyfer fy nhraethawd estynedig fe wnes i ganolbwyntio gan fwyaf ar aerodynameg y cerbydau aer - ac roedd llawer o’m hymchwil yn edrych ar yr hyn yr oedd NASA wrthi’n gweithio arno.

“Unwaith imi ddylunio’r cerbyd awyr fe es ati i efelychu taith ofod dan amodau Mawrth gan ddefnyddio meddalwedd efelychu peirianneg Ansys.”  

Dywed Nick Burdon, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Llongyfarchiadau enfawr i Jamie, a fu’n fyfyriwr rhagorol, llawn ymroddiad yn ystod ei gyfnod gyda ni. Fel rhan o’i draethawd estynedig, fe arweiniodd ymchwiliad gwych ar yr holl gerbydau “aer” sy’n cael eu defnyddio ar blanedau eraill.  

“Fe ddangosodd hefyd arloesedd aruthrol drwy greu ei ddyluniad ei hun o ddrôn adain sefydlog, addas i’w hedfan ar blaned Mawrth. Gan ddefnyddio technegau a ddysgodd fel rhan o fodiwl dylunio cerbyd awyr ei gwrs gradd, datblygodd y dyluniad o gysyniad cychwynnol i ddyluniad llawer mwy manwl gan ddefnyddio ei ofynion personol ei hun yr oedd yn rhaid i’r drôn eu cyflawni. Canlyniad hyn oedd cynnig y gellid ei ddwyn ymlaen i gael ei adeiladu. 
“Mae Jamie yn enillydd haeddiannol iawn gwobr IMechE y flwyddyn hon.”

Dywed Jamie, sydd bellach yn astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Gweithrediadau a Rheolaeth Cludiant Awyr Rhyngwladol yn ENAC, Toulouse - Ysgol Hedfan Sifil Genedlaethol Ffrainc, bod y gefnogaeth a dderbyniodd yn ystod ei gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam “heb ei ail”.

Ychwanegodd: “Er gwaetha’r ffaith i’m cwrs gael ei ddysgu wyneb yn wyneb am ddim ond chwe mis yn unig oherwydd pandemig Covid, roedd y gefnogaeth a dderbyniais yn wych. Roedd Nick, yn enwedig, yn ffantastig - roedd o wastad wrth law os oedd unrhyw un ohonom ni angen unrhyw beth, ac ni allaf ddiolch digon iddo.”